Cofrestru eich partneriaeth fel is-gontractiwr
Defnyddiwch ffurflen CIS304 Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) i gofrestru eich partneriaeth fel is-gontractiwr, neu i wneud cais am statws taliadau gros.
Dogfennau
Manylion
Er mwyn cofrestru’ch partneriaeth fel is-gontractiwr Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS), neu i wneud cais am statws taliadau gros, gallwch wneud y canlynol:
- defnyddio’r gwasanaeth ar-lein (mewngofnodi i gyfrif Porth y Llywodraeth, neu greu cyfrif newydd)
- llenwi’r ffurflen ar y sgrîn, ei hargraffu a’i phostio i Gyllid a Thollau EM
Os ydych yn defnyddio’r ffurflen ar-lein, cewch gyfeirnod y gallwch ei ddefnyddio i gael gweld sut mae eich ffurflen yn symud ymlaen. Er mwyn cofrestru’ch partneriaeth neu i wneud cais am statws taliadau gros, bydd angen un o’r canlynol arnoch - eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) neu’r Cyfeirnod TAW yn eich Cyfrif Treth Busnes. Gallwch ychwanegu hwn o hafan eich cyfrif.
Bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen bost yn ei chyfanrwydd cyn y gallwch ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly dylech gasglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.
Cyn i chi ddechrau defnyddio’r ffurflen bost
Os ydych yn defnyddio hen borwr, er enghraifft, Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr.
Ffurflenni cysylltiedig ag arweiniad
Defnyddiwch arweiniad CThEM ynghylch dyletswyddau contractwyr yn ogystal ag is-gontractwyr (CIS340) o fewn Cynllun y Diwydiant Adeiladu.
Defnyddiwch y ffurflenni CIS hyn i gofrestru:
- ar gyfer taliadau ar ôl didynnu treth (CIS301)
- ar gyfer taliadau gros (CIS302)
- eich cwmni (CIS305)
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 April 2024 + show all updates
-
English version of 'Partnership registration guidance notes' have been updated.
-
The CIS304 online version has been updated to allow your partnership to register as a subcontractor and apply for gross payment status.
-
The Cynllun y Diwydiant Adeiladu – Nodiadau arweiniad ar gyfer cofrestru partneriaeth has been added to the page.
-
Legislative changes have reduced the Alternative Turnover test from £200,000 to £100,000 as from 6/4/16.
-
An online service is now available.
-
Welsh version of form CIS304 added to the page.
-
First published.