Cofrestru ar gyfer taliadau gros
Os ydych yn unig fasnachwr, defnyddiwch ffurflen CIS302 Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) i gofrestru fel is-gontractiwr Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) gyda statws taliadau gros.
Dogfennau
Manylion
Gallwch hefyd gofrestru fel is-gontractiwr ar-lein. Gallwch wneud cais ar gyfer statws taliadau gros ar yr un pryd.
Os ydych yn gweithredu ar ran rhywun arall mae’n rhaid i chi ddefnyddio ffurflen CIS302 i gofrestru ar gyfer statws taliadau gros. Dim ond yr unigolyn sy’n gallu cofrestru fel is-gontractiwr ar-lein.
Cyn i chi ddechrau
Os ydych yn defnyddio hen borwr, er enghraifft, Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr.
Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly rydym yn awgrymu eich bod yn casglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.
Ffurflenni cysylltiedig ag arweiniad
Defnyddiwch arweiniad Cyllid a Thollau EM ynghylch dyletswyddau contractwyr yn ogystal ag is-gontractwyr (CIS340) o fewn Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS).
Defnyddiwch y ffurflenni CIS hyn i gofrestru:
- ar gyfer taliadau ar ôl didynnu treth (CIS301)
- eich partneriaeth fel is-gontractiwr (CIS304)
- eich cwmni (CIS305)
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 April 2024 + show all updates
-
The English version of individual registration for gross payment (CIS302 Notes) has been updated.
-
The CIS302 online version has been updated to allow self-employed businesses register as a subcontractor and apply for gross payment status.
-
Copy of the CIS302 Notes now available in Welsh
-
Welsh translation and welsh iform CIS302 has been added to this page.
-
Individual registration for gross payment (CIS302 Notes) added.
-
First published.