Canllawiau

Hysbysiad preifatrwydd APHA ar gyfer llinell gymorth Ffliw Adar

Diweddarwyd 17 May 2024

Applies to England, Scotland and Wales

Mae eich data’n cael eu casglu gan

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw’r rheolydd data ar gyfer data personol y byddwch yn eu rhoi i APHA.

Mae APHA yn un o asiantaethau gweithredol Defra. Gallwch gysylltu â Rheolwr Diogelu Data APHA drwy e-bost yn: data.protection@defra.gov.uk

Dylid anfon unrhyw gwestiynau am y ffordd y mae Defra/APHA yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau cysylltiedig i’r cyfeiriad uchod.

Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data sy’n gyfrifol am fonitro bod Defra/APHA yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth drwy e-bost yn: DefraGroupDataProtectionOfficer@defra.gov.uk

Pa ddata personol sy’n cael eu casglu

Eich enw a’ch manylion cyswllt.

Sut y cafwyd eich data

Pan fyddwch yn ffonio llinell gymorth ffliw adar APHA i roi gwybod am leoliad aderyn marw rydych wedi’i weld, bydd ein system llinell gymorth yn casglu eich rhif ffôn yn awtomatig, oni bai bod eich ffôn yn celu eich rhif. Byddwn hefyd yn gofyn i chi roi eich enw a’ch manylion cyswllt.

Pam y mae APHA yn defnyddio eich data

Er mwyn ein galluogi i gysylltu â chi gydag unrhyw ymholiadau, fel union leoliad yr aderyn marw. Byddem hefyd yn gallu rhoi gwybod i chi am ganlyniad yr ymchwiliad i’r aderyn marw rydych wedi rhoi gwybod amdano.

Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data

Y sail gyfreithiol i APHA brosesu eich data personol (eich enw a’ch manylion cyswllt) yw Erthygl 6(1)(a) o GDPR y DU, sy’n gymwys i’r achosion lle rydych wedi rhoi eich cydsyniad.

Cydsyniad i brosesu eich data

Pan fyddwch yn ffonio llinell gymorth ffliw adar APHA i roi gwybod am aderyn marw, rydych yn cydsynio bod APHA yn cadw ac yn defnyddio eich data personol (eich enw a’ch manylion cyswllt) mewn cysylltiad â’ch adroddiad gan eich bod yn gwirfoddoli’n rhydd i roi’r manylion hyn i ni.

Gallwch dynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg a gofyn i ni ddileu eich manylion cyswllt drwy gysylltu â ni yn lab.services@apha.gov.uk

Gofyniad cyfreithiol neu gytundebol i ddarparu data personol

Nid oes gofyniad cyfreithiol neu gytundebol i chi ddarparu eich data personol (enw a manylion cyswllt) pan fyddwch yn cysylltu â’r llinell gymorth ffliw adar i roi gwybod am yr aderyn marw rydych wedi’i weld.

Canlyniadau peidio â rhoi’r data angenrheidiol

Ni fyddwn yn gallu cysylltu â chi i gadarnhau union leoliad yr aderyn marw rydych wedi’i weld neu gasglu unrhyw fanylion eraill a fyddai’n angenrheidiol i ni eu cael ar gyfer ein hymchwiliad. Hefyd, ni fyddwn yn gallu rhoi gwybod i chi am ganlyniad ein hymchwiliad o’r aderyn marw rydych wedi rhoi gwybod amdano.

Gyda phwy y bydd APHA yn rhannu eich data

Yn achos unrhyw amlygiad posibl i ffliw adar efallai y bydd angen i APHA rannu eich data gydag Adran Diogelu Iechyd y DU.

Am faint o amser y bydd APHA yn cadw data personol

Bydd APHA yn cadw eich data personol am y flwyddyn rydych wedi rhoi gwybod am yr adar marw ac am 6 mlynedd arall.

Eich hawliau

Darllenwch am eich hawliau o dan y gyfraith diogelu data

Cwynion

Mae gennych yr hawl i wneud cwyn am y defnydd o’ch data personol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – yr awdurdod goruchwylio ar gyfer diogelu data, ar unrhyw adeg.

Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA

Gweler Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA, sy’n nodi’n fras fanylion gwaith prosesu data personol APHA.