Ffurflen

Gwneud cais am ad-daliad o ddidyniadau is-gontractiwr

Os ydych yn unigolyn, defnyddiwch ffurflen CIS40 Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) i wneud cais am ad-daliad o ddidyniadau is-gontractiwr yn ystod y flwyddyn dreth bresennol.

Dogfennau

Hawlio ar-lein (mewngofnodi drwy ddefnyddio Porth y Llywodraeth)

Gwneud cais am ad-daliad gan ddefnyddio'r ffurflen bost

Manylion

Os ydych yn is-gontractiwr hunangyflogedig defnyddiwch y ffurflen ar-lein i wneud cais am ad-daliad o ddidyniadau cyflog yn ystod y flwyddyn dreth bresennol. Defnyddiwch eich Ffurflen Dreth yn lle’r ffurflen hon os ydych yn gwneud eich cais ar ôl diwedd y flwyddyn dreth.

Gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • defnyddio’r gwasanaeth ffurflen ar-lein
  • llenwi’r ffurflen ar y sgrîn, ei hargraffu a’i phostio i CThEM

Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.

Os ydych yn defnyddio’r ffurflen ar-lein, cewch gyfeirnod y gallwch ei ddefnyddio i gael gweld sut mae eich ffurflen yn symud ymlaen.

Cyn i chi ddechrau defnyddio’r ffurflen bost

Os ydych yn defnyddio hen borwr, er enghraifft, Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr.

Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn llawn cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly rydym yn awgrymu eich bod yn casglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.

Ffurflenni cysylltiedig ag arweiniad

Defnyddiwch ffurflen CIS41 i wneud cais am ad-daliad partner o ddidyniadau is-gontractiwr.

Cyhoeddwyd ar 4 April 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 April 2023 + show all updates
  1. The form has been updated for the 2023 to 2024 tax year.

  2. Claim a repayment online form link updated.

  3. CIS40 (English and Welsh) has been updated to reflect new tax year changes.

  4. An online forms service is now available.

  5. CIS40 (English and Welsh) has been updated to reflect new tax year changes.

  6. Welsh version of form CIS40 added to the page.

  7. First published.