Gwneud cais i gadw eich cyfeiriad yn gyfrinachol ar gofrestr y Cynllun Seibiant Dyledion (Lle i Anadlu)
Apelio yn erbyn penderfyniad cynghorydd dyledion i gynnwys eich cyfeiriad mewn 'lle i anadlu' ar gyfer dyled sy'n ddyledus gennych.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Mae’r Cynllun Seibiant Dyledion (Lle i Anadlu) yn rhoi hawl i rywun sydd mewn dyled broblemus gael amddiffyniad cyfreithiol rhag eu credydwyr.
Os oes gennych ddyled sy’n gymwys i gael lle i anadlu yn eich barn chi, dylech gael cyngor gan gynghorydd dyledion.
Os bydd rhannu eich cyfeiriad gyda chredydwr yn eich rhoi chi neu eraill mewn perygl o niwed, gallwch ofyn i’ch cynghorydd dyled beidio â’i rannu.
Os bydd eich cynghorydd dyled yn penderfynu y gellir rhannu eich cyfeiriad, gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i apelio i’r llys o fewn 28 diwrnod i’r penderfyniad.
Ni fydd y lle i anadlu yn dechrau nes bydd eich apêl wedi’i hystyried gan y llys.
Sut i apelio
Llenwch y ffurflen a’i hanfon i’ch llys sirol lleol. Chwilio am eich llys sirol lleol.
Peidiwch ag anfon eich cais i Canolfan Fusnes Sifil Genedlaethol (CNBC) na’r Ganolfan Gorfodi Traffig (TEC).
Bydd arnoch angen talu am eich cais. Y ffi yw £5. Efallai y gallwch gael help i dalu’r ffi a ffioedd llys eraill os ydych ar incwm isel neu’n derbyn budd-daliadau penodol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am fanylion eich lle i anadlu, dylech gysylltu â’ch cynghorydd dyledion. Peidiwch â chysylltu â’r llys.