Cynllun iaith Gymraeg

Dengys y cynllun hwn sut y byddwn yn darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru.


Datganiad o egwyddor

Dengys y cynllun hwn sut y byddwn yn gweithredu’r egwyddor hon wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru. Wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, bydd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn trin yr iaith Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.

Mae’r cynllun:

  • yn rhoi ystyriaeth i’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg (sy’n cael eu monitro gan Gomisiynydd y Gymraeg o Ebrill 2013)
  • yn mynd i gael cyhoeddusrwydd a bydd ar gael i holl staff a’r cyhoedd

Ein cyfrifoldebau ac amcanion

Ein prif nod yw gwella diogelwch ar y ffyrdd, cynyddu effeithlonrwydd a gwneud gwasanaethau yn haws ac yn fwy diogel i’n cwsmeriaid. Wrth wneud hyn, ein prif ddiben yw sicrhau bod cofrestri cyflawn a chywir o yrwyr a cherbydau yn cael eu cadw a’n bod yn eu gwneud mor hygyrch a hyblyg ag sy’n bosibl i’r rhai sydd â’r hawl i’w defnyddio. Rydym yn gyfrifol am amrediad eang o wasanaethau i’r cyhoedd sy’n moduro, y diwydiant moduron, yr heddlu, y llysoedd ac adrannau eraill y Llywodraeth.

Ein prif gyfrifoldebau yw:

  • cynnal dros 50 miliwn o gofnodion gyrwyr a mwy na 40 miliwn o gofnodion cerbydau
  • casglu dros £7 biliwn y flwyddyn mewn Treth Cerbydau
  • cyfyngu osgoi talu treth i ddim mwy na 1% y cant y flwyddyn
  • casglu elw gwerthiant rhifau cofrestru personol ar ran y Trysorlys
  • cefnogi’r heddlu ac awdurdodau cuddwybodaeth wrth ymdrin â throseddau sy’n gysylltiedig â cherbydau

Wrth gyflawni ein nodau disgwylir i ni gyflawni’r amcanion canlynol.

Ar gyfer gyrwyr:

  • cadw cofnodion a rhoi trwyddedau gyrru i bawb ym Mhrydain Fawr sydd â thrwydded i yrru
  • sicrhau addasrwydd ymgeiswyr sy’n datgan cyflyrau meddygol
  • cofnodi pob llwyddiant yn y profion gyrru
  • cofnodi newidiadau i fanylion personol gyrwyr, neu hawl i yrru
  • cofnodi collfarnau gyrru a gwaharddiadau

Ar gyfer cerbydau:

  • cadw cofnod canolog o gerbydau trwyddedig ym Mhrydain Fawr, gan gynnwys hanes y cerbyd a newidiadau ceidwaid
  • gweinyddu’r system trethu cerbydau
  • gorfodi talu treth ar gerbyd, talu ad-daliadau treth cerbydau
  • cyhoeddi tystysgrifau cofrestru pan fydd cerbyd yn dod ar y ffordd gyntaf
  • diweddaru cofnodion wrth i fanylion ceidwaid gael eu cofnodi
  • cofnodi cerbydau sy’n cael eu cadw oddi ar y ffordd
  • rhoi gwybodaeth ynghylch cofrestru i’r heddlu ac eraill sydd â hawl cyfreithiol i’r manylion
  • ateb y galw am blatiau rhif personol a deniadol drwy werthu’n uniongyrchol i’r cyhoedd a thrwy gofnodi trosglwyddiadau preifat

Cynllunio a chyflenwi gwasanaeth

Polisïau, deddfwriaeth a chynlluniau

Bydd ein polisïau, gwasanaethau, prosesau a chynlluniau yn gyson â’r cynllun hwn. Byddwn yn cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg lle bydd y polisïau, gwasanaethau a’r mentrau hyn yn effeithio neu yn cael eu cyflwyno’n uniongyrchol i’r cyhoedd yng Nghymru.

Rydym yn ymrwymo i asesu canlyniadau ieithyddol unrhyw bolisïau, prosesau a chynlluniau newydd fydd yn effeithio ar y cyhoedd yng Nghymru neu’n cael eu cyflwyno’n uniongyrchol iddynt, gan sicrhau ei bod yn cydymffurfio ag unrhyw ymrwymiadau a wnaed o fewn y cynllun hwn.

