Hysbysiad preifatrwydd APHA ar gyfer Cadw Golwg ar Weithgareddau Masnach a Phrofion Diagnostig mewn Labordai
Diweddarwyd 24 May 2024
Applies to England, Scotland and Wales
Mae eich data’n cael eu casglu gan
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw’r rheolydd data ar gyfer data personol y byddwch yn eu rhoi i APHA.
Mae APHA yn un o asiantaethau gweithredol Defra. Gallwch gysylltu â Rheolwr Diogelu Data APHA drwy e-bost yn: data.protection@defra.gov.uk.
Dylid anfon unrhyw gwestiynau am y ffordd y mae Defra/APHA yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau cysylltiedig i’r cyfeiriad uchod.
Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data sy’n gyfrifol am fonitro bod Defra/APHA yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth drwy e-bost yn: DefraGroupDataProtectionOfficer@defra.gov.uk.
Pa ddata personol sy’n cael eu casglu
Mae a wnelo’r data personol sy’n cael eu casglu â’r perchennog a’r anifeiliaid y cyflwynir samplau ohonynt i’w profi (enw, cyfeiriad, rhif adnabod yr anifail, manylion symptomau). Caiff data personol eu casglu a’u storio ar gyfer swyddogaethau statudol APHA mewn perthynas â rheoli clefydau; yn benodol mewnforion ac allforion, diogelwch bwyd, clefyd hysbysadwy a llesiant.
Hefyd, mae swyddogaethau gwyliadwriaeth sganio a gyflawnir gan APHA yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu er mwyn ymarfer awdurdod swyddogol a roddir i’r rheolydd data i reoli clefydau anifeiliaid fferm o fewn Prydain Fawr.
Gall APHA hefyd ddefnyddio’r data hyn er mwyn cynnal ymchwil i’r ffordd y rheolir y clefydau hyn. Yn ogystal â hyn, caiff data eu prosesu o dan gontract at ddibenion masnachol.
Ceir rhagor o wybodaeth am APHA yn gov.uk/apha.
Sut y cafwyd eich data
Ceir eich data drwy weithdrefnau cyflwyniadau sampl, ar ffurflenni a gwblheir gennych chi neu’ch milfeddyg preifat fel rhan o’r broses o geisio gwasanaethau profi gan APHA. Yn achosion profion ac ymchwiliadau statudol, efallai y caiff y data eu casglu gan APHA neu swyddogion eraill wrth iddynt wneud eu gwaith i ategu gweithgarwch diogelu pobl ac iechyd anifeiliaid.
Pam y mae APHA yn defnyddio eich data
Mae APHA yn defnyddio eich data i ddarparu gwasanaeth profi a sicrhau bod yr holl ddata ar glefydau a gweithgarwch profi ar gael i’w defnyddio gan APHA at ddibenion diogelu pobl ac iechyd anifeiliaid ac mewn perthynas â rhyddid rhag clefydau a masnach ryngwladol.
Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data
- Cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddir i’r rheolwr
- Cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol sydd gan y rheolwr
- Cyflawni contract y mae’r gwrthrych data yn rhan ohono neu er mwyn cymryd camau ar gais y gwrthrych data cyn ymrwymo i gontract
Gofyniad cyfreithiol neu gytundebol i ddarparu data personol
Yn dibynnu ar y rheswm dros gyflwyniadau diagnostig, mae’r data sydd eu hangen naill ai’n ofyniad cyfreithiol er mwyn cyflawni rhwymedigaethau statudol (gwyliadwriaeth statudol ar glefydau, profion masnach ryngwladol), neu’n rhan o’r contract ar gyfer darparu gwasanaethau (profion diagnostig arferol) er mwyn galluogi APHA i fonitro tueddiadau o ran clefydau a chadw golwg am fygythiadau clefydau newydd a chlefydau sy’n ailymddangos.
Eich hawliau
Darllenwch am eich hawliau o dan y gyfraith diogelu data.
