Community sponsorship: guidance for local authorities (Welsh)
Updated 15 September 2025
International Rescue Committee (IRC) a’r Swyddfa Gartref
Mae Cefnogaeth Gymunedol yn galluogi grwpiau cymunedol lleol i groesawu a chefnogi ffoaduriaid yn uniongyrchol yn eu cymunedau lleol. Fe’i cyflwynwyd gan y Swyddfa Gartref i ymateb i’r dyhead gan gymdeithas sifil i chwarae mwy o ran wrth adsefydlu ffoaduriaid, a gyda’r disgwyliad y bydd y dull dan arweiniad y gymuned yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol o ran integreiddio’r ffoaduriaid a’r cymunedau. Mae sefydlu ymgysylltiad a pherthynas waith gydweithredol gadarnhaol gydag awdurdodau lleol yn hanfodol ar gyfer grwpiau cymunedol.
IRC yw darparwr hyfforddiant, cefnogaeth a chyngor Cefnogaeth Gymunedol y Deyrnas Unedig, wedi ei ariannu gan y Swyddfa Gartref. Yn ogystal â gweithio gyda gwirfoddolwyr Cefnogaeth Gymunedol, mae IRC hefyd yn darparu gwasanaethau i Awdurdodau Lleol a Chefnogwyr Arweiniol sy’n gweithio ochr yn ochr â’r gwirfoddolwyr i wneud i Gefnogaeth Gymunedol ddigwydd.
Mae’r pecyn offer yn cynnig cyfoeth o wybodaeth a chyfarwyddyd defnyddiol ar wefan IRC , gan drafod pynciau fel; astudiaethau achos, cyfarwyddyd ar roi caniatâd a’r cyllid sydd ar gael i awdurdodau lleol. Am y wybodaeth a’r cyfarwyddyd diweddaraf sydd ar gael i awdurdodau lleol ewch i wefan IRC.