Guidance

Canllawiau gwirio ID gwirio sylfaenol o 1 Gorffennaf 2021

Updated 1 October 2021

Daw’r canllawiau hyn i rym o 1 Gorffennaf 2021, ond gellir defnyddio’r canllawiau gwirio ID blaenorol hyd at 1 Hydref 2021 hefyd. Mae hyn er mwyn ystyried newidiadau technegol y gallai fod angen i Sefydliadau Cyfrifol eu gwneud yn unol â’r canllawiau wedi’u diweddaru.

Gwiriadau sylfaenol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - Canllawiau ID y Sefydliad Cyfrifol

Canllawiau gwirio hunaniaeth ar gyfer Sefydliadau Cyfrifol (ROs) sy’n cyflwyno gwiriadau sylfaenol i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Cyflwyniad

Mae’r canllawiau hyn yn esbonio’r hyn y mae angen i Sefydliadau Cyfrifol ei wneud er mwyn gwirio pwy yw unigolion sy’n gwneud cais drwyddynt am wiriadau sylfaenol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae canllawiau gwahanol yn bodoli ar gyfer gwirio pwy yw ymgeiswyr am gwiriadau safonol a manylach.

Rhaid i’r person (ymgeisydd) ddarparu dogfennau gwreiddiol (nid copïau) i brofi pwy ydynt.

Rhaid i’r ymgeisydd ddarparu ystod o ddogfennau ID fel rhan o’r broses ymgeisio ar gyfer gwiriad sylfaenol. Mae’r dogfennau sydd eu hangen yn dibynnu ar y llwybr y mae’r cais yn ei gymryd.

Fel Sefydliad Cyfrifol mae’n rhaid i chi:

  • dilyn y broses gwirio ID, fel yr amlinellir yn ein canllawiau, gan ddefnyddio’r rhestrau o ddogfennau yng grwpiau 1, 1a, 2a a 2b
  • gwirio a dilysu’r wybodaeth a ddarprir gan yr ymgeisydd ar y ffurflen gais
  • sefydlu gwir hunaniaeth yr ymgeisydd drwy’r archwiliad wyneb yn wyneb o ystod o ddogfennau fel y nodir yn y canllawiau hyn
  • sicrhau bod yr ymgeisydd yn rhoi manylion yr holl enwau y gwyddys eu bod yn
  • sicrhau bod yr ymgeisydd yn rhoi manylion yr holl gyfeiriadau lle maent wedi byw yn ystod y 5 mlynedd diwethaf
  • sicrhau bod y ffurflen gais wedi’i chwblhau’n llawn a bod yr wybodaeth y mae’n ei chynnwys yn gywir - gall methu â gwneud hyn arwain at oedi

Pan fyddwch yn gwirio dilysrwydd y dogfennau, rhaid i chi sicrhau eich bod yn gwneud hyn ym mhresenoldeb y deiliad. Gall hyn fod yn bresenoldeb corfforol yn bersonol neu drwy gyswllt fideo byw er enghraifft Skype a FaceTime. Yn y ddau achos, rhaid i chi fod â meddiant corfforol o’r dogfennau gwreiddiol. Ni ddylech ddibynnu ar archwilio’r dogfennau drwy gyswllt fideo byw neu drwy wirio copi ffacs neu gopi wedi’i sganio o’r ddogfen. Rhaid i unrhyw risgiau a nodir wrth ddefnyddio fideo byw gael eu hasesu a’u lliniaru gennych os ydych yn gweithredu’r arfer hwn.

Os oes unrhyw anghysondebau yn yr wybodaeth a ddarperir gan yr ymgeisydd a/neu’r dogfennau adnabod a ddarparwyd, ac nad oes amheuaeth o dwyll, gofynnwch i’r ymgeisydd egluro cyn i’r cais gael ei gyflwyno.

