Skip to main content
Canllawiau

Dull amgen o ddatrys anghydfod — CC/FS21

Diweddarwyd 4 Medi 2026

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am y Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR). Mae’n esbonio beth yw ADR, sut mae’n gweithio a sut i wneud cais amdano.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld y rhestr lawn, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC compliance checks factsheets’.

Beth yw ADR

Mae ADR yn wasanaeth a gynigir gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) er mwyn datrys anghydfodau. Bydd un o swyddogion CThEF, sydd wedi’i hyfforddi’n broffesiynol mewn sgiliau a thechnegau cyfryngu, yn gweithredu fel cyfryngwr niwtral a diduedd. Bydd y cyfryngwr yn eich helpu chi a’r swyddog yn CThEF sy’n delio â’ch achos i weithio tuag at ddatrys yr anghydfod.

Manteision ADR

Mae ADR yn ffordd o weithio ar y cyd i ddatrys anghydfodau. Pan fo anghydfod, bwriad ADR yw:

  • gwella’ch profiad wrth ddelio â ni
  • lleihau’r amser y mae’n ei gymryd i gwblhau gwiriad cydymffurfio
  • lleihau’r costau i chi ac i ni
  • lleihau’r angen am wrandawiadau gan dribiwnlysoedd annibynnol

Mae’n bosibl y bydd defnyddio ADR mewn achosion mwy cymhleth yn golygu na fydd angen i chi i wneud cyflwyniad hir, ysgrifenedig, ffurfiol i’r tribiwnlys er mwyn ategu’ch sefyllfa.

Ystyr ‘anghydfod’

Rhowch wybod i’r swyddog sy’n delio â’ch achos ar unwaith os ydych yn anghytuno neu os nad ydych yn siŵr ynghylch (un o’r canlynol):

  • y rheswm y mae wedi gofyn i chi wneud rhywbeth
  • ei safbwynt o ran eich rhwymedigaeth treth

Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwch chi a’r swyddog yn gallu datrys y mater yn gyflym. Os na allwch wneud hynny, rydym yn galw hyn yn ‘anghydfod’.

Mae sawl ffordd o ddatrys anghydfod. Er enghraifft, gallwch wneud y canlynol:

  • gofyn i’r swyddog drafod eich safbwynt â’i reolwr
  • gofyn am adolygiad gan swyddog CThEF na fu’n ymwneud â’r mater yn flaenorol, neu apelio i dribiwnlys annibynnol

Mae ADR yn ffordd arall o ddelio â nifer o fathau gwahanol o anghydfodau. Mae pob cais ar gyfer ADR yn cael ei ystyried fesul achos. Nid yw pob anghydfod yn addas ar gyfer ADR. Nid yw ADR yn broses statudol, ac rydym yn cadw’r hawl i wrthod ceisiadau nad ydym yn eu hystyried i fod yn addas ar gyfer ADR.

Rhagor o wybodaeth ar-lein am wiriadau cydymffurfio

Mae rhagor o wybodaeth a help ar gael ar-lein, gan gynnwys:

  • cysylltiadau i’n cyfres fideo
  • canllawiau cam wrth gam ar gyfer ein gwiriadau cydymffurfio

Ewch i Gwiriadau cydymffurfio CThEF: help a chymorth.

Y mathau o anghydfodau sy’n addas ar gyfer ADR

Mae ADR fel arfer yn addas pan fyddai defnyddio’r broses hon yn fwy effeithiol neu’n symud materion tuag at ddatrysiad yn gyflymach na ddefnyddio unrhyw ffordd arall o ddelio ag anghydfodau.

Pan fyddwn yn derbyn cais am ADR, bydd yn rhaid i’r ddau barti gytuno i weithio gyda’i gilydd i ddatrys yr anghydfod treth. Felly, mae’n bwysig bod y ddau barti yn cychwyn y broses o ADR gyda’r nod o ddod i ddatrysiad.

Mae enghreifftiau o sefyllfaoedd lle mae ADR yn addas yn cynnwys y canlynol.

Pan fo cyfathrebu wedi chwalu

Gallai hyn gynnwys sefyllfaoedd lle mae angen gwybodaeth arnom gennych ond nid ydych yn cytuno:

  • y gallwch gael yr wybodaeth
  • bod angen yr wybodaeth i ddatrys y broblem

Mewn sefyllfa o’r fath, gall cyfryngwr helpu i gael y ddwy ochr i gyfathrebu â’i gilydd er mwyn i’r anghydfod allu cael ei ddatrys. Er enghraifft, drwy egluro’n glir i chi’r pwysigrwydd o rannu’r wybodaeth, a:

  • pam y mae ei hangen
  • sut y bydd yn helpu i ddatrys yr anghydfod

Os na allwch gael yr wybodaeth, bydd y cyfryngwr yn eich helpu i archwilio dulliau eraill o ddatrys y mater.

