Canllawiau

Hysbysiad preifatrwydd APHA ar gyfer Bioddiogelwch Planhigion, Archwiliadau o Organebau a Addaswyd yn Enetig (GMO) a Rhywogaethau Anfrodorol ac Ymledol

Diweddarwyd 17 May 2024

Applies to England, Scotland and Wales

Mae eich data’n cael eu casglu gan

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw’r rheolydd data ar gyfer data personol y byddwch yn eu rhoi i APHA.

Mae APHA yn un o asiantaethau gweithredol Defra. Gallwch gysylltu â Rheolwr Diogelu Data APHA drwy e-bost yn: data.protection@defra.gov.uk.

Dylid anfon unrhyw gwestiynau am y ffordd y mae Defra/APHA yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau cysylltiedig i’r cyfeiriad uchod.

Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data sy’n gyfrifol am fonitro bod Defra/APHA yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth drwy e-bost yn: DefraGroupDataProtectionOfficer@defra.gov.uk.

Pa ddata personol sy’n cael eu casglu

Gall data personol, fel enwau, cyfeiriadau a lleoliadau safleoedd y mae gan destun y data gyfrifoldeb amdanynt (ac sydd felly’n gallu cysylltu person â’r safle) gael eu casglu a’u storio o dan ddeddfwriaeth berthnasol sy’n ymwneud â swyddogaethau statudol APHA (gweler ‘Pam y mae APHA yn defnyddio eich data’ isod).

Ceir rhagor o wybodaeth am APHA yn Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion - GOV.UK (gov.uk/apha).

Pam y mae APHA yn defnyddio eich data

Caiff data personol eu casglu a’u storio ar gyfer swyddogaethau statudol APHA mewn perthynas â bioddiogelwch planhigion; rhyddhau organebau a addaswyd yn enetig yn amgylcheddol; a rheoli rhywogaethau anfrodorol ac ymledol. Yn benodol ar gyfer plâu a chlefydau hysbysadwy, rheolaethau mewnforion ac allforion, hyfforddiant ac at ddibenion monitro diogelwch bwyd statudol.

Hefyd, mae swyddogaethau gwyliadwriaeth sganio gan APHA yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasgau a wneir er budd y cyhoedd neu er mwyn ymarfer awdurdod swyddogol a roddir i’r rheolydd data i reoli bioddiogelwch planhigion yng Nghymru a Lloegr a deddfwriaeth GM yn Lloegr.

Gall APHA hefyd ddefnyddio’r data hyn er mwyn cynnal ymchwil i’r ffordd y rheolir organebau a addaswyd yn enetig, plâu a chlefydau mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data.

Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data

Mae prosesu yn angenrheidiol i gyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freinir yn y rheolydd.

Gofyniad cyfreithiol neu gytundebol i ddarparu data personol

Yn ôl y gyfraith (Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (fel y’i diwygiwyd)), mae’n ofynnol i chi ddarparu eich data personol i APHA mewn achosion lle mae arolygydd yn ymchwilio i weld a yw person yn cadw organebau a addaswyd yn enetig neu wedi cadw unrhyw organebau a addaswyd yn enetig neu lle y credir bod unrhyw organebau a addaswyd yn enetig wedi’u rhyddhau neu wedi dianc.

Cynigiwn wasanaeth archwilio i fewnforwyr hadau a chynhyrchwyr rhywogaethau sy’n wynebu risg o bresenoldeb damweiniol o organebau a addaswyd yn enetig. Mae derbyn cynnig archwiliad yn gwbl wirfoddol ac nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol arnoch i ddarparu unrhyw ddata personol at y diben hwn.

Canlyniadau peidio â rhoi’r data angenrheidiol

Os na fyddwch yn darparu’r data personol sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith, ni allwch fasnachu yn y nwyddau hynny y mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cyfeirio atynt ac, mewn rhai achosion, gall hynny fod yn gyfystyr â throsedd o dan ddeddfwriaeth berthnasol.

Os na fyddwch yn darparu data personol pan gynigir archwiliad gwirfoddol i chi, ni allwch fanteisio ar yr archwiliad.

Gyda phwy y bydd APHA yn rhannu eich data

Efallai y bydd data personol ar gael i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn y DU er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol.

Gallwn rannu data â Defra a’i hasiantaethau, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Iechyd Cyhoeddus, a sefydliadau ac awdurdodau gorfodi eraill.

Mae’n bosibl y bydd angen i ni ryddhau gwybodaeth (gan gynnwys data personol a gwybodaeth fasnachol) o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:

  • Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU)
  • Deddf Diogelu Data 2018 y DU
  • Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
  • Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004

Ni fyddwn yn caniatáu unrhyw dor cyfrinachedd diangen ac ni fyddwn yn gweithredu’n groes i’n rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth diogelu data y DU.

Storio a defnyddio data personol y tu allan i’r DU

Caiff canran fach iawn o gofnodion y llywodraeth sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol, ei dewis er mwyn eu cadw’n barhaol yn yr Archifau Cenedlaethol. Sicrheir eu bod ar gael yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelu Data 2018.

Bydd yr holl wybodaeth a ddelir o fewn APHA yn cael ei chadw yn unol â’n polisi cadw. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag enquiries@apha.gov.uk.

O dan amgylchiadau penodol, mae’n bosibl y caiff gwybodaeth ei dal am gyfnodau hwy. Dyma rai enghreifftiau:

  • apêl
  • gweithgarwch archwilio
  • cwyn
  • afreoleidd-dra
  • camau cyfreithiol
  • cais ffurfiol am wybodaeth
  • os yw’n gosod cynsail
  • at ddibenion ymchwil wyddonol neu hanesyddol

Eich hawliau

Darllenwch am eich hawliau o dan y gyfraith diogelu data.

Cwynion

Mae gennych yr hawl i wneud cwyn am y defnydd o’ch data personol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – yr awdurdod goruchwylio ar gyfer diogelu data, ar unrhyw adeg.

Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA

Gweler hefyd Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA, sy’n nodi’n fras fanylion prosesu data personol Defra.