Yr hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud fel rhan o’r broses gwirio ID

  • rhaid i chi dderbyn dogfennau dilys, cyfredol a gwreiddiol yn unig
  • rhaid i chi beidio â derbyn llungopïau
  • rhaid i chi beidio â derbyn dogfennau sydd wedi’u printio o’r rhyngrwyd, er enghraifft datganiadau banc y rhyngrwyd
  • rhaid dilysu gwybodaeth adnabod ar gyfer enw, dyddiad geni a chyfeiriad yr ymgeisydd
  • dylech, yn y lle cyntaf, geisio dogfennau gyda hunaniaeth ffotograffig (e.e. pasbort, trwydded yrru ar y dull newydd, ac ati) a chymharu hyn yn ôl tebygrwydd yr ymgeisydd
  • rhaid i bob dogfen fod yn enw cyfredol yr ymgeisydd fel y’i cofnodir ar y ffurflen gais
  • rhaid i chi sicrhau bod yr ymgeisydd yn datgan pob newid enw blaenorol, ac yn darparu prawf dogfennol i gefnogi’r newid enw. Os nad yw’r ymgeisydd yn gallu darparu prawf i gefnogi’r newid enw, dylech gynnal trafodaeth dreiddgar gyda’r ymgeisydd ynglŷn â’r rhesymau pam, cyn dilysu ei hunaniaeth
  • dylech groes-baru hanes cyfeiriad yr ymgeisydd ag unrhyw wybodaeth arall a roddwyd i chi, fel ei CV - gall hyn amlygu os na roddwyd cyfeiriad, er enghraifft os yw CV yr ymgeisydd yn dangos ei fod wedi gweithio yn Lerpwl yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, ond bod y ffurflen gais yn dangos cyfeiriadau Llundain yn unig, efallai yr hoffech holi’r ymgeisydd
  • dim ond unwaith y dylid cynnwys dogfen gan bob un o’r grwpiau yn y cyfrif dogfennau - fel un enghraifft, peidiwch â derbyn dau ddatganiad banc fel dwy o’r dogfennau gofynnol, os ydynt yn dod o’r un banc
  • ni ddylech dderbyn dogfen dramor sy’n cyfateb i ddogfen adnabod os yw’r ddogfen honno wedi’i rhestru fel ‘(UK)’ ar y rhestr o ddogfennau adnabod dilys

Nid yw gwiriad DBS yn darparu tystiolaeth o hawl person i weithio yn y DU. Efallai y bydd angen i chi hefyd gwblhau gwiriad hawl i weithio ar y person i wneud yn siŵr ei fod yn gallu gweithio yn y DU.

Pob ymgeisydd (ac eithrio ymgeiswyr nad ydynt yn wladolion y DU sy’n gwneud cais am waith cyflogedig yn y DU)

Gall hunaniaeth yr ymgeisydd gael ei ddilysu drwy Lwybr 1. Dylai hunaniaeth yr ymgeisydd gael ei ddilysu gan ddefnyddio Llwybr 1. Os na all ymgeisydd ddarparu dogfennau Llwybr 1, gellir defnyddio Llwybr 2 unwaith y bydd y gwiriwr ID yn fodlon bod rheswm dilys yn dilyn trafodaeth gyda’r ymgeisydd.

Os na all ymgeisydd ddarparu’r dogfennau hyn, ni allant gyflwyno gwiriad DBS sylfaenol.

Gwladolion o’r tu allan i’r DU sydd angen gwiriad DBS am waith cyflogedig yn y DU

Rhaid i hunaniaeth yr ymgeisydd gael ei ddilysu drwy Lwybr 1a yn unig.

Os na all ymgeisydd ddarparu’r dogfennau hyn, ni all gyflwyno gwiriad sylfaenol DBS. Y rheswm am hyn yw na ellir sefydlu’r hawl i weithio yn y DU.

Dau lwybr gwirio ID

Llwybr 1 (Ar gyfer pob ymgeisydd ac eithrio ymgeiswyr nad ydynt yn wladolion y DU sydd angen gwiriad DBS am waith cyflogedig yn y DU)

Rhaid i’r ymgeisydd allu dangos y canlynol:

  • 1 ddogfen o Grŵp 1, isod; ac
  • 1 dogfen bellach o naill ai Grŵp 1, neu Grŵp 2a neu 2b, isod

Rhaid i’r cyfuniad o ddogfennau a gyflwynir gadarnhau enw, cyfeiriad a dyddiad geni’r ymgeisydd. Os na ellir cyflawni hyn o fewn 2 ddogfen gellir dewis trydedd ddogfen.

