Ffurflen

Hawlio lwfans nad ydych wedi’i ddefnyddio ar gyfer rhyddhad eiddo amaethyddol neu ryddhad eiddo busnes (IHT437)

Defnyddiwch ffurflen IHT437 i hawlio unrhyw lwfans rhyddhad nad ydych wedi’i ddefnyddio ar gyfer eiddo amaethyddol neu eiddo busnes, a’i drosglwyddo i ystâd yr ymadawedig.

Dogfennau

Hawliad i drosglwyddo lwfans rhyddhad nad yw wedi’i ddefnyddio ar gyfer eiddo amaethyddol neu eiddo busnes (IHT437)

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Cael gwybod pa mor hygyrch yw ein ffurflenni (yn agor tudalen Saesneg)

Manylion

Defnyddiwch ffurflen IHT437 ynghyd â ffurflen IHT400 i drosglwyddo unrhyw lwfans rhyddhad o 100% nad ydych wedi’i ddefnyddio i ystâd yr ymadawedig, pan fo’r lwfans hwn wedi dod gan briod neu bartner sifil sydd wedi marw’n flaenorol.

Cyn i chi ddechrau llenwi’r ffurflen

Gwnewch yn siŵr bod eich porwr gwe (yn agor tudalen Saesneg) yn gyfredol.

Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch, cyn i chi ddechrau ei llenwi.

I ble y dylid anfon y ffurflen

Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen, anfonwch hi i gyfeiriad post Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Arweiniad perthnasol

Dysgwch am y canlynol:

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 Ebrill 2026

Argraffu'r dudalen hon