Skip to main content
Canllawiau statudol

Asesu ailgylchadwyedd deunydd pecynnu: methodoleg asesu ailgylchadwyedd (RAM) 2027

O dan gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr (EPR) am ddeunydd pecynnu, rhaid i gynhyrchwyr mawr ddefnyddio’r RAM i asesu ailgylchadwyedd deunyddiau pecynnu ac adrodd am ganlyniadau eu hasesiadau wrth y corff rheoleiddio amgylcheddol.

Dogfennau

Manylion

Ar gyfer blwyddyn adrodd 2027 (1 Ionawr i 31 Rhagfyr 2027) y mae’r canllawiau hyn.

Defnyddiwch fersiwn 1.1 o’r RAM i asesu ailgylchadwyedd ar gyfer blwyddyn adrodd 2026 (1 Ionawr i 31 Rhagfyr 2026). 

Nod y fethodoleg asesu ailgylchadwyedd (RAM) yw cymell cynhyrchwyr i ddefnyddio mwy o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu wrth weithgynhyrchu a defnyddio deunydd pecynnu gan eu bod yn talu costau gwaredu uwch o dan gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr (EPR) os defnyddir deunyddiau llai ailgylchadwy. 

Mae’n gyfreithiol ofynnol i gynhyrchwyr mawr y mae’n rhaid iddynt, dan gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr (EPR) am ddeunydd pecynnu, dalu ffioedd gwaredu gwastraff deunydd pecynnu’r cartref, ddefnyddio RAM 2027 i asesu ac adrodd am ailgylchadwyedd deunyddiau pecynnu y cynhyrchion cartref y maent yn eu cyflenwi ar gyfer blwyddyn adrodd 1 Ionawr i 31 Rhagfyr 2027. 

Rhaid i chi wneud y canlynol: 

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am y RAM   

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am y RAM, gan gynnwys cael gwybod am unrhyw newidiadau yn y RAM i’r dyfodol drwy gofrestru ar gyfer ‘cael e-bost am y dudalen hon’ gan ddefnyddio’r ddolen ar frig neu waelod y dudalen hon.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Gorffennaf 2026

Argraffu'r dudalen hon