Cyflenwi gwasanaethau

Byddwn yn cefnogi ac yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg pryd bynnag y bydd hynny’n bosibl. Bydd rheolwr yr Uned Gymraeg yn:

  • sicrhau bod yr egwyddor o gydraddoldeb ieithyddol yn cael ei hystyried a’i gweithredu ym mhob agwedd o waith yr asiantaeth sy’n effeithio ar y cyhoedd yn gyffredinol yng Nghymru
  • rhoi gwybod i’r staff a’r cyhoedd am ein hymrwymiad i gydraddoldeb iaith ac
  • yn brif fan cyswllt ar gyfer ymholiadau am y cynllun a’i weithrediad

Bydd cwsmeriaid gwasanaethau trwyddedu gyrwyr a cherbydau yng Nghymru yn gallu derbyn gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r rhain yn cynnwys derbyn disgiau trwydded cerbydau dwyieithog (mewn Swyddfeydd Post a Swyddfeydd Lleol drwy Gymru), tystysgrifau cofrestru cerbydau dwyieithog a thrwyddedau gyrru dwyieithog.

Byddwn yn ymateb yn Gymraeg i bob cwsmer sy’n dewis gohebu yn Gymraeg a bydd cwsmeriaid sy’n ffonio Uned Ymholiadau Cwsmeriaid yr Asiantaeth yn cael cynnig trafod eu busnes yn Gymraeg os byddant yn dymuno hynny.

Bydd unrhyw gytundeb neu drefniant a wneir gyda thrydydd parti ynghylch darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru yn gyson â’r cynllun.

Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu

Mae’r prif becynnau electronig presennol yn cynnig dewisiadau llawn trwy gyfrwng y Gymraeg a bydd y gwaith o ddatblygu unrhyw atebion electronig yn y dyfodol yn rhoi ystyriaeth i ddarpariaethau’r cynllun i ddarparu gwybodaeth a gwasanaethau yn Gymraeg.

Cyfathrebu â’r cyhoedd sy’n siarad Cymraeg

Cyfathrebu ysgrifenedig

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Bydd gohebiaeth y byddwn yn ei derbyn yn Gymraeg yn cael ei hateb yn Gymraeg ac ni ddylai gohebu yn y Gymraeg ynddo ei hun greu oedi. Bydd gohebiaeth yn dilyn siarad wyneb yn wyneb neu dros y ffôn yn Gymraeg hefyd yn Gymraeg. Bydd ein papur pennawd dwyieithog yn cynnwys datganiad yn y ddwy iaith yn nodi bod croeso i ohebiaeth yn y ddwy iaith. Ein bwriad yw bod gohebiaeth gydag aelodau o’r cyhoedd sy’n gyrru yng Nghymru yn cael ei chychwyn yn newis iaith yr unigolyn, os yw hynny’n wybyddus. Fel arall, bydd yn ddwyieithog.

Bydd aelodau o’r cyhoedd fydd yn dymuno cyfathrebu â’r asiantaeth drwy e-bost yn Gymraeg yn derbyn ateb yn Gymraeg.

Cyfathrebu dros y ffôn

Rydym yn croesawu ymholiadau ffôn yn Gymraeg neu Saesneg.

Bydd ein system ffôn awtomatig ryngweithiol, yn cynnig gwasanaeth Cymraeg os bydd y cwsmer yn cael ei ddynodi fel rhywun o Gymru. Os bydd cwsmeriaid yn cael eu cysylltu â chysylltydd ac yn dymuno trafod drwy gyfrwng y Gymraeg, cânt eu trosglwyddo i gysylltydd sy’n siarad Cymraeg.

Pan na fydd siaradwr Cymraeg ar gael ar unwaith i gymryd yr alwad byddwn yn cynnig gwasanaeth ffonio yn ôl yn Gymraeg neu’n cynnig y cyfle i barhau â’r alwad yn Saesneg.

Cyfarfodydd cyhoeddus

Nid ydym yn trefnu cyfarfodydd cyhoeddus.