Dylai hunaniaeth yr ymgeisydd gael ei ddilysu gan ddefnyddio Llwybr 1. Os na all ymgeisydd ddarparu dogfennau Llwybr 1, gellir defnyddio Llwybr 2 unwaith y bydd y gwiriwr ID yn fodlon bod rheswm dilys yn dilyn trafodaeth gyda’r ymgeisydd.

Llwybr 1a (Ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn wladolion y DU sydd angen gwiriad DBS am waith cyflogedig yn y DU)

Rhaid i’r ymgeisydd allu dangos y canlynol:

  • 1 ddogfen o Grŵp 1a, isod; ac
  • 1 dogfen bellach naill ai o Grŵp 1, Grŵp 2a neu 2b, isod

Rhaid i’r cyfuniad o ddogfennau a gyflwynir gadarnhau enw, cyfeiriad a dyddiad geni’r ymgeisydd. Os na ellir cyflawni hyn o fewn 2 ddogfen gellir dewis trydedd ddogfen.

Os na all ymgeisydd ddarparu’r dogfennau hyn, ni all gyflwyno cais am wiriad sylfaenol DBS. Y rheswm am hyn yw na ellir sefydlu’r hawl i weithio yn y DU.

Llwybr 2 (Ar gyfer pob ymgeisydd ac eithrio ymgeiswyr nad ydynt yn wladolion y DU sydd angen gwiriad DBS am waith cyflogedig yn y DU)

Os nad oes gan yr ymgeisydd unrhyw un o’r dogfennau yng Ngrŵp 1, rhaid iddo allu dangos:

  • 1 ddogfen o Grŵp 2a
  • 2 ddogfen bellach naill ai o Grŵp 2a neu 2b

Rhaid i’r cyfuniad o ddogfennau a gyflwynir gadarnhau enw, cyfeiriad a dyddiad geni’r ymgeisydd.

Os na all ymgeisydd ddarparu’r dogfennau hyn, ni all gyflwyno cais am wiriad sylfaenol DBS.

Dogfennau adnabod

Grŵp 1: Dogfennau adnabod sylfaenol

Dogfen Nodiadau
Pasbort Unrhyw basbort cyfredol a dilys
Trwydded breswylio fiometrig gyfredol DU
Cerdyn-llun trwydded yrru gyfredol - (llawn neu dros dro) DU, Ynys Manaw, ac Ynysoedd y Sianel
Tystysgrif geni - a gyhoeddwyd o fewn 12 mis i’w geni DU, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel - gan gynnwys y rhai a gyhoeddwyd gan awdurdodau’r DU dramor, e.e. llysgenadaethau, Uchel Gomisiynau a Lluoedd Ei Mawrhydi
Tystysgrif mabwysiadu Y DU ac Ynysoedd y Sianel

Grŵp 1a: Dogfennau adnabod sylfaenol ar gyfer gwladolion nad ydynt o’r DU sydd angen gwiriad DBS ar gyfer gwaith cyflogedig yn y DU

Mae’r rhestr o ddogfennau adnabod sylfaenol ar gyfer gwladolion nad ydynt o’r DU, sydd angen gwiriad DBS ar gyfer gwaith cyflogedig yn y DU, yn cynnwys yr ystod o ddogfennau y gallech eu derbyn ar gyfer person sydd â hawl barhaol neu dros dro i weithio yn y DU.

Gellir dod o hyd i wybodaeth fanylach am ba ddogfen y gallech ei derbyn at ddibenion hawl i weithio, ynghyd ag enghreifftiau o sut olwg sydd arnynt yma.

Dogfennau adnabod sylfaenol ar gyfer gwladolion nad ydynt o’r DU sydd angen gwiriad DBS ar gyfer gwaith cyflogedig yn y DU

Pasbort neu gerdyn pasbort cyfredol sy’n dangos bod y deiliad yn wladolyn o Iwerddon.

Dogfen gyfredol a gyhoeddir gan y Swyddfa Gartref i aelod o deulu dinesydd o’r AEE neu’r Swistir, ac sy’n dangos y caniateir i’r deiliad aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod amhenodol.

Dogfen Mewnfudo Fiometrig gyfredol (Trwydded Breswyl Fiometrig) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref i’r deiliad sy’n nodi bod y person a enwir yn cael aros am gyfnod amhenodol yn y DU, neu nad oes ganddo derfyn amser ar eu harhosiad yn y DU.

Tystiolaeth ar-lein o statws mewnfudo. Naill ai drwy’r gwasanaeth Gweld a Phrofi neu ddefnyddio gwasanaeth ar-lein BRP neu BRC. Cyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref i’r cyflogwr neu ddarpar gyflogwr, sy’n nodi y gall y person a enwir aros yn y DU ac y caniateir iddo wneud y gwaith dan sylw. Rhaid bod yn ddilys. Sylwer: mae hyn yn cynnwys cadarnhad statws digidol EUSS

Pasbort cyfredol wedi’i gymeradwyo i ddangos bod y deiliad wedi’i eithrio rhag rheolaeth fewnfudo aros am gyfnod amhenodol yn y DU, bod ganddo’r hawl i breswylio yn y DU, neu nad oes ganddo derfyn amser ar ei arhosiad yn y DU.

Dogfen Statws Mewnfudo gyfredol a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref i’r deiliad gyda chymeradwyaeth yn nodi bod y person a enwir yn cael aros am gyfnod amhenodol yn y DU neu nad oes ganddo derfyn amser ar ei arhosiad yn y DU, ynghyd â dogfen swyddogol sy’n rhoi rhif Yswiriant Gwladol parhaol y person a’u henw a gyhoeddwyd gan un o asiantaethau’r Llywodraeth neu gyflogwr blaenorol.

Pasbort cyfredol wedi’i gymeradwyo i ddangos bod y deiliad yn cael aros yn y DU a’i fod yn cael gwneud y math o waith dan sylw ar hyn o bryd.

Dogfen Mewnfudo Fiometrig gyfredol (Trwydded Breswyl Fiometrig) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref i’r deiliad sy’n nodi y gall y person a enwir aros yn y DU ar hyn o bryd a’i bod yn cael gwneud y gwaith dan sylw.

Dogfen gyfredol a gyhoeddiwyd gan y Swyddfa Gartref i aelod o deulu dinesydd yr AEE neu’r Swistir, ac sy’n dangos y caniateir i’r deiliad aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod cyfyngedig o amser a gwneud y math o waith dan sylw.

Trwydded gweithiwr trawsffiniol a gyhoeddwyd o dan reoliad 8 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion (Gweithwyr Trawsffiniol) (Ymadael â’r UE) 2020.

Dogfen Statws Mewnfudo gyfredol sy’n cynnwys ffotograff a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref i’r deiliad gyda chymeradwyaeth ddilys yn nodi y gall y person a enwir aros yn y DU, a chaniateir iddo wneud y math o waith dan sylw, ynghyd â dogfen swyddogol sy’n rhoi rhif Yswiriant Gwladol parhaol y person a’u henw a gyhoeddwyd gan un o asiantaethau’r Llywodraeth neu gyflogwr blaenorol.

Dogfen a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref yn dangos bod y deiliad wedi gwneud cais am ganiatâd i ddod i mewn neu i aros o dan Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo ar neu cyn 30 Mehefin 2021 ynghyd â Hysbysiad Dilysu Cadarnhaol gan Wasanaeth Gwirio Cyflogwyr y Swyddfa Gartref.

Cerdyn Cofrestru Cais a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref yn nodi y caniateir i’r deiliad gymryd y gyflogaeth dan sylw, ynghyd â Hysbysiad Dilysu Cadarnhaol gan Wasanaeth Gwirio Cyflogwyr y Swyddfa Gartref.

Hysbysiad Dilysu Cadarnhaol a gyhoeddwyd gan Wasanaeth Gwirio Cyflogwyr y Swyddfa Gartref i’r cyflogwr neu ddarpar gyflogwr, sy’n nodi y gall y person a enwir aros yn y DU ac y caniateir iddo wneud y gwaith dan sylw.

