Papur polisi

Cynllun rheoli pysgodfeydd ar gyfer draenogiaid y môr yn nyfroedd Cymru a Lloegr

Cyhoeddwyd 14 December 2023

Crynodeb gweithredol

Mae cynllun rheoli pysgodfeydd (FMP) draenogiaid y môr (Dicentrarchus labrax) ar gyfer Cymru a Lloegr yn un o blith 43 FMP a gynigir o amgylch y DU yn unol â’r gofyn yn y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd (JFS). Mae’r cynllun wedi’i ddatblygu gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a Llywodraeth Cymru, gan gydweithredu â gwyddonwyr, cyrff rheoleiddio, cyrff cadwraeth natur statudol (SNCBs) a rhanddeiliaid o bob rhan o’r dirwedd draenogiaid y môr. Ei nod yw darparu map ffordd ar gyfer rheoli pysgodfeydd draenogiaid y môr yn gynaliadwy yn yr hirdymor yn nyfroedd Cymru a Lloegr dros y 6 blynedd nesaf, yn unol ag amcanion Deddf Pysgodfeydd 2020 (‘y Ddeddf’). 

Beth yw FMP?

Cynlluniau gweithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth yw FMPs sy’n plotio llwybr tuag at bysgodfeydd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol. Bydd yr FMP yn gynllun tymor hir y bydd gofyn ei adolygu ac os gwelir bod angen, ei newid mewn cylch na fydd yn hwy na chwe blynedd. Mae FMP yn nodi gweledigaeth a nodau ar gyfer y bysgodfa darged (neu’r pysgodfeydd targed), ynghyd â’r camau gweithredu a’r ymyriadau rheoli sydd eu hangen i gyflawni’r nodau hyn. Mae gan Defra a Llywodraeth Cymru weledigaeth uchelgeisiol i ddefnyddio FMPs i fynd i’r afael â materion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd sy’n gysylltiedig â physgodfeydd, gan sicrhau gwelliannau sylweddol yn ein dull o reoli pysgodfeydd sy’n seiliedig ar ecosystemau.

Pam mae angen FMP ar gyfer draenogiaid y môr?

Mae pysgodfeydd draenogiaid y môr yn cyfrannu’n ddiwylliannol, yn gymdeithasol ac yn economaidd at gymunedau arfordirol trwy, er enghraifft, cyflogaeth a buddiannau pysgotwyr hamdden. Fodd bynnag, fe wnaeth cyfuniad o orbysgota a chryfder dosbarth blwyddyn gwael (nifer yr unigolion a gaiff eu geni mewn unrhyw flwyddyn benodol) arwain at ostyngiad sydyn yn lefelau stoc draenogiaid y môr o 2010 ymlaen.  Mewn ymateb, rhoddodd y DU a’r UE ddull rheoli ar y cyd ar waith yn 2015, ac mae hynny wedi’i ddiwygio’n flynyddol. Ers i’r mesurau hyn gael eu cyflwyno, bu cynnydd sylweddol o ran biomas stoc silio - er bod recriwtio (nifer yr unigolion ifanc sy’n ymuno â’r stoc o oedolion mewn unrhyw flwyddyn benodol) yn parhau i fod yn isel.

Mae digon o dystiolaeth wyddonol i allu gwneud asesiad blynyddol cadarn o’r ‘cynnyrch cynaliadwy mwyaf’ (MSY) i sicrhau bod draenogiaid y môr yn cael eu pysgota o fewn terfynau cynaliadwy yn nyfroedd Cymru a Lloegr. Er hynny, mae’r FMP hwn yn adolygu’r dull presennol o reoli draenogiaid y môr yng Nghymru a Lloegr ac yn pennu’r cyfeiriad i wella statws y stoc tra’n cynnal lefelau pysgota cynaliadwy a sicrhau y gall cymunedau sy’n dibynnu ar ddraenogiaid y môr wireddu buddion pysgota’r rhywogaeth hon. 

Dulliau rheoli draenogiaid y môr presennol

Gall cychod pysgota o’r DU a’r UE bysgota draenogiaid y môr yn nyfroedd y DU a’r UE, yn unol â darpariaethau mynediad at stociau nad ydynt yn destun cwotâu , yng Nghytundeb Masnach a Chydweithredu’r DU a’r UE (TCA). Mae’r DU a’r UE wedi datblygu sawl mesur rheoli i amddiffyn y stoc. Cyflwynwyd y rhain yn 2015 (ac maent yn cael eu haddasu’n flynyddol) wedi rhybuddion gwyddonol brys ynghylch stoc yn dirywio yn sgil nifer o flynyddoedd o recriwtio gwael a phwysau sylweddol yn sgil pysgota.

Mae mesurau rheoli yn cynnwys:

  • isafswm maint cyfeirnod cadwraeth (MCRS)
  • awdurdodiadau domestig sy’n ofynnol i bysgota am ddraenogiaid y môr
  • tymhorau caeedig ar gyfer pysgotwyr masnachol a hamdden
  • a chyfyngiadau ar ddalfeydd a sgil-ddalfeydd ar gyfer pysgotwyr masnachol a hamdden

Mae tri math o offer wedi’u hawdurdodi ar gyfer glanio draenogiaid y môr:

  • treillrwydi/rhwydi sân
  • rhwydi sefydlog
  • bachau a leiniau

Mae’r ddau fath cyntaf o offer ar gyfer sgil-ddalfeydd yn unig. Gwaherddir defnyddio unrhyw fath arall o offer i lanio draenogiaid y môr.

Yn ogystal, mae is-ddeddfau rhanbarthol yng Nghymru a Lloegr yn darparu rheolaeth ar y glannau (o fewn 6 milltir forol), tra bod rhwydwaith o feithrinfeydd hefyd yn darparu amddiffyniad ar gyfer draenogiaid y môr ifanc.

Ymgysylltu â rhanddeiliaid

Hwyluswyd ymgysylltu â rhanddeiliaid ar gyfer FMP draenogiaid y môr gan Policy Lab, tîm amlddisgyblaethol o lunwyr polisi, dylunwyr ac ymchwilwyr yn yr Adran Addysg. Defnyddiodd Policy Lab ddull cymysg cydweithredol, gan ymgysylltu â dros 1,400 o randdeiliaid draenogiaid y môr ledled Cymru a Lloegr trwy gyfweliadau, dadleuon ar-lein, ymweliadau arfordirol dros dro, gweithdai ac arolygon.

Nod Policy Lab oedd cyd-ddatblygu set o ddatrysiadau posibl ar gyfer rheoli draenogiaid y môr er mwyn llywio nodau a gweithredoedd FMP draenogiaid y môr. Cyflwynodd Policy Lab eu canlyniadau i Defra a Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2023, ac mae’r gwaith hwn wedi llywio’r gwaith o ddrafftio FMP draenogiaid y môr. Cynhaliodd Defra a Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus ar yr FMP drafft ym mis Gorffennaf 2023 yn unol â’r gofyn yn Atodlen 1 o ran 3 o’r Ddeddf. Mae’r fersiwn 1 hon o’r FMP wedi ystyried y sylwadau a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad hwnnw.

Nodau allweddol

Er mwyn sicrhau y rheolir stociau draenogiaid y môr yn effeithiol yn nyfroedd Cymru a Lloegr dros y chwe blynedd nesaf, mae’r FMP hwn yn nodi 9 nod sy’n canolbwyntio ar flaenoriaethau rheoli domestig. Ar gyfer pob nod, mae’r cynllun yn nodi:

  • rhesymwaith
  • camau gweithredu tymor byr (1 i 2 flynedd)
  • camau gweithredu tymor canolig i hir
  • dangosyddion perfformiad i fonitro cyflawni’r cynllun.

Dyma’r 9nod a amlinellir yn yr FMP hwn:

  1. Strwythurau cynhwysol i ymgysylltu â rhanddeiliaid i lywio rheoli’r bysgodfa draenogiaid y môr.
  2. Mynediad teg at y bysgodfa draenogiaid y môr, gan flaenoriaethu cynaliadwyedd stociau.
  3. Lleiafu gwaredu sgil-ddalfeydd draenogiaid y môr lle mae cyfraddau goroesi’n isel.
  4. Sicrhau cydymffurfiaeth lawn â rheoliadau yn ymwneud â draenogiaid y môr.
  5. Mwyafu buddion pysgota draenogiaid y môr i gymunedau arfordirol lleol.
  6. Cynaeafu’r stoc draenogiaid y môr yn gynaliadwy yn unol â chyngor gwyddonol.
  7. Amddiffyn draenogiaid y môr ifanc a rhai sy’n silio.
  8. Lleiafu effaith pysgota draenogiaid y môr ar yr ecosystem forol ehangach.
  9. Lliniaru ac addasu yn unol ag effaith y newid yn yr hinsawdd ar bysgota draenogiaid y môr.

Er bod rhyngweithiadau, synergeddau a thensiynau cymhleth niferus rhwng y nodau hyn, nod trosfwaol yr FMP yw sicrhau bod stociau’n cael eu cynaeafu’n gynaliadwy a’u bod ar yr un pryd yn fuddiol i ystod amrywiol o fuddiannau amgylcheddol, masnachol, adloniadol a chymdeithasol.

Camau a gweithredu

Yn y tymor byr, mae gwelliannau arfaethedig i fesurau rheoli draenogiaid y môr i sicrhau cynaliadwyedd a hyblygrwydd ar gyfer y sector pysgota yn cynnwys:

  • Llywodraethau yn sefydlu grwp(iau) rheoli draenogiaid y môr i hwyluso cyfranogiad rhanddeiliaid mewn penderfyniadau rheoli
  • archwilio cyfleoedd i ddatblygu systemau rheoli mwy addasol i ddiogelu’r stoc a chaniatáu i bysgotwyr fanteisio ar unrhyw gynnydd yn helaethrwydd stociau
  • adolygu’r system awdurdodi ddomestig bresennol, nodi dull amgen o sicrhau bod cyfleoedd pysgota yn cyd-fynd â nodau eraill yr FMP (er enghraifft, lleihau gwaredu, lleihau’r effaith ar yr amgylchedd a sicrhau’r buddion mwyaf posibl i gymunedau arfordirol lleol)
  • adolygu adegau a hyd mwyaf addas ar gyfer y tymhorau caeedig
  • ystyried beth yw’r ffordd orau o fonitro a lleihau gwaredu, er enghraifft, gan ddefnyddio offerynnau cofnodi data presennol megis Record your catch (Saesneg yn unig) neu drwy fynediad a reolir (o fewn y cyfyngiadau blynyddol presennol)  yn gyfnewid am ddata
  • annog gwell monitro, defnyddio dulliau addasu offer ac ymgysylltu â chynlluniau perthnasol i helpu i leihau nifer yr achosion o sgil-ddal rhywogaethau sensitif sy’n gysylltiedig â physgota
  • gwella cyfathrebu a dealltwriaeth o reoliadau ynghylch draenogiaid y môr, gan gynnwys ar gyfer prynwyr a gwerthwyr cofrestredig (RBS)
  • adolygu’r arfer o ddefnyddio rhwydi bas gyda’r glannau ac ar y lan i benderfynu a oes angen mesurau diogelu ychwanegol i atal sgil-ddal pysgod mudol
  • gwella cydweithredu rhwng cyrff rheoleiddio ynghylch gorfodaeth a dargedir, gan gynnwys y pwerau sydd eu hangen i sicrhau cysondeb