Cyhoeddusrwydd a deunydd printiedig

Hysbysebu a gweithgareddau cyhoeddusrwydd

Bydd posteri cyhoeddusrwydd a deunyddiau hyrwyddol gweledol eraill yn cael eu cyhoeddi yn ddwyieithog yng Nghymru. Os na fydd hyn yn bosib, bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân yn gyfartal o ran maint, fformat ac ansawdd ac yn cael eu harddangos mewn ffordd sy’n parchu’r egwyddor o gydraddoldeb rhwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Bydd deunydd arddangos mewn unrhyw gynhadledd, seminar neu arddangosfa ar gyfer y cyhoedd a gynhelir yng Nghymru yn ddwyieithog neu mewn fersiwn Gymraeg a Saesneg ar wahân.

Byddwn yn sicrhau bod arolygon cyhoeddus a holiaduron ar gael yn Gymraeg os bydd angen.

Cyhoeddiadau

Dim ond nifer cyfyngedig o gyhoeddiadau argraffedig yr ydym yn eu cyhoeddi megis yr Adroddiad Blynyddol Cyfrifon a Chynllun Busnes. Yn gyffredinol, y mae’r rhain yn gyhoeddiadau isel eu nifer ac wedi’u hanelu at gynulleidfa benodol ac nid ydynt yn cael eu cyfieithu i ieithoedd eraill.

Gwefannau

Mae cyhoeddiadau yn awr ar y we yn ddiofyn ac felly yn ddarostyngedig i bolisi’r llywodraeth gyfan.

Bydd ein gwefan yn cynnwys tudalennau yn y Gymraeg a’r Saesneg a’n harfer fydd darparu tudalennau Cymraeg ar gyfer y tudalennau rhyngweithiol.

Pan fyddwn yn rhoi cyhoeddiad Saesneg ar ein gwefan, bydd y fersiwn Gymraeg yn cael ei gosod ar yr un pryd os bydd ar gael.

Rydym yn gweithio gyda gwasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS) i ddarparu cyfieithiadau yn unol â pholisi Swyddfa’r Cabinet o gyfieithu cymesur.

Ffurflenni a deunydd esboniadol

Byddwn yn cynhyrchu fersiynau dwyieithog o’r canlynol:

  • disgiau trwydded cerbydau (treth)
  • nodyn atgoffa i drwyddedu cerbyd
  • tystysgrifau cofrestru cerbydau
  • trwyddedau gyrru
  • nodyn atgoffa i adnewyddu trwyddedau gyrru
  • cardiau tacograff gyrwyr
  • atebion i bob gohebiaeth Gymraeg, yn cynnwys e-bost a llythyrau, yn yr iaith honno

Bydd ffurflen neu daflen esboniadol ar gael yn Gymraeg os bydd y ddogfen wedi’i hanelu at y cyhoedd cyffredin ym Mhrydain Fawr.

Hunaniaeth gorfforaethol

Byddwn yn mabwysiadu hunaniaeth gorfforaethol ddwyieithog i’n cwsmeriaid yng Nghymru. Bydd yr acronym am yr asiantaeth ‘DVLA’, sy’n adnabyddus iawn, yn aros yn ddigyfnewid. Pan fydd teitl yr asiantaeth yn ymddangos yn llawn, bydd hefyd yn ymddangos yn Gymraeg wrth ei ddefnyddio yng Nghymru.

Bydd ein cyfeiriad a gwybodaeth safonol arall yn gwbl ddwyieithog ar eitemau fel arwyddion, adeiladau, papurau ffacs, cardiau busnes, cardiau adnabod, slipiau cyfarch, amlenni a nwyddau a deunyddiau eraill i’w defnyddio yng Nghymru.

Arwyddion yng Nghymru

Bydd arwyddion mewnol ac allanol yn ddwyieithog mewn rhannau cyhoeddus o’n swyddfeydd yng Nghymru. Os darperir arwyddion Cymraeg a Saesneg ar wahân, yna byddant yn gyfartal o ran fformat, maint ac ansawdd, eglurdeb ac amlygrwydd.

Datganiadau i’r wasg a chyswllt â’r cyfryngau

Bydd datganiadau i’r wasg i’r wasg Gymraeg a chyfryngau darlledu yng Nghymru yn ddwyieithog. Ein nod yw cyhoeddi datganiadau ar yr un pryd yn y ddwy iaith, ond pan na fydd yr amseru yn caniatáu hyn, bydd fersiwn Gymraeg yn cael ei chynhyrchu cyn gynted ag sy’n bosibl wedyn.