Grŵp 2a: Dogfennau dibynadwy y llywodraeth

Dogfen Nodiadau
Cerdyn-llun trwydded yrru gyfredol - (llawn neu dros dro) Pob gwlad y tu allan i’r DU (ac eithrio Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel)
Trwydded yrru gyfredol (llawn neu dros dro) - fersiwn bapur (os cafodd ei chyhoeddi cyn 1998) DU, Ynys Manaw, ac Ynysoedd y Sianel
Tystysgrif geni - a gyhoeddwyd ar ôl yr amser geni Y DU, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel
Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil Y DU ac Ynysoedd y Sianel
Dogfen mewnfudo, fisa neu drwydded gwaith Cyhoeddwyd gan wlad y tu allan i’r DU. Dim ond ar gyfer rolau lle mae’r ymgeisydd yn byw ac yn gweithio y tu allan i’r DU y mae’n ddilys. Rhaid i fisa/trwydded ymwneud â’r wlad y tu allan i’r DU lle mae’r rôl wedi’i lleoli
Cerdyn ID Lluoedd EM DU
Trwydded arfau tanio DU, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw

Grŵp 2b: Dogfennau hanes ariannol a chymdeithasol

Dogfen Nodiadau Dyddiad cyhoeddi a dilysrwydd
Datganiad morgais DU Cyhoeddwyd yn ystod y 12 mis diwethaf
Datganiad banc neu gymdeithas adeiladu Y DU ac Ynysoedd y Sianel Cyhoeddwyd yn ystod y 3 mis diwethaf
Llythyr cadarnhau agor cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu DU Cyhoeddwyd yn ystod y 3 mis diwethaf
Datganiad cerdyn credyd DU Cyhoeddwyd yn ystod y 3 mis diwethaf
Datganiad ariannol, er enghraifft pensiwn neu waddol DU Cyhoeddwyd yn ystod y 12 mis diwethaf
Datganiad P45 neu P60 Y DU ac Ynysoedd y Sianel Cyhoeddwyd yn ystod y 12 mis diwethaf
Datganiad Treth y Cyngor Y DU ac Ynysoedd y Sianel Cyhoeddwyd yn ystod y 12 mis diwethaf
Llythyr nawdd gan ddarparwr cyflogaeth yn y dyfodol Y tu allan i’r DU yn unig - yn ddilys ar gyfer ymgeiswyr sy’n byw y tu allan i’r DU yn unig ar adeg y cais Rhaid bod yn ddilys o hyd
Bil cyfleustodau DU - nid bil ffôn symudol Cyhoeddwyd yn ystod y 3 mis diwethaf
Datganiad budd-dal, er enghraifft Budd-dal Plant neu bensiwn DU Cyhoeddwyd yn ystod y 3 mis diwethaf
Llywodraeth ganolog neu leol, asiantaeth y llywodraeth, neu ddogfen cyngor lleol sy’n rhoi hawl, er enghraifft gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, y Gwasanaeth Cyflogi, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi Y DU ac Ynysoedd y Sianel Cyhoeddwyd yn ystod y 3 mis diwethaf
Cerdyn ID Cenedlaethol yr AEE   Rhaid bod yn ddilys o hyd
Cerdyn Pasbort Gwyddelig Does dim modd ei ddefnyddio gyda phasbort Gwyddelig Rhaid bod yn ddilys o hyd
Cardiau sy’n cario logo achredu PASS Y DU, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel Rhaid bod yn ddilys o hyd
Llythyr gan brifathro/prifathrawes neu bennaeth coleg Y DU - ar gyfer pobl ifanc 16 i 19 oed mewn addysg amser llawn - dim ond mewn amgylchiadau eithriadol os na ellir darparu dogfennau eraill Rhaid bod yn ddilys o hyd
Datganiad Banc neu gymdeithas adeiladu y tu allan i’r DU Rhaid bod y Gangen wedi’i lleoli yn y wlad lle mae’r ymgeisydd yn byw ac yn gweithio Cyhoeddwyd yn ystod y 3 mis diwethaf

Ymgeiswyr sydd wedi’u mabwysiadu

Os cawsant eu mabwysiadu cyn eu bod yn 10 oed, nid oes angen iddynt ddarparu eu cyfenw ar enedigaeth. Y rheswm am hyn yw yr ystyrir bod oedran cyfrifoldeb troseddol yn 10 oed, o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933, Pennod 12, Adran 50. Mae hyn yn golygu nad oes unrhyw bosibilrwydd y gallai unigolyn gael cofnod troseddol mewn enw a ddefnyddiwyd tan ei fod yn 10 oed.

