Apelio yn erbyn eich sgôr hylendid bwyd – cais am ailymweliad
Cais am ailymweliad
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Dogfennau
Manylion
Gall perchennog/rheolwr y busnes ofyn am ailymweliad i gael sgôr newydd pan fydd yr holl welliannau hylendid angenrheidiol wedi’u gwneud. Yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, mae pob awdurdod lleol yn codi ffi i adennill costau’r ailymweliad o dan eu cynlluniau statudol. Mae rhai awdurdodau lleol yn Lloegr yn codi ffi i adennill costau cynnal ailymweliad.
Gallwch chi hefyd apelio yn erbyn eich sgôr hylendid bwyd.
Cymru
Cais am ailymweliad – ffurflen (Cymru)
Os yw manylion eich busnes yn anghywir
Os mai perchennog neu reolwr busnes bwyd ydych chi a bod ein gwefan sgoriau hylendid bwyd yn dangos sgôr, enw neu gyfeiriad anghywir ar gyfer eich busnes, dylech chi gysylltu â’r awdurdod lleol a roddodd y sgôr i chi a gofyn am y newidiadau angenrheidiol.
Gallwch ddod o hyd i’ch tîm diogelwch bwyd lleol.