Skip to main content
Canllawiau statudol

Trosolwg polisi o RAM 2027

Cyhoeddwyd 1 Gorffennaf 2026

Mae’r canllawiau hyn yn rhoi trosolwg o fethodoleg asesu ailgylchadwyedd (RAM) 2027, gan gynnwys pwy sy’n gorfod ei defnyddio, sut mae’n gweithio a’r egwyddorion polisi sy’n ei hategu. 

Dylai cynhyrchwyr mawr ddarllen y canllawiau hyn ochr yn ochr â chanllawiau asesu deunyddiau RAM 2027 i asesu ailgylchadwyedd ar gyfer blwyddyn adrodd 2027 (1 Ionawr i 31 Rhagfyr 2027). 

Dylai cynhyrchwyr mawr ddefnyddio fersiwn 1.1 o’r RAM i asesu ailgylchadwyedd ar gyfer blwyddyn adrodd 2026 (1 Ionawr i 31 Rhagfyr 2026). 

Pwy sy’n gorfod adrodd am ddata ailgylchadwyedd 

O dan gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr (EPR) am ddeunydd pecynnu, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i gynhyrchwyr mawr ddefnyddio’r RAM i asesu ailgylchadwyedd y deunyddiau pecynnu y maent yn eu cyflenwi i gartrefi.  

Rhaid iddynt adrodd am ddata asesu dan y RAM ochr yn ochr â data arall am ddeunyddiau pecynnu wrth y corff rheoleiddio amgylcheddol.  

Gall cynhyrchwyr mawr wirio’r data am ddeunyddiau pecynnu y mae’n rhaid iddynt adrodd amdano o dan gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr (EPR) am ddeunyddiau pecynnu.  

Y deunyddiau pecynnu sydd dan sylw 

Rhaid cynnal asesiadau’r RAM ar y canlynol:  

  • deunyddiau pecynnu i’r cartref, gan gynnwys cynwysyddion diodydd i’r cartref a wnaed o wydr 

  • deunyddiau pecynnu sy’n aml yn mynd i finiau cyhoeddus   

Dim ond ar ddeunydd pecynnu i’r cartref y gellir ei ailddefnyddio a’i ail-lenwi y mae angen cynnal asesiadau’r RAM y tro cyntaf y caiff ei gyflenwi.    

Egwyddorion sy’n cefnogi RAM 2027 

Mae RAM 2027 yn ffordd o asesu a oes modd ailgylchu deunydd pecynnu drwy bob cam o’r broses ailgylchu[troednodyn 1] gan ddefnyddio’r seilwaith ailgylchu gweithredol presennol.  

Dim ond un rhan o’r broses ailgylchu yw casglu deunyddiau pecynnu; rhaid didoli deunydd pecynnu’n effeithiol hefyd, ei ailbrosesu’n ddeunydd eildro y gellir ei ddefnyddio, a’i ddefnyddio mewn ffyrdd sy’n sicrhau bod adnoddau’n cylchdroi yn yr economi (cyfeirir at hyn fel ‘ailgylchu ar raddfa fawr’). 

Mae RAM 2027 yn adeiladu ar fersiwn 1.1 o’r RAM drwy: 

  • gynnal ffocws y fethodoleg ar yr hyn sy’n digwydd yn ymarferol 

  • ystyried technolegau sefydledig a pherfformiad gweithredol yn y byd go iawn 

  • ystyried a oes gan y system ddigon o gapasiti i ddelio â faint a gyflenwir i’r farchnad 

Sut mae’r RAM yn gweithio 

Rhaid i gynhyrchwyr asesu deunydd pecynnu naill ai fel eitem gyflawn o ddeunydd pecynnu sydd wedi’i ffurfio o gydrannau integredig neu fel cydrannau ar wahân a gwneud yn siŵr ei fod yn bodloni’r diffiniad o’r categori deunyddiau y maen nhw’n adrodd oddi tano. Gelwir y cam hwn yn ddosbarthu a chyfeiriwyd ato fel y cyntaf o bum cam mewn fersiynau blaenorol o’r RAM.  

