Gweithdrefn gwyno

Sut i gwyno os nad ydych yn hapus â’r gwasanaeth rydych yn ei dderbyn gan y DVLA.


Os nad ydych yn hapus â’r gwasanaeth rydym wedi’i ddarparu

Y cam cyntaf i fynd i’r afael â’ch cwyn yw cysylltu â’r adran sydd wedi bod yn ymdrin â chi. Hon fydd y ffordd gyflymaf i drin â’ch achos chi. Er mwyn inni drin â’ch cwyn, bydd angen ichi ddweud y canlynol wrthym:

  • eich enw a’ch cyfeiriad llawn
  • eich dyddiad geni
  • eich rhif gyrrwr (ar gyfer cwynion am eich trwydded yrru)
  • rhif cofrestru eich cerbyd, gan gynnwys gwneuthuriad a model y cerbyd (ar gyfer cwynion am drwyddedu cerbyd, cofrestru neu orfodi)
  • unrhyw rif cyfeirnod rydym wedi’i ddarparu ar ohebiaeth flaenorol

Os ydych wedi siarad â’r adran ond nad yw’ch cwyn wedi’i hadfer, dilynwch y broses isod i wneud cwyn ffurfiol.

Gwneud cwyn ffurfiol

Cam 1

Os ydych wedi ceisio adfer materion gyda’r adran sydd wedi bod yn ymdrin â chi ond nad ydych yn hapus gyda’r canlyniad, ysgrifennwch at ein tîm cwynion a dweud wrthynt am eich gofidion.

Os nad ydych wedi ceisio adfer y mater cyn ysgrifennu at ein tîm cwynion, bydd yr adran briodol yn eich ateb chi.

I wneud cwyn, cysylltwch â’n tîm cwynion neu ysgrifennwch i:

Tîm Cwynion
DVLA
Abertawe
SA6 7JL

Byddwn yn cadarnhau ein bod wedi derbyn eich cwyn a cheisio anfon ymateb llawn ichi o fewn 10 niwrnod gwaith.

Cam 2

Os ydych wedi cymryd Cam 1, ac rydych yn teimlo nad yw’ch cwyn wedi’i hadfer, ysgrifennwch at ein Prif Weithredwr, fydd yn sicrhau y caiff eich achos ei adolygu a’ch bod yn derbyn ymateb. Rydym yn anelu at ymateb o fewn 10 niwrnod gwaith.

Ysgrifennwch at:

Swyddfa’r Prif Weithredwr
DVLA
Abertawe
SA6 7JL

Gallwch hefyd gysylltu â Swyddfa’r Prif Weithredwr. Peidiwch gysylltu â’r swyddfa honno gydag ymholiadau cyffredinol neu os nad ydych wedi gwneud cwyn ffurfiol. Os digwyddir hyn, caiff eich cwyn neu ymholiad eu trin gan yr adran berthnasol.

Adolygiad annibynnol

Os ydych yn teimlo nad yw’ch cwyn wedi’i hadfer drwy’r weithdrefn cwynion ffurfiol 2 gam, gallwch ofyn inni gyfeirio’ch cwyn at Aseswyr Cwynion Annibynnol (ACA).

Byddant yn adolygu’r modd y cafodd eich cwyn ei thrin a byddant yn disgwyl eich bod wedi ceisio adfer eich cwyn yn uniongyrchol gyda ni yn unol â’n gweithdrefn cwynion cyn ystyried eich cwyn. Cael gwybod rhagor o wybodaeth am waith yr ACA.

Yr Ombwdsmon Seneddol a’r Gwasanaeth Iechyd

Os nad ydych yn fodlon a’r canlyniad ac mae’r ACA hefyd wedi adolygu’ch cwyn, gallwch ofyn Aelod Seneddol (AS) i gyfeirio eich cwyn i’r Ombwdsmon Seneddol a’r Gwasanaeth Iechyd.

Rydym yn croesawu pob adborth gan gynnwys pryderon, cwynion neu sylwadau ar yr hyn rydyn ni wedi’i wneud yn dda. Rydyn ni am wneud popeth o fewn ein gallu i ddysgu i wneud mwy o’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn dda a gwella lle gallwn ni wneud yn well.

Ein nod yw bodloni Safonau Cwyno Llywodraeth Ganolog y DU y PHSO wrth ymdrin â chwynion. Mae’r safonau hyn yn ein helpu ni i ddarparu gwasanaeth ymdrin â chwynion cyflymach a symlach sydd:

  • yn hyrwyddo diwylliant dysgu
  • yn croesawu cwynion mewn ffordd bositif
  • yn drwyadl a theg
  • yn rhoi ymatebion teg ac atebol

Gallwch gael gwybod rhagor ar wefan y PHSO.

Hysbysiad preifatrwydd

Am wybodaeth bellach am sut rydym yn prosesu eich data, eich hawliau a phwy i gysylltu ȃ nhw, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.

Ein hymrwymiad

Ein cwsmeriaid sydd wrth galon ein busnes ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu safon uchel o wasanaeth i bawb. Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth ac wedi ymrwymo i weithredu ar unrhyw bryderon neu gwynion ynghylch y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu.

Ein nod yw:

  • ymchwilio’n wrthrychol i bob cwyn a gwneud pethau’n iawn ichi pan mae’n bosib
  • dysgu o ble aethom yn anghywir
  • sicrhau nad ydym yn gwneud yr un camgymeriad eto

Ystadegau cwynion a’r hyn a ddysgwn o gwynion

Ystadegau ynghylch cwynion y DVLA 2019 i 2020 a sut rydym wedi gwella o ganlyniad i adborth gan gwsmeriaid

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email alternative.format@dvla.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.