Defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol

Sut rydym yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu gyda chi.


Ein sianeli cyfryngau cymdeithasol

Rydym yn defnyddio sianeli Facebook, Twitter, LinkedIn, YouTube ac Instagram i gyfathrebu gyda chi. Mae ein Canolfan Gyswllt yn ateb ymholiadau yn ymwneud â gyrwyr a cherbydau gan ddefnyddio rhai o’r sianeli hyn.

Facebook

Mae gennym 3 sianel Facebook:

Twitter

Mae gennym 3 sianel Twitter:

LinkedIn

Mae gennym un sianel gorfforaethol.

YouTube

Mae gennym sianel YouTube rydym yn ei defnyddio i gyhoeddi fideos ynghylch y gwasanaethau rydym yn eu darparu.

Instagram

Mae gennym 2 sianel Instagram:

Sut rydym yn cymedroli ein sianeli cyfryngau cymdeithasol

Mae ein tîm cyfathrebu yn cymedroli pob sianel 7 diwrnod yr wythnos.

Byddwn yn dileu a/neu riportio:

  • sylwadau difrïol, hiliol, rhywiol, homoffobig neu heriol
  • sylwadau niwsans sy’n cael eu hystyried yn sbam
  • gwybodaeth bersonol a gyflwynir megis, rhifau ffôn, manylion cyfeiriad, rhifau trwyddedau gyrru (nid ydym yn cadw cofnod o unrhyw wybodaeth bersonol sydd wedi ei dileu)
  • negeseuon neu sylwadau o fewn negeseuon (fel ffilm) sy’n nodi aelodau staff unigol DVLA’n weithredol ac yn amlwg
  • negeseuon sy’n hysbysebu gweithgareddau masnachol yn glir neu’n gofyn am gyfraniadau neu unrhyw fath o arian

Sut rydym yn rhyngweithio ar ein sianelu cyfryngau cymdeithasol

Ar y cyfryngau cymdeithasol:

  • rydym yn croesawu adborth, syniadau ac ymgysylltu wrth ein holl ddilynwyr
  • efallai y byddwn yn eich dilyn neu’n eich hoffi yn ôl os rydych yn ein dilyn neu’n ein hoffi ni - nid yw cael eich dilyn gennym ni yn awgrymu cefnogaeth o unrhyw fath
  • ni fyddwn yn derbyn ceisiadau i gael ein hychwanegu fel cyswllt ar gyfrifau YouTube unigolion
  • efallai y byddwn yn dewis rhannu cynnwys rydym yn ystyried sydd yn berthnasol inni
  • efallai y byddwn yn rhannu o’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ond nid yw hwn yn awgrymu cefnogaeth o unrhyw fath
  • byddwn yn ymateb i ymholiadau cwsmeriaid ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol
  • byddwn yn anelu at ymateb i ymholiadau syml wrth aelodau’r cyhoedd yn eu cyfeirio at dudalen priodol ar GOV.UK
  • ni fyddwn yn trafod manylion personol ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a byddwn yn gofyn cwsmeriaid i gysylltu â ni dros y ffôn neu mewn e-bost yn yr achosion hyn
  • byddwn yn darllen yr holl @replies a negeseuon uniongyrchol, a sicrhau bod unrhyw themâu sy’n dod i’r amlwg neu awgrymiadau defnyddiol yn cael eu pasio at y cydweithwyr priodol yn DVLA
  • ni allwn ymgysylltu ar unrhyw faterion politicaidd neu ateb cwestiynau sy’n torri rheolau’r Cod Gwasanaeth Sifil
  • ni allwn wneud unrhyw ymrwymiad i ymateb i bob sylw neu neges unigol
  • ni allwn ymgysylltu ar unrhyw faterion politicaidd neu ateb cwestiynau sy’n torri’r rheolau cyffredinol
  • nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb os nad yw Facebook, Twitter, LinkedIn, YouTube neu Instagram ar gael

Mae’r ffyrdd arferol ar gyfer cysylltu â ni ar gyfer gohebiaeth swyddogol wedi’u hesbonio yn yr adran cysylltu â ni ar ein gwefan.

Sut rydym yn prosesu eich data

Mae data amdanoch chi ar y cyfryngau cymdeithasol dim ond yn cael ei brosesu gan DVLA mewn ffordd ddienw. Efallai y byddwch yn ymddangos ar adroddiad, ond dim ond fel rhif – er enghraifft fel dilynwr, rhywun sydd wedi hoffi, neu fel ail-drydar. Ni fyddwn yn defnyddio eich data at unrhyw ddiben arall, er enghraifft i’ch targedu gyda hysbysebu.

Darllenwch fwy am bolisi preifatrwydd cyffredinol y DVLA.