Ar ôl dosbarthu, mae RAM 2027 yn gwerthuso’r eitemau o ddeunyddiau pecynnu a’r cydrannau o dan 8 categori o ddeunyddiau ar 4 cam hanfodol o ailgylchadwyedd: 

  • casglu 

  • didoli 

  • ailbrosesu 

  • defnyddio 

I honni bod deunydd pecynnu’n cael ei “ailgylchu ar raddfa fawr”, rhaid i gynhyrchwyr sicrhau bod ganddynt dystiolaeth o’r canlynol: 

  • mae’r deunydd pecynnu yn symud drwy’r camau hyn yn ymarferol drwy’r seilwaith presennol sydd wedi’i brofi (nid systemau peilot nac arbrofol)  

  • mae gan y system ddigon o gapasiti i ddelio â faint o’r deunydd pecynnu hwn sy’n cael ei gyflenwi i’r farchnad 

Ym mhob cam, rhaid asesu’r deunydd pecynnu fel naill ai coch, oren neu wyrdd (RAG) gyda’r sgoriau asesu terfynol yn cael eu hadrodd ochr yn ochr â data arall dan gyfrifoldebau estynedig cynhyrchwyr am ddeunyddiau pecynnu. 

Mae sgoriau RAG yn effeithio ar y ffioedd gwaredu gwastraff y mae’n rhaid i gynhyrchwyr eu talu am y deunydd pecynnu hwnnw. Bydd yn rhaid talu costau uwch am deunyddiau sydd â sgôr goch o’u cymharu â deunyddiau mwy ailgylchadwy. ‘Modiwleiddio ffioedd’ ydy’r enw ar hyn.    

Dysgwch sut mae ffioedd gwaredu gwastraff yn cael eu cyfrifo.  

Nid yw sgoriau RAG o dan y RAM yn berthnasol i labeli ailgylchadwyedd eraill a allai fod ar y deunydd pecynnu.    

Camau ailgylchadwyedd 

Cyn asesu deunydd pecynnu ar bob cam o’r 4 cam ailgylchadwyedd, rhaid i gynhyrchwyr asesu: 

  • a yw eu deunydd pecynnu’n cael ei ystyried yn eitem o ddeunydd pecynnu cyflawn sydd wedi’i ffurfio o gydrannau integredig ynteu a yw’n gydran ar wahân 

  • o dan ba categori deunyddiau y mae’n rhaid iddynt adrodd amdano 

Dosbarthu ydy’r enw ar hyn. 

Casglu 

Mae casglu yn ystyried a yw’r deunydd pecynnu’n cael ei gasglu drwy system ailgylchu weithredol sefydledig y DU, a sut. Mae’n cyfeirio at y brif ffordd y mae eitem o ddeunydd pecynnu yn ymuno â’r broses ailgylchu a rhaid iddi adlewyrchu systemau sy’n gweithio ar raddfa fawr yn y byd go iawn.  

Mae data casglu’r RAM ar gyfer pob blwyddyn adrodd yn adlewyrchu’r hyn a gesglir adeg cyhoeddi’r RAM. Edrychwch i weld pa ddeunyddiau pecynnu a gesglir yn eang ar gyfer 2027 a blynyddoedd adrodd blaenorol

Cesglir yn eang (ar garreg y drws) 

I gael sgôr werdd yn y cam asesu casgliadau, rhaid i’r eitem o ddeunydd pecynnu neu’r gydran gael ei chasglu ar garreg y drws gan o leiaf 75% o awdurdodau lleol ledled y DU.  

Casgliad cyfyngedig (ar garreg y drws) 

Mae rhai eitemau o ddeunyddiau pecynnu a chydrannau’n cael eu casglu gan nifer sylweddol o awdurdodau lleol ledled y DU ond nid ydynt yn cyrraedd y trothwy o 75% o leiaf ar gyfer casglu eitemau’n eang ar garreg y drws. Gall eitemau ddal i gael eu hasesu ar gamau ailgylchu pellach gyda sgôr heb fod yn well nag oren os ydynt yn cael eu casglu ar garreg y drws gan o leiaf 50% o awdurdodau lleol ledled y DU (casgliad cyfyngedig). 

Rhaid rhoi sgôr goch i ddeunydd pecynnu nad yw wedi’i restru fel deunydd a gesglir yn eang neu’n gyfyngedig, oni bai ei fod yn bodloni gofynion tystiolaeth y cynllun rhoi’n ôl.  

