Canllawiau

Hysbysebu eich swyddi gwag

Cymorth i gyflogwyr i helpu hysbysebu swyddi gwag.

Dogfennau

Find a job: guide for employers

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch accessible.formats@dwp.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Find a job: copy a job advert

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch accessible.formats@dwp.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Dod o hyd i swydd

Dod o hyd i swydd yw un o’r safleoedd chwilio am swyddi am ddim mwyaf yn y DU. Mae’r gwasanaeth yn cynnig ffordd syml a llai cymhleth i geiswyr gwaith a chyflogwyr fewngofnodi, hysbysebu swyddi gwag a chwilio am swyddi.

Mae gan Dod o hyd i swydd gannoedd ar filoedd o geiswyr gwaith cofrestredig gydag ystod o sgiliau, profiad a diddordebau. Mae’r rhyngwyneb defnyddiwr yn golygu y gall ceiswyr gwaith ei deilwra i weddu i’w hanghenion, gan sicrhau eu bod ond yn ceisio am swyddi sy’n cyd-fynd â’u sgiliau a’u profiad.

Gall cyflogwyr greu cyfrif am ddim i hysbysebu swyddi gwag ar-lein.

Canllaw i Dod o hyd i swydd ar gyfer cyflogwyr

Canllaw i sut i gopio hysbysiad swydd

Ffyrdd eraill o hysbysebu eich swyddi gwag

Mae yna ystod o ffyrdd eraill i hysbysebu eich swyddi gwag, yn cynnwys:

  • defnyddio safleoedd swyddi ar-lein
  • gwasanaeth Twitter eich Canolfan Byd Gwaith lleol
  • rhannu swyddi ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol ei hunan, fel LinkedIn
  • hysbysebu yn y papur lleol
  • defnyddio’ch rhwydweithiau a’ch cyrff sector masnach presennol i rannu gwybodaeth am swyddi gwag
  • defnyddio asiantaethau recriwtio

Mae gan y Ganolfan Byd Gwaith dros 60 o gyfrifon Twitter daearyddol y gallwch eu defnyddio i hysbysebu eich swyddi gwag.

Gellir gwneud ceisiadau am gymorth trwy anfon neges breifat trwy Twitter i’ch cyfrif lleol, gan ddefnyddio’r swyddogaeth neges uniongyrchol o fewn Twitter.

Rhennir llawer o swyddi gwag ar lafar, felly gallai eich gweithwyr presennol hefyd helpu i ddenu ymgeiswyr newydd.

Os ydych angen help ychwanegol gyda llenwi swyddi gwag yna efallai y bydd eich partner Cyflogaeth dan Gontract DWP yn gallu cynnig cymorth yng Nghymru a Lloegr.

Am gymorth gyda recriwtio yn yr Alban, yn ogystal â gwybodaeth am hyfforddi staff, cyllid a Phrentisiaethau, efallai bydd Our Skills Force yn gallu cynnig cymorth.

Cyhoeddwyd ar 21 August 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 October 2020 + show all updates
  1. Updated the English PDF version of 'Find a job: guide for employers'.

  2. First published.