Skip to main content
Transparency data

Transparency Data: Characteristics of children affected by household imprisonment in Wales - Welsh version

Updated 20 October 2026

Applies to Wales

1. Crynodeb Gweithredol

1.1          Trosolwg

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno dadansoddiad a gynhaliwyd gan dîm Partneriaethau Gwell Canlyniadau drwy Ddata Cysylltiol (BOLD), sydd wedi’i leoli yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, gan ddefnyddio data dienw sy’n cael ei gadw ym Manc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL).

Yn ei maniffesto ar gyfer y Blaid Lafur yn 2024, ymrwymodd y llywodraeth i fynd ati’n well i adnabod a chefnogi plant y mae rhiant yn y carchar yn effeithio arnynt. Yn hanesyddol, mae plant y mae rhiant yn y carchar yn effeithio arnynt wedi bod yn anodd eu hadnabod mewn systemau data arferol. Prin yw’r wybodaeth sydd ar gael am faint o blant y mae hyn yn effeithio arnynt, ble maent yn byw, a’u nodweddion, sydd wedi cyfyngu ar y dystiolaeth sydd ar gael i lywio gwaith polisi a chynllunio gwasanaethau, fel yr amlygwyd yn adolygiad ASPIRE Llywodraeth Cymru (Gweithredu Gwerthusiad Ymchwil Annibynnol o Ysgolion a Charchardai).

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno ystadegau disgrifiadol ar garfan o blant y mae carcharu aelod o’r aelwyd yn effeithio arnynt yng Nghymru. Mae’r garfan yn cynnwys plant 10 i 14 oed ar ddiwrnod Cyfrifiad Cymru 2011[footnote 1], a oedd yn byw ar aelwydydd lle’r oedd oedolyn yn gysylltiedig â charcharu rhwng 1 Ionawr 2011 a 31 Rhagfyr 2014. Y nod yw disgrifio’r hyn a gofnodir am y garfan hon yn y data cysylltiol. Mae hyn yn cynnwys nodweddion demograffig, amgylchiadau aelwydydd, a dangosyddion penodol o gyswllt â gwasanaeth neu angen gwasanaeth.

Mae’r dull hwn, sy’n seiliedig ar aelwydydd, yn cael ei ddefnyddio fel procsi ar gyfer rhiant yn y carchar oherwydd nad yw’r data gweinyddol sy’n cael ei gadw ym Manc Data SAIL yn gallu nodi’n ddibynadwy y berthynas rhwng plentyn ac oedolyn o’r aelwyd sydd yn y carchar. O ganlyniad, mae’r garfan hefyd yn cynnwys plant y mae carcharu gofalwr neu oedolyn arall o’r aelwyd wedi effeithio arnynt. Mae’r dull hwn yn darparu cwmpas ehangach o’r boblogaeth nag astudiaethau sy’n seiliedig ar samplau bach, data gan wasanaethau unigol, neu deuluoedd sy’n hysbys i sefydliadau cymorth. Gall gynnwys plant nad ydynt yn ymweld â’r unigolyn yn y carchar, gan gydnabod y gall anghenion cymorth ymestyn y tu hwnt i’r hyn y gellir ei nodi mewn carchar.

Dyma enghraifft gynnar o ddadansoddiad BOLD gan ddefnyddio data poblogaeth a charchardai cysylltiol yng Nghymru. Mae’r dull yn tynnu sylw at gyfyngiadau’r data a’r dulliau cysylltiol ac yn rhoi darlun ehangach o amgylchiadau aelwyd plant na chofnodion carchar yn unig.

Mae cyhoeddiad data tryloywder a ryddhawyd ochr yn ochr â’r adroddiad hwn yn rhoi amcangyfrifon wedi’u diweddaru ar nifer y plant sydd â rhiant yn y carchar yng Nghymru a Lloegr.

 1.2        Y prif ganfyddiadau

Mae canfyddiadau’r dadansoddiad hwn yn dangos bod plant yng ngharfan yr astudiaeth wedi profi lefelau uwch o amddifadedd economaidd-gymdeithasol, bregusrwydd teuluol, angen addysgol, a chyswllt â gwasanaethau gofal cymdeithasol a Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (CAFCASS) Cymru na’r rhai yn y grŵp cymharu. Yn gyffredinol, nid oedd llawer o wahaniaeth mewn nodweddion demograffig (rhyw, oedran ac ethnigrwydd) rhwng y ddau grŵp.

Y prif ganfyddiadau allweddol:

  • roedd aelwydydd o faint mwy ac aelwydydd mwy cymhleth yn fwy cyffredin ymysg plant yng ngharfan yr astudiaeth, gan gynnwys aelwydydd un oedolyn (30% o’i gymharu â 24%) a threfniadau teulu cymhleth eraill (12% o’i gymharu â 7%)
  • roedd cyfran uwch o blant yng ngharfan yr astudiaeth wedi profi dau fath neu fwy o amddifadedd (52% o’i gymharu ag 20%)
  • dedfrydau byr o garchar oedd y rhai mwyaf cyffredin, gyda hanner aelodau’r aelwyd yn y carchar (50%) yn bwrw dedfrydau o lai na chwe mis
  • roedd bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim fwy na dwywaith yn fwy cyffredin ymysg plant yng ngharfan yr astudiaeth (71% o’i gymharu â 30%), sy’n dangos lefelau uwch o anfantais economaidd
  • cofnodwyd darpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) ar gyfer dros ddwy ran o dair o’r plant yng ngharfan yr astudiaeth (68%), o’i gymharu â 43% o’r plant yn y grŵp cymharu
  • roedd y rhyngweithio â gwasanaethau gofal cymdeithasol neu CAFCASS Cymru bron bedair gwaith mor gyffredin ymysg plant yng ngharfan yr astudiaeth (29% o’i gymharu ag 8%)
  • roedd cysylltiad blaenorol â gwasanaethau diogelu yn fwy cyffredin ymhlith carfan yr astudiaeth, gan gynnwys cyfran uwch o blant a oedd wedi derbyn gofal yn flaenorol neu a oedd wedi bod ar y gofrestr amddiffyn plant, er bod y niferoedd yr effeithiwyd arnynt yn fach
  • roedd ffactorau bregusrwydd teuluoedd ac aelwydydd dros bum gwaith yn fwy cyffredin ymysg carfan yr astudiaeth (11% o’i gymharu â 2%), gan gynnwys cam-drin domestig gan riant, camddefnyddio sylweddau, afiechyd meddwl, afiechyd corfforol, ac anableddau dysgu

Mae’r ystadegau disgrifiadol hyn yn awgrymu bod yr anghenion a’r amgylchiadau a gofnodwyd ymysg plant yng ngharfan yr astudiaeth yn ymestyn y tu hwnt i’r plentyn unigol i’r aelwyd ehangach. Mae hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd cymorth cynnar cydlynol i blant a theuluoedd yr effeithir arnynt.

 1.3        Methodoleg

Roedd y dadansoddiad yn defnyddio data cysylltiol dienw a gyrchwyd drwy Fanc Data SAIL. Mae SAIL yn cysylltu setiau data iechyd a gweinyddol dienw yn ddiogel, yn bennaf am boblogaeth Cymru. Cyflwynir canlyniadau’r dadansoddiad ar lefel carfan. Nid yw’r dadansoddiad yn nodi plant na theuluoedd unigol.

Roedd y garfan gwaelodlin yn seiliedig ar ddata Cyfrifiad Cymru 2011 ac yn cynnwys plant 10 i 14 oed ar ddiwrnod y cyfrifiad (27 Mawrth 2011). Mae’r rhan fwyaf o allbynnau’n defnyddio gwybodaeth y Cyfrifiad am y plentyn, yr aelwyd, a’r oedolyn sy’n gysylltiedig â charcharu. Roedd y dadansoddiad hefyd yn defnyddio setiau data cysylltiol ychwanegol am addysg, gofal cymdeithasol a charchardai i ddisgrifio dangosyddion penodol o gyswllt neu angen gwasanaeth.

Cafodd plant eu cynnwys yng ngharfan yr astudiaeth os nodwyd eu bod yn byw ar aelwyd yng Nghymru lle’r oedd oedolyn yn gysylltiedig â charcharu rhwng 2011 a 2014 a’u bod hefyd wedi’u cynnwys yng nghyfrifiad Cymru. Sefydlwyd grŵp cymharu a oedd yn cynnwys yr holl blant cymwys eraill yng Nghymru rhwng 10 a 14 oed na nodwyd bod carcharu aelod o’r aelwyd yn effeithio arnynt yn ystod cyfnod yr astudiaeth.

