Ffurflen

Cyfarwyddyd: llenwi ffurflen AP1

Diweddarwyd 1 February 2024

Applies to England and Wales

Mae manylion am sut i lenwi pob panel i’w gweld isod. Nid oes angen anfon llythyr esboniadol.

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn tybio nad yw’r unigolyn sy’n anfon y cais i Gofrestrfa Tir EF yn drawsgludwr proffesiynol.

1. Panel 1: awdurdod lleol sy’n gwasanaethu’r eiddo

Ysgrifennwch yma i ba gyngor rydych yn talu eich treth gyngor. Bydd hyn naill ai’n:

  • fwrdeistref sirol
  • awdurdod unedol
  • bwrdeistref Llundain
  • cyngor dosbarth

2. Panel 2: rhif(au) teitl

Ysgrifennwch y rhif(au) teitl yma.

3.Panel 3: mae’r cais yn effeithio ar

Defnyddiwch y blwch cyntaf os yw’ch cais yn effeithio ar y teitl cofrestredig cyfan. Os yw’ch cais yn ymwneud â newid nifer y bobl sy’n berchen ar y teitl (er enghraifft, Mr Jones i Mr a Mrs Jones) byddai hyn fel arfer yn effeithio ar y teitl cyfan.

Defnyddiwch yr ail flwch dim ond os ydych yn gwneud cais sy’n effeithio ar ran o’r teitl (er enghraifft, gwerthu darn o ardd neu brydles sy’n effeithio ar ran o adeilad). Fel rheol, bydd angen ichi ddisgrifio’r tir yr effeithir arno trwy ddisgrifiad (megis “wedi ei amlinellu’n goch ar y cynllun i’r trosglwyddiad”) neu trwy atodi cynllun i’r AP1.

4.Panel 4: cais, blaenoriaeth a ffïoedd

Rhestrwch y ceisiadau rydych yn eu gwneud yma (er enghraifft, rhyddhau morgais, cydsyniad), gan roi un ar bob llinell. O dan y golofn gwerth, bydd angen ichi nodi faint sy’n cael ei dalu am yr eiddo (os o gwbl). Os nad oes arian yn newid dwylo, nodwch werth yr eiddo. Yn yr achos hwn, nid oes angen cael prisiad proffesiynol, rydym yn derbyn prisiad gan unrhyw un yn ddidwyll. Os yw’r swm a dalwyd mewn arian heblaw punnoedd sterling, rhowch y gwerth cyfatebol mewn punnoedd sterling. Gallwch ffonio’n Cymorth i Gwsmeriaid ar 0300 006 0422 i gael gwybod beth yw’r ffi gywir i’w thalu.

Ticiwch y blwch ar gyfer taliad trwy siec neu archeb bost (mae’r dewis arall i’r sawl sydd â threfniant debyd uniongyrchol blaenorol gyda Chofrestrfa Tir EF). Gwnewch sieciau neu archebion post yn daladwy i “Cofrestrfa Tir EF”.

5. Panel 5: dogfennau a gyflwynwyd

Rhestrwch yr holl ddogfennau rydych yn eu hanfon atom. Dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau y bydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig, oni bai bod y ddogfen yn cael ei hystyried yn “ddogfen werthfawr”. Mae dogfennau gwerthfawr yn cynnwys eitemau megis tystysgrifau geni, priodas a marwolaeth, pasbortau a thystysgrifau profiant. Byddwn yn dychwelyd y dogfennau gwreiddiol hyn atoch os cânt eu cyflwyno.

Er mwyn ardystio bod copi o ddogfen yn gopi gwir o’r gwreiddiol, ysgrifennwch “Rwy’n tystio bod hwn yn gopi gwir o’r ddogfen ddyddiedig……. arwyddwyd…….. enw mewn prif lythrennau…….. dyddiad……..” ar wyneb y ddogfen a gopïwyd.

Os ydych yn anfon dogfennau ychwanegol, rhestrwch hwy fel dogfennau ar wahân.

6. Panel 6: y ceisydd

Ysgrifennwch enw’r unigolyn(ion) yma sy’n gwneud cais i newid y gofrestr.

7. Panel 7: cyflwynir y cais gan

Rhaid ichi gwblhau’r panel hwn. Ysgrifennwch eich enw yma a’ch cyfeiriad ac ychwanegwch fanylion ffôn ac ebost os oes gennych rai. Dim ond os ydych yn fodlon inni gysylltu â chi trwy ebost y dylech nodi cyfeiriad ebost. Dim ond i gwsmeriaid sydd â chyfrif debyd uniongyrchol gyda ni y mae’r rhif allwedd yn gymwys.

Dim ond â’r unigolyn a enwir ym mhanel 7 y ffurflen gais y byddwn yn trafod. Os yw’r cais yn cynnwys cais i godi ymholiadau neu i anfon dogfennau ar ôl cwblhau at drydydd parti, caiff y cais ei wrthod.

8. Panel 8: hysbysiad trydydd parti

Gadewch y panel hwn yn wag. Fe’i defnyddiwyd yn flaenorol pan oeddech am inni hysbysu trydydd parti ar ôl i’r cais gael ei gwblhau ond nid ydym yn anfon yr hysbysiadau hyn mwyach.

9. Panel 9: cyfeiriad ar gyfer gohebu

Y cyfeiriad a ddefnyddiwn os bydd angen inni ysgrifennu at berchnogion yr eiddo yw’r cyfeiriad ar gyfer gohebu. Dewiswch yr opsiwn cywir.

10. Panel 10: arwystlon newydd

Ni fydd angen ichi lenwi’r panel hwn oni bai eich bod yn cofrestru morgais newydd.

11. Panel 11: buddion gor-redol dadlenadwy

Mae’r rhain yn fuddion penodol y mae angen ichi ein hysbysu amdanynt os ydynt yn effeithio arnoch.

Mae buddion gor-redol dadlenadwy yn cynnwys (ond nid ydynt wedi’u cyfyngu i):

  • prydlesi am 1-7 mlynedd
  • buddion pobl mewn union feddiannaeth
  • hawliau yn ôl defod
  • mwyngloddio
  • rhyddfreintiau
  • hawliau maenoraidd
  • rhent y goron
  • taliadau yn lle’r degwm
  • atebolrwydd i gyweirio cangell eglwys
  • hawddfreintiau penodol
  • hawliau sy’n ymwneud ag argloddiau a/neu forgloddiau
  • proffidiau à prendre

12. Paneli 12 i 14: tystiolaeth hunaniaeth

Rhaid cwblhau’r paneli hyn gyda manylion yr holl bartïon i’r cais a’r unigolyn(unigolion) a restrir ym mhanel 7 sy’n cyflwyno’r cais. Gweler ein cyfarwyddyd ar dystiolaeth hunaniaeth.

13. Panel 15: llofnod

Dylai’r ceisydd ym mhanel 6 arwyddo’r ffurflen lle nodir ‘ceisydd’ a nodi’r dyddiad.

14. Ffi

I gael rhagor o wybodaeth am ffïoedd ar gyfer ceisiadau Cofrestrfa Tir EF, gweler ffïoedd gwasanaethau cofrestru.

15. Ble i anfon y cais

I ddarganfod ble i anfon y ffurflen wedi ei llenwi, gweler cyfeiriad Cofrestrfa Tir EF ar gyfer ceisiadau.