Canllawiau

Tudalennau atodol CT600K: Treth Iawndal

Sut i lenwi tudalennau atodol CT600K a pha wybodaeth y mae angen i chi ei chynnwys.

Pryd i’w llenwi

Llenwch y tudalennau atodol hyn os yw’r cwmni:

Mae llog iawndal yn golygu elw sy’n bodloni amodau A i C.

Amod A

Bod yr elw yn llog a delir, neu sy’n daladwy, gan CThEF mewn perthynas â hawliad gan y cwmni am iawndal yn sgil y naill neu’r llall o’r materion (neu’r materion honedig) canlynol:

  • talu swm i CThEF o dan gamgymeriad cyfreithiol sy’n ymwneud â mater treth

  • casgliad anghyfreithlon gan CThEF o swm mewn perthynas â threthiant

Amod B

Bod:

  • llys wedi gwneud penderfyniad terfynol bod CThEF yn agored i dalu’r llog

  • CThEF a’r cwmni, wrth setlo’r hawliad yn derfynol, wedi ymrwymo i gytundeb sy’n golygu bod gan y cwmni hawl i gael y llog wedi’i dalu iddo, neu i gadw’r llog

Amod C

Nad yw’r llog y penderfynwyd ei fod yn ddyledus, neu y cytunwyd arno, wedi’i gyfyngu i log syml ar gyfradd statudol.

Darllenwch adran 357YC o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 am ragor o wybodaeth am ystyr ‘llog iawndal’.

Dylech nodi:

  • y caiff Treth Gorfforaeth ei chodi ar log iawndal ar y gyfradd taliadau iawndal — ar hyn o bryd mae hyn yn 45%

  • wrth gyfrifo rhwymedigaeth treth ar y llog iawndal, bod rhyddhadau Treth Gorfforaeth, neu ostyngiadau ar gyfer unrhyw symiau o Dreth Incwm neu Dreth Gorfforaeth neu unrhyw symiau eraill, wedi’u heithrio rhag y cyfrifiad (darllenwch adran 357YL o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 am ragor o wybodaeth)

  • bod swm sy’n cael ei ddidynnu oddi wrth daliad llog yn cael ei drin, at bob diben, fel un a delir gan y cwmni, oherwydd bod y cwmni’n agored i Dreth Gorfforaeth sydd i’w chodi ar y llog iawndal (darllenwch adran 357YP o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 am ragor o wybodaeth)

Gwybodaeth am y cwmni

K1, Enw’r cwmni

Nodwch enw’r cwmni.

K2, Cyfeirnod treth

Nodwch Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr 10 digid ar gyfer y cwmni.

Y cyfnod sydd dan sylw yn y dudalen atodol hon (ni all fod yn fwy na 12 mis)

K3

Nodwch y dyddiad dechrau gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.

K4

Nodwch ddyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.

Manylion y cyfrifiad treth

K5, Hunanasesiad o’r dreth sy’n daladwy cyn y dreth iawndal

Nodwch y ffigur o flwch 525 ar eich ffurflen CT600.

K10, Llog iawndal

Nodwch swm y llog iawndal sy’n codi yn y cyfnod cyfrifyddu.

K15, Colofnau A i D

Nodwch swm y llog sydd i’w godi ar bob cyfradd dreth, a swm y dreth ar gyfer pob blwyddyn ariannol.

K20, Cyfanswm y dreth iawndal

Nodwch swm D1 a D2.

K25, Y dreth sydd eisoes wedi’i chadw’n ôl

Nodwch swm y dreth sydd wedi’i chadw’n ôl o’r taliad sy’n ymwneud â’r cyfnod cyfrifyddu hwn (darllenwch adran 357YO o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010). Ni all y swm yn y blwch hwn fod yn fwy na’r swm ym mlwch K20.

K30, Hunanasesiad o’r dreth sy’n daladwy ar ôl y dreth iawndal

Nodwch swm blychau K5 a K20 llai’r swm ym mlwch K25.

K35, Y dreth iawndal sydd nawr yn daladwy

Nodwch y ffigur ym mlwch K20 llai’r ffigur ym mlwch K25.

Nodwch y ffigur hwn ym mlwch 527 ar eich ffurflen CT600.

Cyhoeddwyd ar 30 September 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 January 2024 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.