Pan fo anghydfodau ynghylch y ffeithiau

Bydd y cyfryngwr yn sicrhau eich bod yn cael cyfle i ofyn cwestiynau ynghylch unrhyw faterion sydd ddim yn glir. Bydd yn gweithio gyda chi i ddod i gytundeb ynghylch beth yw’r ffeithiau perthnasol a sut y bydd y rhain yn cael eu defnyddio. Bydd hefyd yn gwirio eich bod yn deall yr atebion sydd wedi’u rhoi i chi. Os oes anghydfod ynghylch unrhyw un o’r ffeithiau, bydd y cyfryngwr yn sicrhau eich bod chi a’r swyddog yn ystyried pob safbwynt yn llawn a’ch bod yn dod i gytundeb pan fo’n bosibl.

Pan fo anghydfod o ganlyniad i gamddealltwriaeth

Gallai hyn gynnwys achosion lle mae gwiriad cydymffurfio wedi bod yn mynd yn ei flaen ers tro ac nad ydych yn deall pam mae’r swyddog yn dal i ofyn i chi am wybodaeth wahanol. Bydd cyfryngwr yn ystyried eich safbwynt ac yn canfod a yw’r swyddog angen yr wybodaeth y mae’n gofyn amdani.

Pan fo’r anghydfod yn ymwneud â phwynt technegol neu bwynt cyfreithiol

Gellir ystyried cyfryngu yn yr achosion hyn. Gallai cyfryngwr:

  • eich helpu i gael eglurder a dealltwriaeth o safbwynt y swyddog
  • helpu i roi’r cyfle i chi leisio’ch barn
  • helpu i roi tawelwch meddwl i chi eich bod wedi cael eich clywed

Efallai na fydd modd dod o hyd i ddatrysiad o dan yr amgylchiadau hyn, ond bydd y broses gyfryngu wedi helpu pawb i baratoi ar gyfer y tribiwnlys.

Pa fath o anghydfodau sydd ddim yn addas ar gyfer ADR

Bydd y rhan fwyaf o anghydfodau yn addas ar gyfer ADR. Nid yw ADR yn addas ar gyfer yr achosion canlynol.

  1. Pan fo mater yn destun ymchwiliad troseddol.
  2. Pan fo achos yn cael ei ddal yn ôl oherwydd ‘achos arweiniol’.
  3. Pan fo mater yn gŵyn, er y gallwn ystyried ceisiadau lle mae anghydfod sylfaenol yn bodoli a byddai ADR yn helpu i ddatrys y mater yn fwy effeithiol.
  4. Pan fo’n debygol y byddai ADR yn llai effeithlon ac yn fwy costus na defnyddio dulliau eraill i ddatrys y mater. Er enghraifft, cofrestru ar gyfer Hunanasesiad, hysbysiadau o god TWE, cosbau awtomatig (er enghraifft, am gyflwyno’n hwyr neu dalu’n hwyr, neu apeliadau tribiwnlys sydd wedi’u categoreiddio’n rhai ‘sylfaenol’ neu rhai ‘papur’). Ar gyfer y materion hyn, efallai y gallwch herio penderfyniad CThEF. Gallwch hefyd wneud cwyn os ydych yn anfodlon â’r gwasanaeth rydych wedi’i gael gan CThEF. Mae rhagor o fanylion am sut y gallwch wneud hyn ar gael ar-lein. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘disagree with a tax decision’ neu ‘complain about HMRC’, ac yna dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.
  5. Pan na fydd ADR yn fuddiol i ddatrys achos yn fwy effeithiol nac yn symud achos ymlaen tuag at ei ddatrys. Er enghraifft, pan fo amharodrwydd i ddatrys yr anghydfod drwy ddefnyddio ADR.
  6. Pan fyddai o fudd i ddefnyddio ymgyfreitha i egluro pwynt o ddehongliad cyfreithiol neu pan fo risg yn ymwneud â nifer o gwsmeriaid. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd yn helpu i symud materion sy’n benodol i gwsmer ymlaen. Er enghraifft, i gasglu gwybodaeth er mwyn sicrhau bod y ffeithiau a/neu’r safbwyntiau technegol yn cael eu deall.

