Cydweithredu â busnesau eraill
Cyhoeddwyd 15 Awst 2025
Os ydych chi’n fusnes sy’n ystyried gweithio gyda busnes arall i gyflawni nod cyffredin, mae’n bwysig deall rhai rhannau allweddol o gyfraith cystadleuaeth er mwyn i chi allu aros ar ochr iawn y gyfraith. Mae cyfraith cystadleuaeth yn helpu i sicrhau bod cydweithrediadau busnes yn deg ac nad ydynt yn niweidio cystadleuaeth yn y farchnad.
Nid yw llawer o gydweithrediadau rhwng busnesau yn codi unrhyw bryderon ynghylch cyfraith cystadleuaeth. Yn wir, mae llawer o gydweithrediadau yn dda ar gyfer cystadleuaeth oherwydd eu bod yn arwain at fanteision i gwsmeriaid, fel arloesedd neu effeithlonrwydd gwell.
Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau gall cydweithrediad fod yn anghyfreithlon oherwydd ei fod yn croesi’r llinell i ymddygiad gwrth-gystadleuol.
Mae asesu a yw cydweithrediadau rhwng busnesau mewn perygl o dorri cyfraith cystadleuaeth yn gallu bod yn anodd weithiau. Nod y canllawiau hyn yw darparu rhai awgrymiadau lefel uchel i’ch cynorthwyo.
Deddf Cystadleuaeth 1998
Y brif gyfraith sy’n llywodraethu cystadleuaeth yn y DU yw Deddf Cystadleuaeth 1998 (y ‘CA98’).
Mae’r CA98 yn cynnwys 2 waharddiad:
-
gwaharddiad Pennod I ar gytundebau gwrth-gystadleuol
-
gwaharddiad Pennod II ar gamddefnyddio sefyllfa gref
Pan fydd 2 fusnes neu fwy yn gweithio gyda’i gilydd, mae cyfraith cystadleuaeth yn trin hyn fel cytundeb rhyngddynt. Os yw’r cytundeb hwnnw’n cyfyngu ar gystadleuaeth, gallai fod yn anghyfreithlon o dan waharddiad Pennod I.
Mathau o gytundeb
Yng nghyfraith cystadleuaeth, disgrifir cytundebau’n aml fel rhai ‘llorweddol’ neu ‘fertigol’, yn dibynnu ar y berthynas rhwng y partïon dan sylw:
-
mae cytundebau llorweddol yn digwydd rhwng busnesau sy’n gweithredu yn yr un farchnad ac ar yr un lefel o’r gadwyn gyflenwi (sy’n golygu eu bod yn gystadleuwyr uniongyrchol), neu sy’n debygol o wneud hynny yn y dyfodol agos (y cyfeirir atynt fel cystadleuwyr posibl)
-
mae cytundebau fertigol yn cynnwys busnesau sy’n gweithredu ar wahanol lefelau o’r gadwyn gyflenwi, fel gwneuthurwr a manwerthwr
Yn aml, mae cydweithrediadau rhwng busnesau yn gytundebau llorweddol, ond gall y ddau fath godi materion cyfreithiol yn dibynnu ar sut maen nhw’n effeithio ar gystadleuaeth.
Mae mathau cyffredin o gydweithrediadau llorweddol rhwng busnesau yn cynnwys:
-
ymchwil a datblygu, er enghraifft i ddatblygu neu wella cynnyrch neu dechnoleg
-
cynhyrchu, er enghraifft rhannu adnoddau i gynhyrchu rhywbeth ar y cyd, gan gynnwys drwy fentrau ar y cyd
-
arbenigedd, er enghraifft 2 fusnes yn cytuno y bydd un yn rhoi’r gorau i gynhyrchu rhywbeth ac yn ei brynu gan y llall yn lle hynny
-
prynu, er enghraifft negodi a phrynu ar y cyd gan gyflenwyr
-
masnacheiddio, er enghraifft gweithio ar y cyd i gyflwyno cynnyrch newydd i’r farchnad
-
cyfnewid gwybodaeth, er enghraifft rhannu gwybodaeth fel y gall busnesau gymharu arferion gorau ei gilydd
-
safoni, er enghraifft datblygu safon cynnyrch
Mae p’un ai a yw’r rhain yn cael eu caniatáu o dan gyfraith cystadleuaeth ai peidio yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Mewn llawer o achosion, nid yw cydweithrediadau busnes yn cyfyngu ar gystadleuaeth ac maent yn cael eu caniatáu o dan gyfraith cystadleuaeth. Hyd yn oed lle maent yn cyfyngu ar gystadleuaeth, gallant elwa o eithriadau o dan gyfraith cystadleuaeth oherwydd yr effeithlonrwydd y maent yn ei ddarparu. Eglurir hyn ymhellach isod.
Mae’r CMA wedi cyhoeddi canllawiau manwl ar sut mae cyfraith cystadleuaeth yn berthnasol i wahanol fathau o gytundebau llorweddol.
Esemptiadau
Weithiau, nid yw cytundeb busnes yn anghyfreithlon er ei fod yn cyfyngu ar gystadleuaeth. Gall hyn ddigwydd os yw’r cytundeb yn gymwys i gael esemptiad o dan gyfraith cystadleuaeth. Yn yr achosion hyn, ni ystyrir bod y cytundeb yn torri gwaharddiad Pennod I.
