Canllawiau

Hysbysiad preifatrwydd Cysylltu ag APHA

Diweddarwyd 17 Rhagfyr 2025

Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym yn defnyddio ac yn prosesu eich data personol wrth ddefnyddio gwasanaeth Cysylltu ag APHA.

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau am gynnwys yr hysbysiad preifatrwydd hwn, e-bostiwch enquiries@apha.gov.uk

1. Pwy sy’n casglu eich data personol 

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw’r rheolydd data ar gyfer y data personol rydym yn eu casglu. 

Defra hefyd yw’r rheolydd ar gyfer y data personol a brosesir wrth weithredu drwy Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am sut y byddwn yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau cysylltiedig, gallwch gysylltu â rheolwr diogelu data Defra yn data.protection@defra.gov.uk

Mae swyddog diogelu data Defra yn gyfrifol am wirio ein bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth. Gallwch gysylltu â’r swyddog yn DefraGroupDataProtectionOfficer@defra.gov.uk

Mae APHA  hefyd yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban. Rydym yn rheoli unrhyw ddata personol perthnasol ar y cyd: 

2. Pa ddata personol rydym yn eu casglu a sut y cânt eu defnyddio 

Rydym yn casglu: 

  • eich cyfeiriad e-bost - rydym yn defnyddio hwn i ymateb i’ch ymholiad

  • eich barn a’ch safbwyntiau, os byddwch yn rhoi adborth

3. Y sail gyfreithlon dros brosesu eich data personol  

Y sail gyfreithlon dros brosesu eich data personol yw cydsyniad.

4. Cydsyniad i brosesu eich data personol 

Caiff eich data personol eu prosesu yn seiliedig ar gydsyniad. Er mwyn tynnu cydsyniad yn ôl, e-bostiwch enquiries@apha.gov.uk

5. Am ba hyd y byddwn yn cadw data personol 

Byddwn yn cadw eich data personol am hyd at 3 blynedd.

6. Beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn darparu’r data personol 

Os na fyddwch yn darparu’r data personol, ni fyddwn yn gallu ymateb i’ch ymholiad.

7. Defnyddio prosesau gwneud penderfyniadau neu broffilio awtomataidd 

Ni chaiff y data personol a ddarparwch eu defnyddio ar gyfer:

  • gwneud penderfyniadau awtomataidd (gwneud penderfyniad drwy ddulliau awtomataidd heb unrhyw ymwneud dynol) 

  • proffilio (prosesu data personol yn awtomataidd er mwyn gwerthuso pethau penodol ynglŷn ag unigolyn) 

8. Trosglwyddo eich data personol y tu allan i’r DU 

Dim ond i wlad arall y tybir ei bod yn ddigonol at ddibenion diogelu data y byddwn yn trosglwyddo eich data personol.

9. Eich hawliau 

Ar sail y drefn prosesu cyfreithlon uchod, dyma fydd eich hawliau unigol ar gyfer cydsynio:

Ceir rhagor o wybodaeth am eich hawliau unigol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.

10. Cwynion 

Mae gennych yr hawl i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar unrhyw adeg. 

11. Siarter gwybodaeth bersonol 

Mae ein siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio mwy am eich hawliau dros eich data personol.