Cofrestru partneriaeth fel is-gontractwr, neu wneud cais am statws taliadau gros
Defnyddiwch ffurflen CIS304 Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) i gofrestru eich partneriaeth fel is-gontractwr, i wneud cais am statws taliadau gros, neu’r ddau.
Cyn i chi ddechrau
Os nad ydych eisiau gwneud cais ar gyfer statws taliad gros, gallwch gofrestru fel is-gontractwr gyda thaliad o dan ddidyniad neu statws taliad gros ar-lein (yn agor tudalen Saesneg).
Cofrestru ar-lein
I lenwi’r ffurflen ar-lein, bydd angen manylion canlynol y bartneriaeth arnoch:
- Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
- trosiant ar gyfer y 12 mis diwethaf
- tystiolaeth o drosiant — megis cyfriflenni banc, datganiadau o daliadau a didyniadau ac anfonebau
- manylion cyfrif banc
Bydd angen gwybodaeth arnoch hefyd am bob partner, gan gynnwys:
- enw
- cyfeiriad
- UTR
- rhifau Yswiriant Gwladol
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, mae’n bosibl y bydd angen yr wybodaeth ganlynol am y bartneriaeth hefyd:
- rhif cofrestru’r cwmni
- rhif cofrestru TAW
- cyfeirnod TWE
- trosiant arfaethedig
- derbyniadau wedi’u hetifeddu a’u manylion
- cytundeb menter ar y cyd
Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, bydd modd i chi eu creu.
Os ydych yn asiant, bydd angen i chi ddefnyddio’r manylion mewngofnodi ar gyfer eich cyfrif gwasanaethau asiant.
Os na allwch gofrestru ar-lein
Mae gwybodaeth am lenwi’r ffurflen bost ar gael yn y .
-
Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw’ch cynnydd.
-
Llenwch ffurflen CIS304.
-
Argraffwch y ffurflen a’i hanfon at CThEF drwy’r post (mae’r cyfeiriad ar ddiwedd y ffurflen).
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin). Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhowch wybod i ni y fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Updates to this page
-
A new version of the partnership registration guidance notes has been added.
-
Added translation