Canllawiau

Hysbysiad preifatrwydd APHA ar gyfer rhaglen Iechyd Gwenyn Statudol yr Uned Wenyn Genedlaethol

Diweddarwyd 24 May 2024

Applies to England, Scotland and Wales

Gan bwy y mae eich data’n cael eu casglu

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw’r rheolydd data ar gyfer data personol y byddwch yn eu rhoi i APHA.

Mae APHA yn un o asiantaethau gweithredol Defra. Gallwch gysylltu â Rheolwr Diogelu Data APHA drwy e-bost yn: data.protection@defra.gov.uk.

Dylid anfon unrhyw gwestiynau am y ffordd y mae Defra/APHA yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau cysylltiedig i’r cyfeiriad uchod.

Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data sy’n gyfrifol am fonitro bod Defra/APHA yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth drwy e-bost yn: DefraGroupDataProtectionOfficer@defra.gov.uk.

FERA Science Limited yw’r prosesydd data a gontractiwyd gan Defra i brosesu’r data ar ei rhan.

Pa ddata personol sy’n cael ei gasglu

Caiff data personol eu casglu a’u storio ar gyfer swyddogaethau statudol Uned Wenyn Genedlaethol APHA mewn perthynas â bioddiogelwch gwenyn mêl, a rheoli plâu a chlefydau o dan ddeddfwriaeth yr UE a’r DU. Yn benodol, plâu a chlefydau hysbysadwy, mewnforion ac allforion, rhaglen hyfforddi a chynghori’r Uned Wenyn Genedlaethol, Cynllun Ymchwilio i Ddigwyddiadau Bywyd Gwyllt (WIIS), ac at ddibenion monitro diogelwch bwyd statudol. Hefyd, mae swyddogaethau gwyliadwriaeth sganio a gyflawnir gan APHA yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu er mwyn ymarfer awdurdod swyddogol a roddir i’r rheolydd data i reoli plâu gwenyn mêl a chlefydau anifeiliaid o fewn y Deyrnas Unedig.

Mae APHA hefyd yn defnyddio’r data hyn er mwyn cynnal ymchwil i’r ffordd y rheolir y plâu a’r clefydau hyn. Ceir rhagor o wybodaeth am APHA yn.

Pam y mae APHA yn defnyddio eich data

Caiff data personol eu casglu a’u storio ar gyfer swyddogaethau statudol Uned Wenyn Genedlaethol APHA mewn perthynas â bioddiogelwch gwenyn mêl, a rheoli plâu a chlefydau o dan ddeddfwriaeth y DU. Yn benodol, plâu a chlefydau hysbysadwy, mewnforion ac allforion, rhaglen hyfforddi a chynghori’r Uned Wenyn Genedlaethol, Cynllun Ymchwilio i Ddigwyddiadau Bywyd Gwyllt (WIIS), ac at ddibenion monitro diogelwch bwyd statudol.

Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data

· Cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddir i’r rheolydd

· Cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol sydd gan y rheolydd

· Cyflawni contract y mae testun y data yn rhan ohono neu er mwyn cymryd camau ar gais testun y data cyn ymrwymo i gontract

· Rydych wedi cydsynio i ni brosesu eich data at un neu fwy o ddibenion penodedig

Cydsyniad i brosesu eich data

Gweler Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA, sy’n nodi’n fras fanylion gwaith prosesu data personol Defra.

Gofyniad cyfreithiol neu gytundebol i ddarparu data personol

Caiff data personol eu casglu i ddiwallu gofyniad statudol mewn perthynas â bioddiogelwch gwenyn mêl, a rheoli plâu a chlefydau o dan ddeddfwriaeth y DU.

Yn benodol, plâu a chlefydau hysbysadwy, mewnforion ac allforion, rhaglen hyfforddi a chynghori’r Uned Wenyn Genedlaethol, Cynllun Ymchwilio i Ddigwyddiadau Bywyd Gwyllt (WIIS), ac at ddibenion monitro diogelwch bwyd statudol.

Mae’r gofyniad hwn yn codi o

Canlyniadau peidio â rhoi data personol

Ar gyfer swyddogaethau statudol APHA mewn perthynas â rheoli plâu a chlefydau: yn benodol mewnforion gwenyn mêl, symudiadau nythfeydd a gwenyn a phlâu a chlefydau hysbysadwy. Mae gofyniad deddfwriaethol i roi data personol angenrheidiol.

I gael rhestr o’r ddeddfwriaeth gyfredol ar gyfer gwenyn mêl a rhywogaethau goresgynnol ewch i: www.legislation.gov.uk/cy.

Ar gyfer gweithgareddau prosesu sy’n seiliedig ar gontract, byddwch yn ymrwymo i gontract â ni yn wirfoddol a bydd gwybodaeth angenrheidiol yn cael ei darparu er mwyn cyflawni’r berthynas gytundebol honno.

Ar gyfer gweithgareddau prosesu sy’n seiliedig ar gydsyniad, mae gennych hawl i dynnu’r cydsyniad hwn yn ôl unrhyw bryd.

Gyda phwy y bydd APHA yn rhannu eich data

Efallai y bydd data personol ar gael i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn y DU a’r UE er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol.

Gallwn rannu data â Defra a’i hasiantaethau, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Iechyd Cyhoeddus, a sefydliadau ac awdurdodau gorfodi eraill.

Rydym yn rhannu data â Fera Science Limited at ddibenion prosesu’r data hyn a chyflawni swyddogaethau statudol ac ymchwil ar ran rheolyddion data.

Mae’n bosibl y bydd angen i ni ryddhau gwybodaeth (gan gynnwys data personol a gwybodaeth fasnachol) o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:

· Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol DU (GDPR DU)

· Deddf Diogelu Data 2018 y DU

· Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

· Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004

Ni fyddwn yn caniatáu unrhyw dor cyfrinachedd diangen ac ni fyddwn yn gweithredu’n groes i’n rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth diogelu data y DU.

Storio a defnyddio data y tu allan i’r DU

Caiff canran fach iawn o gofnodion y llywodraeth sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol, ei dewis er mwyn eu cadw’n barhaol yn yr Archifau Cenedlaethol. Sicrheir eu bod ar gael yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelu Data 2018.

Ni fydd y data a roddir gennych yn cael eu trosglwyddo y tu allan i’r DU. Ar achlysuron prin, pan fydd yn gyfreithlon ac yn ategu’r gwaith a gyflawnir gennym er budd y cyhoedd, mae’n bosibl y caiff data ymchwil eu trosglwyddo’n ddiogel y tu allan i’r DU.

Am faint o amser y bydd APHA yn cadw eich data

Bydd yr holl wybodaeth a ddelir o fewn APHA yn cael ei chadw yn unol â’n polisi cadw. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â data.protection@defra.gov.uk.

O dan amgylchiadau penodol, mae’n bosibl y caiff gwybodaeth ei dal am gyfnodau hwy. Dyma rai enghreifftiau:

· apêl

· gweithgarwch archwilio

· cwyn

· afreoleidd-dra

· camau cyfreithiol

· cais ffurfiol am wybodaeth

· os yw’n gosod cynsail

· at ddibenion ymchwil wyddonol neu hanesyddol

Eich hawliau

Darllenwch am eich hawliau o dan y gyfraith diogelu data.

Cwynion

Mae gennych yr hawl i wneud cwyn am y defnydd o’ch data personol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – yr awdurdod goruchwylio ar gyfer diogelu data, ar unrhyw adeg.

Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA

Gweler hefyd Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA, sy’n nodi’n fras fanylion gwaith prosesu data personol Defra.