Gwirio trwyddedau gyrru

Peidiwch â derbyn trwyddedau, ac eithrio’r rhai a nodir yn y rhestr o ddogfennau adnabod dilys.

Mae rhifau trwyddedau gyrru Cymreig, Seisnig a’r Albanaidd yn cynnwys gwybodaeth am enw, rhyw a dyddiad geni’r ymgeisydd. Mae’r wybodaeth hon wedi’i hysgrifennu mewn fformat arbennig ond gellir ei chasglu a’i chyfateb yn ôl yr wybodaeth a ddarperir gan yr ymgeisydd.

Noder nad yw’r dyddiad geni ar drwyddedau gyrru Cymreig, Seisnig ac Albanaidd, a gyhoeddwyd cyn 1977, yn cael ei gofnodi fel cofnod ar wahân ar y drwydded. Gellir cael y dyddiad geni o rif y drwydded yrru a’i wirio yn ôl y dyddiad geni ar y ffurflen gais.

Er enghraifft, fformat y rhif ar gyfer Christine Josephine Robinson, a anwyd ar 2 Gorffennaf 1975

R O B G N 7 5 7 0 2 5 C J 9 9 9 0 1

N N N N N Y M M D Y G G C C C

N = 5 llythyren gyntaf y cyfenw (os yw’r cyfenw’n dechrau MAC neu MC, caiff ei drin fel MC i bawb)

Y = blwyddyn geni

M = mis geni (yn achos menyw, bydd y nifer a gynrychiolir gan yr M cyntaf yn ychwanegu gwerth 5 at y digid cyntaf er enghraifft, byddai menyw a anwyd ym mis Tachwedd (h.y. 11) yn arddangos ‘61’ yn y blychau MM neu os cafodd ei geni ym mis Chwefror (h.y. 02) byddai’n arddangos ‘52’)

D = diwrnod y mis geni

I = llythyr cychwynnol y ddau enw cyntaf - os oes dim ond un, yna bydd 9 yn disodli’r ail lythyr - os yw’r drwydded yn nodi bod gan yr ymgeisydd enw canol, sicrhewch fod un wedi’i ddarparu yn Adran A

C = cynhyrchwyd gan gyfrifiadur

Ar gyfer trwyddedau gyrru Gogledd Iwerddon, Ynys Manaw a Jersey mae rhif y drwydded mewn fformat gwahanol. Mae rhif y drwydded yn unigryw i’r gyrrwr ac ni ellir defnyddio’r dilysiad ‘enw’ neu ‘ddyddiad geni’, fel y dangosir uchod.

Sut ydw i’n gwirio am ddangosyddion twyll?

Dylech bob amser wirio am arwyddion o ymyrryd wrth wirio dogfennau adnabod. Dylid holi ynghylch dogfennau os ydynt yn dangos unrhyw arwyddion o ddifrod, yn enwedig ym meysydd manylion personol fel yr enw a’r ffotograff. Dylai’r canllawiau canlynol eich helpu i gadw llygad am unrhyw arwyddion amheus wrth ddilysu dogfennau. Mae’r Uned Twyll Dogfennau Cenedlaethol (NDFU) yn y Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi canllawiau ar archwilio dogfennau adnabod i ganfod ffugion sylfaenol.

Gwirio pasbort

Gwiriwch ansawdd a chyflwr cyffredinol y pasbort. Dylech ei drin ag amheuaeth os yw wedi’i ddifrodi’n ormodol; yn aml defnyddir difrod damweiniol i guddio ymyrryd.

Dylid archwilio ffotograffau’n ofalus am arwyddion o ddifrod i’r laminiad neu am glud gormodol neu hollti’r laminiad; byddai’r arwyddion hyn yn dangos amnewid lluniau. Os yw’r ffotograff yn ymddangos yn rhy fawr, gallai hyn awgrymu ymgais i guddio ffotograff arall oddi tano. Hefyd dylai fod stribed wedi’i ymgorffori yn y laminiad, a fydd yn dal cyfran o’r ffotograff.

Gwiriwch nad oes unrhyw ddifrod i’r ardal hon. Os yw’r pasbort yn dod o wladolyn dramor, gallwch barhau i ddilyn yr un gweithdrefnau ag uchod.

