Canllawiau

Gwiriadau cydymffurfio — Cosbau am fethu â hysbysu — CC/FS11

Diweddarwyd 31 October 2023

Mae’r daflen wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth am y cosbau y gallwn eu codi os bu methiant i hysbysu.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld rhestr gyflawn o’r taflenni gwybodaeth yn y gyfres hon, ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘Compliance checks factsheets’.

Os oes angen help arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o fanylion, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, efallai y bydd dal angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Beth yw methiant i hysbysu

Mae yna amgylchiadau penodol sy’n effeithio ar eich rhwymedigaeth treth y mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni amdanynt. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn pen terfynau amser penodol. Os na fyddwch yn gwneud hynny, rydym yn ei alw’n ‘methiant i hysbysu’.

Mae’r amgylchiadau y mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni amdanynt yn cynnwys y canlynol:

  • pan fyddwch yn dod yn agored i dalu treth am y tro cyntaf

  • pan fyddwch naill ai’n cynnal, neu’n bwriadu cynnal, weithgaredd trethadwy y mae’n rhaid iddo fod wedi’i gofrestru gyda ni

Mae enghreifftiau o pan fyddwch yn dod yn agored i dalu treth am y tro cyntaf yn cynnwys y canlynol:

  • pan fydd eich busnes yn mynd heibio’r trothwy i gofrestru ar gyfer TAW — mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni cyn pen 30 diwrnod i’r adeg y mae hyn yn digwydd

  • pan fydd y cyflenwadau TAW rydych yn eu gwneud yn newid — mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni cyn pen 30 diwrnod i’r adeg y mae hyn yn digwydd

  • pan fydd eich cwmni yn dod yn agored i dreth am gyfnod cyfrifyddu — os nad ydych wedi cael hysbysiad i gyflwyno Ffurflen Dreth, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni cyn pen 12 mis i ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu

  • pan fydd eich elw o hunangyflogaeth yn eich gwneud yn agored i dalu treth am y tro cyntaf — mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni cyn pen 6 mis i ddiwedd y flwyddyn dreth berthnasol

  • pan nad oes gennych incwm gwaith, ond mae’ch incwm o fuddsoddiadau yn cyrraedd lefel sy’n eich gwneud yn agored i dreth am y tro cyntaf — mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni cyn pen 6 mis i ddiwedd y flwyddyn dreth berthnasol

  • pan wnaethoch waredu deunydd mewn safle gwastraff anawdurdodedig, neu achosi neu ganiatáu gwarediad o’r fath yn fwriadol, cyn 1 Ebrill 2018 pan fo’r deunydd wedi aros ar y safle ar neu ar ôl 1 Ebrill 2018 — mae’n rhaid i chi fod wedi rhoi gwybod i ni am y gwarediad cyn 1 Mai 2018

Mae enghreifftiau o achosion pan fyddwch yn cynnal, neu’n bwriadu cynnal, weithgaredd trethadwy y mae’n rhaid ei gofrestru gyda ni yn cynnwys eich bwriad i wneud y canlynol:

  • hyrwyddo bingo — mae’n rhaid i chi gofrestru o leiaf 14 diwrnod cyn i’r chwarae ddechrau

  • bragu cwrw — mae’n rhaid i chi gofrestru gyda ni o leiaf 14 diwrnod cyn yr ydych yn bwriadu dechrau bragu

  • darparu peiriannau diddanu, sydd â Tholl Peiriannau Hapchwarae yn daladwy arnynt, i’w chwarae — mae’n rhaid i chi gofrestru gyda ni o leiaf 14 diwrnod cyn i’r peiriannau fod ar gael i’w chwarae

  • gweithredu hediadau o’r Deyrnas Unedig sy’n agored i Doll Teithwyr Awyr — mae’n rhaid i chi gofrestru gyda ni cyn pen 7 diwrnod i weithredu’r hediad cyntaf

Cosb am fethu â hysbysu

Gallwn godi cosb arnoch os ydych yn methu â’n hysbysu, neu os nad ydych yn ein hysbysu mewn da bryd. Os gofynnwch i rywun arall, fel cyflogai neu ymgynghorydd, wneud rhywbeth ar eich rhan, mae’n rhaid i chi wneud cymaint ag y gallwch i wneud yn siŵr nad oes methiant i hysbysu. Os na wnewch hyn, mae’n bosibl y codwn gosb arnoch.

