Guidance

Bwletin y Cyflogwr: Chwefror 2021

Published 11 February 2021

Mae’r rhifyn hwn o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys gwybodaeth a diweddariadau ynglŷn â’r canlynol:

  • Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws
  • Adrodd diwedd blwyddyn dreth a’r camau y mae’n rhaid i chi eu cwblhau
  • Tâl gwrthdro TAW a newidiadau i’r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35)
  • Gwyliau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr cyn-filwyr

Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws

Dysgwch sut i hawlio drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws (CJRS) a beth yw’r dyddiadau cau allweddol y mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol ohonynt:

  • Mae’n rhaid cyflwyno hawliadau ar gyfer mis Ionawr erbyn Dydd Llun 15 Chwefror 2021 fan bellaf
  • Mae’n rhaid cyflwyno hawliadau ar gyfer mis Chwefror erbyn Dydd Llun 15 Mawrth 2021 fan bellaf

Bydd Llywodraeth y DU yn talu 80% o gyflog arferol cyflogeion ar gyfer oriau na chânt eu gweithio, hyd at uchafswm o £2,500 y mis, tan ddiwedd mis Ebrill 2021.

Gallwch hawlio wrth i chi brosesu’ch cyflogres, neu cyn neu ar ôl hynny. Os gallwch wneud hynny, y peth gorau yw gwneud hawliad pan fyddwch yn siŵr o union nifer yr oriau y bydd eich cyflogeion yn eu gweithio. Bydd hyn yn golygu na fydd yn rhaid i chi ddiwygio’ch hawliad yn nes ymlaen.

Os ydych eisoes wedi cyflwyno’ch hawliadau ar gyfer mis Ionawr, ond eich bod yn gweld bod angen i chi wneud newid oherwydd i chi beidio â hawlio digon, gallwch wneud hyn tan 1 Mawrth. Dysgwch sut i gael help a diwygio’ch hawliad.

Sut i hawlio drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws os nad ydych wedi hawlio yn flaenorol

Nid oes angen i chi a’ch cyflogeion fod wedi elwa ar y cynllun o’r blaen er mwyn gwneud hawliad. Gallwch wirio a ydych yn gymwys a chyfrifo faint y gallwch ei hawlio, drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws, a’n henghreifftiau.

Mae rhestr o ddyddiadau cau ar gyfer hawliadau misol a chanllaw defnyddiol cam wrth gam, sy’n crynhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws a’r camau y mae angen i chi eu cymryd i hawlio.

Rhoi cyflogeion ar ffyrlo oherwydd cyfrifoldebau gofalu

Os bydd cyflogai’n gofyn am gael ei roi ar ffyrlo oherwydd bod ganddo ddyletswyddau gofal o ganlyniad i goronafeirws, megis gofalu am blant sydd gartref oherwydd bod ysgolion neu gyfleusterau gofal blant ar gau, gallwch ei roi ar ffyrlo a hawlio ar ei ran drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws.

Sut i gael at wasanaethau ar-lein CThEM

I gyflwyno hawliad drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws, bydd angen i chi gofrestru a chael y cod mynediad, cyfrinair neu god cychwyn gofynnol ar gyfer gwasanaethau ar-lein CThEM. Mae arweiniad llawn ynghylch sut i fewngofnodi neu gofrestru i’w gael ar GOV.UK.

Os ydych yn gwneud cais am god cychwyn, gall gymryd hyd at 10 diwrnod i’ch cyrraedd. Os ydych yn bwriadu cyflwyno hawliad, dylech ystyried yr amser hwn.

Cyhoeddi gwybodaeth am hawliadau

Ym mis Ionawr 2021, cyhoeddodd CThEM rhestr o enwau cyflogwyr sydd wedi hawlio drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws am gyfnodau o fis Rhagfyr ymlaen.

O 25 Chwefror ymlaen, byddwn yn cyhoeddi’r enwau, amcan o swm yr hawliadau a Rhifau Cofrestru Cwmni (i’r rheiny sydd ag un) cyflogwyr sy’n cyflwyno hawliadau drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws am gyfnodau sy’n dechrau ar 1 Rhagfyr 2020 neu ar ôl hynny. Bydd gwerth cyhoeddedig eich hawliad yn cael ei ddangos mewn ystod wedi’i fandio.

Ni fyddwn yn cyhoeddi manylion cyflogwyr sy’n hawlio drwy’r cynllun os gallant ddangos y byddai rhoi cyhoeddusrwydd i’r rhain yn arwain at risg ddifrifol o drais neu fygythiadau i unigolion, neu’r rheiny sy’n byw gyda nhw. I ofyn am beidio â chyhoeddi’ch manylion, llenwch y ffurflen gais ar-lein.

Os bydd angen i chi wneud hyn, ni fyddwn yn cyhoeddi’ch manylion nes bydd penderfyniad wedi’i wneud a’ch bod wedi cael gwybod amdano. Dim ond unwaith y bydd angen i chi wneud cais, gan y bydd y penderfyniad yn cwmpasu holl gyfnodau hawlio’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws gan ddechrau o 1 Rhagfyr 2020. Mae’n rhaid i chi wneud y cais eich hun: ni all asiant ei wneud ar eich rhan.

O 25 Chwefror 2021 ymlaen, bydd eich cyflogeion hefyd yn gallu gwirio os ydych wedi gwneud hawliad Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws ar eu rhan drwy eu Cyfrif Treth Personol. Mae arweiniad ar gael ar sut i fewngofnodi neu greu Cyfrif Treth Personol.

Bydd manylion hawliadau’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws bellach yn cael eu cyhoeddi bob mis fel rhan o ymrwymiad CThEM i dryloywder ac i atal hawliadau twyllodrus.

Cymorth pellach

Gallwch gofrestru i gael diweddariadau rheolaidd oddi wrth CThEM drwy e-bost, a hynny er mwyn cadw llygad ar yr wybodaeth ddiweddaraf am ein cynlluniau COVID-19. Gallwch gofrestru ac ychwanegu’r pynciau tanysgrifio y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

Mae miloedd o bobl hefyd wedi ymuno â’n gweminarau byw, ac wedi cael budd ohonynt. Mae’r gweminarau’n cynnig rhagor o gymorth ar newidiadau i’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws, a sut y maent yn effeithio arnoch.

Cynllun talu newydd ar gyfer gohirio TAW – optio i mewn o ddiwedd mis Chwefror 2021 ymlaen

Os gwnaethoch ohirio TAW o 20 Mawrth 2020 i 30 Mehefin 2020 ac mae gennych daliadau i’w gwneud o hyd, gallwch optio i mewn i’r cynllun talu newydd ar gyfer gohirio TAW i dalu’ch TAW ohiriedig dros gyfnod hirach.

Disgwylir i’r cynllun talu newydd ar gyfer gohirio TAW agor ar 23 Chwefror 2021 a dod i ben ar ddiwedd mis Mehefin 2021. Os byddwch yn optio i mewn, gallwch wneud hyd at 11 o randaliadau misol llai, a hynny’n rhydd o log.

Gallwch optio i mewn i’r cynllun ar-lein heb orfod ffonio. Ewch i’r dudalen ar ohirio TAW am ragor o wybodaeth ac i optio i mewn yn syml ac yn gyflym pan fydd y cynllun yn agor.

Dylai busnesau sydd angen mwy o help i dalu eu TAW ohiriedig gysylltu â CThEM.

Os gallwch dalu’ch TAW ohiriedig erbyn 31 Mawrth 2021, dylech wneud hynny.

Tâl gwrthdro TAW ar gyfer gwasanaethau adeiladau

Dylai busnesau adeiladu sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW fod yn ymwybodol bod y tâl gwrthdro hwn yn dod i rym ar 1 Mawrth 2021. Cyhoeddwyd brîff Cyllid a Thollau ym mis Mehefin 2020, gan roi rhagor o wybodaeth.

