Guidance

Treth Gyngor: eiddo domestig sydd mewn cyflwr dadfeiliedig neu’n adfail

Updated 11 May 2021

Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yw’r adran o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r rhestri Treth Gyngor yng Nghymru a Lloegr. Swyddogion Rhestru yn Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch bandio. Mae’r daflen wybodaeth hon yn amlinellu dull gweithredu’r Swyddogion Rhestru tuag at eiddo trethdalwyr sy’n adfeiliedig.

Y brif reol yw y caiff pob eiddo ei fandio ar gyfer Treth Gyngor os yw’n gymwys i fod yn ‘annedd’, sydd â diffiniad cyfreithiol. I fod yn annedd, bydd y Swyddog Rhestru’n edrych i weld a oes modd byw yn yr eiddo neu a oes modd ei atgyweirio. Wrth fandio annedd, mae’n rhaid i’r Swyddog Rhestru gymryd yn ganiataol bod yr eiddo mewn cyflwr rhesymol, hyd yn oed os nad ydyw.

Mewn amgylchiadau cyfyngedig, gall y Swyddog Rhestru ‘ddileu’ band Treth Gyngor. Mae hyn yn golygu na fydd gan eiddo fand Treth Gyngor ac na fydd yn rhaid i’r trethdalwr dalu unrhyw Dreth Gyngor hyd nes y caiff yr eiddo ei ychwanegu at y rhestr eto ar ôl cwblhau gwaith neu ar ôl i’r Awdurdod Bilio gyflwyno hysbysiad cwblhau.

Os yw eiddo wedi’i feddiannu, fel arfer cymerir yn ganiataol bod modd byw ynddo ac ni fydd y Swyddog Rhestru’n dileu’r band, hyd yn oed os oes gwaith atgyweirio sylweddol neu waith adnewyddu yn mynd rhagddo.

Effaith dileu ac yna ailsefydlu’r eiddo fel eiddo ‘newydd’ ar ôl cwblhau’r gwaith

Er na fydd Treth Gyngor yn daladwy os caiff band ei ddileu, pan fydd yr eiddo’n cael ei fandio nesaf caiff ei drin yn eiddo newydd. Mae hyn yn golygu y bydd pob gwelliant yn cael ei adlewyrchu yn y bandio newydd o’r dyddiad pan gafodd y gwaith ei gwblhau. Mewn rhai achosion, pan nad yw’r gwaith wedi’i gwblhau yn gyfan gwbl, gall yr Awdurdod Bilio anfon ‘hysbysiad cwblhau’ sy’n rhoi gwybod i’r trethdalwr a’r Swyddog Rhestru o ba ddyddiad y mae angen rhoi’r eiddo ar y rhestr a thalu Treth Gyngor.

Mae’r enghreifftiau canlynol yn dangos sut mae’r Swyddog Rhestru’n delio ag eiddo sy’n wag ac mewn cyflwr gwael neu sydd yng nghanol gwaith atgyweirio neu adnewyddu.

1. Pan mae eiddo mewn cyflwr gwael

Pan fydd y Swyddog Rhestru’n bandio eiddo, rhaid cymryd yn ganiataol bod yr eiddo mewn cyflwr rhesymol o ystyried ei oed, ei gymeriad a’r ardal. Mae’n rhaid i’r Swyddog Rhestru anwybyddu’r ffaith bod eiddo wedi’i esgeuluso a heb atgyweiriadau sylfaenol, felly mae’n amhriodol dadlau nad yw eiddo sydd mewn cyflwr gwael yn ‘annedd’. Yn yr achosion hyn, ni all y Swyddog Rhestru ostwng na dileu’r band. Mae’r rheol hon yn sicrhau bod pob trethdalwr yn cael ei drin yn gyfartal ac nad oes neb yn cael gostyngiad mewn Treth Gyngor dim ond am nad yw ei eiddo wedi cael gofal.

2. Pan mae eiddo’n dadfeilio’n ddifrifol neu’n adfeiliedig

Dros gyfnod hir o amser, gall eiddo ddadfeilio i’r fath raddau fel na ellir ei atgyweirio mwyach heb waith ailadeiladu sylweddol iawn. Wrth fynd ati i sicrhau bod modd byw yn yr eiddo, gallai cymeriad yr eiddo fod wedi newid gymaint fel na fydd yn debyg o gwbl i’r math o lety a oedd yno’n wreiddiol. Byddai’n eiddo newydd bron â bod ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau. Yn yr amgylchiadau hyn, mae’n bosibl y bydd y Swyddog Rhestru’n dileu’r band ac ni fydd y trethdalwr yn talu unrhyw Dreth Gyngor.

