Papur polisi

Bargen Ddinesig: Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Mae Llywodraeth y DU wedi cytuno ar Fargen Ddinesig gwerth £1.2 biliwn ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a 10 awdurdod lleol arall

Dogfennau

Cardiff Capital Region City Deal

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch correspondence@ukgovwales.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch correspondence@ukgovwales.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gytundeb rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a deg arweinydd lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’n cynnwys:

  • £1.2 biliwn o fuddsoddiad yn seilwaith Prifddinas-Ranbarth Caerdydd drwy Gronfa Fuddsoddi 20 mlynedd.

  • Sefydlu Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol anstatudol i gydlynu’r cynllunio a’r buddsoddi mewn trafnidiaeth, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

  • Datblygu galluoedd ym maes Rhaglenni Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.

  • Sefydlu Bwrdd Sgiliau a Chyflogaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

  • Bydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y cyd gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau er mwyn cynllunio’r gefnogaeth i gyflogaeth yn y dyfodol, o 2017 ymlaen, ar gyfer pobl sydd â chyflwr iechyd neu anabledd a/neu sy’n ddi-waith yn y tymor hir.

  • Bydd Sefydliad Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cael ei sefydlu i sicrhau bod un llais yn gweithredu dros fusnes i weithio gydag arweinwyr yr awdurdodau lleol.

  • Mae Llywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ymrwymo i ddull partneriaeth newydd o adfywio a datblygu tai. Bydd hyn yn sicrhau bod cymunedau cynaliadwy’n cael eu creu, drwy ddefnyddio ac ailddefnyddio eiddo a safleoedd.

Cafodd y fargen ei llofnodi yng Nghaerdydd ar 15 Mawrth 2016 gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Greg Hands, arweinwyr y cynghorau lleol a Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd ar 15 March 2016