Guidance

Nodiadau canllaw ar gyfer cwblhau ffurflen VO 7012: cynnig i newid rhestr ardrethu 2017 (Cymraeg)

Updated 17 July 2023

Applies to Wales

1. Cyn i chi ddechrau

Gellir defnyddio’r ffurflen hon i apelio i newid prisiad eich eiddo yng Nghymru. Os yw eich eiddo yn Lloegr, mae angen i chi fynd i wasanaeth gwirio a herio y VOA.

Bydd angen manylion arnoch am werth ardrethol eich eiddo a gwybodaeth arall sydd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (ASB) am eich eiddo. Ceir y manylion hyn ar-lein gyda phrisiad yr eiddo yn neu ar eich bil ardrethi.

Os telir rhent neu ffi drwyddedu, bydd angen manylion y rhent cyfredol arnoch, gan gynnwys pryd y’i talwyd gyntaf, ac enw a chyfeiriad perchennog yr eiddo. Mae’n bwysig eich bod yn nodi digon o wybodaeth am yr eiddo i’n galluogi i’w adnabod yn gywir a’n helpu i fodloni gofynion cyfreithiol. Os nad ydych yn ateb bob adran yn llawn mae’n bosibl na fydd eich ffurflen yn cael ei debyn.

2. Pwy gaiff wneud apêl (a elwir hefyd yn gynnig)?

Y perchennog neu’r deiliad presennol (neu asiant sy’n ei gynrychioli), neu bobl â buddiannau cyfreithiol penodol yn yr eiddo ar y dyddiad y gwneir y cynnig.

Cyn-dalwyr ardrethi’r eiddo sydd am herio newid a wnaed i’r rhestr ardrethu pan oeddent yn dalwr ardrethi.

Mewn rhai amgylchiadau, yr awdurdod bilio lle mae’r eiddo wedi’i leoli.

3. Rhesymau dros apelio

Erbyn hyn, dim ond 2 reswm sydd dros gynnig newid (gwneud apêl) i werth ardrethol eiddo yng Nghymru sydd ar restr ardrethu 2017. Y rhesymau yw (y naill neu’r llall o’r canlynol):

  • bod y gwerth ardrethol yn anghywir oherwydd newid a wnaed gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio
  • bod y prisiad yn anghywir oherwydd penderfyniad llys

Mae ‘gwneud apêl’ yn enw arall ar gynnig gwneud newid.

4. Terfynau amser

Mae’n rhaid gwneud cynnig sy’n cyfeirio at benderfyniad Tribiwnlys Prisio, neu lys uwch, erbyn 30 Medi 2023 fan bellaf.

Ar ôl 31 Mawrth 2024, ni all Asiantaeth y Swyddfa Brisio newid prisiadau sydd â dyddiad dod i rym cyn 1 Ebrill 2023.

Os yw eich cynnig yn ymwneud â newid i’r eiddo neu newidiadau yn yr ardal leol, mae’n bwysig dweud wrthym cyn gynted ag y bo modd. Mae hyn oherwydd bod y dyddiad rydym yn cael y cynnig yn pennu’r dyddiad rydym yn ystyried y newidiadau hynny.

5. Gwybodaeth gyffredinol

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ardrethi busnes a dod o hyd i’ch gwerth ardrethol ar-lein.

Y Swyddog Prisio sy’n llunio’r rhestr ardrethu ac mae cynghorau lleol yn defnyddio’r wybodaeth ynddi er mwyn cyfrifo eich bil ardrethi. Mae’n cynnwys cyfeiriad yr eiddo, y gwerth ardrethol (gwerth yr eiddo), a’r dyddiad y mae’r gwerth hwn yn weithredol ohono.

Sylwer bod gwerthoedd ardrethol yn seiliedig ar y rhent y gallai’r eiddo fod wedi cael ei osod amdano ar 1 Ebrill 2015. Ni fydd unrhyw newidiadau cyffredinol yn y farchnad rentu ers hynny, i fyny neu i lawr, wedi effeithio ar y gwerth ardrethol.

Yn dilyn ailbrisiad, bydd y gwerthoedd ardrethol yn gyffredinol yn aros heb eu newid tan yr ailbrisiad nesaf oni newidir yr eiddo neu’r ardal leol.