Pryd na fyddwn yn codi cosb arnoch am fethiant i hysbysu

Ni fyddwn yn codi cosb arnoch am fethiant i hysbysu os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • mae gennych esgus rhesymol dros y methiant

  • nid oedd y methiant yn fwriadol

  • rhoesoch wybod i ni, heb oedi afresymol, ar ôl i’ch esgus rhesymol ddod i ben

Caiff ystyr ‘bwriadol’ ei esbonio yn nes ymlaen yn y daflen wybodaeth hon.

Esgus rhesymol yw rhywbeth a wnaeth eich rhwystro rhag bodloni ymrwymiad treth mewn pryd, er i chi gymryd gofal rhesymol i’w fodloni. Gall hyn fod o oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’ch rheolaeth, neu gyfuniad o ddigwyddiadau. Unwaith y bydd yr esgus rhesymol wedi dod i ben, mae’n rhaid i chi unioni pethau heb oedi diangen.

Wrth benderfynu a oes gennych esgus rhesymol, byddwn yn ystyried amgylchiadau penodol y methiant i fodloni’r ymrwymiad, yn ogystal â’ch amgylchiadau a’ch galluoedd penodol. Gallai hynny olygu na fyddai’r hyn sy’n cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos un person yn cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos rhywun arall. Os ydych o’r farn bod gennych esgus rhesymol, rhowch wybod i ni. Os byddwn yn derbyn bod gennych esgus rhesymol, ni fyddwn yn codi cosb arnoch.

Os oedd unrhyw beth ynghylch eich iechyd neu’ch amgylchiadau personol a’i gwnaeth yn anodd i chi ein hysbysu ynghylch eich rhwymedigaeth treth, rhowch wybod i’r swyddog sy’n cynnal y gwiriad. Bydd rhoi gwybod iddo yn ei alluogi i roi sylw i hyn wrth ystyried a oedd gennych esgus rhesymol.

Am fethu â hysbysu am warediadau mewn safleoedd gwastraff anawdurdodedig – ni fyddwn yn codi cosb arnoch oni bai bod eich ymddygiad yn fwriadol.

Datgelu methiant i hysbysu cyn i ni ddod o hyd iddo

Os byddwch yn rhoi gwybod i ni am fethiant i hysbysu cyn bod gennych reswm i gredu ein bod ar fin dod i wybod amdano, rydym yn galw hyn yn ‘ddatgeliad heb ei annog’. Os byddwch yn rhoi gwybod i ni am fethiant i hysbysu ar unrhyw adeg arall, rydym yn ei alw’n ‘ddatgeliad wedi ei annog’. Unwaith yr ydym wedi cychwyn gwiriad, gall datgeliad ond bod yn un heb ei annog os, yn eithriadol, fod y canlynol yn berthnasol:

  • mae’n ymwneud â methiant nad yw’n gysylltiedig â’r hyn rydym yn ei wirio

  • nid oedd gennych le i gredu y byddem yn dod o hyd iddo yn ystod ein gwiriad

Mae’r gosb isaf bosibl am ddatgeliad heb ei annog yn is na’r gosb isaf bosibl am ddatgeliad wedi’i annog.

Yr hyn y gallwch ei wneud i ostwng unrhyw gosbau y gallwn eu codi arnoch

Gallwn ostwng swm unrhyw gosb a godwn arnoch, yn dibynnu ar ein barn ynghylch faint o gymorth a roesoch i ni pan fyddwch yn gwneud datgeliad. Rydym yn cyfeirio at y cymorth hwn fel ‘ansawdd y datgeliad’, neu fel ‘dweud, helpu a rhoi’.