Os nad yw eiddo’n gadarn yn erbyn gwynt a glaw, os oes ganddo bydredd difrifol neu os yw wedi’i fandaleiddio’n wael gan olygu ei fod yn “wirioneddol adfeiliedig”, gellir dileu’r band oherwydd na fyddai modd byw yn yr eiddo ac ni fyddai’r ‘annedd’ yn bodoli mwyach.

3. Pan nad yw eiddo wedi’i foderneiddio

Os yw eiddo’n anfodern, yn hytrach nag yn adfeiliedig, nid yw hyn yn golygu y gellir gostwng neu ddileu ei fand. Efallai na fydd eiddo heb ei foderneiddio’n bodloni’r safonau modern disgwyliedig, ond mae’n bosibl y bydd modd byw ynddo o hyd. Ni fydd y Swyddog Rhestru fel arfer yn cytuno i ddileu band ar eiddo sydd wedi’i feddiannu’n ddiweddar oherwydd byddai’r eiddo’n cael ei ystyried yn lle y mae modd byw ynddo, hyd yn oed os nad yw wedi’i foderneiddio. Mae’n rhaid i’r Swyddog Rhestru gymryd yn ganiataol bod eiddo sydd heb ei foderneiddio mewn cyflwr rhesymol.

4. Pan mae eiddo’n cael ei atgyweirio neu ei adnewyddu

4.1 Atgyweiriadau arferol

Mae atgyweiriadau arferol yn cynnwys adnewyddu unrhyw ran o adeilad sy’n ‘treulio’ dros amser ac sydd angen ei disodli, megis:

  • gorchudd to
  • ffenestri
  • gosodiadau cegin neu ystafell ymolchi
  • ailwifro
  • paentio ac addurno

Os bydd eiddo’n cael y mathau hyn o atgyweiriadau, ni ellir dileu’r band fel arfer gan fod yn rhaid i’r Swyddog Rhestru gymryd yn ganiataol bod y gwaith atgyweirio eisoes wedi’i wneud. Wrth benderfynu a ddylid dileu band ai peidio, nid yw cost atgyweiriadau’n ystyriaeth berthnasol. Os yw’r atgyweiriadau’n rhan o gynllun gwaith sy’n mynd rhagddo ac sy’n effeithio ar y rhan fwyaf o’r eiddo gan olygu nad oes modd byw ynddo, gall y Swyddog Rhestru ystyried dileu’r band.

4.2 Adnewyddiadau ac addasiadau strwythurol

Os bydd y gwaith yn mynd rhagddo ac yn fwy sylweddol, gan gynnwys addasiadau strwythurol, gwaith adnewyddu o bwys neu newidiadau eraill, ac nad oes modd byw yn yr eiddo wrth i’r gwaith gael ei wneud, gellir dileu’r band. Bydd gwaith o’r fath ar raddfa lawer mwy nag atgyweiriadau arferol, a bydd yn aml yn cael ei gynnal i ofynion sy’n wahanol i’r gwreiddiol. Er mwyn i’r band gael ei ddileu, mae’n rhaid i waith sylweddol effeithio ar y rhan fwyaf o’r eiddo.

4.3 Tŷ sy’n cael ei droi’n fflatiau, neu fflatiau sy’n cael eu troi’n un annedd

Os bydd eiddo sengl yn cael ei droi’n ddwy uned neu fwy o lety byw drwy waith strwythurol i’w rannu, gall y Swyddog Rhestru ddileu’r band. Os oes modd meddiannu rhan o’r eiddo o hyd, yna byddai’r rhan honno’n cael ei bandio wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau, caiff pob uned newydd ei bandio ar wahân fel eiddo newydd.

4.4 Tŷ sy’n cael ei ymestyn

Os oes modd meddiannu’r tŷ gwreiddiol wrth i’r estyniad gael ei adeiladu, ni chaiff y band ei ddileu. Pan fydd yr estyniad wedi’i gwblhau, ni fydd y band yn cael ei adolygu na’i gynyddu oni bai bod yr eiddo’n cael ei werthu’n hwyrach. Os oedd yr estyniad yn golygu bod angen dymchwel rhan o’r prif dŷ yn ystod y gwaith neu mewn cysylltiad ag unrhyw waith arfaethedig, ni fydd hyn yn effeithio ar y band.