Bydd pob busnes adeiladu sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW wedi cael llythyr unigol ym mis Ionawr (ymhellach i lythyrau ym mis Chwefror a mis Medi 2020), yn eu cynghori i wirio a allent fod yn agored i’r tâl gwrthdro. Os ydynt yn agored iddo, dylent ddechrau paratoi nawr.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am gwmpas y tâl gwrthdro a sut y bydd.

Mae’r elfenau allweddol fel a ganlyn:

  • bydd yn berthnasol i gyflenwadau safonol a chyflenwadau ar gyfradd is o wasanaethau adeiladu a wneir i fusnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW, sydd hefyd, yn eu tro, yn anfon cyflenwadau ymlaen o’r gwasanaethau adeiladu hynny
  • bydd y contractwr yn gyfrifol am dalu’r TAW allbwn sy’n ddyledus yn hytrach na’r is-gontractiwr, a gall barhau i adennill y swm hwn fel treth fewnbwn
  • mae cwmpas y cyflenwadau dan sylw wedi’u halinio’n agos â’r cyflenwadau y mae’n ofynnol rhoi gwybod amdanynt o dan Gynllun y Diwydiant Adeiladu. Ond nid yw’n cynnwys cyflenwadau staff na gweithwyr sydd i’w defnyddio gan y cwsmer
  • mae’r ddeddfwriaeth yn cyflwyno’r cysyniad o ‘defnyddwyr terfynol’ a ‘cyfryngwyr cyflenwadau’ – mae hyn yn cynnwys busnesau neu grwpiau o fusnesau cysylltiedig nad ydynt yn gwneud cyflenwadau gwasanaethau adeiladu i drydydd partïon ac oherwydd hyn, maent wedi’u heithrio rhag cwmpas y tâl gwrthdro os ydynt yn cael cyflenwadau o’r fath. Ymhlith yr enghreifftiau mae landlordiaid, tenantiaid a datblygwyr eiddo

Tâl Cuddiedig

Cyflogwyr sydd heb adrodd a thalu’r tâl ar fenthyciad

Rydym yn ymwybodol o nifer o gyflogwyr nad ydynt wedi adrodd a thalu’r tâl ar fenthyciad ar fenthyciadau tâl cuddiedig perthnasol. Rydym wrthi’n anfon llythyrau at y cyflogwyr hyn i’w hatgoffa am eu cyfrifoldebau. Bydd hyn yn rhoi gwybod iddynt beth fydd yn digwydd nesaf os na fyddant yn adrodd ac yn talu’r tâl ar fenthyciad.

Os byddwch yn cael y llythyr hwn, dylech ei ddarllen yn ofalus a gweithredu erbyn y dyddiad a roddwn. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am y llythyr neu’r tâl ar fenthyciad, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion ar y llythyr.

Spotlight 57- Tâl cuddiedig: Arbed treth drwy werthu refeniw busnes yn y dyfodol i ymddiriedolaeth gwasanaeth refeniw

Mae CThEM yn ymwybodol o drefniant lle gall busnes ymrwymo i gytundeb gydag ymddiriedolaeth a honni ei fod wedi gwerthu’r hawliau i’w refeniw yn y dyfodol i’r ymddiriedolaeth. Mae CThEM o’r farn bod hyn yn arbed treth.

Rydym wedi cyhoeddi Spotlight 57 i egluro pam na ddylid defnyddio’r math hwn o drefniant. Os ydych yn ystyried defnyddio’r math hwn o drefniant, rydym yn eich cynghori’n gryf i gadw draw. Os ydych yn defnyddio’r math hwn o gynllun yn barod, rydym am eich helpu i beidio ag arbed treth.

Dysgwch fwy am arbed treth fel y gallwch sylwi ar yr arwyddion rhybudd. Mae CThEM am eich helpu i gael eich materion treth yn iawn y tro cyntaf.

Help a chymorth pellach

Os oes gennych ddefnydd cynllun tâl cuddiedig rydych am ei setlo, ond eich bod yn pryderu am dalu, cysylltwch â ni. Rydym eisiau eich helpu i dalu’r hyn sydd arnoch. Rydym yn cydnabod y gallai rhai pobl gael anhawster i wneud hyn. Dylai unrhyw un sydd am drafod setliad gyda ni siarad â’u cyswllt arferol yn CThEM neu anfon e-bost at: ca.admin@hmrc.gov.uk.

Paratoi ar gyfer newidiadau treth os ydych yn ymgysylltu â chontractwyr neu’n eu cyflenwi - Rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35)

Camau y gallai fod angen i chi eu cymryd i baratoi

Os ydych yn sefydliad nad yw yn y sector cyhoeddus, yn fawr neu o faint canolig a’ch bod yn ymgysylltu â chontractwyr, dylech nawr fod yn cymryd camau i baratoi ar gyfer newidiadau i’r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35) sy’n dod i rym ar 6 Ebrill 2021. Ar gyfer pob contractwr sy’n gweithio drwy eu cwmni cyfyngedig eu hunain, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • nodi contractwyr sy’n gweithio yn y ffordd hon
  • penderfynu a yw’r rheolau’n berthnasol iddynt ai peidio
  • rhoi gwybod i’ch contractwyr o’u penderfyniad statws, ac i unrhyw asiantaethau rydych yn ymgysylltu â nhw
  • bod yn barod i’w hychwanegu at y gyflogres, os oes angen
  • bod yn barod i ddelio ag unrhyw anghydfodau
  • cynnal trywydd archwilio cadarn, a phrofi’ch prosesau, systemau a rheolaethau

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gamau y bydd yn rhaid i chi eu cymryd i baratoi.

Os ydych yn asiantaeth gyflogaeth sy’n cyflenwi contractwyr sy’n gweithio trwy eu cwmni cyfyngedig eu hunain neu gyfryngwr arall, mae angen i chi ddeall y newidiadau ac efallai bydd angen i chi gymryd camau. Mae angen i chi wneud y canlynol:

  • nodi contractwyr sy’n gweithio yn y ffordd hon
  • bod yn barod i anfon y datganiad penderfyniad o ran statws at unrhyw asiantaeth rydych yn ymgysylltu â hi i lawr y gadwyn gyflenwi, neu fod yn barod i roi contractwyr ar y gyflogres
  • cynnal trywydd archwilio cadarn, a phrofi’ch prosesau, systemau a rheolaethau

Rydym yn rhoi addysg a chymorth i’ch helpu i wneud hyn.

Dull cydymffurfio

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn cyhoeddi manylion ynghylch sut rydym yn bwriadu sicrhau bod pobl yn dilyn y rheolau, gan ehangu a diweddaru ein datganiad blaenorol am ein dull cydymffurfio arfaethedig.

Rydym wedi ymrwymo y byddwn yn cymryd agwedd gefnogol ac yn helpu cwsmeriaid sy’n ceisio gwneud y peth iawn. Rydym hefyd wedi ymrwymo na fydd yn rhaid i gwsmeriaid dalu cosbau am anghywirdebau sy’n ymwneud â’r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres yn ystod y 12 mis cyntaf, oni bai bod tystiolaeth o ddiffyg cydymffurfio bwriadol. Dyw’r bwriad hwn ddim wedi newid.

Busnesau bach

Os ydych yn fusnes bach, nid yw’r newidiadau i’r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres yn berthnasol i chi, nac i’r contractwyr y mae’n bosibl eich bod yn ymgysylltu â nhw. Mae hyn oherwydd y bydd cwmni cyfyngedig y contractwr, neu gyfryngwr arall, yn parhau i fod yn gyfrifol am benderfynu a yw’r contract yn berthnasol i’r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres, ac yn rhoi cyfrif am y Dreth Incwm a’r Cyfraniadau Yswiriant Gwladol perthnasol a’u talu.

