Canllawiau

Hysbysiad preifatrwydd APHA ar gyfer Clefyd Endemig

Diweddarwyd 24 May 2024

Applies to England, Scotland and Wales

Mae eich data’n cael eu casglu gan

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw’r rheolydd data ar gyfer data personol y byddwch yn eu rhoi i APHA.

Mae APHA yn un o asiantaethau gweithredol Defra. Gallwch gysylltu â Rheolwr Diogelu Data APHA drwy e-bost yn: data.protection@defra.gov.uk.

Mae APHA hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru, sy’n rheolyddion ar y cyd ag APHA ar gyfer unrhyw ddata personol perthnasol.

Dylid anfon unrhyw gwestiynau am y ffordd y mae Defra/APHA yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau cysylltiedig i’r cyfeiriad uchod.

Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data sy’n gyfrifol am fonitro bod Defra/APHA yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth drwy e-bost yn: DefraGroupDataProtectionOfficer@defra.gov.uk.

Pa ddata personol sy’n cael eu casglu

Un o ofynion statudol APHA yw casglu data personol er mwyn darparu tystysgrifau, trwyddedau, cymeradwyaethau safleoedd a chofrestriadau safleoedd ar gyfer Masnach Ryngwladol o fewn yr Undeb Ewropeaidd (UE) ac ar gyfer mewnforion o wledydd nad ydynt yn rhan o’r UE. Yn ogystal, ar gyfer CITES, cesglir data personol i brosesu ceisiadau o dan Reoliad Cyngor yr UE 338/97 a Rheoliad y Comisiwn 865/2006 ac o dan adran 7 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad ar gyfer Cofrestru Adar.

Nid oes gofyniad statudol i APHA gasglu data personol i ddarparu tystysgrifau allforio ar gyfer anifeiliaid byw a chynhyrchion o darddiad anifeiliaid ar gyfer masnach nad yw’n dod o wledydd yr UE. Cesglir data personol wrth gyflawni’r ddyletswydd hon i hwyluso masnach nad yw’n dod o wledydd yr UE gan fod disgwyl i fanylion personol gael eu cynnwys yn y dystysgrif allforio i fodloni gofynion mewnforio Awdurdodau Milfeddygol Cymwys gwledydd nad ydynt yn yr UE.

Lle bo’n ofynnol yn ôl y gyfraith, gall data gael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU neu wefan yr UE.

Ceir rhagor o wybodaeth am APHA yn Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion - GOV.UK (gov.uk/apha).

Sut y cafwyd eich data

Fel rheol, ceir data a ddefnyddir gan APHA yn uniongyrchol gan destun y data (yr unigolion eu hunain). Weithiau, lle bo angen o dan y ddeddfwriaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid perthnasol, ac er mwyn cadw golwg ar glefydau a’u rheoli, caiff data eu hatgyfeirio oddi wrth gyrff eraill sy’n gweithio’n agos gydag APHA (fel Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA), yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Food Standards Scotland neu awdurdodau lleol).

Pam y mae APHA yn defnyddio eich data

Mae APHA yn defnyddio eich data i wneud y canlynol:

  • diogelu iechyd a lles anifeiliaid; a gwarchod iechyd dynol lle y bo’n berthnasol (milheintiau)
  • dilyn deddfwriaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid a chydymffurfio â hi

Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data

  • cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddir i’r rheolwr
  • cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol sydd gan y rheolwr
  • cyflawni contract y mae’r gwrthrych data yn rhan ohono neu er mwyn cymryd camau ar gais testun y data cyn ymrwymo i gontract
  • rydych wedi cydsynio i ni brosesu eich data at un neu fwy o ddibenion penodedig

Cydsyniad i brosesu eich data

Weithiau gellir gofyn i unigolion o dan amgylchiadau penodol am gydsyniad i brosesu data personol (Erthygl 6(1)(a) GDPR y DU).

Gofyniad cyfreithiol neu gytundebol i ddarparu data personol

Mae gofyniad cyfreithiol arnoch i ddarparu data personol. Mae cadw anifeiliaid yn golygu bod gan y ceidwad gyfrifoldeb cyfreithiol am eu hiechyd a’u lles, gan gynnwys gofyniad cyfreithiol i roi gwybod am unrhyw achos a amheuir o glefyd hysbysadwy i’r awdurdod cymwys. Mae angen darparu data personol, fel enw a chyfeiriad y ceidwad er mwyn galluogi APHA i gyflawni dyletswyddau swyddogol i gadw at ddeddfwriaeth o’r fath.

Canlyniadau peidio â rhoi data personol

At ddibenion statudol a budd y cyhoedd, mae angen darparu data fel y nodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol. Bydd personau nad ydynt yn darparu’r data angenrheidiol er mwyn i APHA weithredu’n effeithiol o dan ddeddfwriaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid yn mynd yn groes i’r ddeddfwriaeth ac ni fyddant yn gallu cael canlyniadau profion perthnasol, os yw hynny’n briodol.

I gael rhestr gyfredol o’r ddeddfwriaeth sy’n rheoli’r clefydau hyn ewch i legislation.gov.uk/cy.

Gyda phwy y bydd APHA yn rhannu eich data

Efallai y bydd data personol ar gael i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn y DU a’r UE er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol.

Gallwn rannu data â Defra a’i hasiantaethau, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Iechyd Cyhoeddus, a sefydliadau ac awdurdodau gorfodi eraill.

Mae’n bosibl y bydd angen i ni ryddhau gwybodaeth (gan gynnwys data personol a gwybodaeth fasnachol) o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:

  • Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU)
  • Deddf Diogelu Data 2018 y DU
  • Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
  • Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004

Ni fyddwn yn caniatáu unrhyw dor cyfrinachedd diangen ac ni fyddwn yn gweithredu’n groes i’n rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth diogelu data y DU.

Storio a defnyddio data y tu allan i’r DU

Caiff canran fach iawn o gofnodion y llywodraeth sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol, ei dewis er mwyn eu cadw’n barhaol yn yr Archifau Cenedlaethol. Sicrheir eu bod ar gael yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelu Data 2018.

Ni fydd y data a roddir gennych yn cael eu trosglwyddo y tu allan i’r DU. Ar achlysuron prin, pan fydd yn gyfreithlon ac yn ategu’r gwaith a gyflawnir gennym er budd y cyhoedd, mae’n bosibl y caiff data ymchwil eu trosglwyddo’n ddiogel y tu allan i’r DU.

Am faint o amser y bydd APHA yn cadw data personol

Bydd yr holl wybodaeth a ddelir o fewn APHA yn cael ei chadw yn unol â’n polisi cadw. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag enquiries@apha.gov.uk.

O dan amgylchiadau penodol, mae’n bosibl y caiff gwybodaeth ei dal am gyfnodau hwy. Dyma rai enghreifftiau:

  • apêl
  • gweithgarwch archwilio
  • cwyn
  • afreoleidd-dra
  • camau cyfreithiol
  • cais ffurfiol am wybodaeth
  • os yw’n gosod cynsail
  • at ddibenion ymchwil wyddonol neu hanesyddol

Eich hawliau

Darllenwch am eich hawliau o dan y gyfraith diogelu data.

Cwynion

Mae gennych yr hawl i wneud cwyn am y defnydd o’ch data personol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – yr awdurdod goruchwylio ar gyfer diogelu data, ar unrhyw adeg.

Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA

Gweler hefyd Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA, sy’n nodi’n fras fanylion prosesu data personol Defra.