6. Os oes angen help arnoch wrth lenwi’r ffurflen hon

E-bostiwch - ratingwales@voa.gov.uk

7. Llenwi’r ffurflen

Gallwch ddweud wrthym am fwy nag un eiddo, er enghraifft yn achos rhannu neu gyfuno eiddo, drwy ddefnyddio’r ffurflen hon. Cofnodwch fanylion yr eiddo cyntaf ar y ffurflen a manylion unrhyw eiddo arall ar ddalen ar wahân. Yna, dylid ei hatodi i’r ffurflen.

Sylwer - os ydych yn cynnig newidiadau ar ddyddiadau gwahanol, mae’n rhaid i chi ddefnyddio ffurflen ar wahân ar gyfer pob newid.

8. Rhan A: manylion am yr eiddo/asesiad ardrethi

Mae’r adran hon yn cyfeirio at y manylion sydd gan ASB. Ceir y manylion hyn ar-lein gyda phrisiad yr eiddo yn, ar eich bil ardrethi, neu ar Hysbysiad o Newid a gyflwynwyd gan y Swyddog Prisio.

1) Nodwch gyfeiriad llawn yr eiddo sydd gan ASB. Os ydych yn cynnig cofnod newydd (gweler blwch 12 G), nodwch y cyfeiriad yr ydych yn credu y dylid ei ddangos. Os yw’r cyfeiriad presennol yn anghywir, dangoswch hefyd y cyfeiriad post llawn cywir. Defnyddiwch flwch 14 Rhan C y ffurflen os nad oes digon o le.

2) Nodwch ddisgrifiad o’r eiddo, e.e. “Siop ac eiddo”. Gallwch ddod o hyd i hyn gyda phrisiad eich eiddo ar-lein.

3) Nodwch enw deiliad presennol yr eiddo a ddangosir yn 1 ar y ffurflen. Os yw’r eiddo’n wag, nodwch “Gwag”.

4) Dylid nodi cyfeiriad post llawn perchennog yr eiddo yma os yw’n wahanol i’r hyn a ddangosir yn 1 ar y ffurflen. Fel arall, nodwch “fel 1”.

5) Nodwch werth ardrethol yr eiddo a geir ar-lein.

6) Y dyddiad gweithredol yw’r dyddiad y mae atebolrwydd newydd neu a newidiwyd i dalu ardrethi busnes yn dechrau. Os anghytunwch â’r dyddiad gweithredol, nodwch hyn yn Rhan B y ffurflen.

7) Os yw’r perchennog yn meddiannu’r eiddo, ticiwch y blwch “Perchennog / meddianedig”. Os nad yw, nodwch enw perchennog yr eiddo yn y lle a ddarperir.

8) Dylid nodi cyfeiriad post llawn y perchennog dim ond os yw’n wahanol i’r hyn a ddangosir ar gyfer 1 a 4. Fel arall, nodwch “fel 1” neu “fel 4” fel y bo’n briodol.

9) Os nad yw’r perchennog yn meddiannu’r eiddo, a thelir rhent neu ffi drwydded, mae’n rhaid i chi dicio’r blwch “Ydy”. Yna, nodwch y swm cyfredol sydd i’w dalu bob blwyddyn (ac eithrio ardrethi, taliadau gwasanaeth a TAW, os yw’n berthnasol). Cewch hefyd nodi’r dyddiad y daeth y rhent yn daladwy gyntaf. Fel arfer, y dyddiad hwn yw pan ddechreuodd y brydles neu’r cytundeb neu mewn adolygiad rhent dilynol. Nodwch y dyddiad nesaf yr adolygir y rhent os ydych yn ei wybod. Os ydych mewn cyfnod heb rent, nodwch hyn yn y blwch “rhent blynyddol cyfredol”. Gall y Swyddog Prisio anfon hysbysiad statudol atoch yn gofyn am fwy o fanylion am y rhent.

10) Nodwch enw llawn yr awdurdod bilio sy’n casglu’r ardrethi ar yr eiddo.

11) Nodwch gyfeirnod yr awdurdod bilio a geir gyda phrisiad yr eiddo ac ar eich bil ardrethi.

9. Rhan B: manylion y newidiadau arfaethedig

Dylid defnyddio’r rhan hon o’r ffurflen i gofnodi natur y newid rydych yn ei gynnig.