Didoli 

Mae hyn yn cyfeirio at y broses o ddal a dargyfeirio gwastraff deunydd pecynnu i ffrydiau gwastraff priodol i’w hailbrosesu ymhellach. Mewn rhai awdurdodau lleol, mae’r gwahanu hwn yn digwydd yn fwy helaeth ar garreg y drws gan ddefnyddwyr (er enghraifft, systemau gwahanu yn y tarddiad o’u cymharu â systemau casgliadau cymysg).   

At ddibenion y RAM, mae’r ffocws yn cael ei hoelio ar allu gwastraff deunyddiau pecynnu i gael ei ddidoli ar raddfa fawr yng nghyfleusterau adfer deunyddiau gweithredol y DU, ac a oes digon o gapasiti didoli i ddelio â faint a gyflenwir.   

Er bod modd didoli eitemau o ddeunyddiau pecynnu yn dechnegol i’r ffrydiau gwastraff perthnasol, gall ffactorau amrywiol eu rhwystro rhag cael eu gwahanu’n effeithiol mewn cyfleusterau didoli fel: 

  • cyfyngiadau’r offer 

  • halogiad 

  • dyluniad y deunydd pecynnu 

  • pwysau o ran y llif 

Rhaid i asesiadau fod yn seiliedig ar ym mha gyflwr y gellir disgwyl yn rhesymol i’r eitem o ddeunydd pecynnu a’r cydrannau gyrraedd y system ailgylchu.  

Efallai y bydd fersiynau o’r RAM i’r dyfodol yn ceisio defnyddio data samplu gan gyfleusterau adfer deunyddiau i ddarparu asesiad mwy cywir o’r galluoedd didoli a’r arbedion effeithlonrwydd sy’n ymarferol yn y DU ar gyfer holl ddeunyddiau a fformatiau’r deunyddiau pecynnu. 

Ailbrosesu  

Ailbrosesu yw’r cam lle gellir troi gwastraff deunyddiau pecynnu wedi’i ddidoli yn ddeunydd eildro y gellir ei ddefnyddio. Mae’r cam hwn yn rhan hanfodol o’r RAM, gan asesu a oes modd ailgylchu deunydd drwy dechnolegau sy’n bodoli ac yn gweithredu ar raddfa fasnachol.  

Mae angen amodau a thechnolegau ailbrosesu penodol ar gyfer pob math o ddeunydd. Hyd yn oed pan fydd deunydd yn cyrraedd ailbrosesydd, mae’r gallu i’w drosi’n llwyddiannus yn dibynnu ar y canlynol: 

  • gallu’r seilwaith a osodwyd 

  • a oes digon o gapasiti i ddelio â faint a gyflenwir  

Mae gan wahanol systemau ailbrosesu derfynau gwahanol o ran yr hyn y gallant ymdopi ag ef.  

Ymysg y problemau cyffredin y mae: 

  • deunyddiau sy’n halogi 

  • gludyddion 

  • inciau 

  • amlhaenau 

  • polymerau anghydnaws 

Os yw lefelau’r halogiad yn rhy uchel, mae’r broses yn mynd yn llai effeithlon, mae’r ansawdd yn gostwng, neu gellir gwrthod y deunydd yn gyfan gwbl.  

Er mwyn gallu ystyried bod modd ailbrosesu fformat o ddeunydd pecynnu ar raddfa fawr, rhaid iddo fod fel a ganlyn:  

  • bod yn gydnaws â’r technolegau ailbrosesu presennol sydd wedi’u profi ac sy’n weithredol ar hyn o bryd   

  • bod yn gallu rhedeg drwy’r systemau hyn heb darfu neu heb fod angen rhag-driniaeth  

  • bodloni’r trothwyon ansawdd sydd eu hangen i gynhyrchu deunydd eildro defnyddiol sy’n gallu dychwelyd i’r gadwyn gwerth  

  • bod â digon o gapasiti ailbrosesu yn y byd go iawn i amsugno faint o’r deunydd pecynnu sy’n cael ei gyflenwi i’r farchnad  

Felly, mae’r meini prawf a nodir yn adran benodol y deunyddiau yn adlewyrchu’r nodweddion hyn.  