Mae’r adroddiad hwn yn defnyddio ystadegau disgrifiadol yn unig i ddisgrifio patrymau a welwyd. Nid yw’n sefydlu perthnasoedd achlysurol nac yn profi am wahaniaethau sy’n arwyddocaol yn ystadegol. Gall y gwahaniaethau a welir rhwng plant sy’n teimlo effaith carcharu aelod o’r aelwyd a’r grŵp cymharu adlewyrchu carcharu aelod o’r aelwyd, gwahaniaethau sylfaenol rhwng y grwpiau, neu gyfuniad o’r ddau.

Cynhyrchwyd y gwaith hwn gan ddefnyddio data gweinyddol dienw a gyrchwyd drwy Fanc Data SAIL. Pan fydd data gan sefydliadau ar wahân i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cael ei ddefnyddio, nid yw cynnwys eu data yn awgrymu bod y sefydliadau hynny’n cymeradwyo’r dehongliad na’r dadansoddiad a gyflwynwyd. Mae’r gwaith hwn yn defnyddio setiau data ymchwil nad ydynt o bosibl yn atgynhyrchu Ystadegau Swyddogol Achrededig yn eu crynswth yn union.

 1.4        Cyfyngiadau

Mae’r cyswllt yn dangos gwerth data SAIL ar gyfer ymchwil cyfiawnder troseddol drwy alluogi cofnodion carchardai i gael eu cysylltu â data poblogaeth ehangach. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau allweddol i’r dull hwn:

  • mae diffyg un cod adnabod unigryw ar gyfer plant ac oedolion yn cyfyngu ar gyflawnder a chywirdeb cysylltu data
  • defnyddiwyd cofnodion dalfa’r carchar i nodi carfan yr astudiaeth. Mae data carchardai’n cael ei gasglu’n bennaf at ddibenion gweithredol ac er bod y data’n rhoi sylw cynhwysfawr i bobl yn y ddalfa, gall rhywfaint o wybodaeth fod yn anghyflawn neu gael ei chofnodi’n anghyson oherwydd bod y data’n cael ei gasglu’n bennaf at ddibenion gweithredol yn hytrach nag ymchwil
  • mae rhai dangosyddion yn adlewyrchu cyswllt â gwasanaethau penodol yn hytrach na hyd a lled profiadau neu anghenion plant
  • ni all y dull gweithredu sy’n seiliedig ar aelwydydd nodi plant na chofnodwyd bod eu rhiant sydd yn y carchar yn byw yn yr un cartref yng Nghyfrifiad 2011, er enghraifft lle’r oedd rhieni wedi gwahanu

Mae’r cyhoeddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau o Gymru yn unig. Gallai gwaith gydag awdurdodau lleol yn Lloegr yn y dyfodol adeiladu ar y dull hwn, fel y cyfeirir ato hefyd yn y cyhoeddiad “Updated estimates of children with a parent in prison”. Yn dilyn yr ymrwymiad yn y maniffesto yn 2024, mae’r llywodraeth yn cymryd camau gyda chynlluniau peilot a sefydlwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i dreialu cydnabyddiaeth weithredol a chefnogaeth i blant sydd â rhiant yn y carchar, gan weithio’n agos gydag awdurdodau lleol.

2. Cyflwyniad

 2.1        Partneriaethau Gwell Canlyniadau drwy Ddata Cysylltiol (BOLD)

Mae BOLD yn rhaglen drawslywodraethol sy’n cael ei harwain gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Cafodd ei chreu i ddangos sut gellir cefnogi pobl ag anghenion cymhleth yn well drwy gysylltu a gwella data’r llywodraeth sy’n cael ei gadw amdanynt mewn ffordd ddiogel.

Mae rhaglen BOLD yn dangos gwerth cysylltu data i wella ein tystiolaeth ar yr hyn sy’n gweithio mewn pedwar prif faes: cefnogi dioddefwyr, lleihau digartrefedd, mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau, a lleihau aildroseddu.

Mae rhagor o wybodaeth am raglen BOLD ar gael gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder: Better Outcomes through Linked Data (BOLD) - GOV.UK.

Mae’r cyhoeddiad hwn wedi cael ei gynhyrchu fel rhan o ffrwd waith Atal BOLD ac mae’n ategu cyhoeddiad y Weinyddiaeth Gyfiawnder - Updated estimates of children with a parent in prison.

  2.2       Cefndir

Mae plant y mae rhiant yn y carchar yn effeithio arnynt yn profi nifer o anawsterau ar draws canlyniadau iechyd a chymdeithasol ac felly mae ymateb trawslywodraethol yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn.

Roedd maniffesto’r Blaid Lafur yn 2024 yn ymrwymo i fynd ati’n well i gefnogi ac adnabod plant y mae rhiant yn y carchar yn effeithio arnynt. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Adran Addysg yn gyfrifol ar y cyd am fwrw ymlaen â’r ymrwymiad hwn - gan gydnabod bod plant y mae rhiant yn y carchar yn effeithio arnynt yn cael ei arwain gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Yr Adran Addysg yn Lloegr a Llywodraeth Cymru yng Nghymru sy’n gyfrifol am gefnogi plant a allai fod yn agored i niwed oherwydd bod rhiant yn y carchar, gan fod Addysg yn gyfrifoldeb datganoledig. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Adran Addysg yn gweithio gyda’i gilydd i dreialu dulliau o ganfod plant sydd â rhiant yn y carchar sy’n byw mewn ardaloedd peilot yn Lloegr a’u cysylltu â chymorth penodol yn unol â’u hanghenion unigol.

Mae cryfhau cysylltiadau teuluol hefyd yn agwedd hanfodol ar waith y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (HMPPS) i gefnogi cydlyniant teuluol, hyrwyddo llesiant a diogelwch, a galluogi adsefydlu cadarnhaol ac ymatal rhag troseddu, cyn belled â bod hynny er budd gorau’r plentyn i gynnal perthynas gref â’i riant neu ofalwr sydd yn y carchar.

Cyfeiriodd Adolygiad Farmer, a oedd yn trafod pwysigrwydd cryfhau cysylltiadau teuluol carcharorion (2017), at fylchau sylweddol mewn data swyddogol ar effaith carcharu rhieni, gan nodi nad oedd proses yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder i gofnodi’n ganolog nifer y plant yr effeithir arnynt. Gall carcharorion fod yn amharod i rannu gwybodaeth am eu plant â staff am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys pryderon am gysylltiad gwasanaethau statudol.

Mae’r her o gasglu data ar y grŵp hwn yn golygu bod diffyg tystiolaeth ar nifer y plant sy’n profi rhiant yn y carchar a sut gallai hyn effeithio ar eu lles a’u deilliannau yn y dyfodol. Mae diffyg data dibynadwy yn her wrth ddylunio polisi. Mae adeiladu’r sylfaen dystiolaeth a gwella ein dealltwriaeth ar y cyd o effaith y broblem yn gam hollbwysig tuag at allu datblygu dull gweithredu trawslywodraethol effeithiol a sicrhau bod modd rhoi’r cymorth cywir i’r plant sydd ei angen.

Ers 2011, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Dylai plant y mae carchariad yn effeithio arnynt gael eu hadlewyrchu fel plant sydd â hawliau, cryfderau ac anghenion unigol, yn hytrach na chael eu diffinio’n bennaf gan ymddygiad troseddol oedolyn.

3. Setiau data

 3.1        Cysylltu data 

Cafodd yr holl ddata ar gyfer y dadansoddiad hwn ei gyrchu drwy Fanc Data SAIL, amgylchedd ymchwil dibynadwy sy’n galluogi cofnodion dienw o nifer o setiau data gweinyddol i gael eu cysylltu’n ddiogel ar lefel unigol ac aelwydydd (Ford et al., 2009; Lyons et al., 2009; Jones et al., 2014).

Nodwyd plant y mae carcharu aelod o’r aelwyd yn effeithio arnynt drwy’r cysylltiad rhwng cofnodion dalfa’r carchar a gwybodaeth ar lefel aelwydydd. Ar gyfer oedolion a aeth i’r carchar ar ôl Diwrnod y Cyfrifiad, defnyddiwyd gwybodaeth am aelwydydd Cyfrifiad 2011 i nodi plant a oedd yn byw yn yr un cartref. Ar gyfer oedolion a oedd eisoes yn y carchar ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, defnyddiwyd cofnodion preswyl o’u cyfeiriad hysbys diwethaf cyn eu carcharu.

Ar ôl nodi’r plant yr effeithiwyd arnynt gan garcharu aelod o’r aelwyd, cysylltwyd eu cofnodion dienw â setiau data addysg, gofal cymdeithasol a charchardai a oedd ar gael yn SAIL. Roedd hyn yn golygu bod modd dadansoddi nodweddion demograffig, amgylchiadau aelwydydd, a dangosyddion penodol o gyswllt â gwasanaeth ac angen gwasanaeth.

