Papur polisi

Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Draenogiaid Môr

Mae’r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Draenogiaid Môr yn disgrifio sut y gallwn reoli pysgodfeydd draenogiaid môr yn gynaliadwy yn yr hirdymor yn nyfroedd Cymru a Lloegr.

Dogfennau

Manylion

Mae’r cynllun rheoli pysgodfeydd draenogiaid môr yn nodi’r stociau yn nyfroedd Cymru a Lloegr.

Paratowyd y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd gan Defra a Llywodraeth Cymru, ar y cyd â rhanddeiliaid o bob rhan o’r sector pysgodfeydd draenogod môr. Cafodd y gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid ei hwyluso gan Policy Lab, tîm amlddisgyblaethol o lunwyr polisi, dylunwyr ac ymchwilwyr yn yr Adran Addysg.

Mae’r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Draenogiaid Môr wedi cael ei baratoi a’i gyhoeddi i fodloni’r gofynion sydd wedi’u nodi yn Neddf Pysgodfeydd 2020.

Darllenwch fwy am gynlluniau rheoli pysgodfeydd (yn Saesneg).

Yr ardaloedd

Dyfroedd Cymru a Lloegr.

Statws

Daeth ymgynghoriad cyhoeddus i geisio barn ar y cynllun drafft i ben ar 1 Hydref 2023.

Tarwch olwg ar yr ymgynghoriad ac ymateb y llywodraeth yn Draenogiaid Môr: ymgynghoriad ar y cynllun rheoli pysgodfeydd arfaethedig.

Cyhoeddwyd yr FMP terfynol ym mis Rhagfyr 2023.

Cysylltwch â ni

Os hoffech chi ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at FMPs@defra.gov.uk.

Cyhoeddwyd ar 14 December 2023