Efallai y bydd diweddariadau i’r RAM i’r dyfodol yn ceisio ymgorffori data uniongyrchol oddi wrth gwmnïau ailbrosesu yn y DU, fel: 

  • cyfraddau cynhyrchu 

  • effeithiau halogiadau 

  • cyfraddau prosesu’r byd go iawn 

Bydd y data hwn yn helpu i roi darlun cliriach o sut mae pob deunydd yn perfformio yn systemau gweithredol y DU ac a oes capasiti ailbrosesu ar raddfa fawr i’w gael.  

Defnyddio 

Mae defnyddio yn cyfeirio at sut mae’r deunydd eildro sy’n cael ei gynhyrchu ar ôl ailbrosesu yn cael ei ddefnyddio yn y pen draw, ac a oes unrhyw ffactorau’n cyfyngu ar ei allu i ddychwelyd i’r gadwyn gwerth. 

Mae ansawdd y deunyddiau eildro yn bwysig. Efallai mai dim ond at ddefnyddiau prin neu isel eu gwerth y bydd deunydd eildro o ansawdd gwael yn addas, neu efallai y bydd angen ei drin ymhellach cyn ei ddefnyddio, ac fe all hynny gynyddu faint o’r deunydd sy’n cael eu colli.   

Er mwyn gallu ystyried bod fformat deunydd pecynnu yn ailgylchadwy ar raddfa fawr, rhaid i’r deunydd eildro sy’n deillio ohono fod â defnydd terfynol sefydledig. Mae hyn yn golygu y dylai’r deunydd wedi’i ailgylchu allu gwneud y canlynol: 

  • mynd i mewn i ffrydiau cynhyrchu mewn ffordd sy’n lleihau’r angen am ddeunyddiau crai 

  • cefnogi llif deunyddiau cylchol 

  • cynnal ansawdd a diogelwch cynhyrchion 

Nod y RAM yw cymell cynhyrchiant deunydd eildro o ansawdd uchel.  

Bydd fersiynau o’r RAM i’r dyfodol yn ceisio integreiddio data gwell o’r DU ar ansawdd deunyddiau eildro, marchnadoedd terfynol ymarferol, a faint o’r deunydd eilaidd sy’n cael ei golli. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod deunyddiau yr asesir eu bod yn ailgylchadwy ar raddfa fawr wir yn cyfrannu at economi gylchol weithredol.   

Cynlluniau rhoi’n ôl  

Mae cynlluniau rhoi’n ôl pwrpasol yn cynnig ffordd o ail-gronni deunyddiau a deunyddiau pecynnu na chânt eu casglu ar garreg y drws (casgliad eang neu gasgliad cyfyngedig).  

Gellir adrodd bod deunydd pecynnu yn oren os oes gan gynhyrchwyr dystiolaeth ei fod yn cael ei gasglu gan ddefnyddio cynllun rhoi’n ôl a’i ailgylchu’n llwyddiannus.  

Nid oes angen i gynhyrchwyr sy’n gallu bodloni gofynion tystiolaeth y cynllun rhoi’n ôl ddilyn canllawiau asesu deunyddiau’r RAM.   

Nid yw deunydd pecynnu sy’n cael ei restru fel deunydd sy’n cael ei gasglu’n eang neu ei gasglu’n gyfyngedig yn gymwys ar gyfer cynllun rhoi’n ôl a rhaid ei asesu gan ddefnyddio canllawiau’r RAM ar gyfer deunyddiau penodol. 

Rhaid i gynhyrchwyr hysbysu PackUK fod deunydd pecynnu’n cael ei gofnodi fel oren drwy gynllun rhoi’n ôl. Bydd canllawiau ar sut i hysbysu PackUK yn cael eu rhannu maes o law.

Gall plastig (hyblyg) gael ei gasglu ar garreg y drws. Yn yr achos hwn, bydd cynhyrchwyr yn dal i allu defnyddio cynlluniau rhoi’n ôl ochr yn ochr â chasgliadau ar garreg y drws ar gyfer blwyddyn adrodd 2027. 