Ni ellid cysylltu pob unigolyn ar draws yr holl setiau data (gweler Ffigur 2 y Canllaw Technegol am gyfraddau cysylltu). Er enghraifft, nid oedd 13,120 o unigolion o’r 18,880 o unigolion yn Set Ddata Taith Carcharor drwy’r Ddalfa (PRIS) gan Data First wedi’u cysylltu’n llwyddiannus ag aelwydydd yn y setiau data demograffig. Mae hyn yn adlewyrchu gwahaniaethau o ran cwmpas setiau data, argaeledd cofnodion gweinyddol, ac ansawdd ac argaeledd gwybodaeth adnabod a ddefnyddir i gysylltu cofnodion, a allai effeithio ar y gallu i sefydlu cysylltiadau rhwng ffynonellau data. Felly, dylid dehongli’r canfyddiadau fel rhai sy’n cynrychioli’r unigolion hynny y gellid eu cysylltu ar draws y ffynonellau data perthnasol.

Mae rhagor o fanylion am gyfleu carfannau, gweithdrefnau cysylltu, meini prawf cynhwysiant a chwmpas setiau data ar gael yn y Canllaw Technegol.

3.2         Ffynonellau data

Mae’r dadansoddiad yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar ddata gweinyddol cysylltiol o’r ffynonellau data a ddangosir yn Nhabl 1. Cafwyd gafael ar bob un ohonynt drwy Fanc Data SAIL.

Tabl 1: Y ffynonellau data a ddefnyddir yn y cyhoeddiad hwn

Ffynhonnell data Disgrifiad
Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) Cyfrifiad Cymru 2011 (CENW) Cyfrifiad ar draws y boblogaeth sy’n rhoi cipolwg ar amgylchiadau demograffig, aelwydydd ac economaidd-gymdeithasol ar 27 Mawrth 2011.
Set Ddata Gwasanaeth Demograffig Cymru (WDSD) Set ddata weinyddol sy’n cynnwys gwybodaeth ddemograffig a chyfeiriadau preswyl ar gyfer unigolion sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru.
Set Ddata Taith Carcharor drwy’r Ddalfa (PRIS), Data First[footnote 2] Set ddata weinyddol sy’n cynnwys gwybodaeth o System Gwybodaeth Reoli Troseddwyr Genedlaethol y Carchardai (p-NOMIS), system rheoli achosion gweithredol carchardai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae’n cynnwys gwybodaeth am gyfnodau mewn carchardai yng Nghymru a Lloegr.
Plant mewn Angen Cymru (CINW) Gwybodaeth am iechyd, addysg a nodweddion rhieni plant mewn angen yng Nghymru 2009 – 2016.
Cyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal a Chymorth (CRCS) Gwybodaeth am blant (dan 18 oed) sydd â chynllun gofal a chymorth yng Nghymru, a wnaeth ddisodli cyfrifiad Plant mewn Angen Cymru (CINW) yn 2016.
Plant sy’n Derbyn Gofal Cymru (LACW) Gwybodaeth ddemograffig ac ysbeidiol ar lefel unigol am blant a gafodd gymorth gofal 1999-2022.
Set Ddata Cyfiawnder Teuluol Cymru - Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (CAFW) Mae’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (CAFCASS) yn rhoi gwybodaeth am blant a theuluoedd sy’n derbyn cymorth oherwydd eu bod yn rhan o achosion llys teulu.
Addysg Cymru (EDUW) Data Ysgolion a Disgyblion Cymru gan gynnwys presenoldeb, canlyniadau, darpariaeth anghenion arbennig a chymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim.

I gael rhagor o wybodaeth am y ffynonellau data a ddefnyddir a’r gwaith o’u prosesu, darllenwch y Canllaw Technegol.

4. Methodoleg

Mae’r prif ddadansoddiad yn yr adroddiad hwn yn canolbwyntio ar blant 10 i 14 oed adeg Cyfrifiad 2011. Cafodd y gwaith o ddewis y grŵp oedran hwn ei lywio gan weithgor rhanddeiliaid trawslywodraethol gyda chynrychiolaeth o’r Adran Addysg a chafodd ei ddewis i gefnogi diffiniad o garfan sy’n gyson yn ddadansoddol ar draws y setiau data cysylltiedig a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth hon.

Ar gyfer y dadansoddiad hwn, cafodd carcharor sy’n oedolyn ei ddiffinio fel unigolyn 18 oed neu hŷn adeg ei garcharu rhwng 1 Ionawr 2011 a 31 Rhagfyr 2014. Roedd hyn yn cynnwys cyfnodau o garchar a ddechreuodd cyn 1 Ionawr 2011 ond a barhaodd i’r cyfnod astudio. Cafodd plant 10 i 14 oed ar Ddiwrnod y Cyfrifiad a nodwyd wedyn fel carcharorion sy’n oedolion yn ystod cyfnod yr astudiaeth eu heithrio o’r garfan plant i atal unigolion rhag ymddangos yn y garfan plant a charcharorion. Mae rhagor o fanylion am y diffiniad hwn ar gael yn Adran 1.3 y Canllaw Technegol.

Er bod y ddogfen The Best Start for Life: a vision for the 1,001 critical days yn tynnu sylw at y ffaith bod plentyndod cynnar yn gofnod pwysig ar gyfer datblygiad plant a chanlyniadau’n ddiweddarach mewn bywyd, mae trawsnewidiadau datblygiadol pwysig yn digwydd drwy gydol plentyndod. Mae’r grŵp oedran dan sylw yn cofnodi cyfnod o newid addysgol, cymdeithasol a datblygiadol sylweddol, gan gynnwys symud o addysg gynradd i addysg uwchradd.

Mae plant yn yr ystod oedran hon hefyd yn aml yn destun gweithgarwch atal ac ymyrryd yn fuan ar draws gwasanaethau addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, sy’n ei gwneud yn amser arbennig o berthnasol i archwilio eu hamgylchiadau a’u profiadau. 

Ar ben hynny, mae’r ystod oedran hon yn sylfaen gref ar gyfer dadansoddi hydredol yn y dyfodol. Drwy adnabod plant 10 i 14 oed ar y llinell sylfaen, mae’n bosibl archwilio nodweddion a phrofiadau a gofnodwyd yn gynharach yn ystod plentyndod ar yr un pryd â rhoi digon o amser dilynol i archwilio canlyniadau sy’n digwydd yn ddiweddarach yn ystod cyfnod y glasoed ac mewn oedolion ifanc mewn cyhoeddiadau yn y dyfodol, gan gynnwys canlyniadau sy’n ymwneud ag addysg, gofal cymdeithasol a charcharu.

Mae’r ystod oedran hon hefyd yn gyson â grwpiau oedran safonol a ddefnyddir mewn ystadegau demograffig swyddogol, gan gefnogi’r gallu i gymharu ag ystadegau demograffig swyddogol a galluogi dehongli canfyddiadau yng nghyd-destun ehangach y boblogaeth.

O ran cyd-destun, gan ddefnyddio data cysylltiol ym Manc Data SAIL, roedd 2,905 o blant 0 i 17 oed yng Nghymru gyda thystiolaeth o fyw ar aelwyd lle’r oedd oedolyn yn gysylltiedig â charchariad rhwng 1 Ionawr 2011 a 31 Rhagfyr 2014. Roedd y 2,905 o blant hyn yn byw ar 1,765 o aelwydydd. 

Roedd 905 o’r plant hyn rhwng 10 a 14 oed, a nodwyd eu bod yn byw ar 730 o aelwydydd lle’r oedd oedolyn yn gysylltiedig â charchariad yn ystod cyfnod astudio 2011 i 2014. Cyfeirir at y grŵp hwn fel carfan yr astudiaeth drwy gydol yr adroddiad.

Cafodd grŵp cymharu ei greu hefyd. Roedd yn cynnwys 151,870 o blant 10 i 14 oed na nodwyd bod cysylltiad rhwng carchariad â’r aelwyd yn ystod cyfnod yr astudiaeth.

Ni ddylid dehongli’r grŵp cymharu fel plant nad effeithiwyd arnynt erioed gan garchariad. Efallai bod hyn wedi effeithio ar rai plant y tu allan i gyfnod yr astudiaeth. Efallai na fydd eraill wedi cael eu cofnodi yn y data cysylltiol sydd ar gael.

Mae’r cyfrifiadau a’r canrannau’n ddarostyngedig i weithdrefnau talgrynnu a rheoli datgeliadau SAIL; gweler Adran 1.9 y Canllaw Technegol am fanylion.

