Canllawiau

Hysbysiad Preifatrwydd APHA ar gyfer Ymaelodi â'r Cynllun Hwyluso Allforion Cyfunol

Diweddarwyd 24 May 2024

Applies to England, Scotland and Wales

Mae eich data’n cael eu casglu gan

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw’r rheolydd data ar gyfer data personol y byddwch yn eu rhoi i APHA.

Mae APHA yn un o asiantaethau gweithredol Defra. Gallwch gysylltu â Rheolwr Diogelu Data APHA drwy e-bost yn: data.protection@defra.gov.uk

Dylid anfon unrhyw gwestiynau am y ffordd y mae Defra/APHA yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau cysylltiedig i’r cyfeiriad uchod.

Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data sy’n gyfrifol am fonitro bod Defra/APHA yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth drwy e-bost yn: DefraGroupDataProtectionOfficer@defra.gov.uk

Pam y mae APHA yn defnyddio eich data

Rydym yn gwneud cais dros y cwmni rydych yn ei gynrychioli i ymuno â’r Cynllun Hwyluso Allforion Cyfunol. Mae angen eich manylion cyswllt arnom i brosesu’r cais a gweinyddu aelodaeth eich cwmni â’r Cynllun.

Byddwn yn defnyddio eich data yn y ffyrdd canlynol:

  • Gwirio cymhwyster ar gyfer aelodaeth â’r Cynllun Hwyluso Allforion Cyfunol sy’n darparu lefel ddigonol o hyder i Swyddogion Ardystio ac awdurdodau cymwys o ran cywirdeb yr Ardystiadau Cymorth a ddefnyddir yn arweiniad y Cynllun
  • Cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau aelodaeth â’r Cynllun Hwyluso Allforion Cyfunol

Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data

Gan eich bod yn gwirfoddoli i wneud cais i ymuno â’r Cynllun Hwyluso Allforion Cyfunol, y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data mewn perthynas â’r Cynllun yw eich bod wedi rhoi cydsyniad i ni wneud hynny.

Cydsyniad i brosesu eich data

Mae gennych yr hawl i dynnu eich cydsyniad yn ôl unrhyw bryd trwy e-bostio enw’r cwmni allforio, rhif aelodaeth GEFS, eich enw a’r rheswm dros dynnu eich cydsyniad yn ôl i ni at GEFSteam@apha.gov.uk.

Gofyniad cyfreithiol neu gytundebol i ddarparu data personol

Nid oes rhaid rhoi data personol. Bydd hyn ond yn cael eu casglu gyda chydsyniad.

Canlyniadau peidio â rhoi’r data angenrheidiol

Os nad oes gennym y data angenrheidiol, yna ni fydd eich cwmni yn gymwys i fod yn aelod o’r Cynllun Hwyluso Allforion Cyfunol.

Gyda phwy y bydd APHA yn rhannu eich data

Bydd y data a gasglwn yn cael eu rhannu â Defra a gallant gael eu rhannu ag adrannau eraill y llywodraeth, asiantaethau a chyrff cyhoeddus fel Safonau Masnach, Swyddogion Allanol ac Awdurdodau Lleol i sicrhau cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau aelodaeth â’r Cynllun Hwyluso Allforion Cyfunol.

Byddwn yn rhannu eich data os bydd y gyfraith yn gofyn am hynny - er enghraifft, trwy orchymyn llys, neu er mwyn atal twyll neu drosedd arall.

Am faint o amser y bydd APHA yn cadw data personol

Bydd yr holl wybodaeth a ddelir gan APHA yn cael ei chadw yn unol â’n polisi cadw. Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch ag enquiries@apha.gov.uk.

Eich hawliau

Darllenwch am eich hawliau o dan y gyfraith diogelu data.

Cwynion

Mae gennych yr hawl i wneud cwyn am y defnydd o’ch data personol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – yr awdurdod goruchwylio ar gyfer diogelu data, ar unrhyw adeg.

Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA

Gweler Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA, sy’n nodi’n fras fanylion gwaith prosesu data personol APHA.