Byddwn yn darparu staff sy’n siarad Cymraeg ar gyfer cyfweliadau y mae’r cyfryngau Cymraeg yn gofyn amdanynt ar faterion sy’n effeithio ar ein busnes. Bydd unrhyw ymgyrchoedd cyfryngol a ddechreuir gennym ar deledu a radio Cymraeg yn Gymraeg.

Staff

Recriwtio

Byddwn yn nodi’r gweithleoedd a’r swyddi hynny lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol a’r rheiny lle mae’n ddymunol a lefel yr hyfedredd sydd ei angen ym mhob achos. Wrth baratoi disgrifiadau swydd a thîm, rhoddir ystyriaeth ofalus i unrhyw angen posib am fedrau ysgrifenedig neu lafar yn Gymraeg. Bydd hyn yn dibynnu ar y galw am wasanaethau yn y Gymraeg ac i ba raddau y bydd defnydd ar y gwasanaethau a gynigir.

Bydd hysbysebion recriwtio mewn papurau newydd a leolir yng Nghymru yn ddwyieithog gyda fersiynau Cymraeg a Saesneg yn cael eu dangos gyda’i gilydd.

Hyfforddi staff

Yn unol â blaenoriaethau corfforaethol er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni ein hymrwymiadau byddwn yn:

  • trefnu rhaglenni hyfforddi iaith i staff sy’n dewis cynnig gwasanaethau Cymraeg - mae siaradwyr Cymraeg yn defnyddio rhaglenni i ddatblygu eu sgiliau iaith er mwyn bod o fudd busnes i’n gwasanaethau dwyieithog
  • sicrhau bod pecynnau hyfforddi a deunyddiau ar gael yn y Gymraeg i ganiatáu i staff ddatblygu sgiliau iaith sylfaenol ar gyfer cynlluniau datblygu iaith personol

Gweithredu’r cynllun

Mae gan y camau yn y cynllun hwn awdurdod, cefnogaeth a chymeradwyaeth lawn ein sefydliad. Gan reolwyr y mae’r cyfrifoldeb am weithredu’r agweddau hynny o’r cynllun sy’n berthnasol i’w gwaith. Byddwn yn sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod eu bod yn medru defnyddio’r Gymraeg neu’r Saesneg wrth gyfathrebu ag unrhyw un o’n swyddfeydd trwy ohebiaeth, ar y ffôn neu wyneb yn wyneb. Byddwn yn cyhoeddi’r cynllun i’n staff, i’r cyhoedd yng Nghymru ac ar GOV.UK.

Rydym wedi trefnu gwasanaeth cyfieithu proffesiynol allanol gan sicrhau bod gan yr asiantaeth fynediad at wasanaeth cyfieithu o ansawdd da yn ôl y gofyn.

Gwasanaethau a gyflwynir ar ran yr asiantaeth gan bartïon eraill

Mae rhai o’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu i’r cyhoedd yn cael eu cyflawni gan sefydliadau eraill fel Swyddfa’r Post yn rhoi trwydded cerbyd (disg dreth). Byddwn yn sicrhau drwy drefniadau contract y bydd yr asiant neu gontractwr yn ymwybodol o ofynion y cynllun ac yn cydymffurfio â nhw wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru ar ran y DVLA.

Adolygu a diwygio’r cynllun

Byddwn yn adolygu’r cynllun fel rhan o broses gylchynol bob 3 blynedd ac yn ymgorffori unrhyw newidiadau y cytunwyd arnynt ar yr adegau hynny.

Awgrymu gwelliannau

Rydym yn croesawu awgrymiadau i wella ein gwasanaeth i siaradwyr Cymraeg a dylid anfon y rhain at Reolwr yr Uned Gymraeg. Gall cwsmeriaid roi sylw ar y cynllun trwy anfon e-bost at: Uned y Gymraeg.

Ysgrifennwch atom

Rheolwr yr Uned Gymraeg
Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
Cyfarwyddiaeth Strategaeth, Polisi a Chyfathrebu
C2/E
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

Cwynion

Byddwn yn ymdrin ag unrhyw gwynion am y modd yr ydym yn gweinyddu’r cynllun yn unol â’n gweithdrefn gwynion.

Ymholiadau cyffredinol

Cysylltu â ni

Llinell uniongyrchol Gymraeg: 0300 790 6819