Os yw’r ddau barti yn ceisio datrys yr anghydfod, gall ADR fod yn fuddiol o hyd mewn achosion lle mae’r sefyllfa gyfreithiol ynghylch yr anghydfod treth sylfaenol wedi’i sefydlu ers amser. Mae hyn yn arbennig o wir i gwsmeriaid sydd ddim wedi’u cynrychioli neu sydd angen cymorth ychwanegol ac sy’n teimlo fel nad ydynt wedi cael eu clywed. Gall ADR gynnig cyfle i’r ddau barti egluro’r sefyllfa a gweithio gyda’i gilydd tuag at ddatrysiad.

Sut i wneud cais am ADR

Os yw swyddog CThEF wedi agor gwiriad cydymffurfio i’ch materion treth, gallwch wneud cais am ADR:

  • ar unrhyw adeg yn ystod y gwiriad, os yw cynnydd wedi arafu (‘stalled’)
  • pan na allwch ddod i gytundeb gyda’r swyddog
  • os yw CThEF wedi gwneud penderfyniad y gellir apelio yn ei erbyn a’ch bod wedi apelio yn erbyn y penderfyniad hwn — gweler yr adran nesaf am ragor o arweiniad
  • ar unrhyw adeg yn ystod achos tribiwnlys

Mae angen i chi lenwi’r ffurflen gais ar-lein. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘use alternative dispute resolution to settle a tax dispute’, ac yna dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol. Os nad oes modd i chi ddefnyddio’r rhyngrwyd a bod angen help ychwanegol arnoch, ffoniwch ni ar 0300 200 1900.

Bydd y tîm ADR yn penderfynu a yw anghydfod yn addas ar gyfer ADR ai peidio. Byddant yn gweithio gyda’r rhanddeiliaid perthnasol ac, os oes angen, y byrddau llywodraethu perthnasol, i benderfynu a yw anghydfod yn addas ar gyfer ADR.

Ar ôl i’ch cais ddod i law, byddwn yn cysylltu â chi a’r swyddog yn CThEF sy’n delio â’ch achos i drafod eich cais. Byddwn yn ystyried eich achos yn ofalus ac yna’n penderfynu a yw ADR yn ffordd effeithiol o ddatrys yr anghydfod.

Byddwn fel arfer yn rhoi gwybod i chi a yw’r achos wedi’i dderbyn ai peidio o fewn 30 diwrnod o gael eich cais. Os nad yw’ch cais yn addas ar gyfer ADR, byddwn yn egluro pam.

Gwneud cais am ADR pan mae CThEF wedi gwneud penderfyniad apeliadwy

Mae rheolau gwahanol yn berthnasol yn dibynnu a yw’r penderfyniad apeliadwy yn ymwneud â threth uniongyrchol neu dreth anuniongyrchol.

Os ydych yn gwneud cais ar ôl i CThEF wneud penderfyniad, bydd angen i chi fynd i GOV.UK, chwilio am ‘disagree with a tax decision’, a dilyn yr arweiniad. Yna, bydd angen i chi ddarllen yr adrannau isod.

Anghydfodau sy’n ymwneud â threth uniongyrchol

Mae trethi uniongyrchol yn cynnwys:

  • Treth Incwm
  • Treth Gorfforaeth
  • Treth Etifeddiant

Gallwch wneud cais am ADR pan rydych wedi apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch mater o ran treth uniongyrchol, a’n bod ni wedi cymryd un o’r camau canlynol:

  • wedi derbyn yr apêl, ond heb gynnig adolygiad statudol i chi
  • wedi cynnig adolygiad statudol i chi ac rydych wedi ei dderbyn — cyn i chi wneud cais, mae’n rhaid i chi aros i’r adolygiad ddod i ben, apelio ar y tribiwnlys, ac mae’n rhaid i’r tribiwnlys hwnnw cydnabod eich apêl
  • wedi cynnig adolygiad statudol i chi, nad oeddech yn bwriadu ei dderbyn — cyn i chi wneud cais, mae’n rhaid i chi apelio ar y tribiwnlys yn gyntaf, ac mae’n rhaid i’r tribiwnlys hwnnw cydnabod eich apêl

Anghydfodau sy’n ymwneud â threth anuniongyrchol

Mae trethi anuniongyrchol yn cynnwys:

  • TAW
  • Toll Ecséis
  • Toll Dramor

Gallwch wneud cais am ADR pan rydym wedi gwneud penderfyniad ynghylch mater o ran treth anuniongyrchol ac rydych wedi cymryd un o’r camau canlynol:

