Datganiad i'r wasg

Wrecsam yn hawlio ei statws fel Seithfed Ddinas Cymru

Daeth Wrecsam yn ddinas yn swyddogol ar ddydd Iau 1 Medi wedi cystadleuaeth a oedd yn rhan o ddathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines.

pontcysyllte aqueduct

Unesco World Heritage site of Pontcysyllte Aqueduct

Yn swyddogol, daw Wrecsam yn ddinas heddiw (dydd Iau 1 Medi) ar ôl ennill statws mawreddog trwy gystadleuaeth a oedd yn rhan o ddathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines Ei Mawrhydi. Rhoddwyd yr anrhydedd yn gynharach eleni ac mae’r Breinlythyr swyddogol yn cadarnhau bod y statws dinesig yn dod i rym o 1 Medi 2022 ymlaen.

Wrecsam bellach yw’r seithfed ddinas swyddogol yng Nghymru, gan ymuno â Chaerdydd, Abertawe, Casnewydd, Bangor, Tyddewi a Llanelwy. Cynhaliwyd y gystadleuaeth anrhydedd dinesig diwethaf 10 mlynedd yn ôl i nodi Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines, pan gafodd Llanelwy ei anrhydeddu â’r statws.

Dywedodd Syr Robert Buckland, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Llongyfarchiadau i Wrecsam ar ennill statws dinesig. Mae gan y ddinas a’r ardal gyfagos eisoes gymaint i’w gynnig – mae’n gartref i’r bragdy enwog “Wrexham Lager”, i Draphont Ddŵr Pontcysyllte ac i un o’r clybiau pêl-droed hynaf yn y byd.

Mae gan Wrecsam llawer i fod yn falch ohono, ac mae ei dyfodol yr un mor gyffrous. Rwy’n gobeithio y bydd dinas Wrecsam yn parhau i ffynnu a thyfu.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam:

Mae gennym ni gymaint i’w ddathlu yn Wrecsam. Mae gennym ni Safle Treftadaeth y Byd anhygoel, clwb pêl-droed â pherchnogion arbennig, a diwydiant celfyddydau a diwylliant cyfoethog ac amrywiol. Mae gennym gysylltiadau cryf â’n lluoedd arfog, ein busnesau o’r radd flaenaf a’n ffrindiau o bob cwr o’r byd.

Ond ein hased mwyaf yw ein cymunedau, ac angerdd, cymeriad a chreadigrwydd anhygoel y bobl sy’n byw yma sy’n gwneud Wrecsam yn le mor arbennig.

Mae statws dinesig yn llwyddiant ysgubol ac mae’n adlewyrchu’r hyder a’r uchelgeisiau sydd gennym yn Wrecsam. Hoffwn ddiolch i bawb a gefnogodd y cais uchelgeisiol am statws dinesig, gan gynnwys Aelodau Seneddol, Aelodau o’r Senedd, cynghorwyr etholedig, a’r holl fusnesau yn Wrecsam a thu hwnt.

Hoffwn ddiolch hefyd i Ei Mawrhydi y Frenhines am roi statws dinesig i Wrecsam. Rydyn ni wedi cael ein llongyfarch gan gefnogwyr a ffrindiau o bob cwr o’r byd, ac mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol dros ben.

Mae Cyngor Wrecsam yn bwriadu cynnal mis o ddigwyddiadau ar benwythnosau drwy gydol mis Medi i ddathlu Wrecsam a’i llwyddiant:

Dydd Sadwrn 3 Medi

  • Ailddatgan Rhyddid y Fwrdeistref i’r Cymry Brenhinol– yn dechrau yn Llwyn Isaf am 11am.

Dydd Sadwrn 10 Medi

  • Gwasanaeth i westeion gwadd yn Eglwys St Giles i ddathlu ennill statws dinesig am 12pm.
  • Clwb Pêl Droed Wrecsam v Maidenhead United yn stadiwm y Cae Ras am 3pm.
  • Cerddoriaeth fyw gan The Royston Club a mwy yn Llwyn Isaf o 6pm ymlaen.

Dydd Sadwrn 17 Medi

  • Diwrnod Hwyl Dinas Wrecsam – gweithgareddau ledled canol y ddinas i’r teulu cyfan.

Dydd Sadwrn 24 Medi

  • Gŵyl fwyd Wrecsam ym maes parcio Byd Dŵr o 10am ymlaen (hefyd dydd Sul, Medi 25)
  • Clwb Pêl Droed Wrecsam v Torquay United yn y Cae Ras am 3pm.

Roedd Cystadleuaeth Anrhydeddau Dinesig y Jiwbilî Platinwm yn mynnu bod ymgeiswyr yn dangos sut roedd eu cymunedau a’u hunaniaeth leol unigryw yn golygu eu bod yn haeddu cael statws dinesig. Roedd hi’n ofynnol iddynt hefyd dynnu sylw at eu cysylltiadau brenhinol a’u treftadaeth ddiwylliannol.

Gall ennill statws dinesig roi hwb i gymunedau lleol ac agor cyfleoedd newydd i bobl sy’n byw yno. Mae hyn yn wir am Perth a Preston, enillwyr y gorffennol, lle mae trigolion wedi disgrifio sut mae’r llwyddiant wedi cael effaith gadarnhaol ar eu statws cenedlaethol a rhyngwladol, gan eu gosod ar y map fel y llefydd delfrydol i wneud busnes.

Mae Perth, a gafodd statws dinesig yn 2012 fel rhan o Jiwbilî Diemwnt y Frenhines, wedi gweld yr economi leol yn ehangu 12% dros y ddegawd ddiwethaf.

Cyhoeddwyd ar 1 September 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 September 2022 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.