Yn y tymor canolig ihir, bydd y camau ychwanegol hyn yn helpu i gyflawni’r nodau a ddisgrifir uchod:

  • adolygu cyfyngiadau priodol ar feintiau o ran y draenogiaid y môr, er enghraifft, MCRS neu feintiau slotiau
  • adolygu strategaethau cynaeafu priodol ar gyfer draenogiaid y môr, gan ystyried canlyniadau ymarfer meincnodi 2023-24 y Cyngor Rhyngwladol ar Archwilio’r Môr (ICES)
  • annog cyfranogiad mewn rhaglenni mabwysiadu monitro electronig o bell (REM) yn gynnar er mwyn gwella’r broses o gasglu data am warediadau a sgil-ddal rhywogaethau sensitif
  • cynorthwyo’r diwydiant i ddatgarboneiddio ac addasu i effeithiau newid amgylcheddol ar ddosbarthiad a helaethrwydd draenogiaid y môr
  • ymchwilio i’r posibilrwydd o weithredu diffiniad o ganran cyfansoddiad dalfeydd mewn perthynas â sgil-ddalfeydd draenogiaid y môr ar gyfer pysgotwyr rhwydi
  • adolygu dichonoldeb model newydd lle mae pob draenog y môr yn cael eu glanio i leihau taflu, neu leihau’r pwyslais ar derfynau sgil-ddalfeydd a symud tuag at ddull sy’n cyfyngu ar ddalfeydd neu’n pennu cwotâu
  • gwella tegwch yn y sector er mwyn sicrhau bod y rheoliadau yn gymwys i bawb sy’n pysgota draenogiaid y môr

Gwella’r sylfaen dystiolaeth

Mae’r FMP hwn yn seiliedig ar y dystiolaeth fiolegol, gymdeithasol ac economaidd gyfredol sydd ar gael ar hanes bywyd draenogiaid y môr, asesu stoc ac arferion pysgota a rheoli.

Mae draenogiaid y môr yn stoc categori 1 ICES sy’n gymharol gyfoethog o ran data. Fodd bynnag, mae nifer o fylchau yn y dystiolaeth o hyd, lle gallai rhagor o ddata wella’r asesiadau stoc ymhellach a chyfrannu at reoli gweithgareddau pysgota i gynnal pysgodfa gynaliadwy.

Mae’r FMP yn nodi’r camau ar gyfer casglu data gwell ynghylch gwaredu a dalfeydd hamdden a gwell dealltwriaeth o strwythur stoc a recriwtio draenogiaid y môr. Bydd gwella’r sylfaen dystiolaeth ar bwysigrwydd diwylliannol a chymdeithasol pysgota draenogiaid y môr, yn ogystal ag effeithiau pysgota ar yr amgylchedd ehangach, hefyd yn cynorthwyo i sicrhau cynnydd tuag at reoli pysgodfeydd draenogiaid y môr yn fwy cynaliadwy.

Monitro ac adolygu’r cynllun

Bydd cynlluniau gwaith manwl yn cael eu datblygu i ategu’r gwaith o weithredu’r cynllun hwn. Fel y nodir yn y Ddeddf, bydd yr FMP draenogiaid y môr ar gyfer dyfroedd Cymru a Lloegr yn cael ei adolygu bob chwe blynedd o leiaf.

Bydd yr adolygiad ffurfiol hwn yn asesu perfformiad yr FMP mewn perthynas â dangosyddion a chanlyniadau. Fodd bynnag, rhagwelir y caiff yr FMP ei adolygu a’i ddiweddaru’n fwy rheolaidd gan gydweithredu â’r grwpiau rheoli draenogiaid y môr.

Casgliad

Mae’r FMP Draenogiaid y Môr wedi’i lunio at ddibenion cyflawni’r gofynion a ddisgrifir yn y Ddeddf. Mae’r datganiad hwn a chynnwys y cynllun yn cyd-fynd â’r rhwymedigaeth a bennir yn adran 6 y Ddeddf.

Mae’r FMP hwn wedi cydgasglu mesurau rheoli presennol a’r holl wyddoniaeth a thystiolaeth sydd ar gael i asesu statws stociau draenogiaid y môr o amgylch Cymru a Lloegr yn 2023 ac er mwyn helpu i bennu lefel ymelwa gynaliadwy. Ar adeg cyhoeddi’r ddogfen hon, ceir digon o dystiolaeth i allu pennu’r cynnyrch cynaliadwy uchaf ar gyfer pysgodfa draenogiaid y môr sy’n gweithredu o fewn cyfyngiadau cynaliadwy o amgylch Cymru a Lloegr fel rhan o ddulliau rheoli sefydledig. Mae’r FMP yn dwyn sylw at ble gellir ystyried gwelliannau o ran y dystiolaeth a rheoli er mwyn sicrhau cynaliadwyedd tymor hir y bysgodfa yn nyfroedd Cymru a Lloegr.

Hoffai Defra a Llywodraeth Cymru gydnabod y cyngor, y dystiolaeth a’r cymorth a gafwyd drwy gydol y gwaith o ddatblygu’r FMP hwn gan Gymdeithas Awdurdodau Pysgodfeydd y Glannau a Chadwraeth, Canolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cefas), Asiantaeth yr Amgylchedd, Cydbwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC), Sefydliad Rheoli Morol (MMO), Natural England, Cyfoeth Naturiol Cymru, Seafish a’n rhanddeiliaid eraill.  

Rhagair

Mae FMP Draenogiaid y Môr yn fap ffordd ar gyfer rheoli pysgodfeydd draenogiaid môr Cymru a Lloegr yn gynaliadwy dros y 6 mlynedd nesaf. Mae’r cynllun yn berthnasol i bawb sy’n pysgota’n fasnachol ac sy’n pysgota at ddibenion hamdden am ddraenogiaid y môr yn nyfroedd Cymru a Lloegr. Yr FMP hwn fydd y sylfaen ar gyfer rheoli draenogiaid y môr yn y tymor hir.  Mae’n ffrwyth cydweithredu rhwng awdurdodau polisi pysgodfeydd, asiantaethau amgylcheddol statudol a chynrychiolwyr o sectorau pysgota draenogiaid y môr (y diwydiant masnachol a hamdden).

Mae FMPs yn cyfuno gweledigaeth tymor hir i gynnal neu adfer stociau at lefelau MSY â pholisïau a mesurau i gyrraedd a chynnal y nod hwn. Mae’r mesurau rheoli a’r dystiolaeth eu bod yn cael eu rhoi ar waith ac y cydymffurfir â nhw i’w gweld mewn nifer o lefydd. Mae yna bethau am y bysgodfa a rhai agweddau ar yr amgylchedd morol ehangach nad ydym yn eu deall. Am y tro cyntaf, mae’r holl fesurau ar gyfer rheoli draenogiaid y môr ynghyd â’r holl wyddoniaeth a thystiolaeth sydd ar gael, wedi’u crynhoi mewn un cynllun. Mae’r FMP yn nodi hefyd y bylchau yn y wybodaeth a beth sydd angen ei wneud i’w llenwi a rhoi’r amddiffyniad sydd ei angen i’r stoc nawr ac yn y tymor hir.

Bwriedir i’r FMP Draenogiaid y Môr fod yn ddogfen annibynnol fydd yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen ar ddarllenwyr i ddeall sut y caiff y bysgodfa ei rheoli o gwmpas Cymru a Lloegr yn y blynyddoedd i ddod.

Mae’r cynllun yn crynhoi’r wybodaeth berthnasol yn hytrach na rhoi’r manylion sy’n sail iddi.  Cafodd llawer o’r manylion a ddefnyddiwyd i baratoi’r cynllun drafft eu cyhoeddi yn yr ymgynghoriad ym mis Gorffennaf 2023. Mae’r wybodaeth berthnasol wedi’i chrynhoi yn yr FMP hwn yn hytrach na chynnwys y manylion. Bydd Defra’n dal ati i gasglu a darparu gwybodaeth berthnasol fydd yn sail ar gyfer rhoi’r FMP ar waith dros y blynyddoedd i ddod.

Er gwybodaeth, cafodd 11 o ddogfennau eu cyhoeddi mewn Atodiadau i’r ymgynghoriad cyhoeddus yn 2023. Mae’r wybodaeth honno ar gael o hyd yng Ngofod y Dinesydd, offeryn ymgynghori ar-lein Defra.

  • cysylltiadau â pholisïau allweddol
  • datganiad ynghylch y dystiolaeth, cyfeiriadau a’r cynllun ymchwil
  • adroddiad Prifysgol Bournemouth
  • cofnod o’r Ymgysylltu â Rhanddeiliaid
  • adroddiad terfynol Policy Lab
  • adroddiad profiadau bywyd Policy Lab
  • dadl cyd-ddirnadaeth Policy Lab
  • crynodeb gwaith cyd-lunio Policy Lab
  • ystyriaethau Amgylcheddol
  • nodau
  • crynodeb rheoli Pysgodfeydd y Glannau

Mae’r FMP hon wedi’i baratoi i ateb y gofynion yn Neddf Pysgodfeydd 2020.  Mae’r datganiad hwn a chynnwys y cynllun yn bodloni’r rhwymedigaeth a ddisgrifir yn adran 6 y Ddeddf. Wrth ei baratoi, rhoddwyd sylw i’r Cynlluniau Morol presennol (yn unol â’r gofyn yn adran 58(3) o’r MCAA 2009) a’r egwyddorion amgylcheddol (yn unol â’r gofyn yn adran 17(5)(a-e) ac 19(1) Deddf yr Amgylchedd 2021).

Mae hwn yn gynllun ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Cafodd ei baratoi a’i gyhoeddi felly i gydymffurfio â dyletswydd Gweinidogion Cymru i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau o dan Ddeddf Amgylchedd (Cymru) 2016 (adran 6(1)) a chyfrannu at nodau llesiant ac amcanion llesiant Gweinidogion Cymru a nodir o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (adrannau 3 i5).

Cyflwyniad

Mae’r Ddeddf yn disgrifio’r fframwaith cyfreithiol sy’n llywodraethu pysgodfeydd (masnachol a hamdden) yn y DU. Mae’n pennu dyletswydd i awdurdodaupolisi pysgodfeydd[footnote 1] baratoi a chyhoeddi FMPs sy’n nodi polisïau i adfer stociau a’u cynnal ar lefelau cynaliadwy.

Mae’r Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd (JFS), a gyhoeddwyd yn Nhachwedd 2022, yn nodi rhagor o fanylion am y polisïau y bydd awdurdodau polisi pysgodfeydd y DU yn eu dilyn i gyflawni, neu gyfrannu at gyflawni’r wyth amcan pysgodfeydd yn y Ddeddf. Mae’r JFS yn cynnwys rhestr o FMPs, sy’n nodi’r awdurdod arweiniol ar gyfer pob FMP, y stociau y maent yn eu cwmpasu a’r amserlenni ar gyfer cyhoeddi.

Mae’r polisïau a’r mesurau sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun hwn wedi’u paratoi gan Defra a Llywodraeth Cymru yn unol â gofynion adran 6(5) y Ddeddf. Mae’r FMP hwn yn disgrifio’r polisïau a’r dull rheoli sydd eu hangen i reoli pysgodfeydd draenogiaid y môr yn nyfroedd Cymru a Lloegr.

Hysbyswyd yr FMP gan waith ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid a wnaed gan Policy Lab, a ddaeth â dros 1,400 o randdeiliaid â buddiannau ym maes pysgota draenogiaid y môr ynghyd. Roedd hyn yn cynnwys pysgotwyr masnachol a hamdden, ymchwilwyr, y llywodraeth, cyrff rheoleiddio, cyrff anllywodraethol a llunwyr polisi i argymell mesurau posibl i wella dulliau o reoli draenogiaid y môr. Gwelwyd manylion gwaith ymgysylltu Policy Lab â rhanddeiliaid yn ei adroddiadau a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2023 ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus.

Gweledigaeth yr FMP

Mae’r FMP hwn yn ceisio creu map ffordd ar gyfer rheoli stociau draenogiaid y môr yn effeithiol yn nyfroedd Cymru a Lloegr dros y 6 blynedd nesaf, er mwyn caniatáu i’r adnodd naturiol gwerthfawr hwn fod o fudd i ystod amrywiol o fuddiannau amgylcheddol, masnachol, adloniadol a chymdeithasol gan sicrhau bod stociau’n cael eu cynaeafu’n gynaliadwy. Dylai dulliau rheoli draenogiaid y môr fod yn hyblyg, yn addasol ac yn seiliedig ar ecosystemau.

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i FMPs ddefnyddio dull rhagofalus o reoli pysgodfeydd yn niffyg gwybodaeth wyddonol ddigonol. Mae hyn yn golygu nad yw diffyg sicrwydd gwyddonol yn rheswm digonol ynddo’i hun i beidio â gweithredu neu i ohirio gweithredu mesurau rheoli effeithiol a fydd yn cynnal stoc neu ei hamgylchedd. Rhaid i’r dull rhagofalus fynd ati’n benodol i ystyried canlyniadau annymunol a rhai a allai fod yn annerbyniol a darparu cynlluniau wrth gefn i osgoi neu liniaru canlyniadau o’r fath.

Mae’r FMP Draenogiaid y Môr yn mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a dylid datblygu a gweithredu mesurau rheoli gan ddefnyddio’r dystiolaeth orau sydd ar gael. Fodd bynnag, mae’r FMP hefyd yn nodi bylchau yn y dystiolaeth ac yn disgrifio sut yr eir i’r afael â’r rhain.

Cyhoeddwyd drafft cyntaf o ddatganiad tystiolaeth a chynllun ymchwil yr FMP Draenogiaid y Môr ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus yn 2023 (gweler atodiadau FMP Draenogiaid y Môr). Bydd Defra a Llywodraeth Cymru’n diweddaru ac yn cynnal y cynlluniau ymchwil a thystiolaeth gydol oes yr FMP hwn.

Cwmpas FMP draenogiaid y môr

Rhywogaeth

Mae’r FMP hwn yn berthnasol i ddraenogiaid y môr Ewropeaidd yn unig yn y stoc ogleddol sydd i’w chanfod yn nyfroedd Cymru a Lloegr. Yn benodol, mae hyn yn cynnwys canol a deheubarth Môr y Gogledd, Môr Iwerddon, y Sianel, Môr Hafren a’r Môr Celtaidd; sy’n cyd-fynd ag adrannau 4b, 4c, 7a, a 7d i 7h. Mae’r hyn yn cynnwys gweithgarwch gan yr holl longau sy’n pysgota yn nyfroedd Cymru a Lloegr.

Mae gan ddraenogiaid y môr gylch bywyd cymhleth â chyfnod larfaol eigionol, yna, bydd y pysgod ifanc yn cytrefu meithrinfeydd gyda’r glannau, cyn mudo oddi yno i ymuno â’r boblogaeth o bysgod llawn dwf.

Cewch ragor o fanylion am fioleg ac ecoleg draenogiaid y môr yn adran Datganiad Tystiolaeth Atodiad 2 yr ymgynghoriad cyhoeddus.

Disgrifiado’r bysgodfa

Dosberthir draenogiaid y môr ledled gogledd-ddwyrain yr Iwerydd ac o amgylch holl ddyfroedd y DU, ond mae eu helaethrwydd yn amrywio rhwng ardaloedd a thymhorau. Daw’r rhan fwyaf o ddraenogiaid y môr sy’n cael eu dal yn nyfroedd y DU o fewn ardal ICES 7e (gorllewin y Sianel), ac yna ardal ICES 7d (dwyrain y Sianel) (gweler Ffigur 1).

Figure 1. Recorded distribution of bass around the British Isles, based on commercial fisheries landings data (2013 to 2021).

Ffigur 1. Gwasgariad draenogiaid y môr a gofnodwyd o amgylch Ynysoedd Prydain , yn seiliedig ar laniadau pysgodfeydd masnachol (2013-2021).

Disgrifiad Ffigur 1: map yn dangos Ynysoedd Prydain a gogledd-orllewin Ffrainc. Mae dosbarthiad draenogiaid y môr yn y rhanbarth yn cael ei ddangos gyda phetryalau wedi eu cysgodi. Mae’r ardal ddaearyddol a gwmpesir gan yr FMP wedi ei amlygu gan ardal wedi ei chysgodi o amgylch Cymru a Lloegr. Mae’r map hefyd yn dangos yr adrannau ICES gerllaw Ynysoedd Prydain, a ffin parth economaidd unigryw’r DU.

Mae cychod pysgota yn defnyddio offer pysgota bachau a leiniau (leiniau sy’n cael eu dal â’r dwylo) yn bennaf, a dilynir hynny gan sgil-ddalfeydd o rwydi sefydlog a threillrwydi dyfnforol.

Mae’r mwyafrif (tua 99%) o ddraenogiaid y môr sy’n cael eu glanio yn holl ddyfroedd y DU yn cael eu glanio yn ardal yr FMP. Mae’r rhan fwyaf o laniadau masnachol draenogiaid y môr (o ran pwysau) gan longau pysgota o’r DU yn ardal yr FMP yn cael eu dal gan longau pysgota o Loegr (82%-90% o’r glaniadau rhwng 2016 a 2021), ac mae cychod pysgota o Gymru yn glanio’r rhan fwyaf o’r gweddill.

Bydd cychod pysgota o’r UE hefyd yn glanio draenogiaid y môr yn ardal yr FMP, ac maent wedi cyfrif am oddeutu 16% o’r holl laniadau yn ystod blynyddoedd diweddar.

Cyrhaeddodd cyfanswm y glaniadau a adroddwyd gan longau o’r DU ers 2012 uchafbwynt yn ystod 2014, ac yna dilynwyd hynny gan ostyngiad serth i’r lefel isaf rhwng 2017 a 2019. Mae glaniadau wedi cynyddu ychydig unwaith eto yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae draenogiaid y môr hefyd yn rhywogaeth darged bwysig ar gyfer pysgodfeydd hamdden. Amcangyfrifir fod dalfeydd hamdden yr holl wledydd sy’n elwa ar y stoc ogleddol yn cyfrif am oddeutu 27% o gyfanswm y dalfeydd.

Cewch ragor o fanylion am bysgodfeydd draenogiaid y môr yn adran Datganiad Tystiolaeth, atodiadau FMP Draenogiaid y Môr (Saesneg yn unig) a gyhoeddwyd yn 2023 fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus ar FMP Draenogiaid y Môr.

Statws presennol pysgodfa draenogiaid y môr

Ar hyn o bryd, mae ICES yn cydnabod pedair uned o stoc draenogiaid y môr yn yr Iwerydd. Mae’r FMP hwn yn cwmpasu dyfroedd Cymru a Lloegr, a dim ond yr uned stoc ogleddol sydd i’w chanfod yn y dyfroedd hynny. Mae’r stoc ogleddol yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau’r FMP hwn ,ond darperir gwybodaeth fiolegol yn y FMP hwn ynghylch y stoc ogleddol gyfan[footnote 2].

Mae asesiad meincnodi ICES ar gyfer draenogiaid y môr yn cael ei gynnal yn 2023-2024 i adolygu perthnasedd biolegol strwythur presennol y stoc a chynnig newidiadau os bydd angen hynny. 

O safbwynt rheoli, mae draenogiaid y môr yn rhywogaeth nad ydynt yn destun cwotâu (NQS), sy’n golygu stociau nad ydynt yn destun cyfanswm y dalfeydd a ganiateir neu gwotâu. Fodd bynnag, bydd ICES yn darparu gwybodaeth bob blwyddyn am gyfleoedd pysgota am stoc ogleddol draenogiaid y môr sy’n berthnasol i’r FMP hwn.

Mae’r model asesu sy’n cwmpasu’r stoc ogleddol yn cael ei ystyried yn un Categori 1 ag asesiad dadansoddol a rhagolwg llawn sy’n golygu bod digon o wybodaeth i allu pennu MSY.  Roedd hanes dynameg stoc, fel y’i hamcangyfrifwyd yn asesiad 2022, yn dangos bod y biomas wedi dirywio hyd at 1990 oherwydd gwendid o ran cryfder dosbarthiadau blwyddyn, ond bod hynny wedi cynyddu’n sylweddol yn y 1990au oherwydd dosbarthiadau blwyddyn cryf, yn enwedig ym 1989.

Roedd gostyngiad mewn biomas stoc silio rhwng 2009 a 2018 yn deillio o gyfuniad o nifer fawr o farwolaethau pysgota a gwendid o ran cryfder dosbarth blwyddyn (nifer yr unigolion sy’n silio bob blwyddyn). Mae’r stoc wedi’i nodweddu gan gyfnodau o recriwtio gwael yn yr 1980au ac ers 2008.

Mae’r cyfnodau recriwtio gwael hyn yn effeithio’n sylweddol ar fiomas, sy’n cael ei waethygu gan unrhyw gynnydd o ran marwolaethau pysgod. Amcangyfrifwyd bod tuedd gynyddol mewn biomas wedi digwydd ar ôl 2018, a allai fod wedi deillio o’r mesurau rheoli a gyflwynwyd ers 2015 ynghyd â digwyddiadau recriwtio uwch na’r cyfartaledd ers 2013.

Y dull presennol o reoli draenogiaid y môr

Dull cyffredin y DU a’r UE

Mae gan y DU a’r UE fynediad at bysgota draenogiaid y môr yn fasnachol ym Mharth Economaidd Neilltuedig (EEZ) y naill a’r llall yn unol â darpariaethau mynediad ar gyfer NQS yng Nghytundeb Masnach a Chydweithredu y DU/UE (TCA) (gweler atodiad 38 yn y TCA). Mae hyn yn darparu ar gyfer mynediad i bysgota NQS ‘ar lefel sydd o leiaf yn cyfateb i’r tunelli cyfartalog a gafodd eu pysgota gan y Garfan honno yn nyfroedd y Blaid arall yn ystod y cyfnod 2012-2016’[footnote 3].

Ers 2015, mae cyd-fesurau’r DU a’r UE wedi bod ar waith i reoli pwysau pysgota ar stoc ogleddol draenogiaid y môr. Mae’r mesurau cytunedig ar gyfer 2024 yn cynnwys:

  • maint cyfeirnod cadwraeth lleiaf (42cm ar hyn o bryd)
  • tymhorau caeedig (Chwefror a Mawrth ar hyn o bryd, yn achos pysgotwyr masnachol a hamdden)
  • cyfyngiadau blynyddol ar ddalfeydd fesul cwch bysgota ar gyfer y tri math o offer – treillrwydi a rhwydi sân (3.8 tunnell fetrig), rhwydi sefydlog (1.6 tunnell fetrig) a bachau a leiniau (6.2 tunnell fetrig). Gwaherddir pob métier arall rhag glanio draenogiaid y môr.
  • yn achos treillrwydi a rhwydi sân a rhwydi sefydlog, gellir glanio sgil-ddalfeydd draenogiad y môr (mae hynny wedi’i gyfyngu i 5% o’r pwysau byw fesul taith ar gyfer treillrwydi a rhwydi sân).
  • isafswm maint rhwyllau o 100 mm ar gyfer rhwydau drysu sefydlog..
  • mae’n ofynnol i longau pysgota’r DU a’r UE a wnaeth lanio draenogiaid y môr yn ystod cyfnod cyfeirio 1 Gorffennaf 2015 – 30 Medi 2016 fod â hanes wedi’i gofnodi o ran bod ag awdurdodiad i ddefnyddio rhwydi ac offer bachau a leiniau.
  • mae terfyn niferoedd pysgotwyr hamdden wedi’u cyfyngu i ddau bysgodyn y dydd

I gael rhagor o fanylion am fesurau presennol ynghylch draenogiaid y môr, trowch at Ganllawiau diwydiant draenogiaid y môr (2023) y Sefydliad Rheoli Morol (MMO) a chanllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch Pysgota Draenogiaid y Môr (2023).

Ers 2021, mae’r mesurau hyn wedi’u trafod gan y DU a’r UE yn flynyddol. Mae newidiadau dilynol i ddeddfwriaeth y DU wedi’u rhoi ar waith drwy offeryn statudol, a’r diweddaraf yw Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio) 2023.

Yn ystod ymgynghoriadau 2022, cytunodd y DU a’r UE i ystyried datblygu strategaeth aml-flwyddyn ar gyfer draenogiaid y môr fel rhan o fframwaith y Pwyllgor Arbenigol ar Bysgodfeydd.

Mesurau rheoli rhanbarthol

Yn ogystal â’r fframwaith rheoli ar y cyd trosfwaol a amlinellir uchod, mae pysgodfeydd o fewn terfyn tiriogaethol chwe milltir y môr oddi ar Arfordir Lloegr yn cael eu rheoli gan 10 o Awdurdodau Pysgodfeydd a Chadwraeth y Glannau (IFCAs). Mae gan yr IFCAs ddyletswydd i reoli amgylchedd morol y glannau yn gynaliadwy ac mae ganddynt ddyletswyddau cyffredinol mewn perthynas â chadwraeth a bioamrywiaeth.

Yn Lloegr, mae’r is-ddeddfau presennol a roddwyd ar waith gan IFCAs i reoli pysgodfeydd draenogiaid y môr yn diogelu ystod eang o gynefinoedd rhanbarthol a nodweddion sydd o ddiddordeb o ran cadwraeth, gan gynnwys cynefinoedd draenogiaid y môr ifanc. Rhestrir holl is-ddeddfau’r IFCAs sy’n berthnasol i’r bysgodfa draenogiaid y môr yn strategaeth rheoli pysgodfeydd y glannau yn atodiadau FMP draenogiaid y môr a gyhoeddwyd yn 2023 fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus ar yr FMP draenogiaid y môr.

Yng Nghymru, rheolir pysgodfeydd y glannau gan Lywodraeth Cymru. Mae’r is-ddeddfau perthnasol hefyd wedi’u hamlinellu yn y ddogfen y cyfeirir ati uchod.

Meithrinfeydd

Dynodwyd meithrinfeydd draenogiaid y môr (BNAs) yng Nghymru a Lloegr yn y 1990au i leihau effaith pysgota masnachol a hamdden mewn ardaloedd lle’r oedd y mwyafrif o ddraenogiaid y môr yn debygol o fod yn is na’r MCRS – y mesur cyn yr isafswm maint glaniadau (MLS) a sefydlwyd yn neddfwriaeth y DU a’r UE. Mae cyfanswm o 37 o aberoedd a lleoliadau arfordirol eraill wedi’u dynodi’n BNAs (gweler Ffigur 2), a cheir cyfyngiadau ychwanegol ar bysgota masnachol a hamdden ynddynt.

Ystyrir fod y BNAs wedi gwneud cyfraniad pwysig at y gwaith o amddiffyn stoc draenogiaid y môr, gan gynnwys trwy ysgogi newidiadau o ran maint dosbarthiadau a gwella cyfraddau goroesi stoc ifanc a chynhyrchedd stoc.  Fodd bynnag, mae’n anodd asesu cyfraniad cymharol meithrinfeydd unigol at y stoc o bysgod yn eu llawn dwf, ac at fecanweithiau sy’n ddibynnol ar ddwysedd a allai leihau cyfraddau goroesi mewn meithrinfeydd. Mae hyn yn golygu bod dadansoddiad o gostau a buddion ardaloedd meithrin unigol yn heriol. Hefyd, efallai na wnaiff BNAs ychwanegol gynyddu amddiffyniadau i ddraenogiaid y môr ifanc mewn mannau ble mae is-ddeddfau presennol eisoes yn amddiffyn pysgod aberol.

Figure 2. Bass nursery areas (BNAs) specified under the Bass (Specified Areas) (Prohibition of Fishing) (Variation) Order 1999

Ffigur 2. BNAs a bennir yn unol ag Gorchymyn Draenogiaid y Môr (Ardaloedd Penodedig) (Gwahardd Pysgota) (Amrywiad) 1999

Disgrifiad Ffigur 2: map yn dangos ardaloedd meithrinfa draenogiaid y môr dynodedig (BNAs) yng Nghymru a Lloegr. Mae’r rhan fwyaf o’r BNAs wedi’u lleoli yn arfordiroedd y de-ddwyrain, y de, a de-orllewin Lloegr ac arfordir Cymru. Mae yna un BNA ar yr arfordir gogledd-orllewinol ac un ar arfordir gogledd-ddwyreiniol Lloegr.

Nodau a strategaeth rheoli’r FMP

O dan y dull rheoli presennol, ers 2015 mae stociau draenogiaid y môr wedi adfer a chyfyngiadau ar ddalfeydd wedi’u pennu yn unol â therfynau cynaliadwy sy’n cyd-fynd ag asesiadau stoc MSY blynyddol a lunnir gan ICES, gan fodloni’r rhwymedigaeth yn adran 6 y Ddeddf.

Mae’r nodau a’r strategaeth reoli a amlinellir isod ar gyfer yr FMP hwn yn ceisio adeiladu ar y fframwaith presennol i nodi dull rheoli domestig cynaliadwy hirdymor ar gyfer pob unigolyn a phob llong sy’n pysgota am ddraenogiaid y môr yn nyfroedd Cymru a Lloegr. Ar gyfer nodau o ran lefelau stoc, byddai dull rhyngwladol cydgysylltiedig yn helpu i gyflawni buddion llawn y nodau hyn i bysgotwyr y DU – trowch at ‘Cydweithio Rhyngwladol’ i gael rhagor o fanylion.

Cyflwynir pob nod ynghyd â rhesymeg, tystiolaeth, barn rhanddeiliaid, camau gweithredu i gyflawni’r nod, dangosyddion a chysylltiadau ag amcanion perthnasol y Ddeddf Pysgodfeydd. Mae tystiolaeth a safbwyntiau rhanddeiliaid ar gyfer pob nod wedi’u nodi yn adran ‘Nodau: tystiolaeth a safbwyntiau rhanddeiliaid’ yn Atodiadau FMP draenogiaid y môr a gyhoeddwyd yn 2023 fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus.

Bydd unrhyw ymyriadau yn ymwneud â rheoli pysgodfeydd yn arwain at ystod o ddylanwadau cymdeithasol, economaidd a biolegol. Wrth weithredu mesur rheoli newydd, ceir gofyniad statudol i amcangyfrif y manteision cenedlaethol ehangach a ragwelir (er enghraifft, gwella statws stociau’r rhywogaeth darged) yn ogystal â’r  effeithiau tebygol ar randdeiliaid a sut y gellir lliniaru effeithiau negyddol.

Bydd effeithiau ehangach ar gymunedau lleol, ac effeithiau economaidd, cymdeithasol a hawliau dynol yn cael eu dadansoddi mewn asesiadau o effeithiau cysylltiedig a fydd yn ofynnol fel rhan o’r gwaith i ddatblygu mesurau.

Nodau rheoli

Nod 1:  Strwythurau cynhwysol i ymgysylltu â rhanddeiliaid i lywio rheoli’r bysgodfa draenogiaid y môr

Rhesymeg

Mae’r stoc draenogiaid y môr yn adnodd cenedlaethol cyhoeddus rennir sy’n bwysig i lawer o wahanol randdeiliaid. Buasai cydweithredu yn helpu i wella’r dulliau o reoli’r adnodd er budd pawb.

Sut y gellir cyflawni hyn: tymor byr

  1. Bydd Defra a Llywodraeth Cymru yn sefydlu grŵp (neu grwpiau) rheoli draenogiaid y môr ffurfiol i roi cyngor a chefnogi dull cydweithredol o reoli draenogiaid y môr. Dylai fod gan y grŵp hwn gynrychiolaeth gytbwys, cod ymddygiad effeithiol a chadeirydd annibynnol. Dylai’r cyfranogwyr gynnwys, er enghraifft, pysgotwyr masnachol, pysgotwyr hamdden, cynrychiolwyr y gadwyn gyflenwi ehangach a diwydiant, gwyddonwyr, cynrychiolwyr amgylcheddol, llunwyr polisi a chyrff rheoleiddio.
  2. Dylid ystyried sefydlu is-grŵp tystiolaeth o’r grŵp rheoli draenogiaid y môr er mwyn:
    • ceisio consensws rhwng sectorau trwy sicrhau bod gwyddoniaeth a thystiolaeth yn elfennau anhepgor mewn perthynas â gwneud penderfyniadau
    • meithrin perthnasoedd ac ymddiriedaeth rhwng pysgotwyr, gwyddonwyr a chyrff llywodraethau
    • meithrin dealltwriaeth o’r broses wyddonol, yn cynnwys sut yr eir ati i asesu stoc, trwy gyfathrebu a chydweithredu gwyddonol effeithiol
    • defnyddio data ansoddol (a meintiol, os yn bosibl) gan bysgotwyr, yn cynnwys gwybodaeth sy’n seiliedig ar brofiadau, i’w cynnwys mewn asesiadau ffurfiol o’r stoc
    • datblygu strategaeth monitro a gwerthuso ar gyfer yr FMP draenogiaid y môr

Sut y gellir cyflawni hyn: tymor canolig/hir

Parhau i gydweithio i feithrin gallu i’r grŵp rheoli draenogiaid y môr i weithredu fel fforwm i drafod materion o bwysigrwydd ehangach i’r bysgodfa draenogiaid y môr, er enghraifft:

  • anghenion o ran rheoli a thystiolaeth yn y tymor hwy
  • defnydd o’r gofod morol
  • nodi ardaloedd sy’n bwysig o ran draenogiaid y môr.

Dangosyddion y Nod

Sefydlu grŵp rheoli draenogiaid y môr ac is-grŵp tystiolaeth gysylltiedig o fewn blwyddyn i gyhoeddi’r FMP, i sicrhau bod rhanddeiliaid yn cael eu cynrychioli mewn penderfyniadau.

Amcanion perthnasol y Ddeddf Pysgodfeydd

Amcanion perthnasol y Ddeddf Pysgodfeydd yw:

  • amcan wyddonol

  • amcan budd cenedlaethol

Nod 2:  Mynediad teg at y bysgodfa draenogiaid y môr, gan flaenoriaethu cynaliadwyedd stociau

Rhesymeg

Mae’r system bresennol i awdurdodi pysgota draenogiaid y môr yn fasnachol wedi bod yn effeithiol o ran cyfyngu ar bwysau pysgota. Mae hyn wedi gwella cynaliadwyedd stoc draenogiaid y môr yn ystod blynyddoedd diweddar.

Fodd bynnag, yn y tymor canolig/hir, dylid anelu at:

  • sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng pob math (ee rhwng masnachol ac adloniadol yn ogystal ag o fewn sectorau)
  • fynediad at y bysgodfa ddraenogiaid y môr a diogelu’r stoc,
  • gan gyd-fynd â nodau eraill yr FMP hwn, er enghraifft, lleihau cyfanswm sy’n cael ei waredu, lleihau’r effaith ar yr amgylchedd ehangach, lliniaru ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd, sicrhau’r buddion mwyaf posibl i gymunedau arfordirol lleol.

Sut y gellir cyflawni hyn: tymor byr

Dylai grŵp (neu grwpiau) rheoli draenogiaid y môr adolygu’r system awdurdodi ddomestig bresennol, a luniwyd i helpu i reoli pwysau pysgota ar y stoc draenogiaid y môr. Dylai system amgen geisio:

  • cynnal mynediad at y bysgodfa (o fewn cyfyngiadau cynaliadwy)
  • cyfateb â nodau eraill yr FMP Draenogiaid y Môr (er enghraifft, lleihau difrod i’r amgylchedd ehangach, lliniaru effeithiau hinsawdd sy’n newid ac addasu iddynt, lleihau gwaredu, sicrhau’r buddion mwyaf posibl i gymunedau arfordirol lleol, a sicrhau cynaeafu’r stoc yn gynaliadwy).

Sut y gellir cyflawni hyn: tymor canolig/hir

Yn dibynnu ar ganlyniad yr adolygiad, dylid y grŵp (neu grwpiau) rheoli draenogiaid gweithredu system amgen ar gyfer rheoli mynediad at y bysgodfa.

Dangosyddion y Nod

Cwblhau adolygiad o systemau awdurdodi draenogiaid y môr, ac os caiff ei ystyried yn briodol o ganlyniad i’r adolygiad hwnnw, gweithredu systemau amgen o ran awdurdodi draenogiaid y môr.

Amcanion perthnasol y Ddeddf Pysgodfeydd

Amcanion perthnasol y Ddeddf Pysgodfeydd yw:

  • amcan mynediad cyfartal  

  • amcan budd cenedlaethol

  • amcan cynaliadwyedd

  • amcan rhagofalus

  • amcan gwyddonol

Nod 3: Lleiafu gwaredu all-ddalfeydd draenogiaid y môr lle mae cyfraddau goroesi’n isel  

Rhesymeg

Bydd y nod hwn yn ceisio:

  • lleihau sgil-ddalfa draenogiaid y môr
  • lleihau gwastraff pysgod marw a
  • gwella dulliau casglu data er mwyn hwyluso rheoli gwaredu yn well.

Sut y gellir cyflawni hyn: tymor byr

  1. Ystyried cymell cyfranogiad domestig mewn treialon gwyddonol i wella’r broses o gasglu data am warediadau, er enghraifft, darparu rhanddirymiadau i lanio gwarediadau draenogiaid y môr. Er enghraifft, ystyried caniatáu i gychod treillio awdurdodedig o dan 10m gyflwyno cais am randdirymiad i gynyddu’r terfyn 5% o ddraenogiaid y môr fesul taith, gan barhau o fewn lwfansau sgil-ddalfeydd blynyddol ar yr amod y bydd pysgotwyr yn cofnodi manylion y draenogiaid y môr y byddant yn eu gwaredu. Monitro’n agos ynghylch effaith hyn ar laniadau, gwarediadau a chynaliadwyedd stoc, ac adolygu hynny’n flynyddol.
  2. Archwilio’r defnydd o CatchApp i gofnodi data ynghylch gwarediadau. - 3. Cefnogi parhad rhaglen monitro electronig o bell (REM) y Môr Celtaidd er mwyn casglu rhagor o ddata. - 4. Ystyried dulliau posibl o ddatblygu offer er mwyn lleihau sgil-ddalfa draenogiaid y môr a gwastraff o rwydi a threillrwydi, gan gynnwys meintiau rhwyllau sy’n unol â’r MCRS.

Sut y gellir cyflawni hyn: tymor canolig/hir

  1. Mabwysiadu system amgen i awdurdodi pysgota draenogiaid y môr os cytunir ar hynny (gweler Nod 2), wedi’i llunio i helpu i leiafu gwaredu
  2. Adolygu dull rheoli draenogiaid y môr yn sgil dulliau gwell o gasglu data ar waredu.
  3. Ystyried sut i gymell cyfranogiad mewn rhaglenni mabwysiadu REM yn gynnar i wella dulliau o gasglu data am warediadau - 4. Gallai’r grŵp rheoli draenogiaid y môr ymchwilio i ddichonoldeb model newydd ble byddai’r holl ddraenogiaid môr a gaiff eu dal eu glanio (ble mae cyfraddau goroesi’n isel) ond na fyddai unrhyw elw a wneir wrth werthu unrhyw symiau sy’n fwy na’r cyfyngiadau presennol ar ddalfeydd yn cael eu cadw gan bysgotwyr
  4. Dylai’r grŵp rheoli draenogiaid y môr ystyried manteision ac anfanteision sefydlu dull sy’n cyfyngu ar ddalfeydd neu’n defnyddio cwotâu (yn hytrach na dull sy’n ymwneud â sgil-ddalfeydd), a allai gynnwys dyletswydd i lanio pysgod. - 6. Adolygu’r posibilrwydd o ddefnyddio tymhorau caeedig gofodol-amserol lleol er mwyn helpu i leihau sgil-ddalfa draenogiaid y môr, yn enwedig o gydgasgliadau cyn silio, yn unol â thystiolaeth sy’n datblygu (gweler nod 7).

Dangosyddion y Nod

Mae data newydd ynghylch gwaredu draenogiaid y môr wedi ei greu, ac, yng ngoleuni unrhyw ganfyddiadau newydd, mae’r dull o reoli drwy waredu wedi ei ail-ystyried.  Mae’r grŵp rheoli draenogiaid y môr wedi adolygu’r dull rheoli domestig sy’n ymwneud â gwaredu, yn cynnwys dichonoldeb glanio’r holl ddraenogiaid y môr (lle mae cyfraddau goroesi’n isel).

Amcanion perthnasol y Deddf Pysgodfeydd

Amcanion perthnasol y Ddeddf Pysgodfeydd yw:

  • amcan sgil-ddalfeydd
  • amcan cynaliadwyedd.

Nod 4: Sicrhau cydymffurfiaeth lawn â rheoliadau yn ymwneud â draenogiaid y môr

Rhesymeg

Bydd y nod hwn yn sicrhau bod pawb sy’n pysgota draenogiaid y môr yn deall y rheoliadau ac yn cydymffurfio â hwy.

Sut y gellir cyflawni hyn: tymor byr

  1. Parhau â’r fframwaith presennol ar gyfer rheoli draenogiaid y môr a rennir rhwng Cymru a Lloegr, â phosibiliadau am amrywiadau rhanbarthol rhwng dyfroedd Cymru a rhanbarthau (IFCA) Lloegr.
  2. Gwella’r cydweithredu rhwng cyrff rheoleiddio ynghylch gorfodaeth a dargedir ac unioni dulliau gweithredu er mwyn sicrhau cysondeb o ran dulliau cyrff rheoleiddio o orfodi deddfwriaeth RBS3.
  3. Gwella’r cyfathrebu a’r ddealltwriaeth o reoliadau ynghylch draenogiaid y môr, gan gynnwys prynwyr a gwerthwyr cofrestredig (RBS). Gellir cyflawni hyn drwy: - ddatblygu canllawiau eglurach gan yr MMO ar reoliadau draenogiaid y môr ar GOV.UK a gwella cyfathrebu â deiliaid presennol trwyddedig - y grŵp rheoli draenogiaid y môr i ddarparu gwybodaeth ymhlith y gymuned bysgota masnachol a hamdden - cydgasglu is-ddeddfau yr IFCA a Chymru fel rhan o’r FMP hwn[footnote 4] - cyfleu rheoliadau i brynwyr draenogiaid y môr yn well er mwyn gwella cydymffurfiaeth, er enghraifft, drwy law’r grŵp rheoli draenogiaid y môr, y gadwyn gyflenwi ehangach a gwaith ymgysylltu MMO gyda chymunedau arfordirol - ymchwilio i ganfod sut i wella arwyddion ynghylch rheoliadau presennol mewn cyrchfannau pysgota poblogaidd a mannau lletygarwch lleol.

Sut y gellir cyflawni hyn: tymor canolig/hir

  1. Comisiynu ymchwil i sicrhau dealltwriaeth well ynghylch lefelau presennol y gydymffurfiaeth â rheoliadau ynghylch draenogiaid y môr
  2. Ystyried sefydlu gofyniad sy’n nodi bod yn rhaid i gychod pysgota waredu draenogiaid y môr dros ben yn syth er mwyn hwyluso gorfodi rheoliadau yn ymwneud â draenogiaid y môr yn effeithiol ar y môr yn hytrach na dim ond gwaredu wrth lanio (i’w ystyried ochr yn ochr ag adolygu’r dull ‘glanio’r holl ddraenogiaid y mׅôr’ cyferbyniol a nodir yn Nod 3).
  3. Adolygu’r ‘Gwaharddiadau’ o dan Orchymyn Draenogiaid y Môr (Ardaloedd Penodedig) (Gwaharddiad Pysgota) (Amrywio) 1999 i ystyried:
    • perthnasedd ar draws pob sector,
    • pa un ai a oes angen ehangu’r gwaharddiadau y tu hwnt i’w cwmpas presennol, er enghraifft, er mwyn cynnwys pysgota o gwch,
    • a oes angen ystyried ychwanegu cymal cludo/tybio
  4. Gweithio i sicrhau cydraddoldeb yn y sector o ran sicrhau bod rheoliadau yn ymwneud â draenogiaid y môr yn gymwys i bawb sy’n pysgota draenogiaid y môr. Gallai hyn gynnwys ystyried sut ddylid rheoli cychod sydd heb foduron
  5. Adolygu oblygiadau ailddiffinio ‘sgil-ddalfeydd’ draenogiaid y môr ar gyfer rhwydi trwy gyflwyno cyfyngiad ar ganran cyfansoddiad dalfeydd (er enghraifft, llai na 50% o gyfanswm dalfeydd).

Dangosyddion y Nod

Paratoi a chyhoeddi diweddariad o ganllawiau’r MMO ynghylch draenogiaid y môr. Mae cyfathrebu ar reoliadau draenogiaid y môr wedi gwella drwy’r grŵp rheoli draenogiaid y môr,  Mae lefelau cydymffurfiaeth â rheoliadau draenogiaid y môr wedi gwella.

Amcanion y Ddeddf Pysgodfeydd

Yr amcan perthnasol yn y Ddeddf Pysgodfeydd yw’r amcan budd cenedlaethol

Nod cymdeithasol ac economaidd

Nod 5: Mwyafu buddion pysgota draenogiaid y môr i gymunedau arfordirol lleol

Rhesymeg

Mae draenogiaid y môr yn arbennig o bwysig i bysgotwyr y glannau oherwydd prisiau uchel y farchnad, profiad pysgota deniadol i bysgotwyr môr hamdden ac etifeddiaeth hanesyddol ar gyfer cymunedau arfordirol Cymru a Lloegr. Os caiff ei reoli’n briodol, gallai pysgota draenogiaid y môr sicrhau buddion cymdeithasol ac economaidd sylweddol i gymunedau arfordirol lleol.

Sut y gellir cyflawni hyn: tymor byr

  1. Defnyddio amodau trwyddedau yn achos cyfyngiadau ar ddalfeydd a gaiff eu pennu’n flynyddol yn hytrach na deddfwriaeth eilaidd i alluogi rheoli pysgodfeydd yn hyblyg a chaniatáu i bysgotwyr elwa’n gynt ar newidiadau ac yn unol â thystiolaeth sy’n esblygu.
  2. Cynyddu ymchwil ar bwysigrwydd cymdeithasol, economaidd a diwylliannol pysgodfeydd draenogiaid y môr i ddangos y manteision i gymunedau arfordirol lleol a sut y gellid eu cynyddu a’u mesur.

Sut y gellir cyflawni hyn: tymor canolig/hir

  1. Ceisio adolygu buddion pysgota am ddraenogiaid y môr ac ystyried y dull rheoli yn sgil tystiolaeth newydd. Gallai hyn gynnwys er enghraifft gweithredoedd penodol i sicrhau’r buddion mwyaf ar gyfer gwahanol grwpiau, ee pysgotwyr masnachol y glannau neu enweirwyr môr hamdden, yn ôl y buddion a gynhyrchir (os bernir bod hynny’n briodol). Dylai’r adolygiad o systemau awdurdodi amgen a amlinellir yn nod 2 hefyd fod yn gydgysylltiedig â’r amcan hwn.
  2. Ystyried cymhwyso offeryn dyrannu dalfeydd draenogiaid y môr ICES (ar ôl ei ddiwygio fel rhan o ymarfer meincnodi 2023-24 ICES) i helpu i ddyrannu dalfeydd draenogiaid y môr yn deg.
  3. Ystyried sut i sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau draenogiaid y môr gan brynwyr a gwerthwyr draenogiaid y môr yn ogystal â physgotwyr er mwyn helpu cymunedau arfordirol lleol i fanteisio’n llawn ar fuddion pysgota draenogiaid y môr (gweler nod 4).

Dangosyddion y Nod

Mae gwaith ymchwil wedi ei gomisiynu ynghylch buddion cymdeithasol, economaidd a diwylliannol pysgodfeydd draenogiaid y môr.  Mae cyfyngiadau ar ddalfeydd wedi symud i amodau trwyddedau i wella hyblygrwydd rheoli.

Amcanion perthnasol y Ddeddf Pysgodfeydd

Amcanion perthnasol y Ddeddf Pysgodfeydd yw:

  • amcan budd cenedlaethol

  • amcan cynaliadwyedd

Nodau o ran lefelau stoc

Nod 6: Cynaeafu’r stoc draenogiaid y môr yn gynaliadwy yn unol â chyngor gwyddonol 

Rhesymeg

Prif nod FMPs yw sicrhau y caiff y stociau sy’n cael sylw ganddynt eu cynaeafu’n gynaliadwy. Ers cyflwyno’r dull rheoli presennol yn 2015, mae cynaeafu’r stoc draenogiaid y môr wedi’i gynnal o fewn terfynau cynaliadwy yn unol â chyngor ICES.

Yn y dyfodol, efallai y gellir adeiladu ar y sylfaen hon i wella’r buddion posibl yn sgil pysgota draenogiaid y môr drwy archwilio strategaethau cynaeafu amgen yn unol â nodau eraill yr FMP.

Cafodd y nod ei ddatblygu i sicrhau bod stociau draenogiaid y môr yn cael eu cynaeafu’n gynaliadwy a bydd yn cyfrannu’n bositif at sicrhau Statws Amgylcheddol Da (GES) i ddisgrifydd 3 (stociau pysgod a physgod cregyn masnachol) Strategaeth Forol y DU yn nyfroedd Cymru a Lloegr.

Sut y gellir cyflawni hyn: tymor byr

  1. Parhau i ddyrannu dalfeydd yn unol â chyngor gwyddonol ICES nad yw’n mynd y tu hwnt i ddull MSY (o fewn cyfyngau hyder 95%)
  2. Ystyried sut i lenwi bylchau yn y dystiolaeth sy’n ofynnol er mwyn ar gyfer gwella asesiadau o stoc, gan gynnwys data ychwanegol ar lefelau gwaredu yn y sector masnachol a dalfeydd gan bysgotwyr hamdden:

    • cydweithio â gwyddonwyr, cyrff rheoleiddio a’r sector hamdden i wella’r broses o gasglu data ynghylch dalfeydd hamdden – gan gynnwys opsiynau ar gyfer dulliau eraill, er enghraifft, cymwysiadau fel y CatchApp, cofrestru ac adrodd, a dulliau gweithredu ar y safle
    • gweler nod 3 i weld rhagor o fanylion ynghylch casglu data gwaredu

Sut y gellir cyflawni hyn: tymor canolig/hir

  1. Ystyried canlyniadau ymarfer meincnodi ICES yn 2023-24 a goblygiadau ar gyfer strategaethau rheoli stoc/cynaeafu yn y dyfodol.
  2. Ar ôl i ymarfer meincnodi ICES ddod i ben, adolygu strategaethau cynaeafu presennol ar gyfer draenogiaid y môr a chynnal ymchwil i asesu strategaethau amgen. Ystyried strategaethau cynaeafu amgen sy’n blaenoriaethu buddion i’r gymdeithas ac i’r ecosystem (er enghraifft, y cynnyrch economaidd mwyaf (MEY), Strategaeth Stoc Fawr, Uchafswm Buddion Cymdeithasol) gan fwriadu mwyafu effeithlonrwydd, proffidioldeb a chynaliadwyedd cynaeafu draenogiaid y môr yn unol â nodau eraill yr FMP.

Dangosyddion y Nod

Mae pwysau pysgota yn cael ei gynnal o fewn terfynau cynaliadwy yn unol â chyngor ar gyflawni’r cynnyrch cynaliadwy mwyaf (MSY).  Mae mwy o ymchwil i lenwi bylchau yn y data wedi ei ddarparu i asesu stoc yn well ac asesu strategaethau cynaeafu amgen.  Mae strategaethau rheoli wedi eu hailystyried yn sgil tystiolaeth newydd.

Amcanion perthnasol y Ddeddf Pysgodfeydd

Amcanion perthnasol y Ddeddf Pysgodfeydd yw:

  • amcan rhagofalus

  • amcan cynaliadwyedd

  • amcan gwyddonol

  • amcan budd cenedlaethol

Nod 7: Amddiffyniadau parhaus ar gyfer stoc draenogiaid y môr ifanc a rhai sy’n silio

Rhesymeg

Er y gwelid arwyddion o adferiad stoc draenogiaid y môr yn ystod blynyddoedd diweddar, mae biomas stoc sy’n silio, SSB a recriwtio pysgod ifanc yn dal yn destun pryder. Budd dulliau effeithiol o amddiffyn stoc sy’n silio a stoc ifanc draenogiaid y môr yn galluogi’r stoc i adfer yn fwyaf effeithiol.

Sut y gellir cyflawni hyn: tymor byr

  1. Casglu tystiolaeth ynghylch adegau a hyd mwyaf addas y tymhorau caeedig er mwyn optimeiddio diogelu stociau draenogiaid y môr sy’n silio. Dylai hyn gynnwys ymchwilio i’r posibilrwydd o amrywiadau rhanbarthol ac asesiad o’r effeithiau posibl ar bysgotwyr.
  2. Datblygu canllawiau trin pysgod sy’n cynnwys arferion gorau er mwyn gwella lefelau goroesi pysgod o bysgodfeydd masnachol a hamdden.

Sut y gellir cyflawni hyn: tymor canolig/hir

  1. Ystyried gwahardd rhwydi sefydlog mewn meithrinfeydd draenogiaid y môr, a chymhwyso rheolau BNA at bysgota ar y lan yn ogystal â physgota o gychod.
  2. Adolygu’r terfynau maint mwyaf priodol ar gyfer y stoc draenogiaid y môr. Er enghraifft, ystyried MCRS, neu feintiau slotiau lle bydd pysgod sy’n fwy ac yn llai na maint penodol yn cael eu dychwelyd i’r stoc bridio.
  3. Adolygu’r posibilrwydd o ddefnyddio tymhorau caeedig gofodol-amserol lleol er mwyn diogelu draenogiaid y môr, yn unol â thystiolaeth sy’n datblygu.
  4. Ystyried datblygu dulliau o addasu offer er mwyn lleihau sgil-ddalfeydd draenogiaid y môr ifanc.
  5. Cynyddu ymchwil er mwyn sicrhau dealltwriaeth well o’r berthynas rhwng ffactorau amgylcheddol, yn enwedig effaith y newid yn yr hinsawdd a recriwtio pysgod ifanc i’r stoc draenogiaid y môr.

Dangosyddion y Nod

Mae SSB ac FMSY (marwolaethau pysgota ar lefelau sy’n gyson â’r cynnyrch cynaliadwy mwyaf) wedi eu monitro.  Mae canllawiau newydd ynghylch trin a thrafod pysgod wedi eu creu.  Mae cyfyngiadau maint priodol ar gyfer stoc draenogiaid y môr wedi eu hadolygu.

Amcanion perthnasol y Ddeddf Pysgodfeydd

Amcanion perthnasol y Ddeddf Pysgodfeydd yw:

  • amcan cynaliadwyedd

  • amcan rhagofalus

  • amcan ecosystem

Nodau amgylcheddol ehangach

Nod 8: Lleiafu effaith pysgota draenogiaid y môr ar yr ecosystem forol ehangach

Mae cyrff cadwraeth natur statudol (SNCBs) wedi rhoi cyngor ynghylch cadwraeth ar risgiau pysgota draenogiaid y môr i rywogaethau hynod symudol dynodedig oddi allan i ffiniau Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPAs) a risgiau i ddisgrifyddion Strategaeth Forol y DU yn deillio o bysgodfeydd sydd wedi’u cynnwys mewn FMPs (gweler Cyngor SNCB ar ystyriaethau amgylcheddol ehangach yn y ddogfen Atodiadau’r FMP Draenogiaid y Môr a gyhoeddwyd ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus yn 2023).

Mae Ardaloedd Morol Gwarchodedig Iawn (HPMAs) yn gwarchod yr holl rywogaethau a chynefinoedd a phrosesau ecosystem cysylltiedig o fewn terfyn y safle, gan gynnwys gwely’r môr a’r golofn ddŵr. Rhagwelir y bydd gweithgareddau echdynnol, dinistriol a dyddodiadol yn cael eu gwahardd yn yr HPMAs. Bydd hyn yn cynnwys yr holl bysgota masnachol a hamdden. Mae cyngor yr SNCB, yn ogystal â blaenoriaethau rhanddeiliaid, Defra a Llywodraeth Cymru, wedi llywio’r nodau a nodir yn yr adran ganlynol.

Rhesymeg

Ategir diwydiant pysgota ffyniannus gan amgylchedd morol iach. Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i ddull ecosystem o reoli pysgodfeydd a fydd yn rhoi cyfrif am, ac yn ceisio lleihau, effeithiau ar rywogaethau anfasnachol a’r amgylchedd morol.

Mae amcan ecosystemau’r Ddeddf yn diffinio bod dull sy’n seiliedig ar ecosystemau o reoli pysgodfeydd yn ddull sydd:

  • yn sicrhau bod pwysau cyfunol gweithgareddau dynol yn cael ei gynnal o fewn lefelau sy’n gydnaws â chyflawni statws amgylcheddol da - yn unol ag ystyr Rheoliadau Strategaeth Forol 2010 (O.S. 2010/1627)
  • nad yw’n peryglu gallu ecosystemau morol i ymateb i newidiadau a achosir gan bobl

Mae nod 8 wedi ei rannu’n 3 is-nod ar wahân, a phob un yn canolbwyntio ar wahanol agwedd ar effaith y bysgodfa ar ecosystem y môr.

Nod 8.1: Lleihau, sgil-ddalfeydd rhywogaethau sensitif mewn pysgodfeydd draenogiaid y môr, a lle bo’n bosibl, eu dileu

Rhesymeg

Mae’r amcan ecosystem yn y Ddeddf yn nodi bod ‘dalfeydd damweiniol o rywogaethau sensitif yn cael eu lleihau a, lle bo’n bosibl, eu dileu’, tra bod menter lliniaru sgil-ddalfeydd bywyd gwyllt morol y DU yn nodi’n fanylach yr amcanion polisi a’r camau gweithredu sydd eu hangen i gyflawni’r amcan ecosystem.

Mae rhai elfennau o’r bysgodfa draenogiaid y môr, yn enwedig y defnydd o rwydi, yn peri risg o sgil-ddal rhywogaethau gan gynnwys adar y môr, mamaliaid morol, elasmobranciaid (siarcod, garwbysgod a morgathod), crwbanod môr a physgod mudol (gan gynnwys eogiaid, herlod a gwangod). Mae rhai o’r rhywogaethau hyn yn nodweddion o Ardaloedd Morol Gwarchodedig, y mae eu hamddiffyniad yn ymestyn y tu hwnt i derfynau safleoedd; mae gan eraill dargedau poblogaeth sy’n gysylltiedig â Strategaeth Forol y DU, ac mae gan eraill amddiffyniadau rhyngwladol neu dargedau poblogaeth.

I gael rhagor o fanylion ynghylch sut mae FMP Draenogiaid y Môr yn cyd-fynd ac yn croestorri ag ystyriaethau polisi amgylcheddol ehangach, gweler yr adran ar Lywodraethu, cysylltiadau polisi a gofynion ddeddfwriaethol yn y ddogfen Atodiadau’r FMP Draenogiaid y Môra gyhoeddwyd ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus ar FMP Draenogiaid y Môr yn 2023.

Cafodd y nod hwn ei ddatblygu i fynd i’r afael â’r broblem sgil-ddalfeydd sy’n gysylltiedig â’r diwydiant draenogiaid y môr a bydd yn cyfrannu’n bositif at sicrhau Statws Amgylcheddol Da (GES) i Ddisgrifydd 1 (amrywiaeth fiolegol) a Disgrifydd 4 (Gweoedd bwyd) Strategaeth Forol y DU yn nyfroedd Cymru a Lloegr.

Sut y gellir cyflawni hyn: tymor byr

  1. Ystyried caniatáu i bysgotwyr sydd ag awdurdodiadau perthnasol yr opsiwn i newid o ddefnyddio rhwydi sefydlog i offer bachau a leiniau sy’n gysylltiedig â risg is o sgil-ddal rhywogaethau sensitif.
  2. Gwella gwaith monitro i sicrhau dealltwriaeth well o sgil-ddalfeydd rhywogaethau sensitif mewn pysgodfeydd draenogiaid y môr, (er enghraifft, arsylwyr, neu REM).hod.
  3. Adolygu’r arfer o ddefnyddio rhwydi bas gyda’r glannau ac ar y lan i benderfynu a oes angen mesurau diogelu ychwanegol yn rhanbarthol neu’n genedlaethol i atal sgil-ddal pysgod mudol. Ystyried sut mae hyn yn cysylltu ag ystyriaethau arbennig ynghylch rhwydi mewn meithrinfeydd (nod 7).
  4. Defnyddio sianelau cyfathrebu i ddwyn sylw at y canlynol a’u hybu:
    • gofynion presennol i hunan-adrodd am sgil-ddalfeydd
    • cyfranogi mewn arbrofion lleihau sgil-ddalfeydd
    • cynlluniau cymell priodol
    • addasu offer a gweithgareddau i leihau sgil-ddalfeydd (er enghraifft, gweler y mesurau sy’n cael cyhoeddusrwydd ar Hyb Lliniaru Sgil-ddalfeydd Clean Catch UK).
    • deunyddiau perthnasol i ganiatáu i bysgotwyr wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth i leihau eu risg o sgil-ddal rhywogaethau sensitif (er enghraifft, pecynnau cymorth ynghylch sgil-ddalfeydd adar môr).

Sut y gellir cyflawni hyn: tymor canolig/hir

  1. Ystyried sut a ble i gymell ac annog cyfranogiad mewn rhaglenni mabwysiadu REM yn gynnar i wella’r broses o gasglu data ynghylch sgil-ddalfeydd rhywogaethau sensitif sy’n gysylltiedig â physgota draenogiaid y môr.
  2. Ystyried ymchwil i ganfod sut yn union y gellid ymgorffori dull seiliedig ar ecosystemau o reoli draenogiaid y môr yn fersiynau’r dyfodol o’r FMP Draenogiaid y Môr.

Nod 8.2: Lleihau effeithiau offer pysgota ar gyfanrwydd gwely’r môr

Rhesymeg

Lleihau effaith offer pysgota ar gyfanrwydd gwely’r môr a chynefinoedd dyfnforol.

Cafodd y nod hwn ei ddatblygu i fynd i’r afael â phroblem aflonyddu gwely’r môr sy’n gysylltiedig â’r diwydiant draenogiaid y môr a bydd yn cyfrannu’n bositif at sicrhau Statws Amgylcheddol Da (GES) i Ddisgrifydd 1 (Amrywiaeth fiolegol) a Disgrifydd 6 (Integriti Gwaelod y Môr) Strategaeth Forol y DU yn nyfroedd Cymru a Lloegr.

Sut y gellir cyflawni hyn

  1. Cynnal y cyfyngiadau presennol ar dreillio wedi’i dargedu a rhwydo draenogiaid y môr fel rhan o symudiad parhaus tuag at offer sy’n amharu llai (er enghraifft, bachau a leiniau). Mae hyn hefyd yn berthnasol i nod 8.1 i leihau sgil-ddal rhywogaethau sensitif yn anfwriadol.
  2. Gan gydweithio â rhanddeiliaid, bydd Defra a Llywodraeth Cymru yn ystyried y dystiolaeth ac yna’n datblygu argymhellion pellach ynghylch effeithiau posibl gweithgareddau pysgota (ynghyd â gweithgareddau eraill) ar gyfanrwydd gwely’r môr a chyflwr cynefinoedd dyfnforol. Bydd hyn yn cynnwys cyfrannu at weithredu a chydgysylltu’r Gweithgor ynghylch Effaith ar Gynefinoedd Dyfnforol. Bydd y gwaith hwn yn ystyried y materion ar lefel strategol ac yng nghyd-destun newidiadau parhaus mewn defnydd o’r gofod morol a diogelu’r amgylchedd i gyflawni amcan Statws Amgylcheddol Da yn unol â Strategaeth Forol y DU.

Nod 8.3. Lleihau cyfraniad pysgota draenogiaid y môr at sbwriel yn y môr

Rhesymeg

Mae offer pysgota sydd wedi’i adael, ei golli neu ei waredu yn gysylltiedig â rhywogaethau sensitif yn cael eu maglu a physgota anfwriadol (‘ghost fishing’).Cafodd y nod hwn ei ddatblygu i helpu lleihau sbwriel yn y môr sy’n gysylltiedig â’r diwydiant draenogiaid y môr a bydd yn cyfrannu’n bositif at sicrhau Statws Amgylcheddol Da (GES) i Ddisgrifydd 10 (sbwriel yn y môr) Strategaeth Forol y DU yn nyfroedd Cymru a Lloegr.

Sut y gellir cyflawni hyn

  1. Rhoi’r ail ‘Gynllun Gweithredu Rhanbarthol ar Sbwriel Morol’ ar waith, gan gynnwys camau gweithredu i fynd i’r afael â sbwriel morol sy’n deillio o bysgota.
  2. Gweithredu ‘cynllun aml-flwyddyn ‘Ailgylchu Offer Pysgota sydd wedi Cyrraedd Diwedd ei Oes’ (Cymru), sef cynllun cenedlaethol i gasglu ac ailgylchu offer pysgota sydd wedi cyrraedd diwedd ei oes.
  3. Parhau â rhaglenni monitro i asesu sbwriel ar wely’r môr, sbwriel ar wyneb y môr a sbwriel ar draethau. Hefyd, cefnogi mentrau ymchwil parhaus i gynorthwyo i ailddefnyddio offer pysgota sydd wedi cyrraedd diwedd ei oes a’i addasu at ddibenion gwahanol yn ôl i’r diwydiant pysgota.

Dangosyddion nod 8

Mae dulliau casglu data ynghylch sgil-ddalfeydd sensitif sy’n gysylltiedig â physgota draenogiaid y môr wedi gwella, gan gynnwys drwy raglenni mabwysiadu REM yn gynnar. Ceir mwy o ymwybyddiaeth ymhlith y gymuned bysgota draenogiaid y môr ynghylch gofynion monitro presennol gan gynnwys ar sbwriel môr a sgil-ddalfeydd.

Amcanion perthnasol y Ddeddf Pysgodfeydd

Amcanion perthnasol y Ddeddf Pysgodfeydd yw:

  • amcan sgil-ddalfeydd

  • amcan ecosystem

  • amcan cynaliadwyedd

Nod 9: Lliniaru ac addasu yn unol ag effaith y newid yn yr hinsawdd ar bysgota draenogiaid y môr

Rhesymeg

Mae Deddf y Newid yn yr Hinsawdd 2008 (diwygiwyd yn 2019) yn gosod targed cyfreithiol rwymol i gyflawni sero net o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHGE) erbyn 2050 ar draws economi’r DU, ag uchelgais o ostyngiad o 78% erbyn 2035. Er mwyn cynorthwyo i gyflawni’r targedau hyn, mae’n rhaid i bob sector, gan gynnwys sector bwyd môr y DU, ddatblygu cynlluniau i leihau eu GHGE a defnyddio ffynonellau ynni glân amgen.

Bydd effaith y newid yn yr hinsawdd ar stociau pysgod, ac felly ar y diwydiant pysgota, yn debygol o gynyddu yn y dyfodol. Felly mae angen i’r FMP Draenogiaid y Môr gynorthwyo’r diwydiant i addasu i effaith y newid yn yr hinsawdd ar stociau draenogiaid y môr, a chyfrannu at ymdrechion i liniaru’r newid yn yr hinsawdd i gyflawni’r targed sero net lle bynnag y bo modd. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys:

  • newidiadau technolegol, rheolaethol ac ymddygiadol i wella effeithlonrwydd ynni
  • trosglwyddo i danwydd a ffynonellau ynni amgen
  • lleihau effaith uniongyrchol pysgodfeydd ar storfeydd carbon morol

Gellir cyflawni hyn drwy’r camau isod.

Camau ar y lefel genedlaethol oddi allan i’r FMP hwn

  1. Cynyddu’r sylfaen dystiolaeth ynghylch effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar stociau pysgod a physgod cregyn a physgodfeydd drwy’r prosiectau ymchwil a datblygu presennol, er enghraifft, y Bartneriaeth Effaith y Newid Hinsawdd ar y Môr (MCCIP).
  2. Datblygu’r sylfaen dystiolaeth ynghylch cynefinoedd carbon glas yn y DU drwy bartneriaethau presennol, er enghraifft, y Bartneriaeth Tystiolaeth Carbon Glas y DU.
  3. Cydweithio ar draws llywodraethau, diwydiant a sefydliadau academaidd i ddeall y bylchau presennol yn y dystiolaeth a’r datblygiadau arloesol diweddaraf i gynorthwyo i ddatblygu llwybrau tuag at sero net ar gyfer fflyd bysgota’r DU.

Lefel gweithredu yr FMP: tymor byr

  1. Ystyried ehangu ymchwil ynghylch effaith y newid yn yr hinsawdd ar ddosbarthiad,  helaethrwydd, a recriwtio draenogiaid y môr - gan gynnwys archwilio’r defnydd o wyddoniaeth dinasyddion a gwybodaeth seiliedig ar brofiadau i fapio symudiadau o ran ystodau rhywogaethau.
  2. Ystyried ehangu ymchwil i ddeall ôl troed carbon y bysgodfa draenogiaid y môr a sut y gellid ei leihau.

Lefel gweithredu yr FMP: tymor canolig/hir

  1. Integreiddio tystiolaeth newydd ym mhenderfyniadau rheoli’r dyfodol a fersiynau’r dyfodol o’r FMP draenogiaid y môr.
  2. Ystyried sut i gynorthwyo diwydiant i addasu i effeithiau amgylcheddol y newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys newidiadau o ran dosbarthiadau’r stoc. draenogiaid y môr mewn ymateb i dymheredd y môr yn cynhesu a mynediad at gyfleoedd pysgota yn y dyfodol.
  3. Ystyried sut i gynorthwyo diwydiant i ddatgarboneiddio (er enghraifft, yn unol â tharged Sero Net erbyn 2050).
  4. Gallai strategaeth gynaeafu amgen (er enghraifft, strategaeth stoc fawr neu MEY, fel y’i pennwyd gan yr adolygiad sy’n gysylltiedig â nod 6) gynyddu biomas draenogiaid y môr a chyfrannu at wella storio carbon y cefnforoedd.

Dangosyddion y Nod

Gwell sylfaen dystiolaeth o fonitro allyriadau cychod ar gael sy’n gysylltiedig â glanio draenogiaid y môr ac effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar eu poblogaethau.

Amcanion perthnasol y Ddeddf Pysgodfeydd

Amcanion perthnasol y Ddeddf Pysgodfeydd yw:

  • amcan y newid yn yr hinsawdd
  • amcan ecosystem

Cydweithredu rhyngwladol

Mae stoc ogleddol draenogiaid y môr sy’n destun yr FMP hwn hefyd yn ymestyn i ddyfroedd tiriogaethol yr UE.  Felly, mae’r stoc draenogiaid y môr yn stoc a rennir, ac mae’n cael ei rheoli’n llwyddiannus ar y cyd ar lefel y DU a’r UE ers 2015 (yn ogystal â dulliau rheoli rhanbarthol priodol).

Mae’r FMP hwn yn ymdrin â dulliau domestig o reoli draenogiaid y môr yn nyfroedd Cymru a Lloegr a bydd yn berthnasol i bob cwch sy’n pysgota yn y dyfroedd hyn. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod pysgotwyr y DU yn elwa’n llawn ar fanteision rheoli stoc yn effeithiol, bydd angen cydweithredu rhyngwladol parhaus.

Yn ymgynghoriadau blynyddol 2022, cytunodd y DU a’r UE i ystyried datblygu strategaeth amlflynyddol ar gyfer draenogiaid y môr yn fframwaith y Pwyllgor Arbenigol ar Bysgodfeydd.

Bydd y dystiolaeth a’r dull rheoli a nodir yn y FMP hwn yn llywio dull y DU o ddatblygu strategaeth amlflynyddol ar gyfer draenogiaid y môr. Dylid nodi hefyd y bydd ymarfer meincnodi ICES a ddaw i ben yn 2024 yn ailasesu terfynau unedau stoc, ac yn sgil hynny, efallai bydd goblygiadau o ran rheoli’r stoc a rennir yn y dyfodol.

Gweithredu, monitro ac adolygu’r cynllun

Gweithredu

Mae FMP Draenogiaid Môr Defra yn cynnig gweledigaeth a nodau ar gyfer y bysgodfa, ynghyd â’r polisïau a’r mesurau rheoli sydd eu hangen i wireddu’r nodau hyn. Mae’r FMP hwn yn cynnig mesurau newydd ond nid yw’n eu rhoi ar waith.  Bydd cyfnod gweithredu dilynol ar gyfer y gweithredoedd a’r mesurau yn yr FMP hwn lle bydd angen mecanweithiau priodol i’w cyflawni. Gallai mecanweithiau o’r fath gynnwys mesurau gwirfoddol, amodau ar drwyddedau, is-ddeddfau cenedlaethol a rhanbarthol ac offerynnau statudol. Bydd y cyfnod gweithredu hwn yn datblygu’r cyfnod casglu tystiolaeth presennol, unrhyw weithredu a fu wrth ddatblygu’r FMP a’r opsiynau a drafodwyd gyda rhanddeiliaid.

Bydd cynlluniau gweithredu dilynol yn cael eu monitro a’u hadolygu’n rheolaidd i sicrhau cynnydd. Bydd yr FMP Draenogiaid y Môr yn destun adolygiad statudol o leiaf 6 mlynedd ar ôl ei gyhoeddi. Ar ôl hynny, bydd angen tystiolaeth o’r hyn fydd wedi’i gyflawni trwy’r gweithredoedd a’r mesurau hynny.  Fel rhan o’r broses adolygu, caiff effeithiau amgylcheddol posibl eu monitro, er mwyn gweld a oes angen newid y ffordd y rheolir pysgodfeydd draenogiaid y môr. 

Monitro

Dyma fersiwn gyntaf yr FMP hwn ac mae’n nodi camau cyntaf a’r weledigaeth tymor hir sydd eu hangen i reoli’r bysgodfa’n gynaliadwy. Bydd angen amser i ddatblygu’r cynlluniau a’u rhoi ar waith. Y bwriad yw iddynt alluogi ymagwedd addasol.  Byddant yn cael eu hadolygu a’u gwella dros amser wrth i ni gasglu rhagor o dystiolaeth a chydweithredu â’r sector pysgota a buddiannau ehangach ar reoli’r pysgodfeydd hyn yn gynaliadwy.

Byddwn yn monitro sut y caiff gweithredoedd a mesurau’r FMP hwn eu rhoi ar waith, ac yn eu haddasu. Ceir digon o dystiolaeth eisoes i allu pennu MSY draenogiaid y môr ac i asesu a yw’r stoc yn gynaliadwy. Bydd cynnal a chadw’r stoc draenogiaid y môr ar lefelau cynaliadwy yn dangos effeithiolrwydd y cynllun hwn ar gyfer y stoc hon.

Mae’r FMP hwn yn nodi’r camau arfaethedig i adeiladu sylfaen y dystiolaeth i wella cyfrifiadau asesu stoc ar gyfer draenogiaid y môr. Bydd cynnydd yn y dystiolaeth sydd ar gael ynghyd ag asesiad stoc well yn ddangosydd o effeithiolrwydd y cynllun hwn ar gyfer y stoc hon.

Mae gan y nodau o fewn yr FMP draenogiaid y môr eu dangosyddion eu hunain ond y dangosydd cyffredinol a fydd yn pennu effeithiolrwydd yr FMP hwn yw cynnal pwysau pysgota o fewn lefelau cynaliadwy.

Adolygu

Fel y nodir yn y Ddeddf, bydd yr FMP draenogiaid y môr ar gyfer dyfroedd Cymru a Lloegr yn cael ei adolygu bob chwe blynedd o leiaf. Bydd yr adolygiad ffurfiol hwn yn asesu sut bydd yr FMP wedi perfformio o ran deilliannau a’r canlyniadau a gyflawnir gan gynnwys y rhai sy’n berthnasol i amcanion y Ddeddf. Bydd canfyddiadau’r adolygiad hwn hefyd yn llywio datblygiad fersiynau dilynol o’r FMP.

Bydd yr FMP hefyd yn cael ei asesu fel rhan o’r adolygiad o’r Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd (JFS). Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau polisi pysgodfeydd adolygu’r JFS pryd bynnag y bo hynny’n briodol, neu o leiaf ymhen chwe blynedd ar ôl ei gyhoeddi.

Yn ogystal â’r gofynion statudol a nodir uchod, y bwriad (fel yr amlinellir yn nod 6) yw adolygu’r FMP draenogiaid y môr yn anffurfiol yn amlach ar y cyd â’r grŵp rheoli draenogiaid y môr i sicrhau y gellir parhau i addasu dulliau o reoli’r bysgodfa draenogiaid y môr yn y dyfodol mewn ymateb i dystiolaeth sy’n datblygu a’r amgylchiadau. Gallai hyn gynnwys (fel y nodir yn nod 1) datblygu strategaeth monitro a gwerthuso ar gyfer yr FMP Draenogiaid y Môr.

  1. Awdurdodau Polisi Pysgodfeydd y DU yw Defra, Llywodraeth Cymru; Llywodraeth yr Alban; Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Affairs (DAERA) yng Ngogledd Iwerddon a’r Sefydliad Rheoli Morol (MMO) 

  2. Gweler y Datganiad Tystiolaeth ac Adroddiad Prifysgol Bournemouth yn yr Atodiadau ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus a gyhoeddwyd yn 2023. 

  3. Mae mynediad at bysgod yn y dyfroedd tiriogaethol yn seiliedig ar batrymau pysgota hanesyddol yn ystod cyfnod cyfeirio. 

  4. Gweler strategaeth rheoli pysgodfeydd y glannau yn y ddogfen Atodiadau a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus 2023.