  • wedi derbyn ein cynnig o adolygiad — cyn i chi wneud cais, mae’n rhaid i chi aros i’r adolygiad ddod i ben, apelio ar y tribiwnlys, ac mae’n rhaid i’r tribiwnlys hwnnw cydnabod eich apêl
  • wedi gofyn i ymestyn y cyfnod sydd gennych i dderbyn y cynnig o adolygiad, ac mae CThEF wedi cytuno i hynny
  • wedi cael cynnig adolygiad statudol, nad ydych yn bwriadu ei dderbyn – cyn i chi wneud cais, mae’n rhaid i chi apelio ar y tribiwnlys yn gyntaf, ac mae’n rhaid i’r tribiwnlys hwnnw cydnabod eich apêl

Os ydych wedi gwneud cais o ran caledi wrth apelio yn erbyn penderfyniad sy’n ymwneud â threth anuniongyrchol, mae angen i chi aros am y canlyniadau cyn gwneud cais am ADR. I gael rhagor o wybodaeth am galedi, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘reviews and appeals for indirect cases in hardship applications’.

Eich hawl i apelio

Nid yw defnyddio ADR yn effeithio ar eich hawl i apelio neu i ofyn am adolygiad.

Mae rhagor o wybodaeth am apeliadau ar gael ar-lein. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘disagree with a tax decision or penalty’, ac yna dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.

Cyn i chi wneud cais am ADR

Egwyddorion y mae’n rhaid i chi gytuno iddynt

Dim ond os ydych yn barod i ymrwymo i ADR y dylech wneud cais amdano.

Wrth lenwi’r cais, gofynnir i chi gytuno i egwyddorion a fydd yn eich ymrwymo i gymryd rhan gyflawn yn y broses ADR.

Dyma’r egwyddorion y gofynnir i chi ymrwymo iddynt (pob un o’r canlynol):

  • rydych chi a’ch cynrychiolydd, os oes gennych un, yn deall mai’r cyfryngwr sy’n gyfrifol am y broses ADR — rydych chi a CThEF yn rhannu’r cyfrifoldeb am benderfynu ar y canlyniadau treth
  • mae’n rhaid i chi a’ch cynrychiolydd fod ar gael cyn pen 90 diwrnod i’ch cais am ADR gael ei dderbyn er mwyn cymryd rhan mewn cyfarfod cyfryngu — gallai hwn bara diwrnod cyfan, a bydd yn cael ei gynnal naill ai drwy alwad ffôn, drwy alwad fideo neu mewn cyfarfod wyneb yn wyneb
  • cynhelir trafodaethau ynghylch datrys yr anghydfod ar sail ‘heb ragfarn’ (‘without prejudice’) — mae diffiniad o hyn i’w weld yn yr adran ‘ystyr heb ragfarn’
  • cyn y cyfarfod cyfryngu, mae’n rhaid i’r ddau barti ddatgelu’n ysgrifenedig yr holl ffeithiau a thystiolaeth sy’n berthnasol i’r anghydfod
  • os byddwch yn dod o hyd i wybodaeth newydd cyn cyfarfod, byddwch yn ei rhoi i’r cyfryngwr a’r gweithiwr achos cyn gynted â phosibl
  • os bydd y cyfryngwr yn gofyn am ragor o wybodaeth, byddwch yn ei rhoi iddo cyn pen 15 diwrnod
  • mae pob dogfen a gyfnewidir yn ystod y broses ADR yn cael ei thrin yn yr un modd â gwybodaeth a gaiff ei chyfnewid â ni ar unrhyw adeg arall
  • os daw’n amlwg yn ystod y cyfryngu nad yw ffaith berthnasol wedi’i datgelu, bydd yr wybodaeth honno’n cael ei chofnodi’n ffurfiol
  • os byddwch yn gwneud cwyn ffurfiol am y broses, gofynnir i’r cyfryngwr wneud sylwadau

Os caiff y telerau ac amodau eu torri ar unrhyw adeg, gallwn ddileu’ch anghydfod o’r broses ADR.

Ystyr ‘heb ragfarn’

Caiff pob cyfathrebiad sy’n gysylltiedig ag ADR ei gofnodi, ac eithrio trafodaethau ynghylch datrys yr anghydfod. Bydd y trafodaethau hyn yn cael eu cynnal ar sail ‘heb ragfarn’. Term cyfreithiol yw ‘heb ragfarn’.

