Canllawiau

Dod o hyd i swydd: canllaw i gyflogwyr

Diweddarwyd 1 October 2020

1. Y gwasanaeth Dod o hyd i swydd

Hyd yn oed yn yr amseroedd heriol hyn mae’r Ganolfan Byd Gwaith yma i helpu cyflogwyr i lenwi eu swyddi gwag brys. Wrth i rai sectorau grebachu, mae yna nifer o bobl newydd sy’n barod am swydd yn chwilio am gyflogaeth amgen neu ychwanegol.

1.1 Beth yw dod o hyd i swydd?

Dod o hyd i swydd yw gwasanaeth swyddi gwag swyddogol y llywodraeth. Mae hefyd yn un o’r safleoedd chwilio swyddi am ddim mwyaf yn y DU felly gall eich swyddi gwag gyrraedd cynulleidfa eang ac amrywiol. Mae mwy nag 1.8 miliwn o bobl eisoes wedi’u cofrestru ar y wefan, ac mae’n un o’r gwasanaethau ar-lein a ddefnyddir fwyaf cyson ar GOV.UK.

1.2 Beth mae Dod o hyd i swydd yn ei gynnig?

Mae’r gwasanaeth yn cynnig ffordd syml a llai cymhleth i bobl chwilio am y swyddi diweddaraf, yn ôl lleoliad, sector a rôl swydd. Gall rhybuddion e-bost dynnu sylw’ch swyddi gwag diweddaraf at ddefnyddwyr y wefan yn gyflym.

Mae mwy na 147,000 o gyflogwyr sector preifat a chyhoeddus mawr a bach eisoes wedi ymuno, ac mae’r gwasanaeth yn agored i gyflogwyr ac asiantaethau recriwtio sy’n recriwtio ar eu rhan.

Mae’r epidemig coronafeirws presennol yn golygu y gallai hyd yn oed mwy o bobl sydd â sgiliau trosglwyddadwy allweddol a phrofiad diweddar o’r farchnad lafur fod yn chwilio am eich swyddi gwag sy’n hanfodol i’r DU.

Trwy ddefnyddio gwasanaeth recriwtio’r llywodraeth, gallwch gael mynediad i’r gronfa ehangaf o dalent a sgiliau, a byddwch yn cefnogi marchnad lafur y DU yn uniongyrchol yn ystod yr aflonyddwch coronafeirws (COVID-19) hwn.

1.3 Sut allai gofrestru?

Gallwch greu cyfrif am ddim i hysbysebu eich swyddi gwag ar-lein. Mae’n gyflym a hawdd i lwytho swydd wag a’i reoli ar-lein, a gallwch ddewis sut rydych am i ymgeiswyr gystlltu â chi.

1.4 Lleoliadau gwahanol

Mae pob swydd wag yn benodol i leoliad fel y gall defnyddwyr y wefan chwilio am gyfleoedd yn eu hardal hwy. Os oes gennych swyddi gwag ar gael mewn gwahanol leoliadau, yna bydd angen i chi greu swyddi gwag lluosog - un ar gyfer pob tref neu ardal - i sicrhau y bydd eich swyddi gwag yn cael eu gweld gan y bobl iawn.

Y ffordd hawsaf yw i greu copi’n gyflym o’ch swydd wag presennol. Edrychwch dros ein canllaw syml, neu gwyliwch ein fideo.

Os oes gennych anghenion fwy cymhleth, neu swyddi ar draws nifer fawr o leoliadau, gallwch hefyd drefnu i ‘swmp lwytho’ o’ch system chi i Dod o hyd i swydd. Bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth am swyddi gwag mewn ffurf XML penodol – edrychwch dros ein cyfarwyddiadau technegol. Byddwch hefyd angen gofyn am ganiatad i ddechrau arni.

Dod o Hyd i Swydd: Sut i ofyn am gymwysterau swmp lwytho.

1.5 Awgrymiadau

  • wrth hysbysebu swyddi gwag, byddwch yn ymwybodol o sgiliau a phrofiad trosglwyddadwy, a chadwch y gofynion sylfaenol mor eang â phosibl. Bydd hyn yn helpu i ddenu gweithwyr a gyflogir yn draddodiadol mewn sectorau a rolau eraill a allai roi hwb i’ch gweithlu yn gyflym iawn
  • ond byddwch yn glir am y swydd, beth sydd dan sylw ac unrhyw gyfyngiadau a allai fod yn berthnasol. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn denu’r ymgeiswyr cywir
  • dylech greu swydd wag ar gyfer pob lleoliad lle rydych yn recriwtio - mae hyn yn golygu y bydd eich swyddi gwag yn ymddangos mewn chwiliadau lleol
  • mae help a chyngor ar gael gan y tîm Dod o hyd i swydd
  • os yw eich cwmni yn Hyderus o Ran Anabledd gallwch arddangos y statws hwn ar eich hysbysiad ‘Dod o hyd i swydd’ sy’n golygu y byddwch yn dangos i fyny mewn chwiliadau y bydd ceiswyr gwaith sy’n dewis hyn yn eu gweld
  • os oes gennych nifer fawr o swyddi gwag, yna gallwn eich helpu gyda gwasanaeth swmp lwytho a all arbed amser i chi