5. Canfyddiadau

 5.1  Yr aelwyd a’r cyd-destun economaidd-gymdeithasol

Mae’r adran hon yn disgrifio nodweddion aelwyd ac economaidd-gymdeithasol dethol y plant yng ngharfan yr astudiaeth a’r grŵp cymharu, yn seiliedig ar ddata Cyfrifiad 2011. O’r 1,965 o oedolion a oedd yn gysylltiedig â charcharu yn ystod cyfnod yr astudiaeth, adeg Cyfrifiad 2011, nid oedd 1,545 o oedolion (79%) wedi mynd i’r ddalfa eto, ac roedd 230 (12%) yn y carchar. Nid oedd gwybodaeth am statws dalfa ar Ddiwrnod y Cyfrifiad ar gael ar gyfer 190 (10%) arall o oedolion.

O ganlyniad, gall mesurau sy’n deillio o’r Cyfrifiad adlewyrchu amgylchiadau aelwydydd ac amgylchiadau economaidd-gymdeithasol cyn carcharu ar gyfer rhai plant ac yn ystod cyfnod o garchar i eraill. Os oedd oedolyn yn y carchar ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, mae gwybodaeth y Cyfrifiad yn ymwneud â’r aelwyd lle’r oedd y plentyn cysylltiedig yn byw bryd hynny.

5.1.1    Maint aelwyd

Roedd plant yng ngharfan yr astudiaeth i’w canfod yn fwy cyffredin ar aelwydydd a oedd yn cynnwys 6 neu fwy o bobl na phlant yn y grŵp cymharu (gweler Tabl 2). Gwelwyd y gwahaniaeth mwyaf ar gyfer aelwydydd a oedd yn cynnwys 6 i 7 o bobl (13 pwynt canran).

Mae maint yr aelwyd yn cynnwys yr holl breswylwyr arferol a gofnodwyd ar yr aelwyd yng Nghyfrifiad 2011, gan gynnwys oedolion a phlant y tu allan i ystod oedran carfan yr astudiaeth. Mae’r ffigurau hyn yn adlewyrchu cyfansoddiad aelwydydd adeg y Cyfrifiad ac nid o reidrwydd unrhyw newidiadau dilynol mewn trefniadau byw. Ystyrir nifer y plant dibynnol ar wahân yn Adran 5.1.4.

Tabl 2: Maint aelwyd y plant yng ngharfan yr astudiaeth a’r grŵp cymharu

Maint aelwyd Nifer yng ngharfan yr astudiaeth Canran yng ngharfan yr astudiaeth Nifer yn y grŵp cymharu Canran yn y grŵp cymharu
2 o bobl 25 3% 8,275 5%
3 o bobl 110 12% 28,300 19%
4 i 5 o bobl 500 55% 95,985 63%
6 i 7 o bobl 215 24% 16,850 11%
8 neu fwy o bobl 60 7% 2,195 1%

5.1.2    Maint y teulu

Mae maint y teulu’n seiliedig ar ddiffiniad y Cyfrifiad o deulu: cwpl priod, cwpl mewn partneriaeth sifil neu gwpl sy’n cyd-fyw â phlant neu heb blant, neu unig riant gydag o leiaf un plentyn, sy’n byw yn yr un cyfeiriad. Mae hyn yn wahanol i faint aelwyd, sy’n cynnwys yr holl breswylwyr arferol mewn annedd, a gall gynnwys mwy nag un teulu.

Fel mae Tabl 3 yn ei ddangos, roedd patrwm maint teuluoedd yn weddol debyg i’r hyn a welwyd ar gyfer maint aelwydydd. Fodd bynnag, roedd carfan yr astudiaeth yn dangos gwahaniaeth mwy rhwng maint aelwydydd a maint teuluoedd. O’i gymharu â maint aelwydydd, roedd cyfran y plant mewn teuluoedd o 6 i 7 o bobl 4 pwynt canran yn is. I’r gwrthwyneb, roedd cyfran y plant mewn teuluoedd o 3 o bobl 2 bwynt canran yn uwch.

Gyda’i gilydd, mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod plant yng ngharfan yr astudiaeth yn byw’n fwy cyffredin ar aelwydydd a oedd yn cynnwys pobl y tu hwnt i’w teulu agos na phlant yn y grŵp cymharu. Gall diffiniadau o deuluoedd ac aelwydydd fod yn gymhleth. Er enghraifft, gall plentyn a’i fam (un teulu) fyw gyda nain a thaid y plentyn (teulu arall).

Tabl 3: Maint teulu plant yng ngharfan yr astudiaeth a’r grŵp cymharu

Maint y teulu Nifer yng ngharfan yr astudiaeth Canran yng ngharfan yr astudiaeth Nifer yn y grŵp cymharu Canran yn y grŵp cymharu
1 i 2 o bobl 55 6% 11,710 8%
3 o bobl 120 14% 29,350 19%
4 i 5 o bobl 495 55% 94,170 62%
6 i 7 o bobl 180 20% 14,510 10%
8 neu fwy o bobl 50 6% 1,560 1%

5.1.3   Cyfansoddiad yr aelwyd

Mae cyfansoddiad aelwydydd yn disgrifio strwythur yr aelwyd lle’r oedd y plentyn yn byw adeg Cyfrifiad 2011.

Roedd cyfran uwch o blant yng ngharfan yr astudiaeth yn byw ar aelwydydd teulu un oedolyn nag yn y grŵp cymharu (30% o’i gymharu â 24%). Roedd mathau eraill o aelwydydd teuluol cymhleth yn fwy cyffredin yng ngharfan yr astudiaeth (12% o’i gymharu â 7%) fel y mae Tabl 4 yn ei ddangos. Enghraifft o aelwyd gymhleth fyddai cwpl sy’n cyd-fyw, yn cynnwys mam a’i phlentyn, yn byw gyda phartner a’i rieni.

Tabl 4: Cyfansoddiad aelwyd y plant yng ngharfan yr astudiaeth a’r grŵp cymharu

Cyfansoddiad yr aelwyd Nifer yng ngharfan yr astudiaeth Canran yng ngharfan yr astudiaeth Nifer yn y grŵp cymharu Canran yn y grŵp cymharu
Aelwyd un oedolyn yn y teulu 270 30% 36,100 24%
Aelwyd dau oedolyn yn y teulu 525 58% 104,865 69%
Math arall o aelwyd deuluol gymhleth 110 12% 10,610 7%

5.1.4    Plant dibynnol ar yr aelwyd

O dan ddiffiniad Cyfrifiad 2011, mae plentyn dibynnol yn unigolyn rhwng 0 a 15 oed, neu’n unigolyn rhwng 16 a 18 oed sydd mewn addysg amser llawn ac sy’n byw gyda theulu sy’n cynnwys rhiant neu nain neu daid. Nid yw unigolion rhwng 16 a 18 oed sy’n byw gyda phriod, partner neu blentyn yn cael eu hystyried yn blant dibynnol.

Fel y dangosir yn Nhabl 5, roedd cyfran uwch o blant yng ngharfan yr astudiaeth yn byw ar aelwydydd â dau neu fwy o blant dibynnol eraill (48% o’i gymharu â 33% yn y grŵp cymharu). I’r gwrthwyneb, roedd aelwydydd a oedd yn cynnwys un plentyn dibynnol arall yn fwy cyffredin yn y grŵp cymharu (46% o’i gymharu â 32%). Yn gyffredinol, roedd plant yng ngharfan yr astudiaeth yn tueddu i fyw ar aelwydydd â nifer fwy o blant dibynnol.

Tabl 5: Plant dibynnol eraill ar aelwyd carfan yr astudiaeth a’r grŵp cymharu

Plant dibynnol Nifer yng ngharfan yr astudiaeth Canran yng ngharfan yr astudiaeth Nifer yn y grŵp cymharu Canran yn y grŵp cymharu
Dim ond plentyn dibynnol 185 20% 31,280 21%
Un plentyn dibynnol arall 290 32% 70,025 46%
Dau neu fwy o blant dibynnol eraill 430 48% 50,295 33%

5.1.5    Amddifadedd aelwydydd

Mae amddifadedd aelwydydd yn fesur Cyfrifiad sy’n seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan aelodau’r aelwyd. Mae aelwydydd yn cael eu dosbarthu yn ôl a ydynt yn bodloni un neu ragor o feini prawf amddifadedd ar draws pedwar dimensiwn: cyflogaeth, addysg, iechyd ac anabledd, ac amodau tai. Gellir dosbarthu aelwyd fel un o amddifadedd mewn dim, un, dau, tri neu bob un o’r pedwar dimensiwn, yn dibynnu ar nifer y dimensiynau lle mae’n bodloni’r meini prawf penodedig.

