Canllawiau

Hysbysiad preifatrwydd APHA ar gyfer y Ganolfan Rheoli Bywyd Gwyllt Genedlaethol

Diweddarwyd 24 May 2024

Applies to England, Scotland and Wales

Gan bwy y mae eich data’n cael eu casglu

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw’r rheolydd data ar gyfer data personol y byddwch yn eu rhoi i APHA.

Mae APHA yn un o asiantaethau gweithredol Defra. Gallwch gysylltu â Rheolwr Diogelu Data APHA drwy e-bost yn: data.protection@defra.gov.uk.

Dylid anfon unrhyw gwestiynau am y ffordd y mae Defra/APHA yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau cysylltiedig i’r cyfeiriad uchod.

Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data sy’n gyfrifol am fonitro bod Defra/APHA yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth drwy e-bost yn: DefraGroupDataProtectionOfficer@defra.gov.uk.

Pa ddata personol sy’n cael ei gasglu

Mae APHA yn cynnal amrywiaeth o brosiectau ymchwil ar y broses ddi-boen o reoli achosion o wrthdaro rhwng pobl a bywyd gwyllt. Gall y gwaith hwn olygu dod i gysylltiad â pherchenogion tir ac aelodau eraill o’r cyhoedd, er enghraifft, er mwyn cael mynediad i dir ar gyfer gwaith maes, i gael sbesimenau ar gyfer astudiaethau neu i gyfrifo poblogaethau bywyd gwyllt. Gall data cysylltiadau personol megis enw, cyfeiriad, rhif ffôn a manylion daliadau tir gael eu cadw, gyda chaniatâd y perchennog tir neu aelod o’r cyhoedd, i hwyluso’r gwaith hwn.

Mae APHA yn cynhyrchu deunyddiau cyhoeddusrwydd sy’n rhoi cyngor ar reoli clefydau bywyd gwyllt, atal rhywogaethau estron goresgynnol ac ati. Gellir cadw manylion cyswllt trydydd partïon â diddordeb, gyda’u caniatâd, er mwyn hwyluso’r broses o roi cyngor a nodi arfer gorau yn y meysydd hyn.

Ceir rhagor o wybodaeth am APHA yn

Ymhlith y seiliau cyfreithiol dros brosesu data mae’r canlynol:

  • Rydych wedi cydsynio i ni brosesu eich data at un neu fwy o ddibenion penodedig

Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data

Byddwn ond yn casglu data o dan Erthygl 6 (a) o GDPR:

Os yw testun y data wedi cydsynio i’w ddata neu ei data personol gael eu prosesu at un diben penodol neu fwy.

Cydsyniad i brosesu eich data

Mae gwybodaeth a gesglir gennym, er mwyn i’r Ganolfan Rheoli Bywyd Gwyllt Genedlaethol ei defnyddio, wedi cael ei chasglu drwy gael eich cydsyniad. Bydd gennych yr hawl i dynnu’r cydsyniad hwn yn ôl ar unrhyw adeg.

Gofyniad cyfreithiol neu gytundebol i ddarparu data personol

Nid oes rhaid rhoi data personol. Bydd hyn ond yn cael eu casglu gyda chydsyniad.

Canlyniadau peidio â rhoi data personol

Mae gwybodaeth a gesglir gennym, er mwyn i’r Ganolfan Rheoli Bywyd Gwyllt Genedlaethol ei defnyddio, wedi cael ei chasglu drwy gael eich cydsyniad. Bydd gennych yr hawl i dynnu’r cydsyniad hwn yn ôl ar unrhyw adeg.

Data personol a ddefnyddir i wneud penderfyniadau awtomataidd

Nid yw’r wybodaeth a roddir gennych yn gysylltiedig â’r canlynol:

  • gwneud penderfyniadau unigol, hynny yw gwneud penderfyniad drwy ddulliau awtomataidd yn unig heb i unrhyw bobl fod yn rhan o’r broses
  • neu broffilio, hynny yw prosesu data personol yn awtomataidd er mwyn gwerthuso pethau penodol ynglŷn ag unigolyn Sut rydym yn defnyddio gwybodaeth bersonol arbennig o sensitif

Data personol a ddefnyddir ar gyfer ‘proffilio’ penderfyniadau a wneir yn awtomataidd a chanlyniadau hyn

Nid yw’r wybodaeth a roddir gennych yn gysylltiedig â’r canlynol:

  • gwneud penderfyniadau unigol, hynny yw gwneud penderfyniad drwy ddulliau awtomataidd yn unig heb i unrhyw bobl fod yn rhan o’r broses
  • neu broffilio, hynny yw prosesu data personol yn awtomataidd er mwyn gwerthuso pethau penodol ynglŷn ag unigolyn Sut rydym yn defnyddio gwybodaeth bersonol arbennig o sensitif.

Gyda phwy y bydd APHA yn rhannu eich data

Efallai y bydd data personol ar gael i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn y DU a’r UE er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol.

Gallwn rannu data â Defra a’i hasiantaethau, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yr Asiantaeth Diogelwch Iechyd a sefydliadau ac awdurdodau gorfodi eraill.

Mae’n bosibl y bydd angen i ni ryddhau gwybodaeth (gan gynnwys data personol a gwybodaeth fasnachol) o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:

  • Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol DU (GDPR DU)
  • Deddf Diogelu Data 2018 y DU
  • Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
  • Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004

Ni fyddwn yn caniatáu unrhyw dor cyfrinachedd diangen ac ni fyddwn yn gweithredu’n groes i’n rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth diogelu data y DU.

Storio a defnyddio data y tu allan i’r DU

Caiff canran fach iawn o gofnodion y llywodraeth sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol, ei dewis er mwyn eu cadw’n barhaol yn yr Archifau Cenedlaethol. Sicrheir eu bod ar gael yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelu Data 2018.

Ni fydd y data a roddir gennych yn cael eu trosglwyddo y tu allan i’r DU. Ar achlysuron prin, pan fydd yn gyfreithlon ac yn ategu’r gwaith a gyflawnir gennym er budd y cyhoedd, mae’n bosibl y caiff data ymchwil eu trosglwyddo’n ddiogel y tu allan i’r DU.

Am faint o amser y bydd APHA yn cadw data personol

Bydd yr holl wybodaeth a ddelir o fewn APHA yn cael ei chadw yn unol â’n polisi cadw. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â.

O dan amgylchiadau penodol, mae’n bosibl y caiff gwybodaeth ei dal am gyfnodau hwy. Dyma rai enghreifftiau:

  • apêl
  • gweithgarwch archwilio
  • cwyn
  • afreoleidd-dra
  • camau cyfreithiol
  • cais ffurfiol am wybodaeth
  • os yw’n gosod cynsail
  • at ddibenion ymchwil wyddonol neu hanesyddol

Eich hawliau

Darllenwch am eich hawliau o dan y gyfraith diogelu data.

Cwynion

Mae gennych yr hawl i wneud cwyn am y defnydd o’ch data personol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – yr awdurdod goruchwylio ar gyfer diogelu data, ar unrhyw adeg.

Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA

Gweler hefyd Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA, sy’n nodi’n fras fanylion prosesu data personol Defra.