Canllawiau

Siarter cwsmeriaid Tŷ’r Cwmnïau

Cyhoeddwyd 6 February 2020

1. Ein gwasanaeth i chi

Byddwn:

  • yn gymwynasgar, moesgar a pharchus

  • yn ymddiheuro os ydym yn gwneud camgymeriad, ac yn ei gywiro

  • yn peidio â gwneud addewidion na allwn eu cadw

  • yn defnyddio Cymraeg/Saesneg clir ac yn osgoi jargon lle bo’n bosibl

  • yn anelu at ddarparu gwasanaethau ar-lein 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn

Bydd ein canolfan gysylltu ar gael i ateb eich cwestiynau rhwng 8:30am a 6pm (dydd Llun i ddydd Gwener).

2. Pan fyddwch yn cysylltu â ni

Byddwn:

  • yn ateb eich cwestiwn o fewn yr amserlenni a gytunwyd

  • yn rhoi enw a thîm y person sy’n ymdrin â’ch cwestiwn

  • yn eich helpu â’ch cwestiwn cymaint ag y gallwn

  • yn ymateb i’r holl bwyntiau a godwyd

  • yn esbonio pethau’n glir os nad ydych yn cael y canlyniad yr oeddech yn gobeithio amdano

  • yn rhoi cyngor ar y camau nesaf os nad ydych yn fodlon – darllen ein trefn gwyno

  • yn ateb yn Gymraeg os ydych wedi cysylltu â ni yn Gymraeg neu os ydych wedi dweud wrthym yr hoffech gael gohebiaeth ddwyieithog

  • yn helpu cwsmeriaid mae angen cymorth arnynt oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd – cael gwybod sut rydym yn cynorthwyo defnyddwyr ag anghenion o ran hygyrchedd

3. Ein staff

Byddwn yn sicrhau bod ein staff:

4. Sut y gallwch chi ein helpu

Gofynnwn eich bod:

  • yn ymwybodol o’ch rhwymedigaethau statudol ac yn cysylltu â ni os ydych yn cael trafferth i fodloni’ch terfynau amser

  • yn rhoi’r wybodaeth gywir inni ar yr adeg gywir

  • yn defnyddio ein gwasanaethau digidol (rhai tudalennau Saesneg yn unig) i’ch helpu chi i ffeilio neu chwilio am wybodaeth am gwmnïau

  • yn trin ein staff â pharch

  • yn gofyn inni esbonio unrhyw beth nad ydych chi’n siŵr ohono

5. Sut wnaethom ni?

Rydym yn croesawu adborth ac awgrymiadau am sut y gallwn wella ein gwasanaeth i chi.

Rhowch wybod inni sut y gwnaethom drwy gwblhau ein harolwg boddhad cwsmeriaid (Saesneg yn unig)

6. Sut i ddweud diolch

Os hoffech ddweud diolch a rhoi gwybod inni am unigolyn neu dîm yn Nhŷ’r Cwmnïau a roddodd wasanaeth rhagorol ichi, anfonwch neges e-bost at thanks@companieshouse.gov.uk.