Fel y mae Tabl 6 yn ei ddangos, roedd cyfran uwch o blant yng ngharfan yr astudiaeth yn byw ar aelwydydd a ddywedodd eu bod yn profi sawl math o amddifadedd aelwydydd na phlant yn y grŵp cymharu. Y categori mwyaf cyffredin ar gyfer carfan yr astudiaeth oedd aelwydydd o amddifadedd mewn dau ddimensiwn (30%), a dim ond 19% oedd yn byw ar aelwydydd heb unrhyw amddifadedd wedi’i gofnodi.

I’r gwrthwyneb, roedd dros hanner (51%) y plant yn y grŵp cymharu yn byw ar aelwydydd nad oeddent o amddifadedd mewn unrhyw ddimensiwn. Yn gyffredinol, roedd cyfran uwch o blant yng ngharfan yr astudiaeth yn byw ar aelwydydd a oedd yn profi amddifadedd ar draws sawl dimensiwn, sy’n dangos lefelau uwch o anfantais economaidd-gymdeithasol.

Tabl 6: Dosbarthiad amddifadedd aelwydydd sy’n ymwneud â phlant yng ngharfan yr astudiaeth a’r grŵp cymharu

Amddifadedd Nifer yng ngharfan yr astudiaeth Canran yng ngharfan yr astudiaeth Nifer yn y grŵp cymharu Canran yn y grŵp cymharu
Ddim o amddifadedd o gwbl 175 19% 77,770 51%
Amddifadedd mewn 1 dimensiwn 255 28% 43,795 29%
Amddifadedd mewn 2 ddimensiwn 275 30% 21,235 14%
Amddifadedd mewn 3 dimensiwn 165 18% 7,995 5%
Amddifadedd mewn 4 dimensiwn 35 4% 805 1%

5.2         Nodweddion demograffig sefydlog

Mae’r adran hon yn disgrifio nodweddion demograffig dethol fel yr adroddwyd yng Nghyfrifiad 2011. Darparwyd gwybodaeth am blant dan 16 oed gan oedolyn o’r aelwyd ar eu rhan.

5.2.1    Dosbarthiad oedran

Roedd proffil oedran carfan yr astudiaeth ychydig yn hŷn na phroffil oedran y grŵp cymharu. Roedd plant 14 oed yn cynrychioli 24% o garfan yr astudiaeth o’i gymharu â 21% o’r grŵp cymharu, ac roedd plant 10 oed yn cynrychioli 17% a 19% yn y drefn honno. Roedd cyfrannau’r plant 11, 12 a 13 oed yn debyg ar draws y ddau grŵp, gyda phob oedran yn cyfrif am oddeutu un rhan o bump o’r plant.

5.2.2    Rhyw

Roedd dosbarthiad y rhywiau yn debyg ar draws carfan yr astudiaeth a’r grŵp cymharu. Roedd bechgyn yn cyfrif am 51% o garfan yr astudiaeth a 52% o’r grŵp cymharu, ac roedd genethod yn cyfrif am 49% a 48% yn y drefn honno. 

5.2.3    Ethnigrwydd

Roedd cyfansoddiad ethnig carfan yr astudiaeth ychydig yn debyg i’r grŵp cymharu. Roedd plant a oedd wedi cofnodi eu bod yn Wyn yn cyfrif am 92% o garfan yr astudiaeth a 94% o’r grŵp cymharu, tra bod plant a gofnodwyd ym mhob grŵp ethnig arall yn cyfrif am 8% a 5%, yn y drefn honno. Cafodd ethnigrwydd ei grwpio i grwpiau Gwyn ac ethnig Arall oherwydd niferoedd bach mewn rhai categorïau ethnig.

5.3          Amgylchiadau unigol

5.3.1    Anabledd

Roedd statws anabledd yn deillio o wybodaeth hunangofnodedig yng Nghyfrifiad 2011 am broblemau iechyd neu anableddau hirdymor.

Ymysg y plant yng ngharfan yr astudiaeth, cofnodwyd bod gan 35 (4%) anabledd neu broblem iechyd hirdymor a oedd yn cyfyngu’n fawr ar eu gweithgareddau o ddydd i ddydd. Cofnodwyd bod 40 (4%) wedi’u cyfyngu ychydig, a chofnodwyd nad oedd 830 (92%) wedi’u cyfyngu yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Gwelwyd cyfrannau tebyg yn y grŵp cymharu, gyda 2% wedi cofnodi eu bod wedi’u cyfyngu’n fawr, 3% wedi’u cyfyngu ychydig, a 94% heb eu cyfyngu.

5.3.2    Statws gofalu

Mae statws gofalu yn adlewyrchu a ddywedodd plentyn ei fod yn darparu gofal di-dâl adeg Cyfrifiad 2011.

Roedd tua 20 o blant (3%) yng ngharfan yr astudiaeth yn darparu gofal di-dâl i rywun arall, ac nid oedd 880 o blant (97%) yn darparu gofal di-dâl. Yn y grŵp cymharu, roedd 2% o blant yn darparu gofal di-dâl.

  5.4       Diogelu a bregusrwydd aelwydydd

Mae mesurau cysylltiad gwasanaethau diogelu a dangosyddion dethol o fregusrwydd aelwydydd yn seiliedig ar gofnodion gweinyddol, ac efallai na fyddant yn cynnwys yr holl gysylltiad â gofal cymdeithasol.

Nodwyd cofnodion diogelu o’r ffynonellau data a oedd ar gael hyd at 18 oed neu ddiwedd y ddarpariaeth set ddata, pa un bynnag a ddigwyddodd gyntaf. Mae’r cofnodion sydd ar gael yn dechrau yn 2005 ac nid ydynt yn cynnwys cyfnod llawn plentyndod pob plentyn.

Mae setiau data CINW a CRCS yn rhoi cipolwg ar blant a oedd yn bodloni meini prawf y cyfrifiad rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth bob blwyddyn. Mae CINW yn cynnwys plant y mae gwasanaethau cymdeithasol plant yn gysylltiedig â nhw’n barhaus. Mae CRCS yn cynnwys grŵp mwy cyfyng o blant yr oedd angen cynllun gofal a chymorth gweithredol arnynt ar gyfer eu hanghenion asesedig.

Ni all y dadansoddiad hwn bennu a oedd gwasanaethau diogelu wedi cael cysylltiad â’r teulu cyn, yn ystod neu ar ôl i riant neu roddwr gofal gael ei garcharu, nac a oedd carcharu wedi cyfrannu at y cysylltiad.

5.4.1    Cysylltiad Gofal Cymdeithasol a CAFCASS Cymru

Lluniwyd baner cysylltiad gofal cymdeithasol a CAFCASS Cymru gan ddefnyddio cofnodion cysylltiedig o bedair set ddata: CINW, CRCS, LACW a CAFW. Roedd plant yn cael eu dosbarthu fel rhai a oedd â chysylltiad gofal cymdeithasol neu CAFCASS Cymru os oeddent yn cael eu nodi mewn o leiaf un o’r setiau data hyn. Nid yw set ddata CAFW yn cynnwys yr holl gysylltiad â chyfiawnder teulu ac mae’n cynnwys achosion lle’r oedd CAFCASS Cymru yn gysylltiedig yn unig.

Roedd tua 265 o blant (29%) yng ngharfan yr astudiaeth yn bodloni’r diffiniad hwn. Ni chafodd y 635 o blant sy’n weddill (71%) eu nodi yn unrhyw un o’r setiau data hyn.

Yn y grŵp cymharu, roedd 8% o blant yn bodloni’r diffiniad hwn. Mae’r canfyddiadau’n dangos bod cysylltiad gofal cymdeithasol neu CAFCASS Cymru bron bedair gwaith yn fwy cyffredin ymysg plant yng ngharfan yr astudiaeth nag yn y grŵp cymharu.
Mae’n bwysig nodi nad yw ymgysylltu â gwasanaethau gofal cymdeithasol neu CAFCASS Cymru o reidrwydd yn arwydd o niwed. Yng nghyd-destun polisi Cymru, gall cysylltiad ddigwydd am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys anghenion gofal a chymorth, ymatebion diogelu, cymorth i deuluoedd, ac achosion sy’n gysylltiedig â’r llys.

5.4.2   Statws plentyn sy’n derbyn gofal (LAC)

Roedd statws plentyn a oedd yn derbyn gofal (LAC)[footnote 3] yn faenorol yn deillio o set ddata CINW, sy’n cwmpasu’r cyfnod rhwng 2005 a 2016. Mae’r mesur hwn yn nodi a gofnodwyd bod plentyn wedi derbyn gofal yn flaenorol ar adeg ei atgyfeiriad diweddaraf.