Mewn ADR, disgwylir i chi a CThEF drafod yn agored ac archwilio ffyrdd posibl o ddatrys yr anghydfod. Mae ‘heb ragfarn’ yn golygu na ellir defnyddio’r trafodaethau hyn, ynghylch y ffyrdd posibl o ddatrys yr anghydfod, gan y naill barti na’r llall mewn achosion diweddarach. Mae hyn oni bai bod y ddau barti yn cytuno neu fod yr wybodaeth a rennir yn ‘ffaith dreth’.

Ffeithiau Treth

‘Ffaith dreth’ yw’r wybodaeth sydd ei hangen ar CThEF er mwyn gallu cyflawni i gasglu’r swm cywir o dreth. Yn ystod y broses ADR, gall y naill barti neu’r llall ddatgelu gwybodaeth ffeithiol sy’n effeithio ar y rhwymedigaeth treth derfynol. Nid yw’r math hwn o wybodaeth wedi’i gwmpasu gan y rheol ‘heb ragfarn’.

Mae enghreifftiau o ffeithiau treth yn cynnwys:

  • mae taliad wedi dod i law — pan fo tystiolaeth bod taliad wedi dod i law, ac mae hynny wedi’i ddangos ar gyfriflen banc
  • mae cyflenwad wedi’i wneud — pan fo tystiolaeth yn dangos bod cyflenwad wedi’i wneud
  • datgelu pwy yw cwsmer

Beth sy’n digwydd os yw’ch achos yn cael ei dderbyn ar gyfer ADR

Bydd y cyfryngwr yn penderfynu ar y ffordd fwyaf effeithiol o’ch helpu chi a CThEF i ddatrys yr anghydfod. Gall hyn fod drwy e-bost, dros y ffôn, neu mewn cyfarfod.

Os bydd y cyfryngwr yn meddwl bod angen cyfarfod, bydd y canlynol yn eich helpu i baratoi.

Paratoi ar gyfer unrhyw gyfarfod cyfryngu

Wrth baratoi ar gyfer cyfarfod cyfryngu, bydd y cyfryngwr yn gofyn i chi am ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y mae anghydfod yn eu cylch, gan gynnwys eich safbwynt ar bob mater. Dylai’ch datganiad fod:

  • yn gryno — dim mwy na 2 ochr o bapur A4
  • yn nodi’r prif ffeithiau a, phan fo’n berthnasol, sut y credwch fod y gyfraith yn berthnasol i’r ffeithiau hyn

Ni ddylai’ch datganiad olrhain hanes y gwiriad cydymffurfio.

Bydd gofyn i’r swyddog sy’n delio â’ch gwiriad cydymffurfio wneud yr un peth.

Bydd y datganiadau hyn yn sail i’r drafodaeth ar y diwrnod cyfryngu, a byddant yn cael eu rhannu rhyngoch chi a’r swyddog cyn y cyfarfod cyfryngu.

Cyn y cyfarfod, bydd eich cyfryngwr yn siarad â’r ddau barti am yr hyn a fydd yn digwydd yn ystod y dydd.

Ynghylch y cyfarfod cyfryngu

Bydd y cyfryngwr yn agor y cyfarfod ac yn gwahodd trafodaeth am y datganiadau. Drwy gydol y broses gyfryngu, bydd cyfleoedd i chi ofyn cwestiynau a mynegi’ch barn. Gellir gwneud hyn gyda’r cyfryngwr drwy drafodaeth ar y cyd, trafodaeth breifat, neu’r ddau.

Bydd y cyfryngwr yn eich helpu chi a’r swyddog sy’n delio â’ch gwiriad i archwilio’r materion sy’n destun anghydfod ac i ystyried pob datrysiad posibl. Yn dibynnu ar amgylchiadau’ch anghydfod, mae’n bosibl y gall y cyfarfod cyfryngu gynnwys trafodaethau ar y cyd â chi a’r swyddog yn CThEF yn ogystal â thrafodaethau ar wahân.

Ni fydd y cyfryngwr yn awgrymu datrysiadau nac yn eu gorfodi arnoch. Yn lle hynny, bydd y cyfryngwr yn eich helpu chi a’r swyddog yn CThEF i weithio drwy’r materion sy’n destun anghydfod. Dim ond os gall y swyddog yn CThEF a chithau ddod i gytundeb sy’n dderbyniol i’r ddwy ochr y bydd datrysiad.

Strategaeth Ymgyfreitha a Setlo

Wrth ddatrys anghydfodau, mae’n rhaid i ni ddilyn y Strategaeth Ymgyfreitha a Setlo (LSS). Dyma’r fframwaith yr ydym yn ei ddefnyddio i ddatrys anghydfodau treth. Anogir y ddwy ochr i ddarllen yr LSS cyn y cyfarfod cyfryngu. Bydd hyn yn eich helpu chi a’r swyddog yn CThEF i ddeall y rheolau sylfaenol y mae’n rhaid i ni eu dilyn wrth geisio dod i gytundeb gyda’r cwsmer.

Gallwch ddarllen rhagor am y Strategaeth Ymgyfreitha a Setlo ar-lein. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘litigation and settlement strategy’.

Cymryd nodiadau yn ystod ADR

Gallwch gymryd nodiadau yn ystod y cyfryngu ond dylech gymryd cyn lleied o nodiadau ag sy’n bosibl. Os yw gwybodaeth a ddarparwyd gennych chi neu CThEF yn ystod y cyfryngu yn effeithio ar eich rhwymedigaeth treth, yna gallwch chi neu CThEF wneud nodyn o hyn. Gellir cyfeirio at hyn mewn unrhyw achos yn y dyfodol.

Gallwch ddewis gofyn i rywun gymryd rhan yn y cyfarfod gyda chi, er enghraifft, eich ymgynghorydd treth, ffrind, neu aelod o’r teulu. Gofynnir i chi gadarnhau eich bod yn hapus i’ch materion treth gael eu trafod yn fanwl o’i flaen.

Yr hyn sy’n digwydd ar ôl ADR

Ar ddiwedd y broses ADR, bydd y cyfryngwr yn esbonio’r camau nesaf. Bydd y camau hyn yn dibynnu ar ganlyniadau’r ADR.

Mewn rhai achosion, bydd y cyfryngwr yn gofyn i chi a’r swyddog yn CThEF i helpu i ddrafftio dogfen sy’n manylu ar ganlyniadau’r cyfryngu. Er enghraifft, pan fo cyfarfod llawn wedi’i gynnal. Rydym yn galw’r ddogfen hon yn ‘Cofnod o ganlyniadau’r ADR’. Dyma’r unig gofnod o’r sefyllfa derfynol rydych wedi’i chyrraedd ar ddiwedd y cyfryngu. Os ydych wedi datrys yr anghydfod, gellir nodi hyn yn y ddogfen, yn ogystal ag unrhyw gamau rydych chi a’r swyddog yn bwriadu eu cymryd yn y dyfodol.

Gellir defnyddio’r ddogfen hefyd i gofnodi bod y broses ADR wedi dod i ben heb gytundeb.

Mewn rhai achosion, dim ond Bwrdd Datrys Anghydfodau neu banel tebyg gall wneud y penderfyniad terfynol ynghylch a all swyddog CThEF gytuno â’r canlyniad a gynigwyd yn ystod y cyfryngu. I ddarllen cod llywodraethu CThEF ynghylch datrys anghydfodau treth, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘resolve tax disputes’.

Yn yr achosion hyn, mae unrhyw ddarpar gytundeb a drafodir yn ystod y cyfryngu yn gytundeb dros dro. Mae’n rhaid i’r panel neu fwrdd priodol ei gymeradwyo cyn i CThEF allu cytuno ag ef. Bydd hyn yn cael ei wneud yn glir i chi yn ystod y cyfryngu.

ADR a’r tribiwnlys

Mae’r tribiwnlys yn cefnogi ADR yn llwyr, a gellir cael rhagor o wybodaeth yn ’Datganiad Ymarfer’ ADR ar gyfer y Tribiwnlys Haen Gyntaf.

Mae’r Datganiad Ymarfer hwn yn esbonio sut a phryd y bydd y tribiwnlys yn hwyluso’r defnydd o ADR. Mae hefyd yn nodi pryd y gellir dyfarnu costau os bydd un o’r partïon yn gwrthod cymryd rhan yn yr ADR, neu’n gwrthod ei ystyried, a hynny yn afresymol.

Gallwch ddod o hyd i’r Datganiad Ymarfer ar-lein. Ewch i judiciary.uk a chwilio am ‘alternative dispute resolution practice statement’.

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud hi’n anodd i chi ddelio â’r broses ADR, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Bydd y swyddog yn eich helpu hyd eithaf ei allu. I gael rhagor o fanylion, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘get help from HMRC if you need extra support’, yna dewis yr opsiwn Cymraeg.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu aelod o’r teulu. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.