Mae Swyddfa Basbort Ei Mawrhydi wedi cynhyrchu canllaw i’w ddefnyddio wrth wirio pasbortau er mwyn adnabod.

Gwirio trwydded gyrru â llun

Archwiliwch y drwydded am dystiolaeth o ymyrryd â’r llun neu unrhyw newid i’r manylion printiedig.

Gwirio hen drwydded yrru ar yr hen ddull (dim ffotograff)

Tynnwch y ddogfen o’r waled blastig a gwiriwch ei bod wedi’i phrintio ar y ddwy ochr.

Dylai fod ganddi nod dŵr i’w weld drwy ddal y drwydded i fyny i’r golau ac ni ddylid cael marciau atalnodi yn yr enw na’r cyfeiriad.

Dylai’r dyddiad ‘Dilys Hyd At’ fod y diwrnod cyn pen-blwydd y deiliad yn 70 oed (oni bai bod y deiliad eisoes dros 70 oed).

Felly, gellir croesgyfeirio’r dyddiad ‘Dilys Hyd At’ gyda dyddiad geni’r ymgeisydd wedi’i nodi yn Adran A.

Gwirio tystysgrif geni

Nid yw tystysgrifau geni yn dystiolaeth o hunaniaeth, ac mae’n hawdd eu cael. Er y gall tystysgrifau a gyhoeddir ar adeg eu geni roi mwy o hyder ei fod yn perthyn i’r unigolyn, yn wahanol i dystysgrif a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ni fyddant yn dangos a yw unrhyw wybodaeth wedi’i chywiro neu ei disodli gan gofrestriad newydd.

Gwiriwch ansawdd y papur a ddefnyddir; mae tystysgrifau dilys yn defnyddio gradd uchel. Dylid fod dyfrnod i’w weld pan fydd y ddogfen yn cael ei dal i fyny i’r golau. Byddai unrhyw arwyddion o lyfnder ar yr wyneb yn dangos y gallai’r testun gwreiddiol fod wedi’i olchi neu ei rwbio i ffwrdd. Ni ddylai fod unrhyw arwyddion o ymyrryd, newidiadau try ddefnyddio papur hylif, trosysgrifennu na chamgymeriadau sillafu.

Mae’r rhestr ganlynol yn rhoi rhywfaint o wybodaeth gyffredinol am gwblhau tystysgrif a allai helpu i wneud yn siŵr a yw’r dystysgrif a/neu’r manylion wedi’u ffugio. Darperir hyn fel canllaw yn unig ac nid yw’n hollgynhwysol:

  • dylai fformat y dystysgrif a ddefnyddir fod yn briodol ar gyfer y flwyddyn gofrestru
  • dim ond y cyfenw y dylid ei gofnodi yn y cas uchaf, nid y rhagenw(au)
  • dylai dyddiadau geni gael eu dangos gyda’r diwrnod a’r mis mewn geiriau a’r flwyddyn mewn ffigurau

Gallai’r wybodaeth ganlynol ddangos bod y dystysgrif wedi’i newid:

  • gallai bylchau rhwng manylion a ychwanegwyd yn ffug fod yn afreolaidd o gymharu â gwybodaeth wreiddiol - gallai bylchau ‘trwchus’ neu ‘denau’ awgrymu bod manylion wedi’u hychwanegu
  • efallai na fyddai manylion ffug wedi’u halinio â geiriau eraill
  • efallai na fydd cymeriadau o’r un maint neu siâp â gweddill y manylion
  • gall symudiad y llawysgrifen edrych yn fecanyddol a heb fod yn llifo gyda gweddill y manylion
  • efallai na fydd newidiadau’n gyson e.e. gallai cyfenwau rhieni fod wedi’u newid, ond nid y llofnodion
  • gall yr ardal o amgylch manylion sydd wedi’u hychwanegu neu eu tynnu’n ffug ymateb yn wahanol o dan olau uwchfioled h.y. dangos arwyddion o staenio - yn ogystal, gall rhannau o bapur o’r fath ymddangos yn deneuach lle mae’r ffibr papur wedi’i aflonyddu gan sgraffiniadau

I gael rhagor o wybodaeth am wirio tystysgrifau geni, cyfeiriwch at ddogfen Swyddfa Basbort Ei Mawrhydi sef Canllaw’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol i dystysgrifau geni.