Nodwyd bod nifer fach o blant yng ngharfan yr astudiaeth wedi derbyn gofal yn flaenorol (15 o blant; 2%). Yn y grŵp cymharu, nodwyd bod 485 o blant wedi derbyn gofal yn flaenorol (0.3%).

5.4.3    Cysylltiad â’r Gofrestr Amddiffyn Plant

Roedd plentyn yn cael ei gyfrif os oedd wedi cael ei gofnodi ar y gofrestr amddiffyn plant ar hyn o bryd, os oedd ganddo ddyddiad cofnodi ar y gofrestr, neu os oedd ganddo gofnod yn nodi cysylltiad blaenorol â’r Gofrestr Amddiffyn Plant.

Yng ngharfan yr astudiaeth, roedd gan 15 o blant (2%) gofnod o gysylltiad â’r Gofrestr Amddiffyn Plant, o’i gymharu â 535 o blant yn y grŵp cymharu (0.4%).

5.4.4   Ffactorau bregusrwydd y teulu a’r aelwyd a gofnodwyd

Roedd baner bregusrwydd teuluoedd ac aelwydydd yn deillio o ffactorau a gofnodwyd yn atgyfeiriad diweddaraf CINW y plentyn. Dosbarthwyd bod gan blant ffactor bregusrwydd wedi’i gofnodi os oedd yr atgyfeiriad yn cynnwys cam-drin domestig gan rieni, rhieni’n camddefnyddio sylweddau neu alcohol, afiechyd meddwl rhieni, afiechyd corfforol rhieni, neu anableddau dysgu rhieni.

Yng ngharfan yr astudiaeth, roedd gan 100 o blant (11%) o leiaf un ffactor bregusrwydd teulu ac aelwyd wedi’i gofnodi. Nid oedd gan yr 805 plentyn arall (89%) unrhyw ffactorau bregusrwydd wedi’u cofnodi yn y data a oedd ar gael.

Roedd y gyfran gydag o leiaf un ffactor bregusrwydd y teulu a’r aelwyd wedi’i gofnodi bum gwaith yn uwch yng ngharfan yr astudiaeth nag yn y grŵp cymharu (11% o’i gymharu â 2%).

 5.5        Nodweddion yr oedolyn a oedd yn aelod o’r aelwyd

Mae’r adran hon yn disgrifio nodweddion dethol yr oedolyn sy’n aelod o’r aelwyd a nodwyd yng nghofnodion y carchar yn ystod cyfnod yr astudiaeth, yn seiliedig ar PRIS. Cafwyd gwybodaeth am aelodau o’r aelwyd sydd wedi’u carcharu o p-NOMIS, y system rheoli achosion weithredol a ddefnyddir mewn carchardai yng Nghymru a Lloegr. Oherwydd cyfyngiadau data, nid yw’n bosibl nodi’r berthynas benodol rhwng y plentyn ac aelod o’r aelwyd sydd yn y ddalfa. Ni chyflwynir nodweddion cyfatebol ar gyfer y grŵp cymharu, gan na nodwyd bod plant yn y grŵp cymharu wedi cael profiad o garcharu aelod o’r aelwyd.

 5.5.1  Rhyw aelod o’r aelwyd sydd wedi’i garcharu

O’r aelodau o’r aelwyd a garcharwyd sy’n gysylltiedig â phlant yng ngharfan yr astudiaeth, cofnodwyd bod 88% yn ddynion, a chofnodwyd bod 12% yn fenywod. Mae’r ffigurau hyn yn disgrifio aelodau o’r cartref sydd wedi’u carcharu sy’n gysylltiedig â phlant yng ngharfan yr astudiaeth yn hytrach na phoblogaeth y carchar yn gyffredinol. Ni ddylid eu dehongli fel cyfran y carcharorion gwrywaidd a benywaidd ym mhoblogaeth ehangach y carchar. Mae gwybodaeth am boblogaeth ehangach carchardai ar gael yng nghyhoeddiadau Ystadegau Rheoli Troseddwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Byddai angen gwneud rhagor o waith i bennu i ba raddau y mae’r canfyddiad hwn yn adlewyrchu methodoleg cysylltedd, nodweddion y boblogaeth gysylltiedig, neu ffactorau eraill.

 5.5.2  Hyd y ddedfryd

Cafwyd hyd y ddedfryd gan ddefnyddio dyddiadau dechrau a gorffen cyfnod o garchar a gofnodwyd yn PRIS. Ar gyfer dyddiad dechrau’r cyfnod o garchar, fe wnaethom flaenoriaethu dyddiad y ddedfryd gyntaf oni chofnodwyd nad oedd yr unigolyn wedi cael ei brofi a’i remandio yn y ddalfa, neu nad oedd dyddiad dedfrydu cyntaf ar gael, ac os felly defnyddiwyd y dyddiad symud cyntaf yn lle hynny. Ceir rhagor o wybodaeth am darddiad dyddiadau cyfnodau o garchar a chyfyngiadau’r dull hwn yn Adran 1.4 y Canllaw Technegol.

Os treuliodd aelod o’r aelwyd fwy nag un cyfnod yn y carchar rhwng 1 Ionawr 2011 a 31 Rhagfyr 2014, defnyddiwyd y cyfnod cynharaf o garchar yn ystod cyfnod yr astudiaeth. Defnyddiwyd y dyddiad rhyddhau gwirioneddol i nodi’r dyddiad dod i ben yn y carchar.

Dim ond i’r cyfnod o garchar a ddewiswyd i’w ddadansoddi yn ystod cyfnod yr astudiaeth y mae’r ffigurau hyn yn berthnasol. Nid ydynt yn cofnodi hanes llawn unigolyn yn y carchar nac amseriad a hyd carchariad yr aelod o’r aelwyd o’i gymharu â digwyddiadau eraill ym mywyd y plentyn.

Fel y mae Tabl 7 yn ei ddangos, y categori mwyaf cyffredin o ran hyd dedfryd ymysg oedolion yn y carchar oedd llai na 6 mis (50%), ac yna 1 i 2 flynedd (13%). Y categori dedfryd lleiaf cyffredin oedd 3 i 4 blynedd (3%).

Tabl 7: Hyd dedfryd aelodau o’r aelwyd sydd wedi’u carcharu

Hyd y ddedfryd Nifer yng ngharfan yr astudiaeth Canran yng ngharfan yr astudiaeth
Llai na 6 mis 990 50%
6 mis i lai na blwyddyn 240 13%
Blwyddyn i lai na 2 flynedd 260 13%
2 flynedd i lai na 3 blynedd 125 6%
3 blynedd i lai na 4 blynedd 55 3%
4 blynedd neu fwy 105 5%
Dyddiad rhyddhau gwirioneddol ar goll 185 9%

 5.6        Dangosyddion addysg

Roedd y dangosyddion addysg a gyflwynwyd yn yr adran hon yn deillio o setiau data Addysg Cymru. Cafwyd data naill ai o’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) ar gyfer plant sy’n mynd i ysgolion prif ffrwd a ariennir gan y wladwriaeth, neu’r Cyfrifiad Addysg heblaw yn yr Ysgol (EOTAS) ar gyfer plant sy’n cael eu haddysgu y tu allan i leoliadau ysgolion prif ffrwd, gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion (PRUs), ysgolion ysbytai, a hyfforddiant unigol yn y cartref.

5.6.1    Cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim

Defnyddiwyd cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim fel dangosydd ychwanegol o anfantais economaidd-gymdeithasol, yn seiliedig ar gymhwysedd a gofnodwyd yn ystod y cyfnod data addysg sydd ar gael (2004 i 2021).

Yng ngharfan yr astudiaeth, cofnodwyd bod 640 o blant (71%) yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac nid oedd gan 260 o blant (29%) hanes wedi’i gofnodi o fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Roedd cyfran y plant â hanes wedi’i gofnodi o fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim fwy na dwbl yng ngharfan yr astudiaeth na’r grŵp cymharu (71% o’i gymharu â 30%).

Oherwydd y gall cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim newid dros amser, mae’r mesur hwn yn adlewyrchu a gofnodwyd cymhwysedd ar unrhyw adeg ac nid yw’n nodi amseriad na hyd cymhwysedd.

5.6.2    Darpariaeth AAA

Cafwyd darpariaeth AAA gan ddefnyddio gwybodaeth a gofnodwyd yn setiau data Disgyblion EDUW ac EDUW EOTAS. Roedd y plant yn cael eu dosbarthu yn ôl a oedd ganddynt gofnod o dderbyn darpariaeth AAA. Er bod Cymru wedi pontio ers hynny i’r fframwaith Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), defnyddir terminoleg AAA drwy gydol yr adroddiad hwn i adlewyrchu’r data ffynhonnell a’r cyfnod astudio.