12) Mae’r gyfres o flychau ticio A i E yn nodi llawer o’r newidiadau mwyaf cyffredin. Dylid defnyddio blwch G os am gynnwys cofnod newydd (hynny yw, un na ddangosir mewn rhestr ardrethu ar hyn o bryd). Er mwyn sicrhau y gallwn dderbyn yr apêl, mae’n rhaid i chi hefyd lenwi pob blwch ychwanegol yn yr un rhes. Os nad yw’r newid rydych am ei wneud yn cael ei ddisgrifio yn 12A-E neu G, defnyddiwch y blwch “newidiadau eraill” yn 12F, gan nodi’n union pa newid rydych yn ei gynnig. Hefyd, nodwch o ba ddyddiad yr ydych yn credu y dylai’r newid arfaethedig fod yn weithredol.

Rydym wedi rhoi rhai enghreifftiau i’ch helpu i lenwi’r rhan hon o’r ffurflen.

9.1 Enghraifft 1

Os ydych yn credu bod y prisiad ar 1 Ebrill 2017 yn anghywir, dylech dicio blwch A, cynnwys y gwerth rydych yn credu ei fod yn gywir yn y blwch nesaf, a nodi “01-04-2017” yn y blwch olaf yn y rhes.

9.2 Enghraifft 2

Os ydych yn apelio oherwydd newid i’r eiddo neu yn yr ardal leol, bydd angen i chi dicio blwch A a nodi ei effaith ar y gwerth. Yn y blwch “yn weithredol o”, dylid nodi’r dyddiad rydych yn credu i’r newid ddigwydd, e.e. 10 Mai 2017, fel “10-05-2017”.

9.3 Enghraifft 3

Os ydych yn credu na ddylid cynnwys yr eiddo mwyach yn y rhestr ardrethu, e.e. nid yw siop yn masnachu mwyach ac mae wedi’i throi’n ddefnydd cwbl ddomestig, ticiwch flwch B a dangoswch yn y blwch ar y rhes hon y dyddiad rydych yn credu i’r newid ddigwydd.

9.4 Enghraifft 4

Os ydych yn credu y dylid dangos dau neu fwy o gofnodion ar y rhestr fel un neu fwy o gofnodion gwahanol, ticiwch flwch D. Yna, nodwch nifer y cofnodion presennol a nifer y cofnodion newydd rydych yn credo y dylid eu cynnwys. Mae’n rhaid i chi hefyd gynnwys y dyddiad i’r newid ddigwydd. Gall yr opsiwn hwn fod yn berthnasol dim ond pan fo un eiddo bellach wedi’i feddiannu mewn eiddo gwahanol, h.y. cyfunwyd yr eiddo.

10. Rhan C: seiliau dros eich apêl

10.1 Ateb Cwestiwn 13 - opsiynau ticio blychau

Erbyn hyn, dim ond 2 reswm sydd dros gynnig y newid (gwneud apêl) i’r gwerth ardrethol yr ydych wedi’i ddangos yn Rhan B.

Blwch 13/02: os ydych yn credu bod y gwerth ardrethol yn anghywir yn dilyn newid a wnaed gan y Swyddog Prisio. Nodwch hefyd y dyddiad i’r newid gael ei wneud. Dangosir y dyddiad newid rhestr hwn ar-lein neu ar eich bil ardrethi ac yn yr “Hysbysiad o Newid” a gyflwynwyd gan y Swyddog Prisio. Os ydych hefyd yn anghytuno â dyddiad gweithredol y newid, ticiwch flwch 13/03 a nodwch y dyddiad rydych yn credu ei fod yn briodol.

Blwch 13/11: os ydych yn credu bod y cofnod a ddangosir mewn rhestr ardrethu’n anghywir ar ôl penderfyniad Tribiwnlys neu Lys sy’n ymwneud ag eiddo arall. Mae’n rhaid i chi nodi dyddiad y penderfyniad, enw’r Tribiwnlys/Llys a chyfeiriad yr eiddo y mae’r penderfyniad yn ymwneud ag ef. Mae’n rhaid i chi hefyd roi eich rhesymau dros gredu bod y penderfyniad yn berthnasol i’r eiddo a nodwyd yn Rhan A. Mae’n rhaid i chi hefyd nodi pam, ar ôl y penderfyniad, eich bod yn credu bod y cofnod ar y rhestr yn anghywir. Os na rowch yr holl wybodaeth hon, ni ellir derbyn y cynnig o bosibl.

