Ffurflen

Treth Gorfforaeth: Treth Iawndal (CT600K (2017) Fersiwn 3)

Dywedwch wrth CThEF os yw'ch cwmni yn agored i Dreth Gorfforaeth ar log iawndal.

Dogfennau

Manylion

Cyn i chi lawrlwytho’r ffurflen a’i hanfon drwy’r post, gwiriwch pryd y mae angen i chi anfon Ffurflen Dreth y Cwmni ar-lein (yn Saesneg).

Defnyddiwch y tudalennau atodol hyn os yw’ch cwmni’n agored i Dreth Gorfforaeth ar log iawndal ac mae ganddo log iawndal sydd heb ei eithrio rhag tâl treth iawndal.

Mae llog iawndal yn golygu elw sy’n bodloni amodau A i C.

Amod A

Mae’r elw yn llog a dalir, neu sy’n daladwy, gan Gomisiynwyr Cyllid a Thollau EF am gais gan y cwmni am iawndal mewn perthynas â’r naill neu’r llall o’r materion canlynol (neu faterion honedig):

  • talu swm i’r Comisiynwyr o dan gamgymeriad cyfreithiol sy’n ymwneud â mater treth
  • casgliad anghyfreithlon gan y Comisiynwyr o ran trethiant

Amod B

Mae llys wedi gwneud penderfyniad terfynol bod y Comisiynwyr yn atebol i dalu’r llog neu fod y Comisiynwyr a’r cwmni, i setlo’r cais yn derfynol, wedi dod i gytundeb, a bod gan y cwmni’r hawl i gael y llog wedi’i dalu iddo, neu y bu’n cadw’r llog.

Amod C

Nid yw’r llog a benderfynir ei fod yn ddyledus, neu a gytunwyd arno, wedi’i gyfyngu i log syml ar gyfradd statudol.

Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig

Defnyddiwch ffurflen CT600 (2024) Fersiwn 3 i gyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni am gyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015.

Defnyddiwch y Datganiad yr Hydref 2023 — trosolwg o ddeddfwriaeth dreth a chyfraddau (OOTLAR) (yn agor tudalen Saesneg) i gael trosolwg o’r newidiadau pennaf yn y Gyllideb, sy’n effeithio ar Dreth Gorfforaeth.

Defnyddiwch yr arweiniad CT600K i’ch helpu chi i lenwi’r ffurflen tudalen atodol CT600K.

Cyhoeddwyd ar 10 April 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 August 2023 + show all updates
  1. A link to the CT600K guidance has been added.

  2. The related forms and guidance have been updated for 2023.

  3. The related forms and guidance have been updated for 2022.

  4. A Welsh translation of the form has been added

  5. First published.