Yng ngharfan yr astudiaeth, cofnodwyd bod 615 o blant (68%) yn cael darpariaeth AAA, ac nid oedd 290 (32%) yn cael hynny. Roedd y gyfran a oedd yn derbyn darpariaeth AAA yn sylweddol uwch yng ngharfan yr astudiaeth nag yn y grŵp cymharu (68% o’i gymharu â 43%). 

6. Trafodaeth

6.1         Canfyddiadau yng nghyd-destun y dystiolaeth bresennol

Mae’r adroddiad hwn yn mynd i’r afael â bwlch allweddol a nodwyd gan raglen ASPIRE (Gweithredu Gwerthusiad Ymchwil Annibynnol o Ysgolion a Charchardai) a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Tynnodd yr adolygiad sylw at wybodaeth systematig gyfyngedig am blant y mae carcharu rhiant wedi effeithio arnynt, a’r heriau y mae hyn yn eu creu o ran datblygu polisïau, cynllunio gwasanaethau ac ymwybyddiaeth y cyhoedd (Loucks et al., 2025). Drwy gysylltu cofnodion gweinyddol ar draws sawl parth, mae’r astudiaeth hon yn darparu tystiolaeth ddisgrifiadol newydd ar nodweddion ac amgylchiadau plant y mae carcharu aelod o’r aelwyd yn effeithio arnynt yng Nghymru.

Mae’r canfyddiadau’n cyd-fynd yn fras â’r dystiolaeth bresennol. Mae adolygiad ASPIRE yn tynnu sylw at y ffaith y gall plant y mae carcharu rhiant yn effeithio arnynt wynebu caledi ariannol, heriau addysgol, pryderon diogelu a dod i gysylltiad â mathau eraill o drallod. Ar ben hynny, mae’r cyhoeddiad hwn yn canfod bod plant y mae carcharu aelod o’r aelwyd yn effeithio arnynt gan amlaf yn byw ar aelwydydd mwy (gyda dros chwarter yn byw ar aelwydydd o chwech neu fwy o bobl), aelwydydd sydd â dangosyddion amddifadedd lluosog, a strwythurau teuluol mwy cymhleth. Roedd tua thraean yn byw ar aelwydydd un oedolyn. Roedd carcharu oedolyn a oedd yn bwrw dedfryd o lai na chwe mis yn y carchar yn effeithio ar y mwyafrif. Mae’r canfyddiadau hyn yn rhoi cipolwg pellach ar amgylchiadau aelwyd plant sy’n teimlo effaith carcharu yng Nghymru a gallant helpu i nodi lle mae cymorth yn cael ei dargedu orau.

Nodwyd patrymau tebyg gan Bartneriaeth Atal Trais Dyffryn Tafwys (TVVPP), a ganfu lefelau uwch o anghenion cymorth addysgol a mwy o gynrychiolaeth mewn cofnodion gofal cymdeithasol ymysg plant a gydnabuwyd drwy Ymgyrch Paramount). Cysylltodd Ymgyrch Paramount ddata carcharorion o HMPPS â gwybodaeth a gedwir mewn systemau heddlu lleol rhwng 2021 a 2024. Er bod astudiaeth TVVPP yn canolbwyntio ar garfan lai y mae carchariad rhiant wedi effeithio’n benodol arnynt, mae’r canfyddiadau’n cyd-fynd yn fras â’r rhai a gyflwynir yma.

Mae canfyddiadau’r cyhoeddiad cysylltiedig ar amcangyfrifon wedi’u diweddaru o blant â rhiant yn y carchar yn cyd-fynd yn fras â’r rhai a gyflwynir yma. Roedd yr amcangyfrifon a gyhoeddwyd yn nodi maint teuluoedd mwy ymysg carcharorion a oedd yn rhieni (2.44 o blant i bob rhiant sy’n garcharor, o’i gymharu ag 1.77 o blant yn y boblogaeth gyffredinol). Yn yr un modd, canfu’r dadansoddiad hwn fod plant yng ngharfan yr astudiaeth yn byw’n fwy cyffredin ar aelwydydd mwy ac aelwydydd â nifer o blant dibynnol. Roedd cyhoeddi’r amcangyfrifon hefyd yn tynnu sylw at grynodiad y plant sydd â rhiant yn y carchar mewn ardaloedd â mwy o amddifadedd, sy’n gyson â’r lefelau uwch o amddifadedd aelwydydd a welwyd ymysg carfan yr astudiaeth yng Nghymru. Ar ben hynny, roedd cyhoeddi’r amcangyfrifon yn nodi lefelau uchel o fregusrwydd sy’n gysylltiedig â diogelu ymysg plant sydd â rhiant yn y carchar, sy’n gyson â’r patrwm ehangach o fregusrwydd a welwyd ymysg plant yn yr astudiaeth hon.

Bwriad y canfyddiadau yw rhoi cipolwg ar amgylchiadau plant y mae carcharu aelod o’r teulu yn effeithio arnynt a llywio rhagor o ymchwil, polisi a chymorth. Ni ddylid eu defnyddio i wneud rhagdybiaethau am brofiadau, anghenion na llwybrau bywyd tebygol plant unigol, ac ni ddylid eu dehongli fel tystiolaeth mai carcharu a achosodd y gwahaniaethau a welwyd.

Fel yr amlygwyd yn adolygiad Weaver a Nolan o’r dystiolaeth ar deuluoedd carcharorion), gall teuluoedd sy’n teimlo effaith carcharu eisoes wynebu heriau cymdeithasol, economaidd neu deuluol cyn i rywun gael ei garcharu (Weaver a Nolan, 2015). Mewn llawer o achosion, nid yw carchariad yn un digwyddiad ynysig, a gall unigolion gael eu carcharu, eu rhyddhau a’u hail-garcharu sawl tro dros amser. O ganlyniad, gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng nodweddion sy’n dyddio cyn carcharu a’r rhai sy’n codi yn ystod, rhwng neu ar ôl cyfnodau yn y carchar. Gall carcharu gymhlethu’r anfantais bresennol, creu heriau newydd, neu, mewn rhai amgylchiadau, liniaru ffactorau teuluol sy’n achosi straen. Nid yw’r astudiaeth ddisgrifiadol hon yn ceisio gwahaniaethu rhwng yr esboniadau hyn.

  6.2       Amrywiad o fewn y garfan

Mae’r canfyddiadau’n cefnogi thema allweddol yn adolygiad ASPIRE a llenyddiaeth ehangach: nid yw plant y mae carchariad yn effeithio arnynt yn grŵp unffurf.

Er y cofnodwyd bod rhai plant yng ngharfan yr astudiaeth yn profi sawl math o anfantais, nid oedd eraill yn dangos llawer o dystiolaeth o angen a gofnodwyd ar draws y dangosyddion a archwiliwyd.

Mae’r amrywiad hwn mewn amgylchiadau yn awgrymu y dylai ymatebion polisi ac ymarfer gefnogi ymgysylltu cymesur nad yw’n stigmateiddio a mynediad at gymorth lle bo angen, yn hytrach na chymryd un llwybr ymyrryd ar gyfer yr holl blant y mae carcharu aelod o’r aelwyd yn effeithio arnynt.

 6.3        Ystyriaethau methodolegol a data

Nid yw carcharu aelod o’r aelwyd yn cael ei gofnodi fel mater o drefn o fewn systemau poblogaeth, addysg na gofal cymdeithasol. Felly, mae dulliau adnabod yn dibynnu ar gysylltu setiau data a gesglir at ddibenion gweithredol gwahanol. Gall newidiadau yng nghyfansoddiad aelwydydd, cwmpas setiau data, dynodwyr coll, arferion cofnodi a phenderfyniadau ynghylch sut diffinnir carchariad aelod o’r aelwyd i gyd effeithio ar ba blant sy’n cael eu hadnabod, a dylid eu hystyried wrth ddehongli canfyddiadau. Mae rhagor o fanylion am yr heriau methodolegol hyn, gan gynnwys y cysylltiad rhwng cofnodion carchardai a data Cyfrifiad 2011, ar gael yn Adran 1.3 y Canllaw Technegol.

Ni all data gweinyddol gofnodi profiad bywyd llawn plant y mae carchariad wedi effeithio arnynt. Mae ymchwil ansoddol yn tynnu sylw at agweddau pwysig ar brofiadau plant, gan gynnwys stigma, galar, trawma, perthnasoedd teuluol, lles emosiynol, strategaethau ymdopi ac ansawdd rhwydweithiau cymorth, nad ydynt yn cael eu cofnodi’n rheolaidd mewn data gweinyddol. Felly, mae’r canfyddiadau’n rhoi cipolwg ar y nodweddion a gofnodwyd a chyswllt â’r gwasanaeth, yn hytrach na’r ystod lawn o brofiadau plant.