Gwirio cerdyn adnabod llun yr AEE

Archwiliwch y cerdyn am dystiolaeth o ymyrryd â’r llun neu unrhyw newid i’r manylion printiedig.

Gwirio cerdyn ID Lluoedd EM

Archwiliwch y cerdyn am dystiolaeth o ymyrryd â’r llun neu unrhyw newid i’r manylion printiedig.

Gwirio trwydded arfau tanio

Gwiriwch fod y drwydded wedi’i phrintio ar bapur diogelwch glas gyda dyfrnod yr arwyddair Brenhinol a phatrwm gwan yn nodi’r geiriau ‘Y Swyddfa Gartref’.

Archwiliwch y drwydded am dystiolaeth o ymyrryd â’r llun neu unrhyw newid i’r manylion printiedig, a ddylai gynnwys cyfeiriad cartref a dyddiad geni.

Dylai’r drwydded fod wedi’i llofnodi gan y deiliad a dwyn llofnod awdurdodi prif swyddog yr heddlu ar gyfer yr ardal y maent yn byw ynddi, neu fel arfer person y dirprwywyd ei awdurdod iddo.

Gwirio tystiolaeth ar-lein o statws mewnfudo Sicrhewch fod tystiolaeth bob amser yn cael ei chymryd o gyfeiriad gwe .gov.uk.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i weld tystiolaeth o fewnfudo a statws hawl i weithio ar gael yma: Gweld manylion hawl i weithio ymgeisydd am swydd - GOV.UK

Gwirio trwydded breswylio fiometrig

Gwelwch nodweddion trwydded a sut i wirio trwydded breswylio fiometrig ymgeisydd am swydd i weld a oes ganddynt hawl i weithio yn y DU.

Mathau eraill o ID

Sicrhewch fod yr holl lythyrau a datganiadau yn ddiweddar h.y. o fewn cyfnod o dri mis. Peidiwch â derbyn dogfennau sydd wedi’u printio o’r rhyngrwyd.

Gwiriwch mai papur â phennawd llythyr a ddefnyddir, mae penynnau banc yn gywir, ac mae’r holl ddogfennau’n edrych yn ddilys. Dylid croesgyfeirio’r cyfeiriad â’r hyn a ddarperir gan yr ymgeisydd.

Beth ddylech chi ei wneud os ydych chi’n amau hunaniaeth neu ddogfennau ffug?

Os ydych yn amau bod hunaniaeth neu ddogfennau ffug wedi’u cyflwyno i chi ar adeg y cais, peidiwch â bwrw ymlaen â’r broses ymgeisio.

Riportiwch amheuaeth o dwyll hunaniaeth drwy’r wefan Action Fraud.

Ceir rhagor o wybodaeth am dwyll hunaniaeth ar wefan yr heddlu Metropolitanaidd.

Os ydych yn amau twyll hunaniaeth unwaith y bydd gwiriad DBS wedi’i gyflwyno, rhaid i chi ein ffonio ar 03000 200 190.

Fe’ch cynghorir hefyd, o dan Adran 8 o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1996, ei bod yn ofynnol i bob cyflogwr yn y Deyrnas Unedig wneud gwiriadau dogfennau sylfaenol i helpu i atal unrhyw un rhag gweithio’n anghyfreithlon.

Drwy gynnal gwiriadau bydd cyflogwyr yn gallu sefydlu amddiffyniad drostynt eu hunain os gwelir bod unrhyw un o’u cyflogeion yn gweithio’n anghyfreithlon yn ddiweddarach.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar y wefan fisâu a mewnfudo’r DU neu drwy ffonio llinell gymorth y cyflogwyr ar 0845 010 6677.

Ble i fynd am help i wirio dogfennau hunaniaeth a theithio nad ydynt wedi’u cyhoeddi yn y DU

Gallwch fynd i’r gofrestr gyhoeddus o ddogfennau hunaniaeth a theithio dilys ar-lein ar wefan PRADO i nodi’r mesurau diogelu sylfaenol a geir mewn dogfennau Ewropeaidd ac ychydig mwy o ddogfennau cenedligrwydd eraill.

Darperir gwefan PRADO gan Gyngor yr Undeb Ewropeaidd.