Gweithdrefn gwyno
Sut i wneud cwyn i Dŷ’r Cwmnïau am ein lefel o wasanaeth.
Darllenwch y canllawiau am gwblhau gwiriad hunaniaeth yn Nhŷ’r Cwmnïau cyn gwneud cwyn am y broses newydd hon.
Cysylltwch â’ch AS os yw eich cwyn yn ymwneud â gofyniad cyfreithiol neu newid i gyfraith cwmni (ni allwn newid y canlyniad os oes angen i chi wneud rhywbeth yn ôl y gyfraith).
Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r gwasanaeth cywir
Mae prosesau gwahanol ar gyfer:
- gwneud cwyn am gwmni
- rhoi gwybod am gwmni sy’n defnyddio eich manylion personol heb ei caniatâd
- apelio yn erbyn cosb am ffeilio eich cyfrifon yn hwyr
- cysylltu â ChTEF os yw eich cwyn yn ymwneud â threthi
- cysylltu â Thŷ’r Cwmnïau os nad oes angen i chi wneud cwyn
Nid ydym yn delio â chwynion am hawliau cwsmeriaid am nwyddau neu wasanaethau.
Beth allwch gwyno amdano
Gallwch ond ddefnyddio’r broses hon i gwyno am y lefel o wasanaeth a ddarparwyd gennym. Er enghraifft:
- yr amser a gymerwyd gennym i gwblhau cais
- gwasanaeth cwsmeriaid gwael neu gyfathrebu amhroffesiynol
- cyngor neu ganllawiau anghywir
- hygyrchedd
- gwybodaeth anghywir a gyhoeddwyd gennym trwy gamgymeriad
Sut i wneud cais
Anfonwch e-bost atom ni er mwyn gwneud cwyn i Dŷ’r Cwmnïau.
Bydd angen i chi nodi’r canlynol:
- eich enw llawn
- eich cyfeiriad e-bost dewisol, fel y gallwn gysylltu â chi
- manylion eich cwyn, gan roi digon o fanylion fel y gallwn ymchwilio (er enghraifft, beth ddigwyddodd a phryd, a beth fyddai’n datrys y broblem)
Efallai y byddai’n ddefnyddiol cynnwys y canlynol:
- rhif ffôn, os byddai’n well gennych ein bod yn eich ffonio
- enw a rhif eich cwmni, os yw’n berthnasol
- unrhyw dystiolaeth i gefnogi eich cwyn
Bydd yr holl wybodaeth yma’n gyfrinachol. Ni fydd ar gael i’r cyhoedd.
Email enquiries@companieshouse.gov.uk.
Os oes angen cymorth ychwanegol gyda’ch cwyn
Gallwch gysylltu â Thŷ’r Cwmniau a dweud wrthym os oes angen cymorth ychwanegol arnoch gyda’ch cwyn oherwydd cyflwr iechyd neu’ch amgylchiadau personol.
Gweler cymorth hygyrchedd ar gyfer defnyddwyr Tŷ’r Cwmniau.
Beth sy’n digwydd pan fyddwch yn gwneud cwyn i Dŷ’r Cwmnïau
Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn adolygu eich cwyn. Byddwn yn ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd a’r hyn a ddylai fod wedi digwydd. Gelwir hyn yn adolygiad ‘haen gyntaf’.
Fel arfer, byddwn yn cysylltu â chi o fewn 28 diwrnod ar ôl i’ch cwyn ddod i law. Byddwn yn rhoi gwybod beth yw canlyniad yr adolygiad haen gyntaf a beth yw’r cam nesaf.
Os na allwn roi ymateb llawn o fewn yr amser hwn, byddwn yn rhoi gwybod beth rydym yn ei wneud a phryd y gallwch ddisgwyl ateb llawn. Gallai hyn ddigwydd os oes angen ymchwiliad mwy manwl I’ch cwyn. Byddwn yn rhoi enw cyswllt a rhif cyfeirnod cwyn.
Ni fyddwn yn eich trin yn wahanol i unrhyw un arall oherwydd eich bod wedi gwneud cwyn. Byddwn yn trin eich cwyn yn deg, yn gyfrinachol ac yn ymchwilio i’r materion yn drylwyr.
Os ydych yn anghytuno â chanlyniad yr adolygiad haen gyntaf
Gallwch ofyn am i’ch cwyn gael ei hadolygu am yr eildro. Gelwir hyn yn adolygiad ‘ail haen’.
Bydd y pennaeth cwynion yn adolygu’ch cwyn, yn edrych ar sut y cafodd eich cwyn ei thrin yn yr adolygiad haen gyntaf ac yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad.
Mae penderfyniad yr adolygiad ail haen yn derfynol. Ni fyddwch yn gallu gofyn i Dŷ’r Cwmnïau am adolygiad arall.
Os ydych yn anghytuno â chanlyniad yr adolygiad ail haen
Gallwch ofyn i’r beirniaid annibynnol adolygu eich cwyn. Byddwn yn dweud wrthych sut i wneud hyn.
Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim ac yn annibynnol o Dŷ’r Cwmnïau.
Dim ond os ydych wedi cael adolygiad haen gyntaf ac ail haen gan Dŷ’r Cwmnïau y gallwch ofyn i’r beirniaid annibynnol edrych ar eich cwyn.
Mae’r beirniaid dim ond yn ymchwilio i gwynion am y canlynol:
- ein lefel o wasanaeth
- camgymeriadau a wnaethom
- ein proses trin cwynion
Mae’n rhaid bod eich cwyn wedi’i gyflwyno yn ystod y 6 mis diwethaf.
Os ydych yn anghytuno â’r beirniaid annibynnol
Gallwch ofyn i’ch AS gyfeirio’ch cwyn at yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd.