Ymgynghoriad ar y Cynllun Rheoli Pysgodfa arfaethedig ar gyfer Draenogiaid Môr
Llwytho'r canlyniad llawn i lawr
Manylion am y canlyniad
Cawsom 255 o ymatebion i’r ymgynghoriad hwn.
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi ymateb i’r safbwyntiau a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad hwn.
Rydym bellach wedi cyhoeddi’r cynllun rheoli pysgodfeydd draenogiaid môr, fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Pysgodfeydd 2020 ac fel y nodir yn y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym eisiau gwybod beth yw eich barn chi am y polisïau a’r mesurau rheoli arfaethedig a nodir yng Nghynllun Rheoli Pysgodfa (FMP) ar gyfer Draenogiaid môr yn nyfroedd Cymru a Lloegr.
Mae’r FMP arfaethedig wedi cael ei ddatblygu gan Defra a Llywodraeth Cymru, gydag ymgysylltu â rhanddeiliaid yn cael ei hwyluso gan Policy Lab, tîm amlddisgyblaethol o wneuthurwyr polisi, dylunwyr ac ymchwilwyr yn yr Adran Addysg.
Mae’r FMP hwn yn nodi cynlluniau ar gyfer rheoli stociau draenogiaid môr yn gynaliadwy yn nyfroedd Cymru a Lloegr. Mae hefyd yn ceisio sicrhau bod manteision pysgota draenogiaid môr yn y tymor hir yn gallu cael eu gwireddu gan y cymunedau sy’n dibynnu arnynt.
Rydym hefyd yn gofyn am farn ar adroddiad amgylcheddol, sy’n disgrifio effeithiau amgylcheddol tebygol Cynllun Rheoli Pysgodfa ar gyfer Draenogiaid môr.