Os nad yw’r rheolau yn berthnasol i chi oherwydd eich bod yn fusnes bach, rhowch wybod i’ch contractwyr.

Helpu contractwyr i fod yn barod

Gallwch helpu’r contractwyr rydych yn ymgysylltu â nhw i ddeall y rheolau cyn i unrhyw newidiadau ddod i rym drwy rannu siart lif contractwyr a thaflen wybodaeth contractwyr CThEM. Rydym yn gwybod y gallai sefydliadau fod yn ceisio ymgysylltu â rhai contractwyr mewn gwahanol ffyrdd. Rydym yn tynnu sylw at ganllawiau a chymorth i gontractwyr a allai fod yn newid y ffordd y maent yn gweithio, er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu dal gan gynlluniau arbed treth. Defnyddiwch hwn i helpu’ch contractwyr os ydych yn argymell eu bod yn newid y ffordd maent yn gweithio.

Newidiadau i Gynllun y Diwydiant Adeiladu

Mae newidiadau deddfwriaethol i fynd i’r afael â cham-drin Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) ar y gweill ar gyfer mis Ebrill 2021.

Bydd y newidiadau hyn yn egluro’r canlynol:

  • y diffiniad o gontractwyr tybiedig
  • mai dim ond yr is-gontractiwr sy’n wynebu’r gost sy’n gallu hawlio’r deunyddiau; a
  • bod cwmpas y gosb ar gyfer cofrestru anwir yn cael ei ymestyn

Hefyd, bydd gan CThEM y gallu i newid y symiau didynnu CIS a hawlir gan isgontractwyr ar eu ffurflenni Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (EPS) Gwybodaeth Amser Real (RTI). Mae rhagor o wybodaeth am y newidiadau i fynd i’r afael â cham-drin Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) ar gael.

Eithriad beiciau a ddarperir gan y cyflogwr

Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddodd y llywodraeth y gall cyflogeion a ymunodd â chynllun beiciau a ddarperir gan y cyflogwr ar neu cyn 20 Rhagfyr 2020, elwa o hawddfraint gyfyngedig o fewn amser penodol, oherwydd ni allent fod wedi rhagweld yn rhesymol y newidiadau i’w patrwm gwaith oherwydd y cyfyngiadau yn sgil COVID-19.

Beth mae’r hawddfraint hon yn ei olygu i newydd-ddyfodiaid i’r cynllun?

Bydd cyflogeion sy’n ymuno â chynllun o 21 Rhagfyr 2020 ymlaen, sy’n beicio i’r gwaith ar hyn o bryd ac sy’n gallu bodloni’r amod siwrneiau cymwys, yn dal i fod yn gymwys i gael yr eithriad treth ar feic.

Beth am newydd-ddyfodiaid i’r cynllun sy’n gweithio gartref?

Mae gan y cyflogeion hyn yr opsiwn o hyd i ymuno â chynllun. Fodd bynnag, gallant fod yn agored i dâl treth os nad ydynt yn bodloni’r amod siwrneiau cymwys (yn bennaf teithio i’r gwaith neu oddi yno, neu teithio oherwydd gwaith). Mae ganddynt hefyd yr opsiwn i aros nes bod ganddynt fwy o sicrwydd am eu trefniadau gweithio, a gallant ddewis ymuno â’r cynllun pan allai fod yn fwy priodol.

Gall cynlluniau aros ar agor:

Gall cyflogwyr gadw eu cynllun beicio i’r gwaith ar agor ar gyfer defnyddwyr presennol, hyd yn oed os nad oes defnyddwyr newydd i’r cynllun am y tro. Mae’r llywodraeth yn parhau i annog cyflogeion o bob sector i ymgymryd â’r cynllun hwn lle gallant fodloni’r amod teithiau cymwys, a lle mae beicio i’r gwaith yn opsiwn iddynt ar hyn o bryd.

Os bydd cyflogwr yn dymuno cau ei gynllun Beicio i’r Gwaith am unrhyw reswm, bydd y beiciau a ddarparwyd yn dod yn drethadwy fel buddiant. Ewch i EIM21667A i gael rhagor o wybodaeth am hyn.

A yw amodau’r cynllun Beicio i’r Gwaith wedi newid?

Na - nid yw amodau’r eithriad beiciau a ddarperir gan y cyflogwr wedi newid, gan gynnwys yr amod argaeledd lle mae’n rhaid i gyflogwyr gynnig y cynllun i bob cyflogai ar delerau tebyg. Mae’r eithriad yn dal i fod ar gael i’w ddefnyddio a gall cyflogwyr barhau i gynnig y cynllun i bob cyflogai.

Ceir rhagor o wybodaeth am yr hawddfraint ar GOV.UK

Cydlynu Nawdd Cymdeithasol: diweddariad ar y Cytundeb Cydweithrediad Masnach

Mae’r llywodraeth wedi cytuno ar ddarpariaethau cydlynu nawdd cymdeithasol gyda’r UE yn y Cytundeb Masnach a Chydweithrediad. Mae’r rhain yn sicrhau bod gweithwyr sy’n symud rhwng y DU a’r UE ond yn gorfod talu i mewn i gynllun nawdd cymdeithasol un wlad ar y tro.

Gweithio dros dro yn y DU neu’r UE

Os ydych yn anfon cyflogai i weithio dros dro yn yr UE, gallwch chi neu’ch cyflogai wneud cais am dystysgrif neu ddogfen gan CThEM, a hynny er mwyn i’r ddau ohonoch barhau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y DU am hyd at 24 mis yn unig. Gweler ein tudalen ar gov.uk ynghylch mynd i weithio dros dro yn yr UE am ragor o wybodaeth.

Os ydych yn dod â chyflogai o’r UE i weithio yn y DU dros dro, gall hefyd wneud cais am dystysgrif oddi wrth yr Aelod-wladwriaeth yn yr UE y mae wedi’i leoli ynddo. Bydd hyn yn sicrhau mai dim ond am hyd at 24 mis y byddwch chi a’ch cyflogai’n talu cyfraniadau nawdd cymdeithasol yn ei famwlad. Gweler ein tudalen ar gov.uk ynghylch dod i weithio yn y DU am ragor o wybodaeth.

Gweithio dros dro yn y DU, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein neu’r Swistir

I gael gwybodaeth am fynd i weithio yn Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein neu’r Swistir, neu am ddod o’r gwledydd hynny i weithio yn y DU, darllenwch ein tudalennau ar gov.uk ynghylch mynd i weithio yn yr UE a dod i weithio yn y DU. Bydd hyn hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sut i wneud cais am dystysgrif neu ddogfen oddi wrth CThEM.

Gweminar CThEM ynghylch sgamiau pensiwn i gyflogwyr ac asiantau

A oes gennych ddiddordeb mewn helpu i ddiogelu cynilion pensiwn eich cyflogeion?

Mae gweminar ddiweddar CThEM ynghylch sut y gallwch helpu cynilwyr i osgoi sgamiau wedi’i chyhoeddi yn yr adran help a chymorth ar gyfer cyflogi pobl erbyn hyn, ac mae’n cynnwys amrywiaeth o wybodaeth am sgamiau pensiwn. Mae’n cynnwys gwybodaeth am yr arwyddion rhybudd a’r hyn y gallwch ei wneud i helpu fel cyflogwyr.

I wylio’r weminar, ewch i Help a chymorth ar gyfer cyflogi pobl

Dyddiadau cyflwyno a thalu ar gyfer Ymwelwyr Busnes Tymor Byr Atodiad 8 – trefniant arbennig a wnaed o dan Reoliad 141 yn flaenorol

Cyflwynwyd trefniadau arbennig Talu Wrth Ennill (TWE) ar gyfer Ymwelwyr Busnes Tymor Byr ar 6 Ebrill 2020 i ganiatáu gweithredu gweithdrefn TWE symlach ar gyfer Ymwelwyr Busnes Tymor Byr.