Esemptiad adran 9
O dan adran 9 o CA98, gall cytundeb fod yn esempt os yw’n bodloni rhai amodau sy’n ymwneud ag effeithlonrwydd a manteision y cytundeb.
Fel arfer, mae hyn yn gofyn am asesiad cyfreithiol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghanllawiau’r CMA ar gytundebau llorweddol.
Esemptiadau bloc
Mae rhai categorïau o gytundebau wedi’u cynnwys o dan esemptiadau bloc. Mae hyn oherwydd bod y CMA yn ystyried bod y cytundebau dan sylw yn debygol o fodloni’r amodau ar gyfer esemptiad adran 9. Caniateir cytundeb busnes yn awtomatig o dan gyfraith cystadleuaeth os yw’n bodloni’r meini prawf penodol a nodir yn yr esemptiad bloc.
Os yw eich cydweithrediad busnes yn ffitio o fewn esemptiad bloc, gallwch fod yn hyderus ei fod yn dilyn y gyfraith. Ni fydd angen asesiad cyfreithiol ar wahân arnoch o dan adran 9 o CA98. Fodd bynnag, mae gan bob esemptiad bloc ei set ei hun o reolau ac amodau. Rhaid i chi fodloni’r rhain i gyd i elwa o’r esemptiad.
Ar hyn o bryd mae sawl esemptiad bloc yn y DU, gan gynnwys mewn perthynas â’r mathau canlynol o gydweithrediad busnes:
-
ymchwil a datblygu (pan fydd busnesau’n cydweithredu i arloesi neu greu cynhyrchion neu dechnolegau newydd)
-
arbenigo (pan fydd busnesau’n cytuno i ganolbwyntio ar wahanol feysydd cynhyrchu i wella effeithlonrwydd)
-
hawliau technoleg trwyddedu (pan fydd un busnes yn caniatáu i un arall ddefnyddio ei dechnoleg, fel patentau neu feddalwedd)
-
rhai mathau o gytundebau fertigol (rhwng busnesau sy’n gweithredu ar wahanol lefelau o’r gadwyn gyflenwi)
Os nad yw eich cydweithrediad yn gymwys ar gyfer esemptiad bloc, efallai y bydd yn gyfreithlon o hyd o dan adran 9 – ond bydd angen i chi ei asesu’n fwy gofalus i fod yn siŵr.
Uno cwmnïau
Gall cydweithrediadau sy’n arwain at uno busnesau gael eu dal o dan gyfraith cystadleuaeth hefyd ac angen ymchwiliad gan y CMA i benderfynu a ydynt yn debygol o leihau cystadleuaeth. Gweler Uno cwmnïau: sut yr ymchwilir iddynt i ddysgu mwy am yr hyn a fyddai’n cyfrif fel ‘uno cwmni’, yr amgylchiadau y bydd y CMA yn ymchwilio iddynt, a sut mae ein hymchwiliadau’n gweithio.
Camau nesaf
Os ydych chi eisiau gwybod mwy, darllenwch ein canllawiau ar:
-
gytundebau llorweddol, gan gynnwys esemptiad adran 9 a’r esemptiadau bloc ar ymchwil a datblygu ac arbenigo
-
cytundebau fertigol, a’r esemptiad bloc ar gytundebau fertigol
Am gyhoeddiadau ar bynciau penodol, cyfeiriwch at:
-
gytundebau cynaliadwyedd amgylcheddol – gallwch hefyd ofyn am ganllawiau anffurfiol gan y CMA ar gyfer y math hwn o fenter
-
recriwtio gweithwyr a gosod cyflog ac amodau gwaith eraill – yn benodol ar gyfnewid gwybodaeth a meincnodi
Os oes gennych gwestiynau neu bryderon penodol, efallai y bydd angen i chi geisio cyngor cyfreithiol arbenigol.
Efallai y bydd modd i fusnesau gael cyngor cyfreithiol am ddim gan sefydliadau fel y cynllun Pro Bono Cystadleuaeth.
Er na allwn ddarparu cyngor cyfreithiol, efallai y byddwn yn gallu ymyrryd os oes tystiolaeth bod busnesau’n cael eu hatal rhag cydweithredu mewn ffyrdd a allai fod o fudd i ddefnyddwyr neu’r economi ehangach, oherwydd ansicrwydd ynghylch sut mae cyfraith cystadleuaeth yn berthnasol. Os felly, rhowch wybod i ni drwy e-bostio collaborations@cma.gov.uk.
Byddem yn arbennig o awyddus i glywed gan fusnesau yn yr 8 sector strategaeth ddiwydiannol allweddol. Byddwn yn ystyried unrhyw gyflwyniadau o’r fath yn ofalus, er ei bod yn annhebygol y byddwn yn gallu cymryd camau gweithredu ym mhob achos. Byddwn yn ystyried, yn unol â’n hegwyddorion blaenoriaethu wedi’u cyhoeddi, a fyddai’n briodol cymryd camau pellach mewn achosion unigol.