Canllawiau

Cael help os yw CThEF yn cysylltu â chi ynghylch gwiriad cydymffurfio

Defnyddiwch yr offeryn ar-lein ar hyd cyfnod y gwiriad i’ch arwain chi drwy bob cam ac i gael mynediad at y cymorth sydd ar gael i chi.

‘Gwiriad cydymffurfio’ yw’r hyn mae CThEF yn ei wneud i wirio’ch sefyllfa dreth i wneud yn siŵr eich bod chi wedi gwneud y canlynol:

  • rydych chi wedi talu’r swm cywir o dreth ar yr adeg gywir
  • rydych chi wedi hawlio’r lwfansau a’r rhyddhadau treth cywir

Yn ogystal, mae gwiriadau cydymffurfio yn sicrhau bod y system dreth yn gweithredu’n deg ac yn effeithiol.

Fel rhan o wiriad, bydd CThEF yn gwneud y canlynol:

  • anfon llythyr atoch chi gan ofyn am wybodaeth neu ddogfennau
  • trafod materion â chi i ddeall eich sefyllfa dreth
  • pennu’ch sefyllfa dreth chi’n gywir a dod â’r gwiriad i ben

Defnyddio’r offeryn ar-lein

Mae’r offeryn yn eich cyfeirio chi at arweiniad a fideos sy’n rhoi cymorth ar hyd cyfnod y gwiriad.

Dechrau nawr

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 Medi 2025 show all updates
  1. The online tool has been updated with more customised journeys, and a new section about taking control of your money and tax, to support customers managing their finances after a compliance check.

  2. Added translation

Argraffu'r dudalen hon