Canlyniadau peidio â rhoi data personol
Ar gyfer swyddogaethau statudol APHA mewn perthynas â rheoli clefydau, yn benodol mewnforion, diogelwch bwyd, clefyd hysbysadwy, a llesiant, mae gofyniad deddfwriaethol i roi’r data personol angenrheidiol.
Ar gyfer gwyliadwriaeth sganio anstatudol ategir y ddarpariaeth o ddata gofynnol gan delerau ac amodau defnyddio’r gwasanaeth profion.
I gael rhestr gyfredol o’r ddeddfwriaeth sy’n rheoli’r clefydau hyn ewch i legislation.gov.uk/cy.
Data personol a ddefnyddir i wneud penderfyniadau awtomataidd
Nid yw’r wybodaeth a roddir gennych yn gysylltiedig â’r canlynol:
- gwneud penderfyniadau unigol, hynny yw gwneud penderfyniad drwy ddulliau awtomataidd yn unig heb i unrhyw bobl fod yn rhan o’r broses
Data personol a ddefnyddir ar gyfer ‘proffilio’ penderfyniadau a wneir yn awtomataidd a chanlyniadau hyn
Nid yw’r wybodaeth a roddir gennych yn gysylltiedig â’r canlynol:
- proffilio, hynny yw prosesu data personol yn awtomataidd er mwyn gwerthuso pethau penodol ynglŷn ag unigolyn Sut rydym yn defnyddio gwybodaeth bersonol arbennig o sensitif
Gyda phwy y bydd APHA yn rhannu eich data
Efallai y bydd data personol ar gael i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn y DU a’r UE er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol.
Gallwn rannu data â Defra a’i hasiantaethau, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Iechyd Cyhoeddus, a sefydliadau ac awdurdodau gorfodi eraill.
Mae’n bosibl y bydd angen i ni ryddhau gwybodaeth (gan gynnwys data personol a gwybodaeth fasnachol) o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:
- Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol DU (GDPR DU)
- Deddf Diogelu Data 2018 y DU
- Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
- Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004
Ni fyddwn yn caniatáu unrhyw dor cyfrinachedd diangen ac ni fyddwn yn gweithredu’n groes i’n rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth diogelu data y DU.
Storio a defnyddio data y tu allan i’r DU
Caiff canran fach iawn o gofnodion y llywodraeth sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol, ei dewis er mwyn eu cadw’n barhaol yn yr Archifau Cenedlaethol. Sicrheir eu bod ar gael yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelu Data 2018.
Ni fydd y data a roddir gennych yn cael eu trosglwyddo y tu allan i’r DU. Ar achlysuron prin, pan fydd yn gyfreithlon ac yn ategu’r gwaith a gyflawnir gennym er budd y cyhoedd, mae’n bosibl y caiff data ymchwil eu trosglwyddo’n ddiogel y tu allan i’r DU.
Am faint o amser y bydd APHA yn cadw data personol
Bydd yr holl wybodaeth a ddelir o fewn APHA yn cael ei chadw yn unol â’n polisi cadw. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag enquiries@apha.gov.uk.
O dan amgylchiadau penodol, mae’n bosibl y caiff gwybodaeth ei dal am gyfnodau hwy. Dyma rai enghreifftiau:
- apêl
- gweithgarwch archwilio
- cwyn
- afreoleidd-dra
- camau cyfreithiol
- cais ffurfiol am wybodaeth
- os yw’n gosod cynsail
- at ddibenion ymchwil wyddonol neu hanesyddol
Eich hawliau
Darllenwch am eich hawliau o dan y gyfraith diogelu data.
Cwynion
Mae gennych yr hawl i wneud cwyn am y defnydd o’ch data personol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – yr awdurdod goruchwylio ar gyfer diogelu data, ar unrhyw adeg.
Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA
Gweler hefyd Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA, sy’n nodi’n fras fanylion prosesu data personol Defra.