Mae enghreifftiau o ddweud, helpu a rhoi yn cynnwys y canlynol:

  • dweud wrthym am fethiant, neu gytuno bod methiant wedi digwydd, a sut a pham y digwyddodd

  • dweud wrthym am hyd a lled y methiant cyn gynted â’ch bod yn gwybod amdano

  • dweud wrthym a’n helpu drwy ateb ein cwestiynau’n llawn

  • ein helpu i ddeall eich cyfrifon neu’ch cofnodion

  • ein helpu drwy ateb ein llythyrau’n brydlon

  • ein helpu drwy gytuno i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd, neu ymweliadau, ar amser sy’n gyfleus i bawb

  • ein helpu drwy wirio’ch cofnodion er mwyn nodi hyd a lled y methiant

  • rhoi mynediad i ni at y dogfennau rydym wedi gofyn amdanynt, heb oedi diangen

  • rhoi mynediad i ni at y dogfennau y mae’n bosibl nad ydym yn gwybod amdanynt, yn ogystal â’r rheiny y gwnaethom ofyn am gael eu gweld

Byddwn yn gostwng y gosb gan y swm uchaf posibl os ydych:

  • yn rhoi gwybod am bopeth y gallwch am unrhyw gamweddu cyn gynted â phosibl

  • yn gwneud popeth ag y gallwch i’n helpu i’w gywiro

Os byddwch yn oedi cyn gwneud datgeliad, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i ostyngiad o hyd, ond bydd y gostyngiad yn un llai. Os nad oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnom oddi wrthych, byddwn yn rhoi rhywfaint o ostyngiad i chi am ddweud, helpu a rhoi.

Rhoi gwybod i ni am unrhyw amgylchiadau arbennig

Os ydych o’r farn y dylai’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad gymryd amgylchiadau arbennig i ystyriaeth wrth gyfrifo’r gosb, dylech roi gwybod iddo ar unwaith.

Sut rydym yn cyfrifo swm y gosb

Mae 8 cam wrth gyfrifo swm unrhyw gosb. Esbonnir pob cam mewn mwy o fanylder ar dudalen 3 o’r daflen wybodaeth hon.

1. Cyfrifo swm y refeniw a gollwyd o bosibl (PLR)

Mae’r gosb yn ganran o’r hyn a alwn yn ‘refeniw a gollwyd o bosibl’. Y refeniw a gollwyd o bosibl (PLR) yw’r swm sy’n codi o ganlyniad i’r methiant i hysbysu. Bydd y swyddog sy’n delio â’r gwiriad yn esbonio sut y cyfrifir hwn gennym.

2. Pennu ein barn ar yr ‘ymddygiad’

Pan fo methiant i hysbysu, byddwn yn gweithio gyda chi i ddarganfod yr hyn wnaeth ei achosi. Rydym yn cyfeirio at hwn fel yr ‘ymddygiad’. Bydd y math o ymddygiad yn effeithio ar p’un a fyddwn yn codi cosb arnoch, a swm y gosb. Mae’r 3 math gwahanol o ymddygiad fel a ganlyn.

Anfwriadol

Dyma pan rydych wedi methu â rhoi gwybod i ni am amgylchiadau a effeithiodd ar eich rhwymedigaeth treth o fewn y terfyn amser perthnasol, ond nid oedd y methiant yn fwriadol, nac yn fwriadol ac wedi’i guddio.

Bwriadol ond ddim wedi’i guddio

Dyma pan rydych yn gwybod y dylech fod wedi rhoi gwybod i ni am amgylchiadau a effeithiodd ar eich rhwymedigaeth treth o fewn y terfyn amser perthnasol, ond penderfynoch beidio â gwneud hynny.

Bwriadol ac wedi’i guddio

Dyma pan rydych yn gwybod y dylech fod wedi rhoi gwybod i ni am amgylchiadau a effeithiodd ar eich rhwymedigaeth treth o fewn y terfyn amser perthnasol, ond penderfynoch beidio â gwneud hynny. Yn ogystal â dewis peidio â rhoi gwybod i ni, gwnaethoch gymryd camau bwriadol hefyd i guddio’r methiant i hysbysu oddi wrthym.

3. Penderfynu a yw’r datgeliad yn un heb ei annog neu wedi’i annog

Mae hyn yn pennu canran isaf y gosb y gallwn ei chodi arnoch. Esbonnir hyn mewn mwy o fanylder yn yr adran ‘Datgelu methiant i hysbysu cyn i ni ddod o hyd iddo’, ar dudalen 2 o’r daflen wybodaeth hon.

4. Ystodau’r gosb

Bydd canran y gosb yn syrthio o fewn ystod. Bydd yr ystod hon yn dibynnu ar ein barn ynghylch y math o ymddygiad, a ph’un a oedd y datganiad wedi’i annog neu beidio. Mae’r tabl canlynol yn dangos ystod y cosbau.

