Ffurflen

Sut i gwblhau affidafid (datganiad) o fudd gorau ar gyfer gweithred newid enw plentyn

Diweddarwyd 20 Awst 2025

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Cyn i chi ddechrau

Cyn i chi wneud cais dylech yn gyntaf ddarllen y prif gyfarwyddyd ar newid eich enw chi neu enw plentyn trwy weithred newid enw. Mae’n cynnwys gwybodaeth am:

  • pa bryd rydych a pha bryd nad ydych angen gweithred newid enw
  • sut i wneud gweithred newid enw eich hun
  • y dogfennau y mae’n rhaid i chi gynnwys pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru gweithred newid enw
  • y ffi i gofrestru gweithred newid enw
  • ble i anfon eich ffurflenni ar ôl eu llenwi os ydych yn gwneud cais drwy’r post
  • sut y gallwch wneud cais ar-lein os byddai’n well gennych wneud hynny

Os cafodd y plentyn ei eni yn yr Alban, dylech ddilyn y rheolau a’r cyfarwyddyd ar gyfer newid enw plentyn yn yr Alban.

Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi:

Os ydych chi’n penderfynu gwneud cais ar-lein yna nid oes angen i chi lawrlwytho’r ddalen flaen. Bydd yn cael ei hanfon atoch drwy e-bost i’w hargraffu a’i llofnodi ar ôl i chi wneud cais.

Cwblhau affidafid (datganiad) o fudd gorau

Mae’n rhaid i chi gynnwys ‘affidafid o fudd gorau’ gyda’r cais. Datganiad yw hwn i ddangos i’r llys bod newid enw’r plentyn er eu budd gorau.

Fel y rhiant, neu’r sawl sydd â chyfrifoldeb rhiant, mae’n rhaid i chi gwblhau’r affidafid a thyngu ei fod yn wir ym mhresenoldeb unigolyn sydd wedi’i awdurdodi i dystio llofnodi dogfennau cyfreithiol pwysig. Gall yr unigolyn hwn fod yn:

  • farnwr rhanbarth neu’n farnwr cylchdaith
  • bargyfreithiwr neu gyfreithiwr
  • comisiynydd llwon
  • ynad
  • swyddog y llys sydd wedi’i gymeradwyo i weinyddu llwon

Gallwch ddefnyddio’r un unigolyn a’r sawl sy’n awdurdodi’r broses o dyngu i wirionedd y datganiad statudol.

Nid oes fformat penodol ar gyfer y ddogfen hon, ond gallwch ddod o hyd i ffurflen a awgrymir (LOC023) ochr yn ochr â’r cyfarwyddyd hwn.

Os ydych chi’n penderfynu peidio â defnyddio’r LOC023, rhaid i’ch datganiad gynnwys y geiriau ‘Rwyf i [eich enw a’ch cyfeiriad] yn datgan ar lw…’ ac yna eich datganiad. Rhaid iddo hefyd gael ei dyngu a’i lofnodi gerbron rhywun a all gweinyddu llwon.

Cyfeirir pob cais i newid enw plentyn at farnwr am ganiatâd i gofrestru.

Arddangosion i’r affidafid o fudd gorau

Mae ‘arddangosyn’ yn ddogfen a ddefnyddir yn y llys fel tystiolaeth. Mae’r llys angen arddangosion fel tystiolaeth o bwy mae’ch cais yn dweud yr ydych chi a’r plentyn.

Yn dibynnu ar eich statws perthynas, rhaid i chi gynnwys rhai arddangosion penodol gyda’ch affidafid o fudd gorau:

  • os ydych yn weddw – dylech gynnwys llungopi o dystysgrif marwolaeth eich partner
  • os ydych wedi ysgaru – dylech gynnwys llungopi o’r gorchymyn terfynol neu’r dyfarniad absoliwt yn cadarnhau eich ysgariad neu ddiddymiad, gyda chydsyniad pawb sydd dal yn fyw sydd â chyfrifoldeb rhiant

Bydd pob arddangosyn angen dalen flaen arddangosyn.

Dogfennau eraill y gallai fod eu hangen arnoch

Os nad yw eich cyfenw ar dystysgrif geni’r plentyn yr un fath â’ch cyfenw presennol, rhaid i chi anfon tystiolaeth atom eich bod wedi newid eich enw, er enghraifft llungopi o’ch tystysgrif priodas.

Os oes gennych bartner newydd a bod y plentyn yn mynd i gymryd cyfenw’r partner hwnnw/honno, mae’n rhaid i chi anfon atom lythyr ganddynt yn dweud eu bod yn cytuno i newid enw’r plentyn.

Os yw’r plentyn sy’n newid ei enw yn 16 neu 17 oed, rhaid iddyn nhw hefyd anfon llythyr atom yn nodi’r ddau enw i ddweud eu bod yn cytuno i’r newid enw. Rhaid i’r llythyr hwn gael ei lofnodi gan dyst.

Cael help gyda gweithred newid enw

Os oes arnoch angen gofyn cwestiwn am y weithred o newid enw’r plentyn, cysylltwch â’r Tîm Gweithred Newid Enw yn Adran Mainc y Brenin.

Tîm Gweithred Newid Enw
Adran Mainc y Brenin
Y Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain
WC2A 2LL

Rhif ffôn: 020 3936 8957 (opsiwn 6)
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am tan 5pm
Wedi cau ar wyliau banc
Gwybodaeth am gost galwadau

E-bost: kbdeedspoll@justice.gov.uk
Ein nod yw ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith.

Mae’r cyfeiriad e-bost uchod ar gyfer ymholiadau yn unig. Ni ddylech gyflwyno’r ffurflenni gweithred newid enw trwy e-bost.

Gallwch hefyd gysylltu â’r Tîm Gweithred Newid Enw os oes gennych ymholiad am weithred newid enw bresennol sy’n 5 oed neu lai.

Os oes gennych ymholiad am weithred newid enw sy’n hŷn na 5 oed, cysylltwch â’r Archifau Cenedlaethol.