Gofynion tystiolaeth 

Rhaid i gynhyrchwyr gadw tystiolaeth glir a phenodol bod y cynllun rhoi’n ôl a ddewiswyd yn bodloni’r holl feini prawf canlynol: 

  • mae ganddo fannau casglu hygyrch (mewn siop neu mewn canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref) y gall o leiaf 75% o boblogaeth neu gartrefi’r DU eu defnyddio o fewn radiws o 5 milltir i’w cartref, neu mae’n cynnig gwasanaeth rhoi’n ôl drwy’r post sy’n cwmpasu o leiaf 75% o gyfeiriadau cartref y DU 

  • nid yw’n cystadlu â chasgliadau ar garreg y drws (nid yw’r deunyddiau wedi’u rhestru fel rhai sy’n cael eu casglu’n gyffredin na drwy gasgliadau cyfyngedig ar garreg y drws (https://www.gov.uk/government/publications/packaging-collected-at-kerbside-for-recycling-by-uk-local-authorities))  

  • mae’n derbyn deunyddiau pecynnu gan bob brand 

  • nid yw’n mynnu bod defnyddwyr yn prynu rhywbeth cyn gwaredu eitem 

  • mae’n gallu dangos bod modd olrhain y deunydd penodol (fel polypropylen) drwy’r 4 cam ailgylchu - casglu, didoli, ailbrosesu a defnyddio 

Dylai cynhyrchwyr ofyn i weithredwyr cynlluniau rhoi’n ôl roi’r dystiolaeth ofynnol iddynt.  

Gall cynlluniau rhoi’n ôl dderbyn sawl fformat o ddeunydd pecynnu a math o ddeunydd ond nid yw’n ofynnol iddynt wneud hynny. Er enghraifft, nid oes angen i gynllun rhoi’n ôl a fwriedir ar gyfer tiwbiau past dannedd dderbyn tiwbiau glud (hyd yn oed os yw’r fformat yn debyg) ond mae’n ofynnol iddo dderbyn tiwbiau past dannedd o bob brand.  

Os yw cynllun yn derbyn sawl math o gynhyrchion (fel tiwbiau glud a thiwbiau past dannedd), rhaid iddo gael tystiolaeth bod pob math o gynnyrch yn cael ei ddidoli’n effeithiol cyn ailbrosesu er mwyn atal halogiad. Os yw cynllun yn derbyn sawl math o ddeunyddiau, rhaid iddo gael tystiolaeth o’r gallu i olrhain pob deunydd penodol drwy’r pedwar cam ailgylchu. 

Enghreifftiau o dystiolaeth 

Gall tystiolaeth o hygyrchedd gynnwys: 

  • mannau casglu rhoi’n ôl wedi’u plotio ar fap wedi’i orchuddio gan fap dwysedd poblogaeth â sgwariau grid 

  • dolen at gynnwys perthnasol ar wefan y cynllun rhoi’n ôl sy’n egluro sut gall y cyhoedd gofrestru ar gyfer y gwasanaeth neu gael mynediad ato, os yw’n briodol  

Gallai’r dystiolaeth i ddangos na cheir dim cyfyngiadau o ran brand na phryniant gynnwys: 

  • datganiad ysgrifenedig gan weithredwr y cynllun rhoi’n ôl 

  • dolen i gynnwys perthnasol ar eu gwefan 

  • lluniau o arwyddion yn y man gadael 

  • dulliau cyfathrebu eraill   

Mae angen i dystiolaeth o’r gallu i olrhain gynnwys manylion am y canlynol:  

  • nodyn adfer deunydd pecynnu (PRN) neu nodyn ailgylchu allforio deunydd pecynnu (PERN) gan ddarparwyr gwasanaeth achrededig sy’n didoli ac yn ailbrosesu’r deunydd gwastraff - fel cyfeiriadau at nodion trosglwyddo gwastraff a thystiolaeth ddogfennol arall sy’n dangos bod y deunydd wedi cael ei ailbrosesu 

  • darparwyr gwasanaethau a fydd yn delio â gwaredu unrhyw ddeunydd a gasglwyd sydd wedi’i halogi gormod i’w ailbrosesu 

Sgôr ailgylchadwyedd RAM 

O ganlyniad i’r asesiad o ailgylchadwyedd, bydd deunydd pecynnu yn cael un o 3 o sgoriau’r RAM:  

  • coch - mae gan y deunydd pecynnu nodweddion sy’n ei gwneud yn anodd ei ailgylchu ar raddfa fawr, ni all symud yn ddibynadwy drwy’r system ailgylchu bresennol oherwydd anawsterau wrth ei gasglu, ei ddidoli, ei ailbrosesu, neu oherwydd nad oes defnydd terfynol yn bodoli o fewn y seilwaith gweithredol presennol  

