Stori newyddion

Tŷ’r Cwmnïau’n lansio addewid i gynorthwyo cwsmeriaid sy’n agored i niwed

Rydym yn cydnabod y gall fod yn anodd i ddefnyddwyr sy’n eu cael eu hunain mewn sefyllfaoedd agored i niwed gydymffurfio â’u rhwymedigaethau statudol, ac rydym yn addo cynorthwyo cwsmeriaid yn ystod y cyfnodau hynny.

A person wearing headphones with words saying 'We pledge to support our vulnerable customers'

Ein nod yn Nhŷ’r Cwmnïau yw darparu profiad cwsmeriaid di-dor i’n holl ddefnyddwyr.

Rhaid i’r holl gwsmeriaid gydymffurfio â’u rhwymedigaethau statudol, megis ffeilio eu cyfrifon yn brydlon. A gall hynny fod yn anodd pan fyddant mewn sefyllfa lle maent yn agored i niwed.

Rydym yn cydnabod y gall cwsmeriaid fod yn agored i niwed am gyfnodau byr ac am gyfnodau hir, ac y gall y cyfnodau hyn ailddigwydd. Bydd rhai yn agored i niwed yn ystod cyfnodau eithriadol o anodd, ac eraill oherwydd heriau mwy hirdymor.

Mae amrywiaeth eang o ffactorau’n cyfrannu at fod yn agored i niwed, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • problemau iechyd corfforol neu iechyd meddwl

  • amgylchiadau ariannol

  • newidiadau i amgylchiadau bywyd – megis profedigaeth neu ddod yn ofalwr

Er mwyn cynorthwyo ein cwsmeriaid i gwblhau eu rhwymedigaethau statudol, byddwn:

  • yn adolygu ein polisïau’n rheolaidd

  • yn darparu gwasanaethau proffesiynol i’n holl gwsmeriaid

  • yn hyfforddi’n cydweithwyr i roi cymorth gwell i’n cwsmeriaid sy’n agored i niwed

  • yn defnyddio system cynadleddau achos ac yn sicrhau y caiff arferion gorau eu rhannu

  • yn defnyddio arbenigedd allanol i’n herio ni i wella ein gwasanaethau

  • yn deall ein cwsmeriaid ac yn sicrhau ein bod yn cyfathrebu’n effeithiol

Ein haddewid

Rydym yn addo gweithio gyda’n cwsmeriaid yn ystod y cyfnodau anodd hyn i sicrhau eu bod yn gallu defnyddio ein gwybodaeth a’n gwasanaethau mewn ffordd sy’n addas at eu hanghenion.

Hyfforddiant

Mae ein timau sy’n ymwneud â chwsmeriaid yn allweddol i’r gwaith o sicrhau ein bod ni’n adnabod ein cwsmeriaid sy’n agored i niwed ac yn eu helpu. Byddwn yn sicrhau y bydd ein pobl ni’n cael hyfforddiant addas i adnabod a chynorthwyo cwsmeriaid a all fod yn agored i niwed, a’u cyfeirio hefyd at gymorth ychwanegol.

Adolygu perfformiad yn rheolaidd

Er mwyn sicrhau gwelliant cyson i’n harferion busnes o ran gofal cwsmeriaid, byddwn yn adolygu ein polisïau’n rheolaidd. Byddwn yn defnyddio arbenigedd allanol i herio ac i awgrymu gwelliannau pan fo angen.

Darparu gwasanaeth proffesiynol

Byddwn yn ceisio deall ein cwsmeriaid, er mwyn sicrhau bod y cyfathrebu rhyngom yn effeithiol bob amser. Byddwn yn ceisio darparu gwasanaeth proffesiynol i’n cwsmeriaid bob amser, ac yn ceisio bod ag ymagwedd hyblyg - o fewn y terfynau a osodir gan ddeddfwriaeth.

Caiff ein haddewid ei wneud ochr yn ochr â’n siarter cwsmeriaid newydd a gwell. Nod y siarter yw nodi lefel y gwasanaeth y gall ein cwsmeriaid ei ddisgwyl gennym, a’r hyn rydym wedi ymrwymo i’w ddarparu i’n cwsmeriaid.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd canfod, cynorthwyo a chynnig atebion i gwsmeriaid sy’n agored i niwed. A gobeithiwn fod yr addewid hwn yn dangos ein hymrwymiad i gynorthwyo cwsmeriaid drwy gyfnodau anodd.

Cyhoeddwyd ar 6 February 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 February 2020 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.