Peidiwch â dewis unrhyw un o’r blychau eraill. Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio’n gwrthod eich cynnig os gwnewch hynny.

Mae’r opsiynau hyn wedi’u crynhoi. Ceir yr union ddatganiadau yn y gyfraith yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apeliadau) (Cymru) 2005.

11. Rhan C: rhesymau manwl

14) Mae’n rhaid i chi roi rhesymau manwl pam eich bod yn credu bod y cofnod yn y rhestr ardrethu’n anghywir.

Er enghraifft, o ystyried opsiwn 13/02, efallai y bydd y Swyddog Prisio wedi cynyddu’r prisiad er mwyn ystyried estyniad i’r eiddo. Efallai y byddwch yn anghytuno â maint yr estyniad ym manylion yr eiddo a’r dyddiad y daeth yr estyniad ar gael i’w ddefnyddio. Dylech egluro hyn, gan ddarparu dimensiynau a dyddiad newydd.

12. Rhan D: manylion am y sawl sy’n llenwi’r ffurflen hon

Ychwanegwch y cyfeiriad lle gallwn gysylltu â chi ynghylch yr apêl hon. Nid oes angen iddo fod yn gyfeiriad yr eiddo lle rydych yn cynnig y newidiadau.

Bydd llenwi’r rhan hon o’r ffurflen yn helpu cyfathrebu rhyngom ni ac unrhyw bartïon eraill a allai fod yn gysylltiedig â’ch apêl. Felly, rydym yn awgrymu y dylech lenwi’r rhan hon mor llawn ag y bo modd.

Os ydych chi’n asiant, bydd angen i’ch cleient roi yr awdurdod i chi gyflwyno apeliadau ar eu rhan.

15) Ticiwch y blwch sy’n nodi ym mha rinwedd y gwneir y cynnig, h.y. yr un sy’n disgrifio gywiraf eich cysylltiad. Ticiwch un blwch yn unig. Os dewiswch “Rhinwedd Arall”, esboniwch ym mha rinwedd rydych wedi llofnodi’r ffurflen.

16) Nodwch eich enw mewn priflythrennau.

17) Dylid nodi eich llofnod arferol oddi tano a dylid nodi’r dyddiad ar y ffurflen.

18) Nodwch god post llawn y cyfeiriad y dylid anfon gohebiaeth iddo. Fodd bynnag, os yw’r cyfeiriad hwn eisoes wedi’i nodi’n llawn yn Rhan A, nodwch “fel ym mlwch 1” neu “4” neu “8”, pa un bynnag sy’n briodol.

19) Nodwch eich rhif ffôn yn ystod y dydd (gyda’r cod STD llawn).

20) Nodwch eich rhif ffôn symudol os gwelwch yn dda (dewisol).

21) Os ydych am gael gohebiaeth drwy e-bost, nodwch eich cyfeiriad e-bost, gan sicrhau ei fod yn glir ac yn gyflawn.

22) Nodwch yn yr adran hon y cyfeirnod (os oes un) yr hoffech iddo gael ei ddyfynnu yn yr holl ohebiaeth yn y dyfodol.

13. Ble i anfon y ffurflen hon

Ar ôl ei llenwi, bydd angen i chi anfon y ffurflen drwy e-bost i wales2017appeals@voa.gov.uk.

14. Ein safonau

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio’n ymrwymedig i gynnig gwasanaeth o safon i bawb mae’n ymdrin ag ef. Nodir y safonau gwasanaeth y gallwch eu disgwyl yn siarter yr Asiantaeth.

Sicrhewch fod yr holl adrannau priodol wedi’u llenwi cyn llofnodi’r ffurflen hon.

Sylwer bod cynnig yn ddogfen gyhoeddus a gall unrhyw un ei harchwilio. Hefyd, mae’n rhaid anfon copi o’ch cynnig, gan y Swyddog Prisio, at unrhyw dalwr ardrethi arall yr eiddo y mae eich cynnig yn ymwneud ag ef.