  • oren - gall y deunydd pecynnu wynebu heriau yn y cam casglu ac anawsterau yn y cam didoli, mae gofyn cael seilwaith arbenigol i’w ailbrosesu, effeithir ar effeithlonrwydd ac ansawdd allbwn y cam ailbrosesu, neu mae rhywfaint o’r deunydd eilaidd yn cael ei golli  

  • gwyrdd - mae’r deunydd pecynnu’n cael ei ailgylchu’n eang yn seilwaith presennol y DU  

Eitemau coch awtomatig  

Bydd rhai deunyddiau pecynnu yn cael eu sgorio’n goch yn awtomatig. Mae’r meini prawf coch yn awtomatig yn seiliedig ar y canlynol: 

  • rheoliadau sefydledig y DU 

  • fframweithiau risg cydnabyddedig 

  • tystiolaeth o effeithiau ar systemau ailgylchu ac adfer deunyddiau 

Nid oes modd ailgylchu deunydd pecynnu sy’n cael ei ystyried yn goch yn awtomatig yn y cyfrifoldeb estynedig i gynhyrchwyr (EPR), er y byddai modd ei ailgylchu’n dechnegol, oherwydd fe fyddai gwneud hynny’n creu rhwystrau cyfreithiol, cemegol neu yn y system rhag ailgylchu’n ddiogel ac yn effeithiol.  

Cyfeiriad eitemau coch awtomatig i’r dyfodol  

Efallai y bydd PackUK yn ystyried ychwanegu meini prawf ychwanegol ar gyfer sgôr goch awtomatig mewn fersiynau o’r RAM i’r dyfodol. Gallai’r rhain gynnwys: 

  • deunydd pecynnu nad oes ynddo unrhyw gynnwys wedi’i ailgylchu a ddilyswyd  

  • deunydd pecynnu gormodol oherwydd gwagle, llenwadau diangen ac elfennau aneffeithlon tebyg  

Penderfyniadau ar sgoriau deunyddiau a fersiynau o’r RAM i’r dyfodol 

PackUK sy’n gyfrifol am ddylunio, cynnal a chyhoeddi’r RAM, ac am wneud y penderfyniadau terfynol ar feini prawf sgorio deunyddiau. 

Cefnogir PackUK gan Bwyllgor Cynghori Technegol y RAM (TAC).  

Mae’r Pwyllgor Cynghori Technegol yn gorff cynghori annibynnol sy’n cynghori PackUK ar gynaliadwyedd deunydd pecynnu a’r adolygiad blynyddol o’r RAM.  

Mae’r Pwyllgor Cynghori Technegol yn cynnwys cynrychiolwyr o blith trawstoriad eang o gadwyn gwerth deunyddiau pecynnu. Mae’n cynorthwyo PackUK i asesu unrhyw newidiadau arfaethedig yn y RAM, gan sicrhau bod y newidiadau hynny’n adlewyrchu ailgylchadwyedd ac yn ystyried gwahanol sylfeini asesu.  

Bydd PackUK hefyd yn cydweithio â’r sefydliad cyfrifoldeb cynhyrchwyr a benodwyd a rhanddeiliaid yn y diwydiant i fireinio a diweddaru’r meini prawf a nodir yn y RAM. 

Pryd fydd y RAM yn cael ei chyhoeddi 

Bydd y RAM yn cael ei diweddaru bob blwyddyn a’i chyhoeddi cyn i’r flwyddyn adrodd nesaf ddechrau. Bydd pob diweddariad blynyddol yn cael ei arwain gan dystiolaeth.  

Bydd fersiynau i’r dyfodol yn adeiladu ar y dystiolaeth a’r data presennol i sicrhau bod meini prawf y RAM yn cyd-fynd â sut mae deunyddiau pecynnu yn perfformio’n ymarferol o fewn seilwaith gweithredol y DU. 

Honiadau gwyrdd 

Dylai cynhyrchwyr ystyried sgoriau’r RAM ochr yn ochr â chanllawiau perthnasol yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA), gan gynnwys y Cod Honiadau Gwyrdd, wrth wneud penderfyniadau ynghylch pecynnu.