Canllawiau

Dod o hyd i swydd: copio hysbysiad swydd

Diweddarwyd 1 October 2020

1. Creu copi o hysbysiad swydd

Os oes gennych sawl hysbysiad swydd rydych am eu llwytho sy’n debyg iawn a dim ond angen ychydig o newidiadau, fel lleoliad, gallwch wneud hyn yn hawdd trwy greu copi o hysbysiad swydd. Unwaith y bydd yr hysbysiad hon wedi’i chopio gallwch wneud y newid yn gyflym ac yna arbed y swydd wag newydd.

  1. O’ch cyfrif dod o hyd i swydd, dewiswch yr hysbysiad rydych eisiau ei chopio a chliciwch ‘golygu’.

  2. Cadarnhewch mae hon yw’r swydd gywir, ac yna cliciwch ‘creu copi’.

  3. Yna byddwch yn gweld tudalen ‘creu swydd newydd’, gyda’r holl wybodaeth am y swydd wedi’i gwblhau – gwnewch unrhyw newidiadau sydd eu hangen, fel lleoliad neu gyfeirnod swydd.

  4. Unwaith rydych yn hapus, dewiswch ‘hysbysebu swydd’.

  5. Mae’ch hysbysiad swydd newydd bellach yn fyw ac ar gael i bobl sy’n chwilio’r wefan. Os ydych wedi newid y lleoliad, bydd nawr yn ymddangos mewn chwiliadau lleol yn yr ardal honno.