Gwnaeth y trefniadau hyn leihau gofynion TWE ar gyfer cyflogwyr sydd ag Ymwelwyr Busnes Tymor Byr o ganghennau neu diriogaethau tramor nad oes gan y DU Gytundeb Trethiant Dwbl (DTA) â nhw.

Roedd y newidiadau i Atodiad 8 yn cynnwys:

  • cynnydd yng nghyfyngiad diwrnod gwaith y DU o 30 diwrnod i 60 diwrnod
  • Bydd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno a thalu’n newid o 19 a 22 Ebrill (yn y drefn honno) i 31 Mai

Mae hyn i’ch atgoffa o’r dyddiad cau newydd ar gyfer cyflwyno a thalu, sef 31 Mai, ar ôl diwedd y flwyddyn dreth berthnasol.

Enghraifft

Ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021 (6 Ebrill 2020 i 5 Ebrill 2021) disgwylir i’r ffurflen dreth a’r taliad ein cyrraedd erbyn 31 Mai 2021.

Ceir rhagor o wybodaeth am y trefniant arbennig ar gyfer Atodiad 8 yn PAYE81950.

Benthyciadau Myfyrwyr a Benthyciadau Ôl-raddedig

Trothwyon a chyfraddau Benthyciadau Myfyrwyr a Benthyciadau Ôl-raddedig o 6 Ebrill 2021 ymlaen

  • Cynllun 1 – £19,895 – bydd enillion sydd dros y trothwy hwn yn parhau i gael eu cyfrifo ar 9%
  • Cynllun 2 – £27,295 – bydd enillion sydd dros y trothwy hwn yn parhau i gael eu cyfrifo ar 9%
  • Cynllun 4 – Math newydd o gynllun, Benthyciadau Myfyrwyr yn yr Alban (SSL) £25,000 – bydd enillion sydd dros y trothwy hwn yn cael eu cyfrifo ar 9%
  • Benthyciad Ôl-raddedig (PGL) – £21,000 – bydd enillion sydd dros y trothwy hwn yn parhau i gael eu cyfrifo ar 6%

Benthyciad Myfyriwr a Benthyciad Ôl-raddedig – Hysbysiad Dechrau (SL1/PGL1)

Mae’n bwysig eich bod yn:

  • gwirio’ch cyfrif ar-lein ar gyfer hysbysiadau dechrau ac yn stopio Benthyciad Myfyriwr a/neu Fenthyciad Ôl-raddedig. Os yw’ch cyfeiriad e-bost neu’ch cyfeiriad ar gyfer gohebiaeth wedi newid, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl
  • cymryd y camau cywir ar gyfer dechrau didyniadau Benthyciad Myfyriwr a/neu Fenthyciad Ôl-raddedig cyn gynted â phosibl
  • cofnodi’r didyniadau’n gywir ar eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS)

Bydd hyn yn sicrhau nad yw’ch cyflogai’n talu mwy na llai na’r hyn sy’n angenrheidiol.

Os cewch SL1 a/neu PGL1 oddi wrth CThEM, mae’n bwysig eich bod yn:

  • defnyddio’r math cywir o fenthyciad/cynllun
  • gwirio’r dyddiad dechrau a ddangosir ar yr hysbysiad ac yn tynnu didyniadau o’r diwrnod cyflog nesaf

Os yw’r enillion o dan y trothwyon ar gyfer Benthyciad Myfyriwr a/neu Fenthyciad Ôl-raddedig, dylech ddiweddaru cofnod cyflogres y cyflogai i ddangos bod ganddo Fenthyciad Myfyriwr a/neu Fenthyciad Ôl-raddedig a chyflwyno’r hysbysiad dechrau. Dylai didyniadau barhau hyd nes y bydd CThEM yn rhoi gwybod bod angen i chi rhoi’r gorau i’w didynnu. Mae arweiniad ar ad-daliadau Benthyciad Myfyriwr a Benthyciad Ôl-raddedig ar gael.

Benthyciadau Myfyriwr a Benthyciadau Ôl-raddedig, a’r Rheolau Gweithio oddi ar y Gyflogres

Nid yw sefydliadau’n gyfrifol am ddidynnu Benthyciadau Myfyriwr a/neu Fenthyciadau Ôl-raddedig ar gyfer gweithwyr yr ymgysylltwyd a hwy drwy eu cwmnïau eu hunain. Bydd y gweithiwr yn rhoi cyfrif am rwymedigaethau Benthyciad Myfyrwyr a/neu Fenthyciad Ôl-raddedig yn ei Ffurflen Dreth ei hun. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn rhifyn 87 o Fwletin y Cyflogwr.

Benthyciadau Myfyrwyr yn yr Alban

Fel y gwnaethom sôn amdano ym Mwletin y Cyflogwr 87, mae Llywodraeth yr Alban yn cyflwyno math newydd o gynllun ar gyfer y sawl sy’n derbyn Benthyciad Myfyriwr yn yr Alban. Enw’r cynllun newydd yw Cynllun 4, ac mae’n dod i rym o 6 Ebrill 2021 ymlaen. Bydd y newid hwn yn effeithio ar gyflogwyr ar draws y DU, nid yn unig y sawl sydd wedi’u lleoli yn yr Alban. Bydd yn berthnasol i unrhyw gyflogwyr sydd â chyflogeion sy’n ad-dalu benthyciadau oddi wrth yr Asiantaeth Gwobrwyo Myfyrwyr ar gyfer yr Alban (SAAS).

Rhoddir gwybod i chi drwy hysbysiad dechrau Benthyciad Myfyriwr, SL1, ar gyfer pob cyflogai y mae hyn yn effeithio arno.

Yn sgil cyflwyniad Benthyciadau Myfyrwyr yn yr Alban, caiff hysbysiadau SL1 eu hanfon at gyflogwyr presennol y mae’r newid yn effeithio arnynt. Bydd hyn ar ben anfon hysbysiadau SL1 mewn swmp, fel arfer, ar ddechrau pob blwyddyn dreth. Dylech roi’r newid hwn ar waith yn eich meddalwedd gyflogres, a’i weithredu ar eich Cyflwyniad Taliadau Llawn cyntaf ar ôl 6 Ebrill 2021. Os na chaiff eich cyflogai ei symud i Gynllun 4, bydd yn gordalu ei Fenthyciad Myfyriwr. Ni fydd angen cymryd camau ar gyfer benthycwyr Cynllun 1 na chawsant eu benthyciadau drwy SAAS.

Ni chaiff hysbysiad stopio, SL2, ei anfon ar wahân ar gyfer y newid hwn.

Caiff y cynllun newydd ei weithredu gennych yn yr un ffordd â mathau o gynllun 1 a 2. Os bydd angen i chi wneud didyniadau Benthyciad Myfyriwr a/neu ddidyniadau Benthyciad Ôl-raddedig o 6 Ebrill 2021 ymlaen, bydd angen i chi wybod pa fath o gynllun neu fenthyciad i’w ddefnyddio. Gallai hyn fod yn Gynllun 1, Cynllun 2, Cynllun 4 a/neu Fenthyciad Ôl-raddedig. Gall cyflogai ad-dalu Cynllun 1 neu Gynllun 2 neu Gynllun 4 a Benthyciad Ôl-raddedig ar yr un pryd.

Mae’r rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn wedi’i diweddaru i adlewyrchu’r math newydd hwn o gynllun a bydd ar gael ar GOV.UK erbyn dechrau’r flwyddyn dreth newydd. Bydd yr arweiniad yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu’r newidiadau.

