Ffurflen

Elusennau: ffurflen newid manylion (ChV1)

Defnyddiwch y gwasanaeth ffurflenni ar-lein neu’r ffurflen bost os yw’ch sefydliad eisoes wedi’i gofrestru, ac mae angen i chi roi gwybod i CThEF am newidiadau sylweddol i’ch sefydliad. Mae hyn yn cynnwys awdurdodi asiant.

Dogfennau

Newid eich manylion ar-lein (mewngofnodi drwy ddefnyddio Porth y Llywodraeth)

Newid eich manylion drwy’r post

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Os caiff eich sefydliad ei gydnabod fel elusen gan CThEF, ond mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni am newidiadau sylweddol i’ch sefydliad, gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • defnyddio’r gwasanaeth ar-lein

  • llenwi’r ffurflen bost ar y sgrin, ei hargraffu a’i hanfon drwy’r post i CThEF

Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru’ch elusen gyda CThEF.

Ni allwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein os nad oes gan unrhyw un o’r unigolion rydych wedi’i enwi arni rif Yswiriant Gwladol. Yn lle hynny, mae’n rhaid i chi ddefnyddio fersiwn bost y ffurflen ac egluro’r amgylchiadau ym mlwch ‘nodiadau’ y ffurflen.

Gallai newidiadau sylweddol gynnwys newidiadau i’r canlynol:

  • manylion cyswllt

  • swyddogion awdurdodedig

  • enwebeion, fel asiantau treth

  • manylion cyfrif banc

Cyn i chi ddechrau

Mae’r ffurflen bost hon yn rhyngweithiol (ffurflen yr ydych yn ei llenwi ar y sgrin) ac mae’n rhaid i chi ddefnyddio Adobe Reader i’w llenwi. Gallwch lawrlwytho Adobe Reader yn rhad ac am ddim. Lawrlwythwch y fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader (yn agor tudalen Saesneg).

Mae CThEF yn creu fersiynau newydd o’i ffurflenni nad ydynt yn dibynnu ar Adobe Reader. Tra bod y gwaith hwn ar y gweill, gellir defnyddio’r dulliau canlynol er mwyn sicrhau y bydd y ffurflen bost yn lawrlwytho neu’n agor yn Adobe Reader:

  • pa bynnag borwr rydych yn ei ddefnyddio, gwnewch yn siŵr mai Adobe Reader yw’r rhaglen diofyn ar gyfer agor dogfennau PDF – gwnewch hyn drwy wirio’ch gosodiadau

  • dylai defnyddwyr Windows dde-glicio eu llygoden ar gysylltiad y ffurflen ac yna dewis ‘Save target as’ neu ‘Save link as’

  • dylai defnyddwyr Mac wasgu ochr dde eu llygoden i glicio ar gysylltiad y ffurflen ac yna dewis ‘Save linked file as’

  • cadw’r ffurflen – y ffolder ddogfennau yw’r man a argymhellir

  • agor y ffurflen drwy ddefnyddio Adobe Reader

Os yw’r ffurflen bost yn gwrthod agor o hyd, cysylltwch â Desg Gymorth Gwasanaethau Ar-lein i gael rhagor o help.

Os ydych yn asiant treth

Os ydych yn asiant, ac mae angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein Elusennau i Asiantau, mae angen i chi ofyn i’ch cleient lenwi’r ffurflen hon, nodi’ch manylion asiant fel enwebai a’i chyflwyno i CThEF.

Yna, bydd CThEF yn anfon Cyfeirnod Asiant a Chyfeirnod Cwsmer atoch drwy’r post. Bydd angen y rhain arnoch er mwyn ymrestru’r gwasanaeth ar-lein Elusennau i Asiantau ar eich cyfrif Gwasanaethau Ar-lein CThEF.

Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig

Gallwch ddod o hyd i ragor o arweiniad i elusennau, gan gynnwys rhyddhad treth i elusennau, pryd y mae’n rhaid talu treth a phryd y gallwch hawlio treth yn ôl.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 April 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 August 2023 + show all updates
  1. The change of details by post form has been updated with additional text in the declaration to comply with legislation.

  2. Revised English and Welsh versions of 'How to complete CHV1 HMRC charities variations form' guidance published.

  3. CHV1 Simple guide on how to complete CHV1 updated with new return address.

  4. An online service is now available. New version of the English and Welsh pdf of the CHV1 available.

  5. Added translation

Sign up for emails or print this page