Defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol

Yr hyn rydym yn ei rannu a sut rydym yn rheoli sylwadau ar gyfrifon Twitter a Facebook yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).


Adran Cyfathrebu Corfforaethol APHA sy’n rheoli ein cyfrifon Twitter a Facebook. Rydym yn rhannu newyddion am ein gwaith, ein digwyddiadau a materion sy’n ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid.

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn ail-drydar cyhoeddiadau nodedig gan adrannau neu asiantaethau eraill y llywodraeth, neu asiantaethau eraill sy’n berthnasol i waith APHA.

Argaeledd

Rydym yn diweddaru ac yn monitro ein cyfrifon rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (heb gynnwys gwyliau cyhoeddus). Fodd bynnag, os bydd argyfwng, megis achosion o glefyd, byddwn yn trydar neu’n cyhoeddi diweddariadau y tu allan i oriau swyddfa.

Mae’n bosibl na fydd Twitter ar gael o bryd i’w gilydd ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddiffyg gwasanaeth o ganlyniad i amser segur neu broblemau â’r rhyngrwyd. Rydym yn cadw’r hawl i ddileu ein cyfrifon unrhyw bryd.

Dilyn ein cyfrifon

Os byddwch yn dewis dilyn ein cyfrifon, ni fyddwn yn eich dilyn chi yn awtomatig. Mae’n bosibl y byddwn yn dilyn sefydliadau ac unigolion sydd, yn ein barn ni, yn berthnasol i APHA, ond nid yw hyn yn unrhyw fath o gymeradwyaeth. Rydym yn cadw’r hawl i roi’r gorau i ddilyn neu ddileu unrhyw gyfrifon rydym o’r farn eu bod yn faleisus neu’n sbam.

Monitro ein cyfryngau cymdeithasol

Er ein bod yn croesawu sylwadau a thrydariadau, rydym yn cadw’r hawl i ddileu negeseuon sy’n cynnwys y canlynol:

  • ymgais i ddynwared unigolyn arall neu ddweud celwydd am bwy ydych
  • cynnwys a allai annog casineb ar sail hil, crefydd, rhyw, cenedligrwydd neu rywioldeb
  • cymeradwyo neu hyrwyddo cynnyrch neu wasanaethau yn fasnachol
  • iaith ymosodol, anweddus neu dramgwyddus
  • manylion personol, megis cyfeiriadau personol, rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost neu fanylion cyswllt ar-lein eraill
  • cynnwys a allai fod yn torri’r gyfraith
  • deunydd pleidiau gwleidyddol
  • cynnwys a allai achosi risg diogelwch neu breifatrwydd

Byddwn yn rhoi gwybod i’r heddlu, Facebook a Twitter am unrhyw negeseuon neu drydariadau yr ystyrir yn athrodus neu’n fygythiol tuag at staff, fel y bo’n briodol.

Ymateb i’n cyfryngau cymdeithasol

Rydym yn croesawu eich adborth, ond ni allwn ymateb i bob neges.

Ni ddylid defnyddio ein sianelau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer cwynion, ymholiadau manwl neu geisiadau rhyddid gwybodaeth. Ewch i’n tudalen cwynion neu siarter gwybodaeth bersonol i gael rhagor o fanylion.

Ymholiadau’r wasg

Desg newyddion

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfyngau rhwng 9am a 6pm yn ystod yr wythnos:

  • ffoniwch 0330 041 6560

Y tu allan i oriau

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfyngau cyn 9am ac ar ôl 6pm yn ystod yr wythnos, ac ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus:

  • ffoniwch 0345 051 8486