Offer TWE Sylfaenol – Fersiwn newydd

Bydd diweddariad i’r Offer TWE Sylfaenol yn cael ei ryddhau ddiwedd mis Mawrth i ategu blwyddyn dreth 2021-2022. Mae’n bwysig eich bod yn diweddaru’ch meddalwedd a’ch bod yn defnyddio fersiwn 21.0 o 6 Ebrill 2021 ymlaen.

I ddiweddaru neu i wirio am ddiweddariadau, dylech ddewis ‘Gwirio nawr’ yn adran ddiweddaru’r gosodiadau yng nghornel dde uchaf y twlsyn. Argymhellir y dylech hefyd osod y diweddariadau awtomatig i ‘Iawn’.

Gall cwsmeriaid newydd lawrlwytho’r Offer TWE Sylfaenol drwy fynd i GOV.UK lle y byddwch hefyd yn dod o hyd i gyngor cynhwysfawr ynghylch gosod y feddalwedd hon.

O fis Ebrill 2022 ymlaen, ni fydd Offer TWE Sylfaenol bellach yn gweithredu mewn amgylchedd 32-did. Bydd angen i chi sicrhau bod eich cyfrifiadur a meddalwedd eich system weithredu’n gallu rhedeg cymwysiadau 64-did er mwyn gallu defnyddio’r Offer TWE Sylfaenol. I gael rhagor o fanylion, dylech ddarllen yr adran ‘Gwybodaeth ddefnyddiol’ o fewn yr Offer TWE Sylfaenol, sydd ar gael o fis Ebrill 2021 ymlaen.

Hysbysu diwedd blwyddyn

Mae’n amser paratoi i wneud eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) olaf neu’ch Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (EPS) olaf ar gyfer y flwyddyn

Mae angen i’ch FPS neu’ch EPS olaf ar gyfer y flwyddyn (hyd at a chan gynnwys 5 Ebrill 2021) gynnwys dangosydd i nodi eich bod yn gwneud y cyflwyniad terfynol. Mae hyn yn rhoi gwybod i ni eich bod wedi anfon popeth yr oeddech yn disgwyl ei anfon, ac y gallwn derfynu ein cofnodion ar eich cyfer chi a’ch cyflogeion.

Ni fydd ambell feddalwedd fasnachol y gyflogres yn caniatáu i chi roi’r dangosydd ar FPS. Os yw hynny’n wir, anfonwch eich FPS olaf ac yna anfonwch EPS gyda’r dangosydd wedi’i dicio. Gallwch hefyd anfon EPS gyda’r dangosydd wedi’i dicio os gwnaethoch anghofio rhoi’r dangosydd ar eich cyflwyniad FPS olaf ar gyfer y flwyddyn dreth.

Hefyd, mae’n rhaid i chi roi P60 i’ch cyflogeion os oeddent yn eich cyflogaeth ar 5 Ebrill 2021. Mae gennych tan 31 Mai 2021 i wneud hyn.

Os nad ydych yn mynd i dalu neb eto yn ystod y flwyddyn dreth hon, cofiwch anfon EPS gyda’r dangosydd wedi’i dicio i ddangos na wnaethoch dalu neb yn ystod y cyfnod cyflog olaf ac i ddangos mai dyma’r cyflwyniad terfynol. Mae gennych tan 19 Ebrill i wneud hyn ond cewch neges gan y Gwasanaeth Hysbysu Generig os byddwch yn ei gyflwyno ar ôl 11 Ebrill.

Mae arweiniad ar roi gwybod am y gyflogres yn flynyddol a thasgau ar gael i’ch helpu i gyflwyno’n llwyddiannus.

Diweddariad Blwyddyn Gynharach – newid prosesau

O fis Ebrill 2021 ymlaen, ni fydd Diweddariad Blwyddyn Gynharach (EYU) bellach yn fath dilys o gyflwyniad i wneud diwygiadau i’r flwyddyn dreth sy’n dod i ben ar 5 Ebrill 2021. Bydd angen gwneud unrhyw ddiwygiadau i’r flwyddyn dreth hon a blynyddoedd treth yn y dyfodol drwy ddefnyddio Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) pellach ar gyfer y flwyddyn hyd yn hyn:

  • Gwneir newidiadau i Flynyddoedd Treth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2018 ac yn gynharach – drwy gyflwyno EYU yn unig
  • Diwygiadau i’r Flwyddyn Dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2019 – derbynnir EYU neu FPS
  • Diwygiadau i’r Flwyddyn Dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2020 – derbynnir EYU neu FPS

Sylwer: os ydych yn cywiro Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) cyflogeion ar gyfer naill ai 2018 i 2019 neu 2019 i 2020, sy’n cynnwys swm negyddol o CYG y cyflogai, gellir defnyddio FPS yn y naill neu’r llall o’r achosion canlynol:

  • does dim ad-daliad yn ddyledus, neu
  • mae ad-daliad yn ddyledus, a gallwch ad-dalu’ch cyflogai

Os oes ad-daliad yn ddyledus ac na allwch ad-dalu’ch cyflogai, dylech gyflwyno EYU a sicrhau bod y dangosydd ar gyfer ad-daliadau CYG wedi’i osod i ‘Na’.

Gwneir diwygiadau i’r Flwyddyn Treth sy’n dod i ben ar 5 Ebrill 2021 (a blynyddoedd i ddod) drwy gyflwyno FPS yn unig, a hynny o 20 Ebrill 2021 ymlaen

Bydd y diweddariad i’r Offer TWE Sylfaenol ym mis Mawrth 2021 yn cynnwys y newid ac ni fydd bellach yn cefnogi EYU ar gyfer 2020 i 2021 na blynyddoedd i ddod. Bydd yr Offer TWE Sylfaenol yn parhau i fod ar gael ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020, a blynyddoedd cynharach.

Rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau

O 6 Ebrill ymlaen, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni am unrhyw dreuliau a buddiannau a gafodd eich cyflogeion yn ystod 2020 i 2021.

Dylech nawr ddefnyddio meddalwedd fasnachol y gyflogres, gwasanaeth TWE Ar-lein CThEM neu wasanaeth ar-lein treuliau a buddiannau diwedd blwyddyn CThEM i gyflwyno’ch P11D a’ch P11D(b) ar-lein. Mae’n gyflymach ac yn fwy diogel nag anfon Ffurflenni Treth papur.

Os gwnaethoch gofrestru i dalu’ch buddiannau drwy’r gyflogres ar gyfer blwyddyn 2020 i 2021, cofiwch fod angen i chi gyflwyno P11D(b) o hyd, a hynny er mwyn rhoi gwybod i ni am y CYG Dosbarth 1A y cyflogwr sy’n ddyledus. Mae ond angen i chi gyflwyno P11D ar gyfer unrhyw fuddiannau na wnaethoch eu talu.

Talu treuliau a buddiannau drwy’r gyflogres ar gyfer 2021-2022

Cofrestrwch nawr i dalu’ch buddiannau ar gyfer 2021-22 drwy’r gyflogres a rhoi gwybod ar yr FPS am fuddiannau ar yr un pryd â TWE eich cyflogeion. Gallwch ddidynnu a thalu treth ar y rhan fwyaf o dreuliau cyflogeion os ydych wedi cofrestru’n ffurfiol cyn dechrau blwyddyn dreth 2021-2022

Nid oes angen i chi gyflwyno unrhyw P11D ar gyfer cyflogeion os ydych yn talu eu holl fuddiannau drwy’r gyflogres.

Byddai angen i chi gyflwyno P11D(b) o hyd er mwyn i chi allu talu unrhyw Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sy’n ddyledus gennych.

Talu drwy’r gyflogres yn anffurfiol

Nawr, mae’n rhaid i’r nifer fach o gyflogwyr sy’n talu buddiannau drwy’r gyflogres yn anffurfiol gofrestru’n ffurfiol ar gyfer y gyflogres cyn dechrau 2021-2022. Ni fyddwn yn derbyn trefniadau anffurfiol mwyach.

Cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol newydd a newidiadau i’r oedran ar gyfer bod yn gymwys am y Cyflog Byw Cenedlaethol

O 1 Ebrill ymlaen, mae’r cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn cynyddu. Mae datganiad i’r wasg sy’n cynnwys manylion am y Cyflog Byw Cenedlaethol newydd ar gael.

Bydd yr oedran y daw gweithwyr yn gymwys i gael y Cyflog Byw Cenedlaethol uwch yn cael ei ostwng. Mae hyn yn golygu, o 1 Ebrill ymlaen, y bydd gan weithwyr 23 oed a hŷn hawl i gael o leiaf y Cyflog Byw Cenedlaethol.

Dylai cyflogwyr sicrhau eu bod yn barod drwy gymryd:

  • y camau cyflogres priodol ar gyfer pob gweithiwr sy’n gymwys
  • a pharhau i dalu i’w gweithwyr yr hyn y mae ganddynt hawl iddo

I gael rhagor o wybodaeth am dalu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn gywir, gall cyflogwyr gofrestru ar gyfer un o’n gweminarau byw ym mis Mawrth.

Hysbysiadau Cod P9

Bydd hysbysiadau Cod P9 yn cael eu hanfon drwy e-bost o’r wythnos sy’n dechrau ar 8 Chwefror 2021 hyd at 7 Mawrth 2021. Bydd yr hysbysiad yn rhoi gwybod y gellir mynd ar-lein i weld y cod ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n dechrau ar 6 Ebrill 2021. I sicrhau eich bod yn cael yr e-byst hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi’ch cyfeiriad e-bost diweddaraf.

Wrth fewngofnodi i’r cyfrif ar-lein i weld yr hysbysiadau P9, sicrhewch fod y flwyddyn dreth gywir yn cael ei dewis o’r gwymplen, sef 2021-2022. Os nad yw’r hysbysiadau P9 yn dangos o hyd, allgofnodwch a mewngofnodwch i’r cyfrif y diwrnod canlynol. Dylai hyn sicrhau bod modd bwrw golwg dros yr hysbysiadau P9 ar-lein.

Disgwyliwn i hysbysiadau Cod P9 ar bapur gyrraedd cyflogwyr ar neu oddeutu 19 Mawrth 2021. Os na chewch eich hysbysiadau P9 ar bapur mewn da bryd ar gyfer y cyfnod cyflog cyntaf ar neu ar ôl 6 Ebrill 2021, gallwch ofyn am gopïau eraill drwy ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM ar 0300 200 1900. Gellir dim ond gwneud cais am hysbysiad deublyg mewn perthynas â chynllun llawn y cyflogwr, ac nid yw ar gael ar gyfer codau treth unigol. Byddwn yn delio â’ch cais cyn gynted ag y bo modd, ond dylech aros 14 diwrnod gwaith cyn cysylltu â’r Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM eto. Os yw’ch cais yn cynnwys newid y math o gyfryngau, (er enghraifft o bapur i’r rhyngrwyd), caniatewch bum diwrnod gwaith ychwanegol i roi amser i’n systemau ddiweddaru.

Mae cyfraddau a newidiadau i drothwyon a gyhoeddwyd gan Gymru, y DU a’r Alban bellach ar gael i’w gweld ar-lein. Bydd codau treth a gyfrifir ar gyfer 6 Ebrill 2021 yn cynnwys y newidiadau hyn.

Mae cyfraddau a throthwyon Treth Incwm yr Alban yn amodol ar gymeradwyaeth seneddol.

Ar ôl i’r holl weinyddiaethau perthnasol gymeradwyo’r holl gyfraddau a throthwyon, efallai y bydd angen wedyn i CThEM gynnal ymarfer ailgodio i gynnwys unrhyw newidiadau perthnasol. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu maes o law.

Cyfeiriadau cyflogeion

Os oes gennych unrhyw gyflogeion sy’n byw yng Nghymru neu’r Alban am ran fwyaf o’r flwyddyn, mae’n rhaid iddynt sicrhau bod gan CThEM gofnod o fanylion eu cyfeiriad cywir. Mae hyn er mwyn iddynt allu talu’r swm cywir o Dreth Incwm. Gofynnwch iddynt sicrhau bod manylion eu cyfeiriad wedi’u diweddaru drwy fynd i’w Cyfrif Treth Personol, neu drwy roi gwybod am y newid i CThEM ar-lein.

Mae’n bosibl y bydd darparwr eich meddalwedd cyflogres yn gofyn i chi ddefnyddio diweddariad er mwyn gweithredu’r cod ’S’ neu ’C’. Os ydych yn cael unrhyw broblemau gyda’ch meddalwedd, cysylltwch â’ch darparwr meddalwedd i gael arweiniad.

Cofrestru fel cyflogwr

Fel arfer, bydd angen i chi gofrestru fel cyflogwr gyda Chyllid a Thollau EM (CThEM) pan fyddwch yn dechrau cyflogi staff neu’n defnyddio isgontractwyr ar gyfer gwaith adeiladu. Mae’n rhaid i chi gofrestru cyn y diwrnod cyflog cyntaf.

Unwaith y bydd CThEM wedi prosesu’ch cais, mae’n cymryd pum diwrnod gwaith i gael eich Cyfeirnod TWE y Cyflogwr newydd. Ni allwch gofrestru fwy na deufis cyn i chi ddechrau talu pobl.

Os hoffech gofrestru busnes a fydd yn cychwyn ar neu ar ôl 6 Ebrill, a’ch bod yn rhoi gwybod i ni yn ystod y flwyddyn dreth flaenorol, ni fydd CThEM yn gallu dechrau prosesu’ch cais tan 6 Ebrill. Gallai hyn olygu oedi cyn i chi gael eich manylion cofrestru.

Gall y rhan fwyaf o gyflogwyr newydd gofrestru ar-lein. Mae gwybodaeth ynghylch a oes angen i chi gofrestru, a sut i wneud hynny, ar GOV.UK

Os na fydd unrhyw gyflwyniadau neu wybodaeth yn dod i law CThEM cyn pen 120 diwrnod ar ôl cyhoeddi’ch cyfeirnod TWE newydd, yna gellir canslo’ch cynllun TWE. Os bydd hyn yn digwydd, bydd CThEM yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi.

Os na fyddwch yn talu unrhyw un am gyfnod sy’n fwy nag un mis, ond yn dal i fynnu bod eich cynllun TWE yn aros ar agor, gallwch roi gwybod i CThEM drwy lenwi’r meysydd ‘Cyfnod o Anweithgarwch’ ar eich Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr. Mae arweiniad ar ba wybodaeth am y gyflogres i’w hysbysu ar gael i’ch helpu.

Gall methu â gwneud hyn arwain at ddod â’ch cynllun TWE i ben yn anghywir. Ni fyddwch bob amser yn cael hysbysiad ysgrifenedig gan CThEM pan fydd hyn yn digwydd.

Oedi i’r gwasanaeth Rhif Yswiriant Gwladol – diweddariad

Ym Mwletin y Cyflogwr 86, cawsoch wybod gennym fod yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cynnig gwasanaeth Rhif Yswiriant Gwladol cyfyngedig, ac fe’ch atgoffwyd y gallwch gyflogi rhywun cyn iddo gael ei Rif YG, ar yr amod y gallwch gadarnhau bod ganddo’r hawl gyfreithiol i weithio.

Wrth wneud cais am Rif YG, mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael pwy ydynt wedi’i ddilysu. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn parhau i weithio ar ddatblygu gwasanaeth digidol. Mae’r fersiwn ddiweddaraf yn cael ei phrofi ar hyn o bryd a bydd yn galluogi ymgeiswyr, y mae pwy ydynt wedi’i ddilysu gan Adran arall o Lywodraeth y DU, i wneud cais am Rif YG.