Math o ymddygiad Datgeliad wedi’i annog neu heb ei annog Ystod y gosb
Anfwriadol (Nid yw ‘Anfwriadol’ yn berthnasol i fethiannau i hysbysu am warediadau gwastraff mewn safleoedd gwastraff anawdurdodedig) Heb ei annog — cyn pen 12 mis i ddyddiad dyledus y dreth 0% i 30%
Anfwriadol (Nid yw ‘Anfwriadol’ yn berthnasol i fethiannau i hysbysu am warediadau gwastraff mewn safleoedd gwastraff anawdurdodedig) Heb ei annog — 12 mis, neu’n fwy, ar ôl dyddiad dyledus y dreth 10% i 30%
Anfwriadol (Nid yw ‘Anfwriadol’ yn berthnasol i fethiannau i hysbysu am warediadau gwastraff mewn safleoedd gwastraff anawdurdodedig) Wedi’i annog — cyn pen 12 mis i ddyddiad dyledus y dreth 10% i 30%
Anfwriadol (Nid yw ‘Anfwriadol’ yn berthnasol i fethiannau i hysbysu am warediadau gwastraff mewn safleoedd gwastraff anawdurdodedig) Wedi’i annog — 12 mis, neu’n fwy, ar ôl dyddiad dyledus y dreth 20% i 30%
Bwriadol Heb ei annog 20% i 70%
Bwriadol Wedi’i annog 35% i 70%
Yn fwriadol ac yn guddiedig Heb ei annog 30% i 100%
Yn fwriadol ac yn guddiedig Wedi’i annog 50% i 100%

Os oes gennych esgus rhesymol dros fethiant anfwriadol i hysbysu, ni fyddwn yn codi cosb arnoch.

5. Cyfrifo’r gostyngiadau ar gyfer ansawdd y datgeliad (dweud, helpu a rhoi)

Mae ansawdd y datgeliad (dweud, helpu a rhoi) yn pennu lle y bydd y gosb yn syrthio o fewn ystod y gosb. Mae’r gostyngiad a rown yn dibynnu ar faint o gymorth a rowch i ni. Ar gyfer:

  • dweud, rydym yn rhoi hyd at 30%

  • helpu, rydym yn rhoi hyd at 40%

  • rhoi mynediad at gofnodion, rydym yn rhoi hyd at 30%

Wrth bennu ansawdd y datgeliad, byddwn hefyd yn ystyried pa mor hir y mae wedi’i gymryd i chi ddatgelu’r methiant i hysbysu. Os ydych wedi cymryd amser hir, (megis 3 blynedd neu fwy), i wneud datgeliad, byddwn fel arfer yn cyfyngu ar y gostyngiad mwyaf a rown am ansawdd y datgeliad i 10 pwynt canran yn uwch na lleiafswm y gosb. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn cael budd o’r ganran gosb isaf sydd fel arfer ar gael.

6. Cyfrifo cyfradd ganrannol y gosb

Pennir cyfradd ganrannol y gosb gan ystod y gosb a’r gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad.

Enghraifft

Yn ystod gwiriad cydymffurfio, daethom o hyd i fethiant anfwriadol i hysbysu nad oedd y cwsmer wedi rhoi gwybod i ni amdano cyn i ni ddechrau ein gwiriad. Pan wnaethom roi gwybod iddo am y methiant, roedd yn cytuno â ni fod methiant wedi digwydd. Roedd hwn, felly, yn ddatgeliad wedi’i annog. Digwyddodd y methiant dros 12 mis ar ôl i’r dreth ddod yn ddyledus.

Ystod y gosb am fethiant anfwriadol i hysbysu, gyda datgeliad wedi’i annog dros 12 mis ar ôl i’r dreth fod yn ddyledus, yw 20% i 30% o’r ‘refeniw a gollwyd o bosibl’ (PLR).

Roedd y gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad (dweud, helpu a rhoi) yn 70%.

