Ffurflen

Sut i lenwi'r ffurflen: SSCS8a

Diweddarwyd 22 Ebrill 2025

Adran 1: Eich manylion

Pan mae’r ffurflen yn cyfeirio at ‘chi’ mae’n sôn am yr unigolyn sy’n gwneud yr apêl.

Rhaid i chi ddarparu eich manylion yn eich ffurflen apêl fel y gallwn gysylltu â chi. Mae’r Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig (IBCA) hefyd angen eich manylion i ddod o hyd i’ch achos.

Mae angen eich rhif ffôn arnom rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu â chi ar fyr rybudd. Er enghraifft, os:

  • bydd dyddiad gwrandawiad ar gael yn gynt na’r disgwyl
  • mae’n haws esbonio rhywbeth dros y ffôn yn hytrach nag yn ysgrifenedig

Bydd angen i chi ddweud wrthym ar ran pwy rydych chi’n apelio, oherwydd mae angen i ni wybod:

  • pwy sy’n apelio
  • os ydych chi’n ceisio iawndal i chi’ch hun, neu ar ran rhywun arall

Apelio drosoch eich hun

Apelio drosoch eich hun:

  • os mai chi yw’r unigolyn sydd â hawl i daliad iawndal yn eich rhinwedd eich hun
  • os ydych yn gweithredu ar eich rhan eich hun

Apelio fel rhiant neu warcheidwad

Apelio fel rhiant neu warcheidwad os ydych chi’n apelio ar ran plentyn y mae gennych gyfrifoldeb rhiant amdano.

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, rhaid i’r plentyn fod yn 17 oed neu’n iau.

Yn yr Alban, rhaid i’r plentyn fod yn 15 oed neu’n iau.

Apelio fel gwarcheidwad, dirprwy neu reolydd

Apelio fel gwarcheidwad, dirprwy neu reolydd os yw llys wedi rhoi awdurdod cyfreithiol i chi weithredu ar ran rhywun nad yw’n gallu rheoli ei faterion eu hunain. Gelwir yr unigolyn hwn yn:

  • ‘dirprwy’ yng Nghymru a Lloegr
  • ‘gwarcheidwad’ yn yr Alban
  • ‘rheolydd’ yng Ngogledd Iwerddon

Apelio ar ran rhywun y mae gennych atwrneiaeth ar ei gyfer

Apelio ar ran rhywun y mae gennych atwrneiaeth ar ei gyfer os yw llys wedi rhoi atwrneiaeth i chi ar gyfer yr unigolyn rydych chi’n gwneud cais ar ei ran.

Apelio fel cynrychiolydd personol ar ran unigolyn sydd wedi marw

Apelio fel cynrychiolydd personol ar ran unigolyn sydd wedi marw:

  • os oes gennych naill ai grant am brofiant neu lythyrau gweinyddu ar gyfer ystad yr ymadawedig yng Nghymru a Lloegr
  • os ydych wedi cael eich penodi’n ysgutor gan lys yn yr Alban i weinyddu ystad yr ymadawedig
  • os oes gennych naill ai grant am brofiant neu lythyrau gweinyddu gan lys yng Ngogledd Iwerddon i weinyddu ystad yr ymadawedig

Adran 2: Ynglŷn â’ch penderfyniad IBCA

Bydd angen i chi ddweud wrthym beth yw dyddiad eich penderfyniad IBCA.

Os ydych chi’n apelio mwy nag un mis calendr ar ôl y dyddiad ar eich hysbysiad o benderfyniad adolygu, rhaid i chi ddweud wrthym pam fod eich apêl yn hwyr.

Adran 3: Ynglŷn â’ch cynrychiolydd (os oes gennych un)

Os oes gennych gynrychiolydd, bydd angen i chi ddarparu eu gwybodaeth.

Os ydych chi eisiau cynrychiolydd ond nad oes gennych un eto, gallwch gyflwyno eich apêl o hyd. Unwaith y bydd gennych gynrychiolydd, gallwch roi eu gwybodaeth i ni yn ysgrifenedig.

Byddwn yn cysylltu â’ch cynrychiolydd ynglŷn â’ch apêl.

Os oes angen i’r IBCA anfon unrhyw beth atoch sy’n ymwneud â’ch apêl, byddant hefyd yn anfon copïau at eich cynrychiolydd.

Adran 4: Y rhesymau dros eich apêl

Bydd angen i chi esbonio pam rydych chi’n meddwl bod y penderfyniad rydych chi’n ei apelio yn anghywir.

Dylech ddarllen eich hysbysiad o benderfyniad adolygu ac ysgrifennu beth rydych chi’n anghytuno ag ef a pham. Gallwch hefyd ddweud wrthym beth ydych chi’n meddwl y dylai’r penderfyniad cywir fod.

Gallwch atodi tystiolaeth i gefnogi eich apêl. Os nad oes gennych y dystiolaeth eto, ni ddylech ohirio eich apêl. Gallwch gyflwyno tystiolaeth ar unrhyw adeg cyn y gwrandawiad.

Adran 5: Y math o wrandawiad fyddai orau gennych

Gallwch naill ai ofyn am:

  • gael mynychu a chymryd rhan yn eich gwrandawiad
  • i’ch apêl gael ei benderfynu heb fynychu’r gwrandawiad – gelwir hyn hefyd yn ‘wrandawiad ar y papurau’

Gofynnir i’r IBCA hefyd pa fath o wrandawiad maen nhw ei eisiau.

