Canllawiau

Hysbysiad preifatrwydd iechyd a lles anifeiliaid

Diweddarwyd 17 May 2024

Applies to England, Scotland and Wales

Mae eich data’n cael eu casglu gan

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw’r rheolydd data ar gyfer data personol y byddwch yn eu rhoi i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Mae APHA yn un o Asiantaethau Gweithredol Defra. Gallwch gysylltu â Rheolwr Diogelu Data APHA drwy e-bost yn: data.protection@defra.gov.uk.

Mae APHA hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru, sy’n rheolyddion ar y cyd ag APHA ar gyfer unrhyw ddata personol perthnasol.

Dylid anfon unrhyw gwestiynau am y ffordd y mae Defra/APHA yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau cysylltiedig i’r cyfeiriad uchod.

Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data sy’n gyfrifol am fonitro bod Defra/APHA yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth drwy e-bost yn: DefraGroupDataProtectionOfficer@defra.gov.uk.

Pa ddata personol sy’n cael eu casglu

Caiff data personol eu casglu a’u storio i gefnogi rôl APHA wrth ddiogelu iechyd a lles anifeiliaid rhag clefydau egsotig, hysbysadwy ac adroddadwy fel y’u rheolir gan bolisi a deddfwriaeth berthnasol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Caiff data mewn perthynas â phob rhywogaeth da byw, yn cynnwys perchenogaeth a’r eiddo lle y cedwir yr anifeiliaid, eu casglu a’u storio i gefnogi swyddogaethau trawsbynciol APHA. Mae’r rhain yn cynnwys hyrwyddo’r gwaith o leihau’r risg i iechyd a lles anifeiliaid, monitro pob statws, cymryd camau gweithredu i reoli’r rhain lle bo angen, a llywio’r broses o lunio polisïau.

Lle bo’n ofynnol yn ôl y gyfraith, gall data gael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU neu wefan yr UE. Gall data gael eu defnyddio hefyd at ddibenion ymchwil pan fydd hynny’n cydymffurfio â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU).

Ceir rhagor o wybodaeth am APHA yn gov.uk/apha.

Sut y cafwyd eich data

Fel rheol, ceir data a ddefnyddir gan APHA yn uniongyrchol gan destun y data (yr unigolion eu hunain). Weithiau, lle bo angen o dan y ddeddfwriaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid berthnasol, ac er mwyn cadw golwg ar glefydau a’u rheoli, caiff data eu hatgyfeirio oddi wrth gyrff eraill sy’n gweithio’n agos gydag APHA (fel UKHSA neu awdurdodau lleol).

Pam y mae APHA yn defnyddio eich data

Mae APHA yn defnyddio eich data i wneud y canlynol:

  • diogelu iechyd a lles anifeiliaid; a gwarchod iechyd dynol lle y bo’n berthnasol (milheintiau)
  • dilyn deddfwriaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid a chydymffurfio â hi

Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data

Dyma’r seiliau cyfreithiol dros brosesu eich data:

  • er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol sydd gan y rheolydd (Erthygl 6(1)(c) GDPR y DU); a
  • chyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddir i’r rheolydd (Erthygl 6(1)(e) GDPR y DU)

Gofyniad cyfreithiol neu gytundebol i ddarparu data personol

Oes, mae gofyniad cyfreithiol arnoch i ddarparu data personol. Mae cadw anifeiliaid yn golygu bod gan y ceidwad gyfrifoldeb cyfreithiol am eu hiechyd a’u lles; ac mae gofyniad cyfreithiol i roi gwybod am unrhyw achos a amheuir o glefyd hysbysadwy i’r awdurdod cymwys. Mae angen darparu data personol, fel enw a chyfeiriad y ceidwad er mwyn galluogi APHA i gyflawni dyletswyddau swyddogol i gadw at ddeddfwriaeth o’r fath.

