Hysbysiad preifatrwydd APHA ar gyfer tystion mewn perthynas ag ymddygiad Milfeddygon Swyddogol, Paraweithwyr Iechyd Anifeiliaid Proffesiynol a Swyddogion Ardystio Cymwys ym maes Bwyd
Diweddarwyd 30 Medi 2024
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
Mae a wnelo’r hysbysiad preifatrwydd hwn â phrosesu arferol data personol sy’n ymwneud â thystion mewn perthynas ag ymchwiliadau i ymddygiad milfeddygon swyddogol, paraweithwyr iechyd anifeiliaid proffesiynol a swyddogion ardystio cymwys ym maes bwyd.
Mae eich data’n cael eu casglu gan
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw’r rheolydd data ar gyfer data personol y byddwch yn eu rhoi i APHA.
Mae APHA yn un o asiantaethau gweithredol Defra. Gallwch gysylltu â Rheolwr Diogelu Data APHA drwy e-bost yn: data.protection@defra.gov.uk.
Dylid anfon unrhyw gwestiynau am y ffordd y mae Defra/APHA yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau cysylltiedig i’r cyfeiriad uchod.
Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data sy’n gyfrifol am fonitro bod Defra/APHA yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth drwy e-bost yn: DefraGroupDataProtectionOfficer@defra.gov.uk.
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau am filfeddygon swyddogol, paraweithwyr iechyd anifeiliaid proffesiynol a swyddogion ardystio cymwys ym maes bwyd neu eu rôl, cysylltwch â csconehealthovteam@apha.gov.uk.
Pa ddata personol sy’n cael eu casglu
Mae data personol yn cynnwys enw, cyfeiriadau, rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost a manylion sylfaenol cyflogaeth megis teitl y swydd a’r cwmni. Byddai data personol hefyd yn cynnwys gwybodaeth mewn datganiadau tystion a wneir gan dystion am yr hyn a welodd a/neu a glywodd y tystion.
Sut y cafwyd eich data
Gall APHA gael data personol o ffynonellau nad ydynt ar gael i’r cyhoedd. Byddai enghreifftiau yn cynnwys ein cronfa ddata fewnol, system TG Sam ar gyfer cyflwyno gwaith ar-lein.
Gall APHA hefyd weld, monitro, cofnodi a chadw data ar y Rhyngrwyd sydd ar gael i unrhyw un. Gelwir hyn yn ‘ddeunydd ffynhonnell agored’ ac mae’n cynnwys gwefannau adroddiadau newyddion, Tŷ’r Cwmnïau, cofnodion y Gofrestrfa Tir, blogiau a gwefannau rhwydweithio cymdeithasol lle nad oes unrhyw osodiadau preifatrwydd ar waith.
Pam y mae APHA yn defnyddio eich data
Rydym yn prosesu eich data am eich bod yn dyst i ddigwyddiadau sy’n ymwneud ag ymchwiliad APHA i achos o gamymddwyn gan filfeddyg swyddogol, paraweithiwr iechyd anifeiliaid proffesiynol neu swyddog ardystio cymwys ym maes bwyd ac er mwyn i ni allu cymryd camau rheoleiddio yn unol â’r Polisi Awdurdodi Perthnasol:
-
Ar gyfer Milfeddygon Swyddogol – Y Polisi ar gyfer Awdurdodi Milfeddygon Swyddogol ym Mhrydain Fawr (OV13)
-
Ar gyfer Profwyr Twbercwlin Cymeradwy – Y Polisi ar gyfer Awdurdodi Profwyr Twbercwlin Cymeradwy gan APHA yng Nghymru a Lloegr (TR541)
-
Ar gyfer Swyddogion Cymorth Ardystio – Y Polisi ar gyfer Awdurdodi Swyddogion Cymorth Ardystio Allforion gan APHA ym Mhrydain Fawr (ET175)
-
Ar gyfer Swyddogion Ardystio Cymwys ym maes Bwyd – Y Polisi ar gyfer Awdurdodi Swyddogion Ardystio Cymwys ym maes Bwyd gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ym Mhrydain Fawr (ET209)
Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data
Dyma’r seiliau cyfreithiol dros brosesu eich data:
- pan fo unigolyn yn gweithio mewn rôl o ganlyniad i gontract, gan gynnwys contract cyflogaeth a chytundeb sy’n gyfystyr â chontract, (Erthygl 6(1)(b) o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data)
- mewn perthynas â chyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddir i’r rheolydd (Erthygl 6(1)(e) o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data)
Gyda phwy y bydd APHA yn rhannu eich data
Gall APHA rannu eich data â’r canlynol:
- yr unigolyn sy’n destun yr ymchwiliad
- cyrff gorfodi’r gyfraith neu gyrff rheoleiddio – ar gyfer milfeddygon swyddogol, mae hyn yn cynnwys Coleg Brenhinol y Milfeddygon
Am faint o amser y bydd APHA yn cadw data personol
Caiff cyfnodau cadw eu pennu drwy ystyried rhesymau statudol, rheoleiddiol, cyfreithiol a diogelwch, ochr yn ochr â gwerth hanesyddol.
Cedwir yr holl wybodaeth yn APHA yn unol â’n polisi cadw. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag enquiries@apha.gov.uk.
Eich hawliau
Darllenwch am eich hawliau o dan y gyfraith diogelu data.
Cwynion
Mae gennych yr hawl i wneud cwyn am y defnydd o’ch data personol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – yr awdurdod goruchwylio ar gyfer diogelu data, ar unrhyw adeg.
Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA
Gweler Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA, sy’n nodi’n fras sut mae APHa yn prosesu data personol.