6.4          Gwaith yn y dyfodol

Mae’r cyhoeddiad hwn yn cyfrannu at waith parhaus i wella dealltwriaeth o blant y mae carcharu aelod o’r aelwyd yn effeithio arnynt gan ddefnyddio data gweinyddol cysylltiol. Am y tro cyntaf, mae wedi defnyddio data cysylltiol ar lefel poblogaeth yng Nghymru i gael carfan astudiaeth o blant 10 i 14 oed, gan gefnogi dadansoddiad hydredol yn y dyfodol o blant y mae carcharu oedolyn o’r aelwyd yn effeithio arnynt. Mae nodweddion carfan yr astudiaeth hon yn gyson â’r nodweddion a ddisgrifir yn y llenyddiaeth ymchwil ehangach (gweler Adran 6.1).

Gallai gwaith yn y dyfodol archwilio nodweddion a chanlyniadau ychwanegol, parhau i fireinio dulliau adnabod, ymchwilio i duedd dethol posibl o fewn y garfan gysylltiedig o droseddwyr, ac ymestyn y dadansoddiad gan ddefnyddio cyfrannau data cysylltiol lleol awdurdodau lleol yn Lloegr. Gallai hyn helpu i asesu a welir patrymau tebyg ar draws gwahanol ardaloedd a ffynonellau data gan roi cyfrif am amrywiadau rhanbarthol. Er mai’r Gronfa Ddata Mewnwelediadau Addysg ac Iechyd Plant o Ddata Cysylltiol (ECHILD) yw’r adnodd data cysylltiol cyfatebol agosaf yn Lloegr, nid yw ar hyn o bryd yn darparu’r cyswllt ar lefel aelwydydd sydd ei angen i nodi plant y mae carcharu aelod o’r aelwyd yn effeithio arnynt. O ganlyniad, efallai mai cysylltiadau data lleol yw’r llwybr mwyaf ymarferol ar gyfer ymestyn y dull hwn yn Lloegr.

Gallai archwilio’r meysydd hyn wella dealltwriaeth o amgylchiadau plant, cyswllt gwasanaeth a gofnodwyd a chanlyniadau tymor hwy. Mae angen dadansoddiad pellach hefyd i ddeall yn well sut mae gwybodaeth sy’n ymwneud â diogelu yn cael ei chofnodi ar draws y setiau data gweinyddol a ddefnyddir yn yr astudiaeth hon, a sut gellid gwella’r broses o gysylltu data a rhannu data. Gallai hyn helpu i lywio penderfyniadau polisi yn y dyfodol ar sut mae plant y mae carchariad yn effeithio arnynt yn cael eu cydnabod a’u cefnogi.

Ochr yn ochr ag unrhyw newidiadau i bolisi dedfrydu a rhyddhau o’r carchar, gall proffil plant y mae carchariad yn effeithio arnynt newid hefyd. Byddai defnyddio ac ailadrodd y dadansoddiad hwn yn ôl yr angen yn darparu tystiolaeth werthfawr ar nodweddion ac anghenion y plant yr effeithir arnynt. Gallai hefyd helpu i sicrhau bod effeithiau diwygiadau ar blant a theuluoedd yn cael eu hystyried ochr yn ochr â’r effeithiau ar droseddwyr a’r system gyfiawnder ehangach.

7. Manylion cyswllt ac adborth

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y cyhoeddiad hwn, cysylltwch â CAPI@justice.gov.uk

8. Cydnabyddiaeth

Hoffem gydnabod yr holl ddarparwyr data sy’n sicrhau bod data dienw ar gael ar gyfer ymchwil. Rydym hefyd yn cydnabod rhaglen Data First y Weinyddiaeth Gyfiawnder, sy’n galluogi mynediad diogel at ddata gweinyddol cysylltiol ar gyfer gwaith ymchwil a dadansoddi. Rydym hefyd yn diolch i dîm Sicrhau Ansawdd Banc Data SAIL am eu gwaith adolygu, eu cyngor a’u cefnogaeth drwy gydol y prosiect.

Mae’r dadansoddiadau, y canfyddiadau a’r dehongliadau a gyflwynir yn y cyhoeddiad hwn yn perthyn i’r awduron ac nid o reidrwydd i ddarparwyr y data, Cronfa Ddata SAIL, Prifysgol Abertawe na sefydliadau partner.

9. Cyfeiriadau

Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol. ‘The best start for life: a vision for the 1,001 critical days’. Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, 2021

Farmer M. ‘The Importance of Strengthening Prisoners’ Family Ties to Prevent Reoffending and Reduce Intergenerational Crime’. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder, 2017

Ford DV, Jones KH, Verplancke JP, Lyons RA, John G, Brown G ac eraill. ‘The SAIL Databank: building a national architecture for e-health research and evaluation’. BMC Health Services Research 2009: cyfrol 9, rhifyn 1, erthygl 157

Jones KH, Ford DV, Jones C, Dsilva R, Thompson S, Brooks CJ ac eraill. ‘A case study of the Secure Anonymous Information Linkage (SAIL) Gateway: a privacy-protecting remote access system for health-related research and evaluation’. Journal of Biomedical Informatics 2014: cyfrol 50, tudalennau 196 i 204

Y Blaid Lafur. ‘Change: Labour Party Manifesto 2024’. Y Blaid Lafur, 2024

Loucks N, Beresford S, Wright P, Raikes B, Rees A, Kenny F a Stevenson S. ‘Gwella deilliannau llesiant ac addysgol i blant yng Nghymru y mae carchariad rhiant yn effeithio arnynt: adolygiadau o lenyddiaeth, polisi ac ymarfer’. Adroddiad Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth, Llywodraeth Cymru 25/25, 2025

Lyons RA, Jones KH, John G, Brooks CJ, Verplancke JP, Ford DV, Brown G a Leake K. ‘The SAIL databank: linking multiple health and social care datasets’. BMC Medical Informatics and Decision Making 2009: cyfrol 9, erthygl 3

Olphin T, Massie R, Miller O a Blakemore R. ‘What Works Series: Operation Paramount - Statistical analysis of children in Oxfordshire affected by parental imprisonment’. Partneriaeth Atal Trais Dyffryn Tafwys, Kidlington, 2025

Rodgers SE, Demmler JC, Dsilva R a Lyons RA. ‘Protecting health data privacy while using residence-based environment and demographic data’. Health and Place 2012: cyfrol 18, rhifyn 2, tudalennau 209 i 217

Rodgers SE, Lyons RA, Dsilva R, Jones KH, Brooks CJ, Ford DV ac eraill. ‘Residential Anonymous Linking Fields (RALFs): a novel information infrastructure to study the interaction between the environment and individuals’ health’. Journal of Public Health 2009: cyfrol 31, rhifyn 4, tudalennau 582 i 588

Scott S, Griffin N, Crowe L, Shildrick T, Young T, Loucks N a Minson S. ‘“There are a million and one other ways to punish someone than sending them away…” Exploring the impact of having a family member in prison on children and young people’s health and emotional wellbeing: a qualitative longitudinal study’. Children and Youth Services Review 2026: erthygl 108904

Weaver B a Nolan D. ‘Families of Prisoners: A Review of the Evidence’. Prifysgol Strathclyde, 2015


  1. Diwrnod y Cyfrifiad yw’r data cyfeirio a ddefnyddir ar gyfer cyfrif poblogaeth. Bwriad ymatebion y cyfrifiad yw disgrifio amgylchiadau unigolyn ar y diwrnod hwnnw, ni waeth pryd y cwblhawyd ffurflen y cyfrifiad. Ar gyfer Cyfrifiad 2011, 27 Mawrth 2011 oedd Diwrnod y Cyfrifiad. ↩

  2. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder, rhyddhawyd 01 Ionawr 2022, Catalog Metaddata Porth Data Ymchwil Iechyd, set ddata, Taith Carcharor drwy’r Ddalfa Data First, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Cymru a Lloegr ↩

  3. Defnyddir y term “plentyn sy’n derbyn gofal (LAC)” drwy gydol yr adroddiad hwn oherwydd ei fod yn adlewyrchu’r derminoleg a ddefnyddir yn y set ddata ffynhonnell. Yng nghyd-destun polisi Cymru, gellir cyfeirio at blant hefyd fel “plant sy’n derbyn gofal” neu “blant sydd â phrofiad o ofal”, yn dibynnu ar y cyd-destun. ↩