Bydd diweddariadau pellach yn ymwneud â phryd y bydd y gwasanaeth hwn ar gael ar GOV.UK.

Cyfrif Treth Busnes – data 2013-2014 a 2014-2015 i gael eu dileu

Ar hyn o bryd, mae’r Cyfrif Treth Busnes yn dangos data o ran rhwymedigaethau a thaliadau cyflogwyr ar gyfer 2013-2014 ymlaen.

Yn unol â gwasanaethau ar-lein eraill CThEM, bydd hyn yn cael ei gyfyngu i’r flwyddyn dreth gyfredol ynghyd â’r 6 blynedd flaenorol.

Mae’r newid yn golygu na fydd data ar gyfer 2013-2014 a 2014-2015 yn cael eu dangos ar y Cyfrif Treth Busnes.

Ewch ati nawr i gael copi o gofnodion 2013-2014 a/neu 2014-2015 os ydych chi am gadw copi.

Bydd data ar gyfer 2013-2014 yn cael eu dileu ym mis Chwefror 2021. Bydd data ar gyfer 2014-2015 yn cael eu dileu ym mis Ebrill 2021.

Gwyliau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr cyn-filwyr

Yng Nghyllideb y Gwanwyn 2020, cyhoeddodd y Canghellor y byddai gwyliau Yswiriant Gwladol yn cael eu cyflwyno i gyflogwyr sy’n cyflogi cyn-aelodau o luoedd arfog rheolaidd y DU. Bydd y gwyliau yn eithrio cyflogwyr rhag unrhyw rwymedigaeth CYG ar gyflog cyn-filwr hyd at y Trothwy Eilaidd Uchaf ym mlwyddyn gyntaf cyflogaeth sifilaidd y cyn-filwr.

Bydd y rhyddhad hwn ar gael o fis Ebrill 2021 ymlaen. Bydd cyflogwyr yn gallu hawlio’r rhyddhad hwn am 12 mis gan ddechrau o ddiwrnod cyntaf y gyflogaeth sifil gyntaf i gyn-filwyr ar ôl gadael lluoedd arfog Ei Mawrhydi. Bydd cyflogwyr dilynol yn gallu hawlio’r rhyddhad hwn yn ystod y cyfnod 12 mis hwn.

Bydd gwasanaeth sy’n gwbl ddigidol ar gael i gyflogwyr o fis Ebrill 2022 ymlaen; fodd bynnag, bydd trefniadau trosiannol ar waith ym mlwyddyn dreth 2021 i 2022 a bydd y rhain yn galluogi cyflogwyr cyn-filwyr i gofnodi manylion cyflogaeth cyn-filwyr i hawlio’r rhyddhad gwyliau o fis Ebrill 2022 ymlaen.

Cyhoeddodd y llywodraeth ymgynghoriad polisi ar ddyluniad y rhyddhad hwn ar 21 Gorffennaf 2020, a ddaeth i ben ar 5 Hydref 2020. Mae deddfwriaeth ddrafft ar gyfer y mesur hwn wedi’i chyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad technegol. Mae hwn ar agor ar hyn o bryd a bydd yn cau ar 8 Mawrth 2021.

Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae angen i gyflogwyr ei wneud os ydynt yn cyflogi cyn-filwr o fis Ebrill 2021 ymlaen ar gael ar GOV.UK.

Mae’r Buddiant Fan a’r Buddiant Tanwydd Car a Fan yn codi ar gyfer 2021

Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd y taliad buddiant fan a’r taliadau buddiant tanwydd ar gyfer ceir a faniau yn cael eu codi gan y Mynegai Prisiau i Ddefnyddwyr o 6 Ebrill 2021 ymlaen. Bydd yr uwchraddiad yn dod i rym fel a ganlyn:

  • Bydd y Tâl Buddiant Fan yn codi o £3,490 i £3,500
  • Bydd y lluosydd Tâl Buddiant Tanwydd Car yn codi o £24,500 i £24,600
  • Bydd y Tâl Buddiant Tanwydd Fan yn codi o £666 i £669

Bydd y Llywodraeth yn gosod yr offeryn statudol ar gyfer codi’r taliadau hyn gerbron y Tŷ ar 9 Mawrth 2021. Bydd nodyn gwybodaeth am dreth ac effeithiau (TIIN) yn cael ei gyhoeddi yng Nghyllideb 2021, a bydd ar gael yn www.gov.uk/government/collections/tax-information-and-impact-notes-tiins.

Newidiadau i geir cwmni ar gyfer P11D: Cerbydau Allyriadau Isel Iawn a’r Weithdrefn Fyd-eang Profi Cerbydau Ysgafn Wedi’u Cysoni

Cerbydau Allyriadau Isel Iawn (ULEV)

I gefnogi ymrwymiad y llywodraeth i wella ansawdd aer mewn trefi a dinasoedd, rydym yn gwella’r cyfrifiad buddiant car a buddiant tanwydd car.

Ar 6 Ebrill 2020, gwnaethom gyflwyno 11 band newydd ar gyfer Cerbydau Allyriadau Isel Iawn, gan gynnwys band allyriadau sero ar wahân.

Os oes gan gar ffigur allyriadau CO2 sy’n 1-50g/km, bydd yn rhaid i chi nodi milltiroedd allyriadau sero’r car. Dyma’r pellter y gall y car deithio mewn milltiroedd ar un gwefriad trydanol.

Gweithdrefn Fyd-eang Profi Cerbydau Ysgafn Wedi’u Cysoni (WLTP)

Yn 2017, cyhoeddodd y Llywodraeth y bydd yn disodli’r system ar gyfer mesur allyriadau ceir at ddibenion cyfrifo treth car cwmni a tholl ecséis cerbydau drwy weithredu’r gyfundrefn brofi newydd, y Weithdrefn Fyd-eang Profi Cerbydau Ysgafn Wedi’u Cysoni. Nod y Weithdrefn Fyd-eang Profi Cerbydau Ysgafn Wedi’u Cysoni yw bod yn fwy cynrychioliadol o amodau gyrru’r byd go iawn.

Yn dilyn adolygiad a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2019, cadarnhaodd y Llywodraeth y bydd ceir newydd a gofrestrir am y tro cyntaf ar ôl 6 Ebrill 2020 yn defnyddio ffigurau allyriadau CO2 yn seiliedig ar y Weithdrefn Fyd-eang Profi Cerbydau Ysgafn Wedi’u Cysoni. Bydd ceir a gofrestrwyd cyn 6 Ebrill 2020 yn defnyddio ffigurau allyriadau CO2 yn seiliedig ar y drefn brofi bresennol, sef y Cylch Gyrru Ewropeaidd Newydd (NEDC).

Mae’r bandiau canran priodol ar gyfer 2020 i 2021 i’w gweld yn EIM24705.

Sut mae hyn yn effeithio arnoch

Ni fydd unrhyw newid i’r ffordd yr ydych yn adrodd eich data Treth Car Cwmni ar hyn o bryd. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol ar y P11D.

Cwblhau adran F ar ffurflen P11D ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021

O 6 Ebrill 2021 ymlaen, bydd maes milltiroedd allyriadau sero newydd wedi’i nodi ar ffurflen P11D. Os oes gan gar ffigur allyriadau CO2 sy’n 1-50g/km, bydd yn rhaid i chi nodi milltiroedd allyriadau sero’r car. Dyma’r pellter mwyaf mewn milltiroedd y mae’n bosibl gyrru’r car hybrid yn y modd trydanol heb ailwefru’r batri.

  1. Bydd y ffurflen P11D ar-lein yn cael ei diweddaru gyda’r newidiadau. Ar gyfer cyflwyniadau P11D ar bapur bydd angen i chi sicrhau eich bod yn cwblhau’r fersiwn ddiweddaraf gan efallai na fydd copïau hanesyddol yn cynnwys y maes milltiroedd allyriadau sero newydd. Bydd y rhain ar gael drwy’ch dull sefydledig o 6 Ebrill 2021 ymlaen.