Camau Enghraifft o gyfrifiad
I gyfrifo cyfradd ganrannol y gosb, yn gyntaf byddwn yn cyfrifo’r gwahaniaeth rhwng cyfraddau canrannol isaf ac uchaf y gosb. 30% llai 20% = 10
Yna, byddwn yn lluosi’r ffigur hwnnw â’r gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad er mwyn pennu canran y gostyngiad. 10 × 70% = 7%
Yna, byddwn yn didynnu canran y gostyngiad oddi wrth ganran uchaf y gosb y gallwn ei chodi. 30% llai 7% = 23%
Mae hyn yn rhoi cyfradd ganrannol y gosb i ni. 23%

7. Cyfrifo swm y gosb

I gyfrifo swm y gosb, rydym yn lluosi’r PLR â chyfradd ganrannol y gosb. Er enghraifft, os oedd y PLR yn yr enghraifft uchod yn £3,000, ac nid oedd gostyngiadau eraill, y gosb fyddai £690 (£3,000 × 23% = £690).

8. Ystyried gostyngiadau eraill

Ar ôl cyfrifo swm y gosb, byddwn yn ystyried gostyngiadau eraill sy’n angenrheidiol. Er enghraifft, pan fyddwn eisoes wedi codi cosb arall ar yr un dreth neu doll.

Bydd hyn wedyn yn rhoi swm y gosb y byddwn yn ei chodi.

Sut y byddwn yn rhoi gwybod i chi am gosb

Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod faint yw’r gosb a sut yr ydym wedi’i chyfrifo. Os oes unrhyw beth ynglŷn â’r gosb nad ydych yn cytuno ag ef, neu os ydych o’r farn bod gwybodaeth nad ydym eisoes wedi’i hystyried, dylech roi gwybod i ni ar unwaith. Ar ôl cymryd i ystyriaeth unrhyw beth y cawsom wybod gennych, byddwn wedyn yn gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • anfon hysbysiad o asesiad o gosb atoch

  • eich gwahodd i ymrwymo i gontract gyda ni i dalu’r gosb, ynghyd â’r dreth a’r llog

O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog ar y gosb hefyd os nad ydych yn ei thalu mewn pryd.

Talu peth neu’r cyfan o gosb cwmni am fethiant bwriadol i hysbysu

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i un o swyddogion y cwmni dalu rhan o gosb y cwmni, neu’r gosb gyfan, os yw’r gosb yn ddyledus o ganlyniad i’w weithredoedd, a bod un neu fwy o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae wedi, neu wedi ceisio, elwa’n bersonol o anghywirdeb bwriadol

  • mae’r cwmni’n ansolfent, neu rydym o’r farn ei fod ar fin mynd yn ansolfent — hyd yn oed os na wnaeth y swyddog elwa’n bersonol o’r anghywirdeb bwriadol

Os yw’r cwmni’n talu’r gosb, ni fyddwn yn gofyn i’r swyddogion unigol ei thalu.

Mae swyddog cwmni yn gyfarwyddwr, cyfarwyddwr cysgodol, ysgrifennydd y cwmni neu reolwr y cwmni, neu’n aelod o bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

Os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol

Gallwn gynnal ymchwiliad troseddol gyda’r bwriad o erlyn os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol, megis:

  • rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, boed ar lafar neu ar bapur

  • cam-gyfleu’n anonest faint o dreth sydd arnoch, neu hawlio taliadau nad oes gennych hawl iddynt

Rheoli diffygdalwyr difrifol

Os cawsoch eich materion treth yn anghywir yn fwriadol, a’n bod yn canfod hyn yn ystod y gwiriad, efallai y byddwn yn monitro’ch materion treth yn fanylach. Mae gennym raglen fonitro fanylach o’r enw ‘rheoli diffygdalwyr difrifol’. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch daflen wybodaeth CC/FS14, ‘Rheoli diffygdalwyr difrifol’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS14’.

Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol

Efallai y byddwn yn cyhoeddi’ch manylion os ydych wedi cael eich materion treth yn anghywir yn fwriadol, ond ni fyddwn yn gwneud hyn os ydym wedi rhoi’r gostyngiad mwyaf posibl i chi ar gyfer y gosb. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch daflen wybodaeth CC/FS13, ‘Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS13’.

Os ydych yn anghytuno

Rhowch wybod i ni os oes unrhyw beth nad ydych yn cytuno ag ef.

Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. Fel arfer, bydd gennych 3 opsiwn. Cyn pen 30 diwrnod, gallwch wneud y canlynol:

  • anfon gwybodaeth newydd at y swyddog sy’n delio â’r gwiriad, a gofyn iddo ei hystyried

  • cael eich achos wedi’i adolygu gan un o swyddogion CThEF na fu’n ymwneud â’r mater cyn hyn

  • trefnu bod tribiwnlys annibynnol yn gwrando ar eich apêl ac yn penderfynu ar y mater

Pa un bynnag opsiwn a ddewiswch, gallwch hefyd ofyn i un o swyddogion arbenigol CThEF weithredu fel hwylusydd diduedd er mwyn helpu i ddatrys yr anghydfod. Y Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR) yw’r enw a rown ar hyn.

Dim ond ar gyfer anghydfodau sy’n ymwneud â meysydd treth penodol y mae ADR ar gael. Bydd y swyddog sy’n delio â’r gwiriad yn rhoi gwybod i chi a yw ADR ar gael ar gyfer eich anghydfod. I gael rhagor o wybodaeth am apeliadau ac ADR, darllenwch y taflenni gwybodaeth canlynol:

  • HMRC1, ‘Penderfyniadau Cyllid a Thollau EF: beth i’w wneud os anghytunwch’

  • CC/FS21, ‘Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod’

Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC1’ neu ‘CC/FS21’.

Eich hawliau pan fyddwn yn ystyried codi cosbau

Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhoi hawliau pwysig penodol i chi. Os ydym yn ystyried cosbau, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi fod yr hawliau hyn yn berthnasol, ac yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn eu deall. Mae’r hawliau hyn fel a ganlyn:

  • os byddwn yn gofyn unrhyw gwestiynau i chi i’n helpu i benderfynu p’un a ddylid codi cosb arnoch, mae gennych yr hawl i beidio â’u hateb — eich penderfyniad chi’n gyfan gwbl yw faint o help y byddwch yn ei roi i ni pan fyddwn yn ystyried cosbau

  • wrth benderfynu a ydych am ateb ein cwestiynau neu beidio, efallai yr hoffech gael cyngor gan ymgynghorydd proffesiynol — yn enwedig os nad oes un gennych yn barod

  • os ydych yn anghytuno â ni ynglŷn â’r dreth, neu unrhyw gosbau y credwn eu bod yn ddyledus, gallwch apelio — os byddwch yn apelio yn erbyn y dreth a’r cosbau, mae gennych yr hawl i ofyn am i’r ddwy apêl gael eu hystyried gyda’i gilydd

  • mae gennych hawl i wneud cais am gynhorthwy cyfreithiol a ariennir er mwyn delio ag unrhyw apêl yn erbyn cosbau penodol

  • mae gennych hawl i ddisgwyl i ni ddelio â mater sy’n ymwneud â chosbau heb oedi afresymol

Mae rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn yn nhaflen wybodaeth CC/FS9, ‘Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau’.

Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS9’.

Y cyfnodau treth a’r trethi y mae’r rheolau cosbi hyn yn berthnasol iddynt

Mae’r rheolau cosbi yn y daflen wybodaeth hon yn berthnasol ar gyfer methiant i hysbysu ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010, ar gyfer yr holl drethi a thollau sydd wedi’u rhestru isod, oni bai y nodir yn wahanol.

  • Ardoll Agregau

  • Toll Teithwyr Awyr

  • Toll Alcohol

  • Toll Trwydded Peiriannau Diddanu

  • Toll Bingo

  • Treth Enillion Cyfalaf

  • Ardoll Newid yn yr Hinsawdd

  • Treth Gorfforaeth

  • Treth Gwasanaethau Digidol (o 1 Ebrill 2020)

  • Treth Ailgyfeirio Elw

  • Tollau Ecséis (Daliad a Symudiadau)

  • Toll Hapchwarae

  • Toll Fetio Gyffredinol

  • Toll Olewau Hydrocarbon

  • Treth Incwm (gan gynnwys Hunanasesiad)

  • Treth Premiwm Yswiriant

  • Treth Dirlenwi

  • Toll y Loteri

  • Toll Peiriannau Hapchwarae (o 1 Chwefror 2013)

  • Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a Dosbarth 4

  • Treth Deunydd Pacio Plastig

  • Toll Cronfa Fetio

  • Toll Hapchwarae o Bell

  • Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn

  • Treth Tybaco

  • TAW

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’.