Gwrandawiadau y gallwch gymryd rhan ynddynt

Bydd disgwyl i chi fynychu a chymryd rhan yn y gwrandawiad naill ai:

  • yn bersonol
  • trwy gyswllt fideo
  • dros y ffôn

Gallwch gytuno â’ch cynrychiolydd ar p’un a fyddant yn mynychu’r gwrandawiad.

Os ydych chi’n dewis mynychu gwrandawiad yn bersonol, bydd angen i chi fynychu tribiwnlys ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban). Byddwn yn ceisio sicrhau mai lleoliad eich gwrandawiad fydd y tribiwnlys naill ai agosaf at:

  • lle rydych chi’n byw
  • eich man cyrraedd os ydych chi’n byw y tu allan i Brydain Fawr

Gallwch ddod o hyd i’ch tribiwnlys agosaf yma.

Os oes gennych unrhyw broblemau gyda lleoliad y gwrandawiad, bydd angen i chi gysylltu â ni.   

Yn y gwrandawiad, byddwch yn:

  • siarad â’r tribiwnlys
  • cyflwyno’ch achos
  • ateb unrhyw gwestiynau

Mae gan yr IBCA hefyd yr hawl i gymryd rhan yn y gwrandawiad.

Gwrandawiadau nad ydych chi’n cymryd rhan ynddynt

Os ydych am i’ch achos gael ei benderfynu gan y tribiwnlys heb i chi fynychu gwrandawiad, bydd angen i chi ofyn am wrandawiad ar y papurau.

Bydd gwrandawiad ar y papurau yn cael ei gynnal dim ond os:

  • does neb wedi gofyn am wrandawiad y gallant fynychu a chymryd rhan ynddo
  • mae pob parti yn cytuno
  • mae’r tribiwnlys yn credu y gall benderfynu ar eich apêl heb i chi fynychu a chymryd rhan yn y gwrandawiad

Ni fyddwch chi a’r IBCA yn cymryd rhan yn y gwrandawiad – bydd y tribiwnlys yn dod i’w benderfyniad ar ei ben ei hun. Bydd y tribiwnlys yn ystyried:

  • yr wybodaeth yn eich ffurflen apêl
  • unrhyw dystiolaeth rydych chi wedi’i rhoi
  • ymateb yr IBCA i’ch apêl

Adran 6: Cymryd rhan mewn gwrandawiad

Bydd angen i chi ddweud wrthym pa fathau o wrandawiadau y byddai’n well gennych.

Gallwch ddewis mwy nag un.

Adran 7: Cymorth yn eich gwrandawiad

Cyfieithwyr ar y Pryd a Dehonglwyr Iaith Arwyddion

Bydd y tribiwnlys yn defnyddio dehonglwyr annibynnol, proffesiynol.. Ni allwch ddefnyddio eich dehonglydd eich hun.

Pan fyddwn yn trefnu’r gwrandawiad, byddwn yn sicrhau bod y dehonglydd yn diwallu eich anghenion. Gallwch ofyn am:

  • gyfieithydd sy’n cyfieithu ar lafar i gyfieithu Saesneg i iaith arall
  • dehonglydd arwyddion, sy’n cyfieithu geiriau llafar i, er enghraifft, Iaith Arwyddion Prydain

Hygyrchedd

Os ydych chi am fynychu gwrandawiad yn bersonol, bydd angen i ni wneud yn siŵr bod y lleoliad mewn lleoliad addas y gallwch ei gyrraedd yn hawdd.

Gallwch ddweud wrthym am unrhyw anghenion sydd gennych, neu unrhyw addasiadau rhesymol yr hoffech i ni eu gwneud. Er enghraifft:

  • dolen glyw
  • addasiadau oherwydd problem anabledd neu symudedd – mae hyn yn cynnwys anableddau corfforol a meddyliol

Adran 8: Eich argaeledd chi a’ch cynrychiolydd ar gyfer mynychu gwrandawiad

Os ydych chi eisiau cymryd rhan mewn gwrandawiad, bydd angen i chi ddweud wrthym am unrhyw ddyddiadau nad ydych chi a’ch cynrychiolydd ar gael ar eu cyfer.

Os bydd eich argaeledd yn newid, rhaid i chi ddweud wrthym.

Adran 9: Llofnodi a phostio

Mae’n ofyniad cyfreithiol i chi lofnodi eich apêl.

Os na fyddwch yn llofnodi eich apêl, efallai y bydd yn cael ei dychwelyd atoch.

Trwy lofnodi eich apêl, rydych chi’n rhoi caniatâd i ni gysylltu â’ch cynrychiolydd (os oes gennych un).

Cysylltu â ni

Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu y tu allan i’r DU

HMCTS Infected Blood Appeals
PO Box 13618
Harlow
CM19 5QS

Rhif ffôn: 0300 303 2850 Siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5170

Gwybodaeth am gostau galwadau

Yr Alban

HMCTS SSCS Appeals Centre
PO Box 13150
Harlow
CM20 9TT

Rhif ffôn: 0300 790 6234

Gwybodaeth am gostau galwadau