  2. O 6 Ebrill 2021 ymlaen, bydd yn orfodol darparu’r dyddiad y cofrestrir car am y tro cyntaf. Bydd maes newydd ar gael i gofnodi’r wybodaeth hon.

Ble i ddod o hyd i’r wybodaeth ychwanegol:

Milltiroedd allyriadau sero

Os ydych yn prydlesu’r cerbyd, dylech gael yr eitem ddata newydd hwn yn yr un modd ag a gewch ddata’ch Treth Car Cwmni gan y cwmni ceir ar brydles neu gan ddarparwr y fflyd.

Os nad yw’r wybodaeth hon ar gael, gallwch gael y ffigur milltiroedd allyriadau sero drwy wneuthurwr y car.

Os ydych yn berchen ar y cerbyd, gallwch ddod o hyd i’r ffigur milltiroedd allyriadau sero ar Dystysgrif Cydymffurfio (CoC) eich cerbyd.

Efallai y bydd y milltiroedd allyriadau sero yn cael eu harddangos fel ‘amrediad trydan’ ar y CoC:

  • Ar gyfer ceir hybrid a gofrestrwyd cyn 6 Ebrill 2020 (NEDC), dylid defnyddio’r ‘amrediad trydan’ o fewn adran 49.2 ar y CoC
  • Ar gyfer ceir hybrid a gofrestrwyd o 6 Ebrill 2020 ymlaen (WLTP), dylid defnyddio’r ‘amrediad trydan (EAER)’ o fewn adran 49.5.2 ar y CoC
  • Gellir cyfeirio at hyn hefyd fel Cyfradd Gyfwerth Flynyddol (AER) (EAER) gyfunol neu Gyfradd Gyfwerth Flynyddol (AER) (EAER) gyfatebol gyda’i gilydd

Os yw’r ffigur milltiroedd allyriadau sero’n ymddangos ar y CoC mewn cilomedrau, bydd yn rhaid i chi drosi’r ffigur yn filltiroedd a’i dalgrynnu i’r filltir agosaf cyn diweddaru’r maes hwn ar y P11D.

Gallai methu â chael y data drwy’r ffynhonnell gywir arwain at gyfrifo buddiant car cwmni anghywir.

Dyddiad cofrestru am y tro gyntaf

Gellir cael dyddiad cofrestru’r car am y tro cyntaf drwy’r cwmni ceir ar brydles neu ddarparwr y fflyd. Mae’r wybodaeth hefyd ar gael ar lyfr log y car (V5C).

Cyfartalu Ceir

At ddibenion cyfartalu ceir o flwyddyn dreth 2020 i 2021 ymlaen, bydd angen ffigur milltiroedd allyriadau sero ar unrhyw CO2 tybiannol rhwng 1-50g/km. Os yw’r senario hwn yn berthnasol, dylid nodi ffigur diofyn o 50 yn y maes milltiroedd allyriadau sero wrth gyflwyno manylion car y cwmni i CThEM.

Sicrhau eich bod yn bodloni’r holl feini prawf cytundeb setliad TWE

Rydym am atgoffa busnesau bod y Cytundeb Setliad TWE yn gytundeb gwirfoddol ac na ellir ei ddefnyddio bob amser i adrodd am dreuliau neu fuddiannau.

Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod yr amodau a amlinellir yn yr arweiniad ynghylch yr hyn sydd wedi’i gynnwys ar Gytundeb Setliad TWE wedi’u bodloni. Dylai’r draul fod yn fach, yn afreolaidd neu’n anymarferol.

Dylech ystyried a yw eitem yn bodloni’r amodau hyn cyn defnyddio’r Cytundeb Setliad TWE. Er enghraifft, er bod costau adleoli’n cael eu rhoi fel enghraifft o gost afreolaidd, ni fyddai taliad rhent misol parhaus sy’n gysylltiedig â’r adleoli yn bodloni meini prawf Cytundeb Setliad TWE.

Cyflwynir adroddiadau P11d a Chytundeb Setliad TWE ar ôl diwedd y flwyddyn dreth fel y gellir adolygu treuliau a buddiannau a’u hadrodd yn y modd priodol.

Newidiadau i driniaeth taliadau terfynu a chyflog rhybudd ôl-gyflogaeth ar gyfer Treth Incwm

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd CThEM ddeddfwriaeth ddrafft sy’n effeithio ar gyflog rhybudd ôl-gyflogaeth. Disgwylir i’r newidiadau hyn ddod i rym o 6 Ebrill 2021 ymlaen, hyd nes y ceir cymeradwyaeth gan y Senedd.

Mae’r newidiadau’n darparu ar gyfer cyfrifiad cyflog rhybudd ôl-gyflogaeth amgen pan ddiffinnir cyfnod cyflog cyflogai mewn misoedd, ond nid yw ei gyfnod rhybudd contractiol neu gyfnod rhybudd ôl-gyflogaeth yn nifer o fisoedd cyfan. O 6 Ebrill 2021 ymlaen, bydd yn ofynnol i gyflogwyr ddefnyddio’r cyfrifiad amgen ar gyfer pob cyflogai sy’n bodloni’r meini prawf hyn. Mae cyflogwyr wedi cael yr opsiwn o ddefnyddio’r cyfrifiad hwn ers mis Hydref 2019, ar sail statudol ychwanegol, ond o fis Ebrill ymlaen bydd ei angen arnynt.

Mae’r newidiadau hyn hefyd yn alinio triniaeth dreth cyflog rhybudd ôl-gyflogaeth ar gyfer unigolion nad ydynt yn preswylio ym mlwyddyn terfynu eu cyflogaeth yn y DU gyda’r driniaeth ar gyfer holl breswylwyr y DU. O 6 Ebrill 2021 ymlaen, bydd enillion sy’n codi yn unol â chyflog rhybudd ôl-gyflogaeth yn destun i Dreth Incwm, Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 a TWE ar gyfer pobl dibreswyl, a hynny ar yr amod y byddent wedi gweithio yn y DU yn ystod y cyfnod o rybudd.

Tynnu’n ôl deunydd ysgrifennu P45 a P60 swmp

Ym mis Mawrth 2020, gwnaethom roi gwybod i chi y byddem yn tynnu’r gwasanaeth yn ôl sy’n caniatáu i gyflogwyr archebu ffurflenni P45 a P60 gwag. Daeth y newid hwn i rym ar 1 Awst 2020.

Mae’n rhaid i chi roi P60 i bob cyflogai ar ddiwedd pob blwyddyn dreth, a P45 pan fyddant yn rhoi’r gorau i weithio i chi.

Mae’r mwyafrif helaeth o gyflogwyr eisoes yn cynhyrchu eu ffurflenni P45 a P60 eu hunain, drwy ddefnyddio meddalwedd rad ac am ddim neu feddalwedd fasnachol. Gellir gweld rhestr lawn o feddalwedd cyflogres gymeradwy yn yr adran meddalwedd cyflogres ar GOV.UK. Mae’r rhain yn cynnwys meddalwedd am ddim i fusnesau sydd â llai na 10 o gyflogeion.

Nid yw’r newid yn effeithio ar gyflogwyr sydd wedi’u heithrio rhag gweithredu eu cyflogres ar-lein, a gallant barhau i archebu dros y ffôn.

Cael rhagor o wybodaeth ac anfon adborth

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw i’r funud gyda newidiadau drwy gofrestru i gael ein hysbysiadau e-bost. Gallwch hefyd ein dilyn ar twitter@HMRC.gov.uk.

Anfonwch eich adborth ynghylch y rhifyn hwn o Fwletin y Cyflogwr mewn e-bost at: wendy.bell1@hmrc.gov.uk.