Canlyniadau peidio â rhoi’r data angenrheidiol

At ddibenion statudol a budd y cyhoedd, mae angen i chi ddarparu data fel y nodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol. Bydd personau nad ydynt yn darparu’r data angenrheidiol er mwyn i APHA weithredu’n ddiogel o dan Ddeddfwriaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid yn mynd yn groes i’r ddeddfwriaeth; ac ni fyddant yn gallu cael canlyniadau profion perthnasol, os yw hynny’n briodol.

I gael rhestr gyfredol o’r ddeddfwriaeth sy’n rheoli’r clefydau hyn ewch i legislation.gov.uk/cy

Gyda phwy y bydd APHA yn rhannu eich data

Efallai y bydd data personol ar gael i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn y DU a’r UE er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol. Gall APHA rannu data â Defra a’i hasiantaethau, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Iechyd Cyhoeddus, a sefydliadau ac awdurdodau gorfodi eraill. Wrth brofi samplau o anifeiliaid, dim ond os bydd canlyniad positif yn cael ei nodi yn y labordy y bydd angen i APHA rannu data perthnasol fel arfer.

Gall APHA rannu data â Defra a’i hasiantaethau, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Iechyd Cyhoeddus, a sefydliadau ac awdurdodau gorfodi eraill.

Mae’n bosibl y bydd angen i APHA ryddhau gwybodaeth (gan gynnwys data personol a gwybodaeth fasnachol) o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:

  • Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU)
  • Deddf Diogelu Data 2018 y DU
  • Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
  • Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004

Ni fydd APHA yn caniatáu unrhyw dor cyfrinachedd diangen ac ni fydd yn gweithredu’n groes i’n rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth diogelu data y DU.

Efallai y bydd data personol ar gael i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn y DU a’r UE er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol i reoli clefydau anifeiliaid ac weithiau clefydau dynol (lle mae milheintiau yn achos pryder) ac ar gyfer lles anifeiliaid.

Gall APHA rannu data â Defra a’i hasiantaethau, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Iechyd Cyhoeddus, a sefydliadau ac awdurdodau gorfodi eraill.

Storio a defnyddio data personol y tu allan i’r DU

Caiff canran fach iawn o gofnodion y llywodraeth sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol, ei dewis er mwyn eu cadw’n barhaol yn yr Archifau Cenedlaethol. Sicrheir eu bod ar gael yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelu Data 2018.

Ni fydd y data a roddir gennych yn cael eu trosglwyddo y tu allan i’r DU. Fodd bynnag, gellir rhannu data ag awdurdodau iechyd anifeiliaid a gydnabyddir yn rhyngwladol at ddibenion archwilio (Sefydliad Iechyd Anifeiliaid y Byd). Ar achlysuron prin, pan fydd yn gyfreithlon ac yn ategu’r gwaith a gyflawnir gennym er budd y cyhoedd, mae’n bosibl y caiff data ymchwil eu trosglwyddo’n ddiogel y tu allan i’r DU.

Am faint o amser y bydd APHA yn cadw data personol

Bydd yr holl wybodaeth a ddelir o fewn APHA yn cael ei chadw yn unol â’n polisi cadw. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag enquiries@apha.gov.uk.

O dan amgylchiadau penodol, mae’n bosibl y caiff gwybodaeth ei dal am gyfnodau hwy. Dyma rai enghreifftiau:

  • apêl
  • gweithgarwch archwilio
  • cwyn
  • afreoleidd-dra
  • camau cyfreithiol
  • cais ffurfiol am wybodaeth
  • os yw’n gosod cynsail
  • at ddibenion ymchwil wyddonol neu hanesyddol

Eich hawliau

Darllenwch am eich hawliau o dan y gyfraith diogelu data.

Cwynion

Mae gennych yr hawl i wneud cwyn am y defnydd o’ch data personol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (yr awdurdod goruchwylio ar gyfer diogelu data), ar unrhyw adeg.

Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA

Gweler hefyd Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA, sy’n nodi’n fras fanylion gwaith prosesu data personol Defra.